Adroddiad i Fwrdd yr ASB gan Gyfarwyddwr Cymru: Medi 2026
Published 3 September 2026
Applies to England, Northern Ireland and Wales
Adroddiad gan Peter Quigley i gyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) – mis Medi 2026.
Mae’r adroddiad hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
1. Crynodeb
1.1 Mae’r papur hwn yn rhoi trosolwg lefel uchel o waith yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf, ac yn bwrw golwg dros ein blaenoriaethau ar gyfer y misoedd nesaf.
1.2 Gofynnir i’r Bwrdd:
- asesu effeithiolrwydd y gwaith yng Nghymru i gyflawni blaenoriaethau’r ASB
- ystyried sut mae’r gwaith hwn yn cyd-fynd â chyfeiriad strategol yr ASB
- rhoi adborth ar y blaenoriaethau a nodwyd
2. Cyflwyniad
2.1 Yng Nghymru, mae gan yr ASB gyfrifoldebau polisi ac mae’n cyflawni swyddogaethau statudol ar draws pob agwedd ar ddiogelwch a hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid, ac mae ganddi hefyd gylch gwaith polisi ychwanegol mewn perthynas â safonau cyfansoddiad a labelu bwyd. Mae hyn yn golygu cynghori a gwneud argymhellion ar newidiadau deddfwriaethol i bolisi bwyd a bwyd anifeiliaid i weinidogion Cymru.
2.2 Mae’r tîm o 66.76 o bobl (CALl neu ‘gyfwerth ag amser llawn’) yn cyflawni swyddogaethau yn unol â blaenoriaethau sefydliadol yr ASB ar gyfer Cymru, fel y cytunwyd arnynt â gweinidogion Cymru yn ein llythyr ariannu blynyddol. O fewn y cyd-destun hwn, yng Nghymru mae’r ASB wedi ymgorffori egwyddorion dau fframwaith cyffredin y DU – mewn perthynas â diogelwch a hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid, a safonau cyfansoddiad a labelu bwyd.
2.3 Er bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau cyllid o £5.6 miliwn ar gyfer swyddogaethau’r ASB yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, bydd y broses ar gyfer gosod cyllideb y flwyddyn nesaf yn dod i ben yn ddiweddarach yr hydref hwn. Mae’r cyllid hwn o fewn cyllideb Iechyd a Gofal Cymdeithasol ehangach Llywodraeth Cymru o £12.6 biliwn ar gyfer 2026/27, gan danlinellu bod gwaith yr ASB yn cynrychioli buddsoddiad cymharol fach ond pwysig wrth ddiogelu iechyd y cyhoedd, cefnogi hyder defnyddwyr a chynnal system fwyd ddiogel yng Nghymru y gellir ymddiried ynddi.
2.4 Ers yr adroddiad diwethaf, mae etholiad yn y Senedd wedi arwain at Lywodraeth Cymru newydd dan arweiniad Plaid Cymru, y weinyddiaeth gyntaf yng Nghymru heb ei harwain gan Lafur Cymru ers datganoli. Penodwyd Rhun ap Iorwerth AS yn Brif Weinidog, gyda Nerys Evans AS bellach yn gyfrifol am bortffolio’r ASB fel y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol, ochr yn ochr â Llyr Gruffydd AS fel y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd. Ysgrifennom yn brydlon at y gweinidogion newydd i nodi rôl a blaenoriaethau’r ASB ac ailddatgan ein hymrwymiad i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddiogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau defnyddwyr yng Nghymru. Rydym hefyd wedi hwyluso cyfarfod rhagarweiniol rhwng ein Cadeirydd a Nerys Evans AS yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, gan gynnwys trafod rôl yr ASB wrth gefnogi’r Strategaeth Fwyd Genedlaethol newydd i Gymru.
