Canllawiau

Enghreifftiau i’ch helpu i gyfrifo cyflogau, cyfraniadau Yswiriant Gwladol a chyfraniadau pensiwn eich cyflogai

Diweddarwyd 1 December 2020

1. Cyfrifo’ch cyfnod hawlio

1.1 Enghraifft o gyfnod cyflog sy’n ymestyn ar draws mis Gorffennaf a mis Awst.

Mae gan gyflogai gyfnod cyflog o 4 wythnos o 20 Gorffennaf i 16 Awst. Ni all y cyflogwr hawlio am hyn fel un cyfnod felly mae’n gwneud dau hawliad ar wahân:

  • 20 i 31 Gorffennaf
  • 1 i 16 Awst

Darllenwch arweiniad ar gyfnod cyflog sy’n ymestyn ar draws mis Mehefin a mis Awst.

2. Cyfrifo oriau arferol ac oriau ffyrlo eich cyflogai

2.1 Enghraifft o sut i gyfrifo oriau arferol ar gyfer cyflogeion sydd dan gontract am nifer sefydlog o oriau

Mae cyflogai dan gontract i weithio 37 awr bob wythnos, ar draws 5 diwrnod gwaith. Telir y cyflogai’n wythnosol. Mae’r cyflogwr yn anelu at wneud hawliad ffyrlo hyblyg ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Awst 2020 a 10 Awst 2020 (10 diwrnod calendr). Mae dau gyfnod cyflog yn rhan o’r cyfnod hawlio hwn:

  • 29 Gorffennaf i 4 Awst
  • 5 Awst i 11 Awst

Mae’r cyflogwr yn cyfrifo’r oriau arferol ar gyfer y diwrnodau ym mhob cyfnod cyflog sydd yn hawliad y cyflogwr.

Mae’r cyflogwr yn cyfrifo ar sail cyfnod cyflog felly mae’n rhaid iddo dalgrynnu nifer yr oriau arferol agosaf ar gyfer pob cyfnod cyflog i fyny neu i lawr i’r rhif cyfan agosaf.

Yn gyntaf mae’r cyflogwr yn cyfrifo’r oriau arferol ar gyfer y diwrnodau mae’n hawlio ar eu cyfer yn y cyfnod cyflog 29 Gorffennaf i 4 Awst, fel a ganlyn:

  1. Dechreuwch â 37 awr (yr oriau roedd eich cyflogai dan gontract ar eu cyfer ar ddiwedd y cyfnod cyflog olaf a ddaeth i ben ar 19 Mawrth 2020 neu cyn hynny).

  2. Rhannwch â 7 (nifer y diwrnodau yn y patrwm gweithio sy’n ailadrodd, gan gynnwys diwrnodau nad oedd y cyflogai’n eu gweithio).

  3. Lluoswch â 4 (nifer y diwrnodau calendr yn y cyfnod cyflog (neu’r cyfnod cyflog rhannol) mae’r cyflogwr yn hawlio ar eu cyfer – mae hyn yn gyfnod cyflog rhannol) = 21.14.

  4. Talgrynnwch i fyny neu i lawr i’r rhif cyfan agosaf os nad yw’r canlyniad yn rhif cyfan = 21.

Nesaf, mae’r cyflogwr yn cyfrifo’r oriau arferol ar gyfer y diwrnodau mae’n hawlio ar eu cyfer yn y cyfnod cyflog 5 Awst i 11 Awst, fel a ganlyn:

  1. Dechreuwch â 37 awr (yr oriau roedd eich cyflogai dan gontract ar eu cyfer ar ddiwedd y cyfnod cyflog olaf a ddaeth i ben ar 19 Mawrth 2020 neu cyn hynny).

  2. Rhannwch â 7 (nifer y diwrnodau yn y patrwm gweithio sy’n ailadrodd, gan gynnwys diwrnodau nad oedd y cyflogai’n eu gweithio).

  3. Lluoswch â 6 (nifer y diwrnodau calendr yn y cyfnod cyflog (neu’r cyfnod cyflog rhannol) mae’r cyflogwr yn hawlio ar eu cyfer – mae hyn yn gyfnod cyflog rhannol) = 31.71.

