Canllawiau

Canllawiau ar Weinyddu'r Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor (FIRS)

Diweddarwyd 18 Gorffennaf 2025

© Hawlfraint y Goron 2025

Mae’r cyhoeddiad hwn wedi’i drwyddedu o dan delerau’r Drwydded Llywodraeth Agored v3.0 oni nodir yn wahanol. I weld y drwydded hon, ewch i nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3 neu ysgrifennwch at y Tîm Polisi Gwybodaeth, Yr Archifau Cenedlaethol, Kew, Llundain TW9 4DU, neu e- bostiwch: psi@nationalarchives.gsi.gov.uk.

Lle rydym wedi nodi unrhyw wybodaeth hawlfraint trydydd parti, bydd angen i chi gael caniatâd gan y deiliaid hawlfraint dan sylw.

Mae’r cyhoeddiad hwn ar gael yn https://www.gov.uk/government/collections/foreign-influence-registration-scheme

Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynghylch y cyhoeddiad hwn atom yn

FIRS@homeoffice.gov.uk

Ynglŷn â’r canllawiau hyn

Mae’r Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor (FIRS) yn gynllun dwy haen sy’n sicrhau tryloywder dylanwad tramor yng ngwleidyddiaeth y DU ac yn rhoi mwy o sicrwydd ynghylch gweithgareddau rhai pwerau neu endidau tramor a allai beri risg i ddiogelwch a buddiannau’r DU. Mae wedi’i gynnwys yn Rhan 4 o Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol 2023.

Mae’r cynllun yn cynnwys dwy haen, ac mae gan bob un ofynion ar wahân. Gellir dod o hyd i fanylion pellach am y gofynion hyn yn y canllawiau ar yr haen dylanwad gwleidyddol a’r canllawiau ar yr haen well.

Mae’r canllawiau hyn yn cynnwys gwybodaeth am sut mae’r cynllun yn cael ei weinyddu.

Cyflwyniad

1.    Caiff y Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor ei weinyddu gan Dîm Rheoli Achosion (CMT) sydd wedi’i leoli yn y Swyddfa Gartref.

Cylch Gwaith y Tîm Rheoli AchosionTeam

2. Mae cylch gwaith y tîm rheoli achosion yn cynnwys:

  • Gwirio ansawdd gwybodaeth a ddarperir wrth gofrestru ac fel rhan o newid sylweddol. Pan ddarperir gwybodaeth annigonol neu aneglur, gallant gysylltu â’r cofrestrydd i gael eglurhad.
  • Cyhoeddi gwybodaeth ar y gofrestr gyhoeddus, lle bo’n briodol. Mae hyn yn cynnwys asesu a ddylai eithriad i gyhoeddi fod yn berthnasol.
  • Cyhoeddi hysbysiadau gwybodaeth lle bo’n briodol.
  • Cynnal y gwasanaeth cofrestru ar-lein a’r gofrestr gyhoeddus.
  • Adolygu cofrestriadau agored i sicrhau bod y gofrestr gyhoeddus yn parhau i fod yn gyfredol.
  • Dilysu cadarnhadau cofrestru, pan gysylltir â rhywun sy’n gweithredu yn unol â threfniant cofrestradwy.

3. Ni fydd y Tîm Rheoli Achosion yn cymeradwyo na gwrthod cofrestriadau. Felly nid oes angen aros i’r Tîm Rheoli Achosion gymeradwyo cofrestriad cyn dechrau neu barhau â gweithgareddau o fewn cwmpas y cynllun.

4. Ni all y Tîm Rheoli Achosion roi cyngor pendant ynghylch a yw trefniant yn gofrestradwy o dan FIRS, fodd bynnag gallant atgyfeirio cofrestreion at ganllawiau perthnasol. Fodd bynnag, gallant ateb ymholiadau ynghylch sut i gydymffurfio â’r gofynion. Mae’n parhau i fod yn gyfrifoldeb y cofrestreion eu hunain i ymgyfarwyddo â’r cynllun a phenderfynu a ydynt yn cael eu heffeithio gan y gofynion.

Cysylltu â’r Tîm Rheoli Achosion

5. Unwaith y bydd y cynllun wedi mynd yn fyw, gellir cysylltu â’r tîm rheoli achosion drwy’r gwasanaeth cofrestru ar-lein.

6. Cyn cysylltu â’r tîm rheoli achosion, cyfeiriwch at y canllawiau perthnasol: