Skip to main content
Canllawiau

Olrhain bwyd i fusnesau

Diweddarwyd 15 Hydref 2026

Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru

Pwysig

Mae cyfraith bwyd ym Mhrydain Fawr yn cynnwys cyfraith ddomestig a chyfraith a gymathwyd (‘assimilated’). Mae cyfraith bwyd yng Ngogledd Iwerddon yn cynnwys cyfraith ddomestig a chyfraith yr UE. At ddiben y trosolwg hwn, mae cyfeiriadau at “Cyfraith Bwyd Gyffredinol” yn cyfeirio at reoliad a gymathwyd 178/2002 fel y mae’n gymwys i Gymru a Lloegr a rheoliad yr UE (CE) 178/2002 fel y mae’n gymwys i Ogledd Iwerddon. Byddwn ni’n tynnu eich sylw at wahaniaethau rhwng y gyfraith yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon pan fo’r rhain yn codi.

I gael gwybodaeth am Gyfraith Bwyd yn yr Alban, ewch i Safonau Bwyd yr Alban

Beth yw olrheiniadwyedd?

Olrheiniadwyedd yw’r gallu i ddilyn trywydd cynnyrch bwyd a’i gynhwysion trwy’r gadwyn gyflenwi, o’r adeg y caiff ei gynhyrchu, ei brosesu a’i ddosbarthu i’r adeg y caiff ei werthu. Mae’n helpu busnesau a rheoleiddwyr i ganfod o ble mae bwyd wedi dod, ble mae’r bwyd wedi mynd, a pha gynhyrchion y gallai digwyddiad diogelwch bwyd gael effaith arnyn nhw. Mae’r dudalen hon yn canolbwyntio ar fwyd, ond hefyd mae yna ofynion penodol ar olrheiniadwyedd bwyd anifeiliaid, anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd a sylweddau y mae’n fwriad eu defnyddio mewn bwyd neu fwyd anifeiliaid.

Pam mae olrheiniadwyedd yn bwysig?

Mae olrheiniadwyedd yn helpu busnesau i ddangos cydymffurfiaeth â chyfraith bwyd a diogelu defnyddwyr, gan sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label drwy’r canlynol:

  • sicrhau atebolrwydd ar hyd y gadwyn fwyd, wrth i fusnesau ddeall gan bwy maen nhw’n cael eu nwyddau ac i bwy maen nhw’n cyflenwi eu cynhyrchion, gan gynnal hyder mewn bwyd sydd wedi’i roi ar y farchnad
  • helpu i ganfod bwyd a allai fod yn anniogel
  • helpu i dargedu bwyd sydd angen ei dynnu oddi ar y farchnad a’i alw yn ôl
  • osgoi gwastraff diangen a chyfyngu ar faint o darfu y mae busnesau’n ei brofi yn ystod digwyddiadau bwyd

Sut mae olrheiniadwyedd yn gweithio?

Mae bwyd yn symud trwy sawl cam yn y gadwyn gyflenwi cyn cyrraedd y defnyddiwr, gan gynnwys:

  • cynhyrchu
  • prosesu
  • dosbarthu
  • storio
  • manwerthu ac arlwyo

Ar bob cam, dylai gwybodaeth am y bwyd fod ar gael i helpu i ganfod o ble y daeth y bwyd ac i ble y cafodd ei anfon nesaf. Mae’n rhaid bod bwyd sydd ar y farchnad fod â label neu rywffordd o’i adnabod sy’n helpu olrheiniadwyedd.

Gofynion o ran olrheiniadwyedd ar fusnesau bwyd

Mae gofynion o ran olrheiniadwyedd yn berthnasol nid yn unig i fwyd, bwyd anifeiliaid ac anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd, ond hefyd i ddeunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd a sylweddau y mae’n fwriad iddyn nhw gael eu cynnwys mewn bwyd.

Beth mae’n rhaid i fusnesau ei wneud?

Mae’n rhaid i fusnesau bwyd fod â systemau a gweithdrefnau ar waith i allu adnabod eu cyflenwyr a’u cwsmeriaid. Enw cyffredin ar y rhain yw’r dull “un cam yn ôl”, “un cam ymlaen”.

