Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor: canllawiau ar gyfer y byd academaidd ac ymchwil
Yn darparu gwybodaeth i'r sector ymchwil, y byd academaidd a'r sector addysg uwch ar sut i gydymffurfio â'r Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor.
Dogfennau
Manylion
Mae’r Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor (FIRS) yn amddiffyn diogelwch a buddiannau’r DU drwy wella’r ddealltwriaeth o weithgarwch sy’n digwydd yn y DU ar gyfarwyddyd gwladwriaeth dramor neu rai sefydliadau a reolir gan wladwriaethau tramor. Mae wedi’i gynnwys yn rhan 4 o Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol 2023.
Mae’r ddogfen hon yn darparu gwybodaeth ychwanegol sy’n benodol i’r sector ar y Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor ar gyfer y sector ymchwil, y byd academaidd a’r sector addysg uwch. Mae hyn yn cynnwys canllawiau ar drefniadau ar brosiectau ymchwil, trefniadau ariannu, esemptiadau a chyhoeddi gwybodaeth.
Mae’r canllawiau hyn yn egluro prif ofynion cynllun FIRS. Fodd bynnag, os yw FIRS yn effeithio arnoch, eich cyfrifoldeb chi yw cydymffurfio â’r cynllun yn seiliedig ar eich amgylchiadau penodol eich hun.