  4. Talgrynnwch i fyny neu i lawr i’r rhif cyfan agosaf os nad yw’r canlyniad yn rhif cyfan = 32.

Darllenwch arweiniad ar sut i gyfrifo oriau arferol ar gyfer cyflogeion sydd dan gontract am nifer sefydlog o oriau.

2.2 Enghraifft o sut i gyfrifo oriau arferol ar gyfer cyflogeion sydd dan gontract am nifer sefydlog o oriau

Mae cyflogai dan gontract i weithio patrwm sifft o bedwar diwrnod 12 awr olynol ac yna cael pedwar diwrnod i ffwrdd o’r gwaith. Mae’r patrwm gweithio hwn yn ailadrodd bob 8 diwrnod. Caiff y cyflogai ei dalu bob mis calendr. Mae’r cyflogwr yn anelu at wneud hawliad ffyrlo hyblyg ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Gorffennaf 2020 a 31 Gorffennaf (31 diwrnod calendr). Mae’r cyfnod cyflog a’r cyfnod hawlio yn cyd-fynd a’i gilydd.

Mae’r cyflogwr yn cyfrifo’r oriau arferol ar gyfer cyfnod cyflog mis Gorffennaf drwy ddilyn y camau uchod:

  1. Dechreuwch â 48 awr (yr oriau roedd eich cyflogai dan gontract ar eu cyfer yn ei batrwm gweithio sy’n ailadrodd ar ddiwedd y cyfnod cyflog olaf a ddaeth i ben ar 19 Mawrth 2020 neu cyn hynny – sy’n 12 awr wedi’u lluosi â 4 diwrnod, yn yr enghraifft hon).

  2. Rhannwch ag 8 (nifer y diwrnodau yn y patrwm gweithio sy’n ailadrodd, gan gynnwys diwrnodau nad oedd y cyflogai’n eu gweithio).

  3. Lluoswch â 31 (nifer y diwrnodau calendr yn y cyfnod cyflog (neu gyfnod cyflog rhannol) mae’r cyflogwr yn hawlio ar eu cyfer) = 186.

  4. Mae canlyniad cam 3 yn rhif cyfan, felly nid oes angen ei dalgrynnu i’r rhif cyfan nesaf.

Darllenwch arweiniad ar sut i gyfrifo oriau arferol ar gyfer cyflogeion sydd dan gontract am nifer sefydlog o oriau.

2.3 Enghraifft o sut i gyfrifo oriau gwaith arferol cyflogai sydd dan gontract am nifer sefydlog o oriau ac a oedd i ffwrdd o’r gwaith yn sâl neu ar absenoldeb statudol sy’n gysylltiedig â’r teulu ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod cyflog olaf a ddaeth i ben ar 19 Mawrth 2020 neu cyn hynny

Mae cyflogai’n cael ei dalu bob mis calendr, a daeth cyfnod cyflog olaf y cyflogai, sy’n dod i ben ar 19 Mawrth 2020 neu cyn hynny, i ben ar 29 Chwefror 2020.

Yn y cyfnod cyflog a ddaeth i ben ar 29 Chwefror 2020, roedd y cyflogai i ffwrdd o’r gwaith yn sâl am 7 diwrnod.

Wrth gyfrifo’r oriau roedd y cyflogai dan gontract ar eu cyfer ar ddiwedd y cyfnod cyflog olaf a ddaeth i ben ar 19 Mawrth 2020 neu cyn hynny, dylai’r oriau arferol gael eu cyfrifo fel pe na bai’r cyflogai wedi cymryd yr absenoldeb hwnnw.

Darllenwch arweiniad ar sut i gyfrifo oriau arferol ar gyfer cyflogeion sydd dan gontract am nifer sefydlog o oriau.

2.4 Enghraifft o sut i gyfrifo nifer gyfartalog yr oriau a weithiwyd ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020 ar gyfer cyflogai sy’n gweithio oriau amrywiol

Dechreuodd cyflogai weithio i gyflogwr yn 2005. Mae’r cyflogai’n cael ei dalu bob pythefnos a chafodd ei roi ar ffyrlo ar 23 Mawrth 2020.