  • “un cam yn ôl” – mae’n rhaid i fusnesau allu adnabod pwy sy’n cyflenwi bwyd, cynhwysion neu ddeunyddiau iddyn nhw
  • “un cam ymlaen” – mae’n rhaid i fusnesau allu adnabod y busnes y maen nhw’n cyflenwi bwyd iddo ef

Yn gyffredinol, nid yw’n ofynnol i fusnesau sy’n gwerthu bwyd yn syth i’r defnyddiwr terfynol gadw cofnodion “un cam ymlaen” ar gyfer y gwerthiannau hynny. Fodd bynnag, mae gofynion o ran olrheiniadwyedd llawn yn berthnasol i fwyd sy’n cael ei gyflenwi i fusnes bwyd arall.

Cadw cofnodion

Dylai busnesau gadw digon o gofnodion i allu canfod y canlynol:

  • manylion y cyflenwr a’r cwsmer
  • y cynnyrch bwyd dan sylw
  • faint sydd wedi’i gyflenwi a faint maen nhw wedi’i gael
  • dyddiadau danfon neu ddosbarthu
  • cod y llwyth, lot neu swp – os yw’n briodol a lle bo hwn ar gael

Mae gan rai sectorau ofynion cyfreithiol ychwanegol o ran cofnodi gwybodaeth am lwythi, lotiau neu sypiau. Dylai busnesau sicrhau eu bod nhw’n cydymffurfio ag unrhyw ofynion o ran olrheiniadwyedd sy’n benodol i’r sector y mae eu cynhyrchion yn rhan ohono ef.

Mae’n rhaid i gofnodion fod yn gywir a bod ar gael yn rhwydd pe bai swyddog awdurdodedig yn gofyn i’w gweld.

Mae’n arfer gorau i bob busnes gadw holl godau’r llwythi, lotiau neu sypiau lle bo’r rhain ar gael.

Efallai y bydd gan rai sectorau ofynion ychwanegol o ran olrheiniadwyedd, ac mae rhagor o fanylion yn yr adran ganlynol.

Systemau olrhain

Gall busnesau benderfynu ar ba fath o system hoffen nhw ei defnyddio i gadw cofnodion am olrheiniadwyedd oherwydd nid yw’r gyfraith yn nodi dull penodol ar gyfer cadw cofnodion am olrheiniadwyedd.

Dyma rai enghreifftiau o systemau y gall busnesau eu defnyddio:

  • systemau ar bapur
  • cofnodion electronig
  • systemau rheoli stoc
  • meddalwedd olrhain

Pa bynnag system y bydd busnes yn dewis ei defnyddio, mae’n rhaid iddi alluogi rhannu gwybodaeth am olrheiniadwyedd yn brydlon, yn ôl y gofyn.

Tynnu bwyd oddi ar y farchnad a galw bwyd yn ôl

Mae busnesau’n gyfrifol am weithredu os ydyn nhw’n canfod bwyd, y maen nhw wedi’i gyflenwi, a allai fod yn anniogel.

Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, gallai hyn gynnwys y canlynol:

  • tynnu bwyd oddi ar y farchnad – lle mae bwyd yn cael ei dynnu o’r gadwyn gyflenwi
  • galw bwyd yn ôl – lle mae gofyn i ddefnyddwyr ddychwelyd neu gael gwared ar fwyd sydd eisoes wedi’i brynu

Mae olrheiniadwyedd effeithiol yn helpu busnesau i ganfod yn gyflym pa gynhyrchion sydd wedi’u heffeithio, penderfynu ble maen nhw wedi’u dosbarthu, ac yn helpu tynnu bwyd oddi ar y farchnad yn brydlon neu ei alw’n ôl lle bo angen. Mae systemau olrhain da hefyd yn helpu busnesau i ddiogelu defnyddwyr a’u henw da eu hunain drwy ganfod yn gyflym pa gynhyrchion sydd wedi’u heffeithio.

Deddfwriaeth a gofynion penodol i’r sector

Mae rhai sectorau’n destun gofynion o ran olrheiniadwyedd sy’n ychwanegol at y rhai sydd wedi’u nodi yn y gyfraith bwyd gyffredinol. Dylai busnesau bwyd sicrhau eu bod nhw’n cydymffurfio ag unrhyw ofynion penodol i’r sector.

Dyma rai enghreifftiau:

Cael cyngor 

Os nad ydych chi’n siŵr am eich cyfrifoldebau o ran olrheiniadwyedd, cysylltwch â thîm diogelwch bwyd eich awdurdod lleol. Gallan nhw roi cyngor ar sut mae cyfraith bwyd yn berthnasol i’ch busnes a pha gofnodion a gweithdrefnau a allai fod yn briodol ar gyfer eich gweithrediadau.

Mwy o wybodaeth