2.5 Cafodd adolygiad Llywodraeth Cymru o’r ASB yng Nghymru ei gwblhau ym mis Chwefror 2026, a chyhoeddwyd yr adroddiad terfynol yn fuan wedi hynny. Canfu’r adolygiad fod y system diogelwch bwyd yng Nghymru yn y bôn yn gadarn a chydnabu fod yr ASB yng Nghymru yn sefydliad dibynadwy â chenhadaeth iechyd cyhoeddus gref. Nododd yr adolygiad naw argymhelliad sy’n canolbwyntio ar gryfhau llywodraethu, egluro rolau a chyfrifoldebau, gwella trefniadau ymgysylltu a chyswllt â Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, a gwella tryloywder a chydweithio ar draws y system rheoleiddio bwyd yng Nghymru. Mae’r argymhellion hyn yn cyd-fynd yn gryf â’n blaenoriaethau yng Nghymru, ac mae’r dasg o’u rhoi ar waith yn mynd rhagddo’n gyflym drwy gyfarfodydd rheolaidd y Grŵp Goruchwylio sy’n cynnal ffocws, yn profi cynnydd ac yn sbarduno gweithredu cydlynol. Wrth i ni fwrw ymlaen â’r gwaith hwn, edrychwn ymlaen at weithio gyda llywodraeth newydd Cymru i sicrhau bod yr ASB yn drefnus, bod ganddi’r offer sydd eu hangen arni a’i bod yn gallu cyflawni ei hagenda bwyd ehangach.
3. Cynnydd yn erbyn ein blaenoriaethau dros y 12 mis diwethaf
3.1 Yn yr adroddiad blaenorol, tynnwyd sylw at bedwar maes gwaith â blaenoriaeth, sef: a) cefnogi gwaith awdurdodau lleol yng Nghymru; b) cyflawni swyddogaethau sy’n ymwneud â’n hymrwymiadau o dan gytundeb adran 83 mewn perthynas ag awdurdodiadau’r farchnad; c) cefnogi’r gwaith o gyflawni blaenoriaethau ehangach Llywodraeth Cymru, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol; ac ch) ymgysylltiad parhaus ledled Cymru â rhanddeiliaid allweddol.
3.2 Gan mai dyma fy adroddiad cyntaf i’r Bwrdd fel Cyfarwyddwr Cymru, hoffwn gydnabod a diolch i Siân Bowsley am ei harweinyddiaeth a’i chyfraniad yn ystod y rhan fwyaf o’r cyfnod adrodd hwn fel Cyfarwyddwr blaenorol Cymru. Rwy’n falch o adrodd bod cynnydd wedi bod ar draws yr holl feysydd hyn dros y cyfnod hwn, gyda chynllun gwaith uchelgeisiol o’n blaenau. Rydym wedi parhau i gryfhau ein rhwydwaith, ein hamlygrwydd a’n dylanwad o fewn Llywodraeth Cymru, gan sicrhau bod blaenoriaethau’r ASB yn ddealladwy ac yn cyd-fynd ag amcanion polisi datganoledig. Yn ogystal, rydym wedi parhau i hwyluso a chefnogi ymgysylltu rhwng y Cadeirydd, Gweinidogion Cymru ac Aelodau o’r Senedd (ASau).
Cefnogi gwaith yr awdurdodau lleol yng Nghymru
3.3 Rydym yn parhau i gefnogi gwaith yr awdurdodau lleol yng Nghymru, sy’n bartneriaid allweddol wrth gyflawni ein cylch gwaith. Trwy Gytundeb Cydweithredol 2023, rydym yn gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i gryfhau cydweithio ar draws y system rheoleiddio bwyd, gan adeiladu ar egwyddorion cyd-ymddiriedaeth, parch ac atebolrwydd a rennir. Rydym yn adrodd am gynnydd yn rheolaidd i’r gweinidog, gan roi sicrwydd ar yr hyn rydym wedi’i gyflawni a thynnu sylw at feysydd lle gall cydweithio parhaus gryfhau canlyniadau ledled Cymru. Mae Dr Rhian Hayward, yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) ac Aelod o Fwrdd yr ASB dros Gymru, yn parhau i gyfarfod yn rheolaidd â chynrychiolwyr o Gyfarwyddwyr Diogelu’r Cyhoedd Cymru (DPPW) a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC). Mae WFAC hefyd wedi cynnal cyfarfod thema ar y rhaglen ‘Dyfodol Rheoleiddio Bwyd’, gyda chyflwyniadau a chyfraniadau gan gynrychiolwyr o’r awdurdodau lleol.
3.4 Yn ogystal â’n hymgysylltiad parhaus â DPPW ac CLlLC, gwnaethom gefnogi’r gwaith o gyflwyno a rhoi’r Model Gweithredu Safonau Bwyd ar waith yng Nghymru. Roedd hyn yn cynnwys cyhoeddi’n ddwyieithog y diweddariadau i’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru), a gyflwynodd y cynllun sgorio ymyriadau diwygiedig a’r matrics penderfynu i helpu awdurdodau lleol i dargedu adnoddau at fusnesau risg uwch ac nad ydynt yn cydymffurfio, wrth gefnogi dull cyson a chymesur o gynnal rheolaethau safonau bwyd.