Mae’r cyflogwr yn cyfrifo bod y cyflogai’n gweithio 1,850 o oriau rhwng 6 Ebrill 2019 a 22 Mawrth 2020. Mae hyn yn cynnwys unrhyw oriau y cafodd y cyflogai dâl gwyliau ar eu cyfer.

Caiff y cyflogai ei dalu ar gyfer y cyfnod cyflog 1 Gorffennaf 2020 i 14 Gorffennaf 2020, ac mae’r cyflogwr yn anelu at wneud hawliad ffyrlo hyblyg ar gyfer yr un cyfnod (1 Gorffennaf 2020 i 14 Gorffennaf 2020).

Mae’r cyflogwr yn cyfrifo nifer gyfartalog yr oriau a weithiwyd ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020 fel a ganlyn:

  1. Dechreuwch â 1850 (nifer yr oriau a weithiwyd mewn gwirionedd (neu ar wyliau blynyddol â thâl neu absenoldeb fflecsi) ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020 cyn i’r cyflogai gael ei roi ar ffyrlo).

  2. Rhannwch â 352 (nifer y diwrnodau calendr roedd y cyflogai wedi’i gyflogi gan y cyflogwr ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020, hyd at y diwrnod cyn iddo gael ei roi ar ffyrlo).

  3. Lluoswch ag 14 (nifer y diwrnodau calendr yn y cyfnod cyflog (neu gyfnod cyflog rhannol) mae’r cyflogwr yn hawlio ar eu cyfer) = 73.58.

  4. Talgrynnwch i fyny i’r rhif cyfan nesaf ac oherwydd bod y cyfrifiad ar gyfer cyfnod hawlio cyfan = 74.

Bydd angen hefyd i’r cyflogwr gyfrifo’r oriau arferol yn seiliedig ar y cyfnod calendr cyfatebol ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020, a defnyddio’r ffigur uchaf ar gyfer yr oriau arferol.

Darllenwch arweiniad ar sut i gyfrifo nifer gyfartalog yr oriau a weithiwyd ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020 ar gyfer cyflogai sy’n gweithio oriau amrywiol.

2.5 Enghraifft o sut i gyfrifo nifer gyfartalog yr oriau a weithiwyd ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020 ar gyfer cyflogai sy’n gweithio oriau amrywiol ac a oedd ar absenoldeb mabwysiadu statudol ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020

Dechreuodd cyflogai weithio i gyflogwr yn 2013. Mae’r cyflogai’n cael ei dalu bob pedair wythnos a chafodd ei roi ar ffyrlo ar 31 Mawrth 2020.

Caiff y cyflogai ei dalu ar gyfer y cyfnod cyflog 1 Gorffennaf 2020 i 28 Gorffennaf 2020, ac mae’r cyflogwr yn anelu at wneud hawliad ffyrlo hyblyg ar gyfer yr un cyfnod (1 Gorffennaf 2020 i 28 Gorffennaf 2020).

Mae’r cyflogwr yn cyfrifo bod y cyflogai wedi gweithio 616 o oriau rhwng 6 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2020. Mae hyn yn cynnwys unrhyw oriau y cafodd y cyflogai dâl gwyliau ar eu cyfer. Roedd y cyflogai ar gyfnod o absenoldeb mabwysiadu statudol rhwng 1 Mehefin 2019 a 14 Ionawr 2020 – sef 228 diwrnod.

Mae 360 diwrnod (yn gynhwysol) rhwng 6 Ebrill 2019 a 30 Mawrth 2020. Ni ddylai’r cyflogwr gynnwys y diwrnodau pan oedd y cyflogai ar absenoldeb mabwysiadu statudol, sy’n gadael 132 diwrnod.

Mae’r cyflogwr yn cyfrifo nifer gyfartalog yr oriau a weithiwyd ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020 fel a ganlyn:

  1. Dechreuwch â 616 (nifer yr oriau a weithiwyd mewn gwirionedd (neu ar wyliau blynyddol â thâl neu absenoldeb “fflecsi”) ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020 cyn i’r cyflogai gael ei roi ar ffyrlo).

