Olrhain bwyd i fusnesau
Dysgwch am ofynion ar olrhain bwyd, gan gynnwys sut gall busnesau bwyd olrhain bwyd ar hyd y gadwyn gyflenwi a’r cofnodion y mae angen iddyn nhw eu cadw
Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru
Dogfennau
Manylion
Olrheiniadwyedd yw’r gallu i ddilyn trywydd cynnyrch bwyd a’i gynhwysion trwy’r gadwyn gyflenwi, o’r adeg y caiff ei gynhyrchu, ei brosesu a’i ddosbarthu i’r adeg y caiff ei werthu. Mae’n helpu busnesau a rheoleiddwyr i ganfod o ble mae bwyd wedi dod, ble mae’r bwyd wedi mynd, a pha gynhyrchion y gallai digwyddiad diogelwch bwyd gael effaith arnyn nhw.
Mae’r canllawiau hyn yn canolbwyntio ar fwyd, ond hefyd mae yna ofynion penodol ar olrheiniadwyedd bwyd anifeiliaid, anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd a sylweddau y mae’n fwriad eu defnyddio mewn bwyd neu fwyd anifeiliaid.