3.5 Gwnaeth rhaglen archwilio 2025–26 â ffocws ar awdurdodau lleol asesu effeithiolrwydd rheolaethau bwyd swyddogol mewn perthynas ag alergenau yng Nghymru. Roedd y rhaglen yn cynnwys cyfres o archwiliadau ar draws awdurdodau lleol Cymru, gyda chanfyddiadau’n cael eu defnyddio i roi sicrwydd, nodi arferion da a llywio gwelliannau wrth gynnal rheolaethau ar lefel leol. Rydym yn bwriadu cyhoeddi adroddiad llawn cyn bo hir. Mae rhaglen archwilio’r flwyddyn gyfredol yn canolbwyntio ar samplu rheolaethau swyddogol, gydag archwiliadau eisoes ar y gweill a dau wedi’u cwblhau hyd yma.
3.6 Mae’r diweddariad ar berfformiad awdurdodau lleol yn rhoi trosolwg o berfformiad awdurdodau lleol ar draws y tair gwlad.
3.7 Drwy’r rhaglen samplu awdurdodau lleol yng Nghymru, gwnaethom ariannu 230 o samplau ar draws 10 awdurdod lleol yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Roedd y gwaith samplu’n seiliedig ar risg, gan ganolbwyntio ar bryderon hysbys neu sydd ar ddod yn ogystal â meysydd sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau safonau bwyd cenedlaethol. Nododd y gwaith hwn sawl achos o amnewid a chamddisgrifio cynhyrchion, gan gynnwys topins pizza tecawê a oedd yn cael eu gwerthu fel ham porc er mai twrci oedden nhw mewn gwirionedd, a chynhyrchion döner cig oen a oedd yn cynnwys ychydig neu ddim cig oen o gwbl. Mae’r canfyddiadau hyn wedi llywio gweithgarwch rheoleiddio ac atal targededig, gan gynnwys gwaith codi ymwybyddiaeth yn y diwydiant dan arweiniad yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU), ac maent yn cyfrannu at ddadansoddiad parhaus o Ymgyrch Opson i lunio gweithgarwch pellach a arweinir gan gudd-wybodaeth.
3.8 Gan ddefnyddio’r gyllideb flynyddol a glustnodir gan Lywodraeth Cymru, rydym wedi cytuno ar y Rhaglen Gweithredu Bwyd Anifeiliaid ar gyfer 2026–27 gyda’r Grŵp Llywodraethu Bwyd Anifeiliaid ac awdurdodau lleol, ochr yn ochr â Chylch Gorchwyl newydd sy’n cryfhau’r trefniadau ar gyfer goruchwylio’r model gweithredu bwyd anifeiliaid rhanbarthol ac sy’n cefnogi rheolaethau cyson, seiliedig ar risg ledled Cymru.
3.9 Rydym wrthi’n ymgysylltu ag awdurdodau lleol yng Nghymru ar y rhaglen ‘Dyfodol Rheoleiddio Bwyd’, fel y manylir mewn papur a gaiff ei gyflwyno gerbron y Bwrdd yn ystod cyfarfod mis Medi. Mae’r rhaglen yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y system fwyd i adeiladu dull rheoleiddio sy’n effeithiol, yn wydn ac y gellir ymddiried ynddo yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys gwella’r trefniadau ar gyfer cofrestru busnes, fel bod gennym ddarlun cliriach o bwy sy’n gweithredu yn y system fwyd, gan adeiladu ar y gwaith a wnaed eisoes yng Nghymru yn dilyn cais gweinidogol o dan y cytundeb cydweithredol. Rydym bellach wedi cwblhau archwiliad o system gofrestru well yng Nghymru a rhoesom ddiweddariad i’r gweinidog yn gynharach eleni.
3.10 Rydym wedi cynnal rhaglen reolaidd o waith ymgysylltu strwythuredig wyneb yn wyneb ag awdurdodau lleol Cymru a swyddogion bwyd anifeiliaid arweiniol, gan gynnwys Diwrnod Bwyd Anifeiliaid a oedd yn canolbwyntio ar y model gweithredu bwyd anifeiliaid rhanbarthol, sesiynau ar y Cytundeb SPS a’r rhaglen ‘Dyfodol Rheoleiddio Bwyd’, a gweithdai ar y Model Gweithredu Safonau Bwyd (FSDM) a fynychwyd gan 80 o swyddogion ledled Cymru. Mae’r digwyddiadau hyn wedi cefnogi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ddatblygiadau allweddol ac maent yn darparu fforwm pwysig ar gyfer trafodaeth ddwyffordd, gan helpu i fagu hyder, hyrwyddo cysondeb wrth weithredu a chasglu adborth cynnar ar flaenoriaethau lleol, pwysau a heriau wrth weithredu.