  2. Rhannwch â 132 (nifer y diwrnodau calendr roedd y cyflogai wedi’i gyflogi gan y cyflogwr ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020, hyd at y diwrnod cyn iddo gael ei roi ar ffyrlo, heb gynnwys yr amser pan oedd y cyflogai ar absenoldeb mabwysiadu statudol).

  3. Lluoswch â 28 (nifer y diwrnodau calendr yn y cyfnod cyflog (neu gyfnod cyflog rhannol) mae’r cyflogwr yn hawlio ar eu cyfer) = 130.66.

  4. Talgrynnwch i fyny i’r rhif cyfan nesaf oherwydd nad yw’r canlyniad yn rhif cyfan ac oherwydd bod y cyfrifiad ar gyfer cyfnod hawlio cyfan = 131.

Bydd angen hefyd i’r cyflogwr gyfrifo’r oriau arferol yn seiliedig ar y cyfnod calendr cyfatebol ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020, a defnyddio’r ffigur uchaf ar gyfer yr oriau arferol.

2.6 Enghraifft o sut i gyfrifo’r oriau arferol a weithiwyd yn ystod yr un cyfnod y llynedd ar gyfer cyflogai sy’n gweithio oriau amrywiol pan fo’r cyfnod cyflog (neu’r cyfnod cyflog rhannol) a hawlir ar ei gyfer yn dechrau ac yn dod i ben ar yr un diwrnod calendr â’r cyfnod cyflog a nodwyd

Mae cyflogai’n cael ei dalu bob mis calendr ac mae ganddo gyfnod cyflog o fis calendr. Mae’r cyflogwr yn anelu at wneud hawliad ar gyfer cyfnod cyflog mis Gorffennaf 2020.

Mae’r cyflogai’n gweithio oriau amrywiol felly mae angen i’r cyflogwr gyfrifo’r oriau arferol yn seiliedig ar yr uchaf o un o’r canlynol:

  • nifer cyfartalog yr oriau a weithiwyd ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020

  • y cyfnod calendr cyfatebol ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020

Mae’r cyflogwr yn cyfrifo’r oriau arferol yn seiliedig ar y cyfnod calendr cyfatebol ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020. Byddai angen i’r cyflogwr edrych ar yr oriau a weithiwyd ym mis Gorffennaf 2019.

Bydd angen i’r cyflogwr hefyd gyfrifo’r oriau cyfartalog a weithiwyd ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020.

Darllenwch arweiniad ar sut i gyfrifo’r oriau arferol a weithiwyd yn ystod yr un cyfnod y llynedd ar gyfer cyflogai sy’n gweithio oriau amrywiol pan fo’r cyfnod cyflog (neu’r cyfnod cyflog rhannol) yr hawlir ar ei gyfer yn dechrau ac yn dod i ben ar yr un diwrnod calendr â’r cyfnod cyflog a nodwyd.

2.7 Enghraifft o sut i gyfrifo’r oriau arferol yn seiliedig ar yr oriau a weithiwyd mewn mwy nag un cyfnod cyflog ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020

Mae cyflogwr yn prosesu cyflogres wythnosol ac yn anelu at hawlio am y cyfnod 20 Gorffennaf 2020 i 26 Gorffennaf 2020 ar gyfer cyflogai sy’n gweithio oriau amrywiol. Mae’r cyflogai wedi gweithio i’r cyflogwr ers 2017.

Mae’r cyflogwr yn cyfrifo’r oriau arferol yn seiliedig ar y cyfnod calendr cyfatebol ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020. Y cyfnod calendr cyfatebol yn 2019 yw 20 Gorffennaf 2019 i 26 Gorffennaf 2019. Mae’r cyfnod hwnnw yn cwmpasu dau gyfnod cyflog yn 2019:

  • 15 Gorffennaf 2019 i 21 Gorffennaf 2019 (2 ddiwrnod calendr sy’n gorgyffwrdd gyda chyfnod cyflog 2020 – 20 i 21 Gorffennaf)
  • 22 Gorffennaf 2019 i 28 Gorffennaf 2019 (5 diwrnod calendr sy’n gorgyffwrdd gyda chyfnod cyflog 2020 – 22 i 26 Gorffennaf)

