Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor: canllawiau ar gyfer elusennau a chymdeithas sifil
Yn darparu gwybodaeth i'r sectorau elusennol a chymdeithas sifil ar sut i gydymffurfio â'r Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor.
Dogfennau
Manylion
Mae’r Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor (FIRS) yn amddiffyn diogelwch a buddiannau’r DU drwy wella’r ddealltwriaeth o weithgarwch sy’n digwydd yn y DU ar gyfarwyddyd gwladwriaeth dramor neu rai sefydliadau a reolir gan wladwriaethau tramor. Mae wedi’i gynnwys yn rhan 4 o Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol 2023.
Mae’r ddogfen hon yn darparu gwybodaeth ychwanegol sy’n benodol i’r sector ar y Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor ar gyfer elusennau a sefydliadau dielw eraill, fel sefydliadau anllywodraethol. Mae hyn yn cynnwys canllawiau ar sut y gallai senarios ariannu fod o fewn cwmpas gofynion cofrestru a’r eithriad i gyhoeddi lle gallai diogelwch unigolyn gael ei beryglu.
Mae’r canllawiau hyn yn egluro prif ofynion cynllun FIRS. Fodd bynnag, os yw FIRS yn effeithio arnoch, eich cyfrifoldeb chi yw cydymffurfio â’r cynllun yn seiliedig ar eich amgylchiadau penodol eich hun.