Awdurdodiadau’r farchnad (cyflawni ein cytundeb adran 83)
3.11 Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi datblygu rhaglen ar gyfer awdurdodi cynhyrchion rheoleiddiedig yng Nghymru, gan gynnwys penderfynu ar saith cais am fwyd a bwyd anifeiliaid a diddymu wyth sylwedd cyflasu. Rydym yn parhau i gefnogi gweinidogion Cymru drwy ymgynghori ar gynhyrchion rheoleiddiedig yng Nghymru a chynnig argymhellion rheoli risg.
Cefnogi’r gwaith o gyflawni blaenoriaethau ehangach Llywodraeth Cymru
3.12 Mae ein haelodaeth o Fforwm Bwyd Llywodraeth Cymru hefyd wedi helpu i gryfhau perthnasoedd a chydweithio ar flaenoriaethau bwyd ehangach Llywodraeth Cymru. Drwy’r Fforwm, rydym wedi cryfhau ein proffil gyda swyddogion allweddol ac wedi darparu cefnogaeth ar gyfer gwaith gan gynnwys Synnwyr Bwyd Cymru a chanllawiau Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i awdurdodau lleol i helpu i lunio systemau bwyd gwell. Rydym yn edrych ymlaen at fod yn bartner cyflawni allweddol wrth i’r gwaith hwn ddatblygu, gan sicrhau bod diogelwch a safonau bwyd yn cael eu hystyried o’r cychwyn cyntaf a darparu tystiolaeth, mewnwelediad ac arbenigedd rheoleiddiol a all helpu i drosi uchelgais yn ganlyniadau ymarferol i ddefnyddwyr, busnesau a chymunedau ledled Cymru.
3.13 Yn ddiweddar buom yn gweithio gyda Busnes Cymru i hyrwyddo’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd, a weithredir ar y cyd â Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, drwy’r erthygl ‘Gall Pob Busnes Bwyd Ennill Sgôr Hylendid Bwyd o 5’. Gwnaeth yr erthygl, a rannwyd drwy gylchlythyr Busnes Cymru â 15,000 o danysgrifwyr ac ar draws sianeli cymdeithasol, atgyfnerthu gwerth safonau hylendid cryf i fusnesau, awdurdodau lleol a defnyddwyr.
3.14 Mae cynlluniau llywodraeth newydd Cymru ar gyfer Strategaeth Fwyd Genedlaethol i Gymru yn gyfle pwysig a chyffrous i gefnogi dull system gyfan tuag at fwyd, o’r fferm i’r fforc. Rydym yn croesawu ei ffocws cadarnhaol a rhagweithiol ac rydym yn barod i gyfrannu arbenigedd yr ASB ar ddiogelwch a safonau bwyd, data a mewnwelediad defnyddwyr i helpu i lunio rhaglenni allweddol sy’n diogelu iechyd y cyhoedd, yn cefnogi defnyddwyr ac yn cryfhau hyder yn y system fwyd.
Ymgysylltiad parhaus ledled Cymru â rhanddeiliaid allweddol
3.15 Rydym wedi manteisio ar bob cyfle i gryfhau perthnasoedd â rhanddeiliaid a phartneriaid cyflenwi allweddol ledled Cymru drwy waith ymgysylltu rhagweithiol, gweladwy. Mae ein presenoldeb mewn digwyddiadau fel Blas Cymru, Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru a chynadleddau Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd a’r Sefydliad Safonau Masnach Siartredig wedi rhoi cyfleoedd gwerthfawr i arddangos gwaith yr ASB, cefnogi ymgysylltiad lefel uwch a chydnabod rhagoriaeth mewn safonau bwyd yng Nghymru. Mae’r gwaith ymgysylltu parhaus hwn yn helpu i gynnal gwelededd a dylanwad yr ASB, yn cryfhau perthynas â’r rhai sy’n cyflenwi ac yn llunio’r system rheoleiddio bwyd, ac yn sicrhau bod ein gwaith yn cael ei arwain gan y blaenoriaethau a’r heriau sy’n wynebu defnyddwyr, busnesau a phartneriaid dosbarthu ledled Cymru.