Yn ystod 2019, gweithiodd y cyflogai yr oriau canlynol:

  • yn y cyfnod cyflog sy’n dechrau 15 Gorffennaf 2019 – 28 awr
  • yn y cyfnod cyflog sy’n dechrau 22 Gorffennaf 2019 – 35 awr

Mae’r cyflogwr yn cyfrifo’r oriau arferol yn seiliedig ar y cyfnod calendr cyfatebol ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020, fel a ganlyn:

  1. Dechreuwch â 28 (nifer yr oriau a weithiwyd yn y cyfnod cyflog cyntaf a nodwyd ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020).
  2. Lluoswch â 2 (nifer y diwrnodau calendr yn y cyfnod cyflog hwnnw sy’n cyfateb i o leiaf un diwrnod calendr yn y cyfnod cyflog (neu’r cyfnod cyflog rhannol) mae’r cyflogwr yn hawlio ar ei gyfer – 20 a 21 Gorffennaf).
  3. Rhannwch â 7 (cyfanswm y diwrnodau calendr yn y cyfnod cyflog ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020) = 8.

Cam 4 yw bod camau 1, 2 a 3 yn cael eu hailadrodd ar gyfer pob cyfnod cyflog dilynol a nodir. Bydd angen i’r cyflogwr ailadrodd camau 1, 2 a 3 ar gyfer y cyfnod cyflog nesaf:

  1. Dechreuwch â 35 (nifer yr oriau a weithiwyd yn y cyfnod cyflog nesaf a nodwyd ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020).
  2. Lluoswch â 5 (nifer y diwrnodau calendr yn y cyfnod cyflog hwnnw sy’n cyfateb i o leiaf un diwrnod calendr yn y cyfnod cyflog (neu’r cyfnod cyflog rhannol) mae’r cyflogwr yn hawlio ar ei gyfer – 22 i 26 Gorffennaf).
  3. Rhannwch â 7 (cyfanswm y diwrnodau calendr yn y cyfnod cyflog ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020) = 25.

Nid oes rhagor o gyfnodau cyflog yn 2019 i’w hystyried:

Ychwanegwch nhw i gyd at ei gilydd, 8 + 25 = 33. Mae’r canlyniad yn rhif cyfan, felly nid oes angen ei dalgrynnu i’r rhif cyfan nesaf.

Bydd angen i’r cyflogwr hefyd gyfrifo’r oriau cyfartalog a weithiwyd ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020, a defnyddio’r ffigur uchaf ar gyfer oriau arferol y cyflogai.

Darllenwch arweiniad ar sut i gyfrifo’r oriau arferol yn seiliedig ar yr oriau a weithiwyd mewn mwy nag un cyfnod cyflog ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020.

2.8 Enghraifft ar gyfer cyfrifo nifer yr oriau ffyrlo

Mae cyflogai ar ffyrlo o 1 Ebrill 2020 ymlaen ac mae’r cyflogai’n dod yn gyflogai ar ffyrlo hyblyg ar 10 Gorffennaf 2020. Mae’r cyflogwr yn hawlio’n wythnosol, yn unol â phan mae’n prosesu ei gyflogres.

Mae cyflogwr yn anelu at hawlio ar gyfer y cyflogai ar gyfer y cyfnod 22 Gorffennaf 2020 i 28 Gorffennaf 2020 (1 wythnos). Mae’r cyflogwr yn cyfrifo mai 37 awr yw oriau arferol y cyflogai ar gyfer y cyfnod hwn. Nid yw’r cyflogai’n cymryd gwyliau yn y cyfnod hwn.

Mae’r cyflogai a’r cyflogwr yn cytuno y bydd y cyflogai’n gweithio 10 awr yn y cyfnod 22 Gorffennaf 2020 i 28 Gorffennaf 2020. Mae’r cyflogai’n gweithio 10 awr yn y cyfnod hwnnw.

