Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor: canllawiau i fusnesau
Yn darparu gwybodaeth i fusnesau ar sut i gydymffurfio â'r Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor.
Dogfennau
Manylion
Mae’r Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor (FIRS) yn amddiffyn diogelwch a buddiannau’r DU drwy wella’r ddealltwriaeth o weithgarwch sy’n digwydd yn y DU ar gyfarwyddyd gwladwriaeth dramor neu rai sefydliadau a reolir gan wladwriaethau tramor. Mae wedi’i gynnwys yn rhan 4 o Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol 2023.
Mae’r ddogfen hon yn darparu canllawiau ychwanegol sy’n benodol i’r sector ar gynllun FIRS ar gyfer busnesau, gan gynnwys mentrau bach a chanolig eu maint, y diwydiant cysylltiadau cyhoeddus, y diwydiant gwasanaethau ariannol, y diwydiant rheoli buddsoddiadau a’r diwydiant fferyllol.
Mae’r canllawiau hyn yn egluro prif ofynion cynllun FIRS. Fodd bynnag, os yw FIRS yn effeithio arnoch, eich cyfrifoldeb chi yw cydymffurfio â’r cynllun yn seiliedig ar eich amgylchiadau penodol eich hun.