3.16 Eleni, rydym wedi cynyddu ymgysylltiad ag Aelodau o’r Senedd (ASau), cyn ac ar ôl yr etholiad, er mwyn cryfhau ymwybyddiaeth o rôl, blaenoriaethau a gwaith yr ASB yng Nghymru. Mae hyn wedi cynnwys diweddariadau chwarterol rheolaidd, sesiynau briffio ad hoc ar faterion o ddiddordeb, ac ymgysylltu trwy gynllun Y Farchnad, sef digwyddiad yn y Senedd lle gallwn ymgysylltu’n uniongyrchol ag ASau. Gwnaethom hefyd fanteisio ar bresenoldeb yn Sioe Frenhinol Cymru i gefnogi gwaith ymgysylltu ehangach â rhanddeiliaid, gan gyfarfod â gweinidogion i gynnal gwelededd ac atgyfnerthu cyfraniad yr ASB at ddiogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau defnyddwyr yng Nghymru.
3.17 Roedd ein presenoldeb yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst yn gyfle pwysig i ymgysylltu’n uniongyrchol â defnyddwyr, rhanddeiliaid a phartneriaid mewn lleoliad diwylliannol amlwg yng Nghymru. Drwy ymgysylltu dwyieithog, gwnaethom hyrwyddo negeseuon diogelwch bwyd allweddol, cynyddu ymwybyddiaeth o rôl yr ASB yng Nghymru, a chryfhau ein gwelededd ymhlith cynulleidfaoedd o bob cwr o Gymru. At ei gilydd, gwnaethom ymgysylltu â 1,526 o ddefnyddwyr a rhanddeiliaid. Roedd y gweithgarwch hwn hefyd yn cefnogi ein hymrwymiad ehangach i ymgysylltu mewn ffyrdd sy’n adlewyrchu iaith, diwylliant a chymunedau Cymru.
3.18 Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweithio gyda Chyd-bwyllgor Addysg Cymru (CBAC) i gefnogi’r gwaith o ddatblygu cymwysterau newydd sy’n gysylltiedig â bwyd i Gymru. Mae hyn wedi cynnwys cyfrannu at fodiwl Cynllunio a Pharatoi Bwyd o fewn y Gyfres Sgiliau newydd a gynigir i ddysgwyr 14–16 oed gan Gymwysterau Cenedlaethol Cymru, sydd â ffocws cryf ar sgiliau ymarferol. Mae’r modiwl yn ymdrin â pharatoi bwyd yn ddiogel, alergenau, labelu bwyd a gwastraff bwyd, ac rydym hefyd wrthi’n gweithio gyda CBAC ar ddatblygu Tystysgrif Alwedigaethol Addysg Uwchradd mewn Lletygarwch ac Arlwyo. Mae’r gwaith hwn yn helpu i sicrhau bod gwybodaeth hanfodol am ddiogelwch a safonau bwyd yn cael ei chyflwyno yn ystod cyfnodau allweddol pan fydd dysgwyr yn datblygu ac yn gwneud penderfyniadau am eu gyrfaoedd, gan gefnogi defnyddwyr y dyfodol a’r gweithlu bwyd yng Nghymru.
3.19 Ym mis Tachwedd, gwnaethom lansio ein sianeli Facebook ac Instagram dwyieithog newydd ar gyfer Cymru, gan gryfhau ein presenoldeb digidol a gwella sut rydym yn cyrraedd defnyddwyr a busnesau. Mae’r gwaith hwn wedi galw am gydweithredu agos rhwng timau i gynllunio a darparu cynnwys diddorol, cynnal momentwm, a thyfu ein cynulleidfa dros y flwyddyn i ddod. Rydym wedi canolbwyntio’n benodol ar ddatblygu cynnwys dwyieithog unigryw, sy’n berthnasol yn ddiwylliannol ac sy’n ddefnyddiol, yn hygyrch ac yn effeithlon.
4. Cyflawni blaenoriaethau corfforaethol
4.1 Ochr yn ochr â gwaith ar feysydd sy’n benodol i Gymru, mae tîm yr ASB yng Nghymru yn cyfrannu at flaenoriaethau a rhaglenni ehangach yr ASB, ac yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr yng Ngogledd Iwerddon a Lloegr.