Mae’r cyflogwr yn cyfrifo nifer yr oriau ffyrlo ar gyfer y cyflogai fel a ganlyn:

  1. Dechreuwch â 37 (oriau arferol y cyflogai).
  2. Didynnwch 10 (nifer yr oriau y mae’r cyflogai wedi gweithio mewn gwirionedd yn ystod y cyfnod hawlio).

Mae’r cyflogai’n cael ei roi ar ffyrlo am 27 allan o’i 37 awr arferol.

Darllenwch arweiniad ar gyfrifo nifer yr oriau ffyrlo.

3. Cyfrifo 80% o gyflog arferol eich cyflogai

3.1 Enghraifft o gyfrifo’r uchafswm cyflog am ran o gyfnod cyflog

Mae’r cwmni cyfyngedig A Cyf yn talu ei holl gyflogeion bob wythnos ar ddydd Gwener ac yn rhoi ei holl gyflogeion ar ffyrlo ar ddydd Mercher, 8 Ebrill 2020.

Bydd angen i A Cyf gyfrifo uchafswm y cyflog gan ddefnyddio’r cyfrifiad dyddiol ar gyfer y cyfnod cyflog cyntaf sy’n dod i ben ar ddydd Gwener, 10 Ebrill 2020. £83.34 yw hwn wedi’u lluosi â 3 diwrnod, sef £250.02.

Ar gyfer y cyfnod cyflog nesaf, 11 Ebrill 2020 i 17 Ebrill 2020, yr uchafswm yw £576.92 oherwydd bod y cyfnod cyflog yn wythnos gyfan, a bod y cyflogai wedi bod ar ffyrlo bob dydd.

Mae A Cyf yn gwneud hawliad ar gyfer 8 Ebrill 2020 i 17 Ebrill 2020. Yr uchafswm cyflog yw’r ddau swm wedi’u hychwanegu at ei gilydd, sef £826.94.

Darllenwch arweiniad ar sut i gyfrifo’r uchafswm cyflog.

3.2 Enghraifft ar gyfer cyfrifo 80% o gyflog cyflogeion amser llawn neu ran-amser sydd ar gyfradd sefydlog

Dechreuodd gweithiwr weithio i gwmni B Cyf yn 1997 ac mae cyflog misol yn cael ei dalu’n rheolaidd iddo ar ddiwrnod olaf pob mis. Cytunodd y gweithiwr i gael ei roi ar ffyrlo o 23 Mawrth 2020 ymlaen. Talwyd £2,400 i’r gweithiwr ar gyfer y cyfnod cyflog misol llawn diwethaf cyn 19 Mawrth 2020. Mae 9 diwrnod rhwng 23 Mawrth a 31 Mawrth.

Mae B Cyf yn cyfrifo 80% o gyflog y cyflogai:

  1. Dechreuwch â £2,400 (cyflog y cyflogai).

  2. Rhannwch â 31 (cyfanswm y diwrnodau ym mis Mawrth).

  3. Lluoswch â 9 (nifer y diwrnodau ffyrlo ym mis Mawrth).

  4. Lluoswch ag 80% – sef £557.42.

Darllenwch arweiniad ar sut i gyfrifo 80% o gyflog cyflogeion amser llawn neu ran-amser sydd ar gyfradd sefydlog.

3.3 Enghraifft o gyfrifo 80% o gyflog cyflogai amser llawn neu ran-amser sydd ar gyfradd sefydlog sy’n dychwelyd i weithio ei oriau arferol yn ystod y cyfnod hawlio

Mae cyflogai â chyfnod cyflog mis calendr, ac fel arfer mae’n gweithio 40 awr yr wythnos. Talwyd £2,000 i’r cyflogai yn y cyfnod cyflog misol llawn diwethaf cyn 19 Mawrth 2020. Rhoddwyd y cyflogai ar ffyrlo yn barhaus o 13 Ebrill i 30 Mehefin. Cafodd ei roi ar ffyrlo hyblyg o 1 Gorffennaf ymlaen, yn gweithio 10 awr yr wythnos, ac yn dod yn ôl i weithio ei oriau arferol llawn o 13 Gorffennaf ymlaen.