4.2 Rydym wedi parhau i chwarae rhan weithredol wrth lunio a chefnogi paratoadau ar gyfer y Cytundeb Iechydol a Ffytoiechydol (SPS) gyda’r UE, ac yn wir, dyma fu prif ganolbwynt ein gwaith safonau cyfansoddiad a labelu bwyd. Rydym wedi cydlynu trefniadau o fewn cylch gwaith ehangach Cymru ar gyfer safonau cyfansoddiad a labelu bwyd, a hynny wrth gefnogi gweithgarwch llywodraethu a rhaglennu ehangach yr ASB mewn perthynas â’r cytundeb SPS. Gan weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a Defra, rydym wedi asesu goblygiadau cytundeb SPS mewn cyd-destun datganoledig, wedi cynghori ar yr effeithiau ar iechyd y cyhoedd, ac wedi nodi cyfleoedd a risgiau sy’n benodol i Gymru. Mae hyn yn cynnwys cefnogi gwaith ymgysylltu trawslywodraethol, cynllunio ymgynghoriadau cyhoeddus a pharatoi ar gyfer unrhyw waith gweithredu canlyniadol. Er bod uwchgynhadledd ddisgwyliedig y DU-UE wedi’i gohirio, mae’r gwaith o gynllunio’r rhaglenni yn parhau, ac mae’r tîm yn dal i gymryd rhan mewn gweithgarwch parodrwydd i sicrhau bod ystyriaethau polisi Cymru, yn ogystal â’i hystyriaethau deddfwriaethol a gweithredol, yn cael eu hadlewyrchu wrth i fanylion y cytundeb SPS ddod i’r amlwg.
4.3 Mae’r tîm yng Nghymru yn parhau i gefnogi gwaith polisi safonau bwyd allweddol, gan ymateb i ymholiadau rhanddeiliaid Cymru ar alergenau a gorsensitifrwydd i fwyd a chyfrannu at weithgarwch ehangach yr ASB sy’n gysylltiedig â’r Strategaeth Alergeddau Genedlaethol, canllawiau arferion gorau ac adnoddau e-ddysgu. Rydym hefyd yn arwain gwaith yr ASB ar atchwanegiadau bwyd, gan roi cyngor i awdurdodau lleol ar ddiffyg cydymffurfio, cyhoeddi canllawiau i ddefnyddwyr, cadeirio’r Gweithgor Atchwanegiadau Bwyd trawslywodraethol, a diweddaru’r pecyn cymorth i awdurdodau lleol i gefnogi gwaith gorfodi effeithiol. Ochr yn ochr â’r gwaith hwn, rydym wedi parhau i roi cyngor ar ystod o faterion o ran safonau cyfansoddiad a labelu bwyd, gan gynnwys labelu cynhyrchion llaeth amrwd a bwydydd a wneir drwy feithrin celloedd.
4.4 Mae’r gwaith yn parhau ar y cynigion ar gyfer system ddiwygiedig o gefnogaeth ariannol i ladd-dai a sefydliadau trin helgig. Ym mis Mehefin, gwnaethom gefnogi sesiwn ymgysylltu â rhanddeiliaid yng Nghaerdydd ar gyfer rhanddeiliaid Cymru, ochr yn ochr â sesiynau cyfatebol yng Ngogledd Iwerddon a Lloegr. Gwnaeth yr ymgynghoriad ar y cynigion diwygiedig ddod i ben ganol mis Mehefin, ac mae ymatebion gan randdeiliaid Cymru, ynghyd ag adborth o’r sesiwn rhanddeiliaid, wedi llunio’r cynigion diwygiedig ac wedi llywio’r papur Bwrdd perthnasol ar gyfer cyfarfod mis Medi.
4.5 Mae’r tîm wedi chwarae rhan bwysig mewn archwiliadau diweddar gan yr UE o Brydain Fawr, gan helpu i ddangos sut mae rheolaethau swyddogol yn cael eu cynnal yng Nghymru a chefnogi ymateb cyson ledled y DU. Roedd hyn yn cynnwys cydlynu tystiolaeth, darparu mewnbwn technegol a gweithredol, arwain cyflwyniadau gydag archwilwyr yr UE mewn cyfarfodydd technegol, a chynrychioli timau cyflenwi’r ASB yn ystod ymweliadau awdurdodau lleol. Cefnogodd y tîm archwiliadau sy’n cwmpasu cynhyrchion pysgodfeydd, cynhyrchion dofednod, cig eidion a molysgiaid dwygragennog byw.
4.6 Cafodd gwaith y tîm diogelu defnyddwyr yng Nghymru ei grynhoi yn yr adroddiad blynyddol ar ddigwyddiadau a gwydnwch ar gyfer 2025–26, a gyflwynwyd yng nghyfarfod y Bwrdd ym mis Mehefin. Yn 2025–26, roedd y tîm ynghlwm wrth 166 o ddigwyddiadau, gan arwain ar 76 ohonynt, sy’n cynrychioli cynnydd o 23% ers y flwyddyn flaenorol. Dros y flwyddyn nesaf, bydd y tîm yn canolbwyntio ar gryfhau’r mesurau ar gyfer atal digwyddiadau drwy ddulliau dadansoddi gwraidd y broblem i helpu busnesau bwyd ac awdurdodau lleol i nodi pam mae digwyddiadau’n codi a lleihau risgiau ailadroddus ar draws y system fwyd.
4.7 Fel rhan o’n hymrwymiad a’n cyfrifoldebau parhaus o dan y Cynllun Iaith Gymraeg, rydym yn parhau i ddarparu dewis iaith rhagweithiol a gwasanaeth dwyieithog i’n defnyddwyr yng Nghymru, gan gynnwys ar draws ein llwyfannau digidol ac wrth rannu gwybodaeth a chanllawiau â rhanddeiliaid. Wedi i ni gyflwyno ein Hadroddiad Monitro Blynyddol ar gynnydd ein gwasanaethau, cawsom adborth cadarnhaol dros ben gan Gomisiynydd y Gymraeg ynghylch ansawdd ein harferion.
4.8 Rydym yn parhau i gyflwyno a hyrwyddo ymgyrchoedd cyfathrebu craidd yr ASB yng Nghymru drwy gynnwys dwyieithog, lleisiau Cymraeg/Cymreig, rhwydweithiau partneriaid a chyfleoedd yn y cyfryngau sy’n benodol i Gymru. Mae gweithgarwch diweddar wedi cynnwys negeseuon am gamwybodaeth a thwyllwybodaeth mewn perthynas ag ychwanegion bwyd anifeiliaid, cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd a hysbysiadau galw bwyd yn ôl, ochr yn ochr ag ymgyrchoedd hylendid bwyd fel ‘Stopia. Meddylia. Gweina.’ ac ‘Mae bacteria wrth eu bodd yma’. Mae gweithio gyda thimau cyfathrebu awdurdodau lleol a defnyddio offer a sianeli fel pecynnau adnoddau dwyieithog, y cyfryngau cymdeithasol, digwyddiadau gan gynnwys yr Eisteddfod, a chwmnïau cyfryngau Cymru yn sicrhau bod negeseuon dibynadwy am ddiogelwch a safonau bwyd yn cyrraedd defnyddwyr, busnesau a rhanddeiliaid mewn ffyrdd sy’n amserol, yn berthnasol ac yn hygyrch yng Nghymru.
4.9 Mae tîm y Gymraeg a’r tîm cyfathrebu yng Nghymru wedi chwarae rhan allweddol wrth gyfieithu a mudo cynnwys i’n llwyfan newydd ar GOV.UK, gan sicrhau bod cynnwys Cymraeg a chynnwys sy’n berthnasol i Gymru ar gael, yn gywir ac yn cael ei drin yn gyfartal ochr yn ochr â chynnwys Saesneg ei iaith. Mae’r gwaith hwn wedi cefnogi ymrwymiad yr ASB i ddarparu gwasanaeth dwyieithog i ddefnyddwyr a rhanddeiliaid yng Nghymru, gyda chydweithwyr tîm Cyfathrebu Cymru hefyd yn rhoi cymorth i sicrhau bod cynnwys yn glir, yn hygyrch ac yn cyd-fynd â gweithgarwch cyfathrebu ehangach. Mae’r gwaith hwn wedi helpu i gryfhau’r ddarpariaeth ddwyieithog ar draws llwyfan GOV.UK, ac rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i wneud gwelliannau pellach lle bynnag y gallwn wneud hynny.
5. Edrych ymlaen
5.1 Bydd y deuddeg mis nesaf yn arbennig o bwysig ar gyfer dyfodol polisi a rheoleiddio bwyd yng Nghymru. Bydd ffurfio llywodraeth newydd Cymru, datblygu Strategaeth Fwyd Genedlaethol i Gymru, paratoi i roi’r trefniadau SPS ar waith, ynghyd â heriau parhaus ynghylch capasiti a gallu awdurdodau lleol oll yn dylanwadu ar yr amgylchedd gweithredu. Mewn ymateb, rydym wedi nodi blaenoriaethau a fydd yn arwain ein gwaith dros y flwyddyn i ddod ac yn sicrhau bod yr ASB yn parhau i fod mewn sefyllfa dda i gefnogi Llywodraeth Cymru, defnyddwyr, busnesau a phartneriaid cyflenwi.
5.2 Dros y misoedd nesaf, bydd y tîm yng Nghymru yn cefnogi’r gwaith o gynllunio’r rhaglenni SPS ac yn sicrhau parodrwydd i’w rhoi ar waith, gan ganolbwyntio’n arbennig ar ystyriaethau polisi, yn ogystal ag ystyriaethau deddfwriaethol a gweithredol sy’n benodol i Gymru. Byddwn yn gweithio gyda Defra, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a busnesau i asesu cynigion sy’n dod i’r amlwg, cefnogi ymwybyddiaeth a pharodrwydd, a helpu i sicrhau y gellir rhoi unrhyw newidiadau rheoleiddiol yn y dyfodol ar waith yng Nghymru mewn modd cyson ac effeithiol.
5.3 Gan adeiladu ar y gwaith a nodwyd yn gynharach yn y papur hwn, byddwn yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru wrth i’r Strategaeth Fwyd Genedlaethol i Gymru ddatblygu. Byddwn yn cefnogi’r Gweithgor Arbenigol, dan gadeiryddiaeth Simon Wright, ac yn ceisio cyfleoedd i sicrhau bod diogelwch bwyd, safonau bwyd, hyder defnyddwyr a gwaith rheoleiddio sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn cael eu hadlewyrchu drwy gydol blaenoriaethau’r strategaeth. Mae hyn yn gyfle pwysig i sefydlu’r ASB fel partner cyflenwi allweddol ar gyfer agenda bwyd ehangach Llywodraeth Cymru. Byddwn yn cyfrannu tystiolaeth, mewnwelediad defnyddwyr ac arbenigedd rheoleiddio i helpu i lunio system fwyd sy’n diogelu iechyd y cyhoedd, yn cefnogi twf economaidd cynaliadwy ac yn sicrhau manteision i gymunedau ledled Cymru.
5.4 Yn ogystal â chefnogi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, byddwn yn parhau i gryfhau ein gwaith ymgysylltu ag Aelodau o’r Senedd drwy ddiweddariadau rheolaidd, sesiynau briffio targededig a chyfleoedd ar gyfer trafodaeth uniongyrchol ar rôl a blaenoriaethau’r ASB yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys ein digwyddiad blynyddol yn y Senedd ddechrau mis Rhagfyr a phresenoldeb yn Y Farchnad ym mis Chwefror 2027. Bydd y ddau beth hyn yn gyfle i atgyfnerthu ein presenoldeb yng Nghymru, cefnogi deialog dwyffordd a meithrin dealltwriaeth o’n gwaith ar draws y system fwyd.
5.5 Byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid cyflenwi i gryfhau gwydnwch, gallu a chynaliadwyedd y system rheoleiddio bwyd yng Nghymru. Byddwn yn parhau i gryfhau ein perthynas ag awdurdodau lleol yng Nghymru drwy waith ymgysylltu rheolaidd a phwrpasol, a thrwy gydweithio ymarferol ar y materion sydd bwysicaf i’w cyflawni. Bydd hyn yn cynnwys cydweithio parhaus ar y rhaglen ‘Dyfodol Rheoleiddio Bwyd’, a chefnogi DPPW gydag arolwg ar y gweithlu er mwyn deall capasiti, gallu a phwysau ar adnoddau’n well. Gyda’i gilydd, bydd hyn yn darparu sylfaen dystiolaeth gryfach ar gyfer cynllunio yn y dyfodol, bydd hefyd yn helpu i dargedu cymorth lle mae ei angen fwyaf, ac yn sicrhau bod yr awdurdodau lleol yn parhau i fod yn ganolog i’r gwaith o lunio dulliau rheoleiddio bwyd effeithiol yng Nghymru.
6. Casgliadau
6.1 Mae’r papur hwn yn rhoi trosolwg lefel uchel o’r gwaith sydd wedi’i wneud ers y diweddariad diwethaf i’r Bwrdd ym mis Medi 2025, yn ogystal â blaenoriaethau presennol a rhai’r dyfodol ar gyfer tîm yr ASB yng Nghymru.
6.2 Gofynnir i’r Bwrdd:
- asesu effeithiolrwydd y gwaith yng Nghymru i gyflawni blaenoriaethau’r ASB
- ystyried sut mae’r gwaith hwn yn cyd-fynd â chyfeiriad strategol yr ASB
- rhoi adborth ar y blaenoriaethau a nodwyd