Mae’r cyflogwr yn cyfrifo 80% o gyflog y cyflogai:

  1. Dechreuwch â £2,000 (cyflog y cyflogai).
  2. Rhannwch â 31 (cyfanswm y diwrnodau ym mis Gorffennaf).
  3. Lluoswch ag 12 (nifer y diwrnodau ffyrlo ym mis Gorffennaf).
  4. Lluoswch ag 80% – sef £619.35.

Darllenwch arweiniad ar sut i gyfrifo 80% o gyflog cyflogeion amser llawn neu ran-amser sydd ar gyfradd sefydlog.

3.4 Enghraifft ar gyfer cyfrifo 80% o gyflog eich cyflogai os nad yw wedi cael ei dalu am gyfnod cyflog llawn hyd at 19 Mawrth 2020

Dechreuodd cyflogai weithio i gwmni B Cyf ar 21 Chwefror 2020 ac mae’n cael ei dalu ar ddiwrnod olaf pob mis. Nid oedd y cyflogai wedi cael cyfnod cyflog llawn hyd at 19 Mawrth 2020, ond talwyd £700 iddo fel pro-rata o’i gyflog ar 29 Chwefror 2020. Mae 9 diwrnod rhwng 21 Chwefror a 29 Chwefror. Mae’r cyflogai’n cytuno i gael ei roi ar ffyrlo o 25 Mawrth 2020 ymlaen. Mae 7 diwrnod rhwng 25 Mawrth a 31 Mawrth.

  1. Dechreuwch â £700 (y swm a dalwyd i’r cyflogai yn ei gyfnod cyflog diwethaf).
  2. Rhannwch â 9 (nifer y diwrnodau yn ei gyfnod cyflog diwethaf – gan gynnwys diwrnodau nad oedd y cyflogai’n eu gweithio).
  3. Lluoswch â 29 (nifer y diwrnodau ym mis Chwefror).
  4. Rhannwch â 31 (cyfanswm y diwrnodau yng nghyfnod cyflog mis Mawrth).
  5. Lluoswch â 7 (nifer y diwrnodau ffyrlo yng nghyfnod cyflog mis Mawrth).
  6. Lluoswch ag 80% – sef £407.46.

Darllenwch arweiniad ar sut i gyfrifo 80% o gyflogau os nad yw’ch cyflogai wedi cael ei dalu am gyfnod cyflog llawn hyd at 19 Mawrth 2020.

3.5 Enghraifft o hawlio am yr un cyfnod y llynedd

Mae A Cyf yn talu cyflogai ar sail wythnosol. Mae cyfnod cyflog y cyflogai’n dechrau ar 23 Mawrth 2020 ac yn dod i ben ar 29 Mawrth 2020. Cafodd y cyflogai ei roi ar ffyrlo am yr wythnos gyfan. Talwyd £350 i’r cyflogai ar gyfer 23 Mawrth 2019 i 29 Mawrth 2019.

  1. Dechreuwch â £350 (y swm a enillodd yn ystod yr un cyfnod y llynedd).
  2. Rhannwch â 7 (cyfanswm y diwrnodau yn y cyfnod cyflog hwn).
  3. Lluoswch â 7 (nifer y diwrnodau ffyrlo yn y cyfnod cyflog hwn).
  4. Lluoswch ag 80% – £280 yw hwn.

Darllenwch arweiniad ar sut i gyfrifo 80% o gyflog yr un mis o’r flwyddyn flaenorol.

3.6 Enghraifft o gyfrifo 80% o gyflog misol cyfartalog ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf

Dechreuodd cyflogai weithio i A Cyf yn 2018, a chafodd ei roi ar ffyrlo.

Dechreuodd cyflogai weithio i A Cyf yn 2018, a chafodd ei roi ar ffyrlo ar 23 Mawrth 2020, gan gael cyflog o £15,000 rhwng 6 Ebrill 2019 a 22 Mawrth 2020 yn gynhwysol. Mae 352 diwrnod rhwng 6 Ebrill 2019 a 22 Mawrth 2020. Mae A Cyf yn hawlio ar gyfer 23 Mawrth i 31 Mawrth 2020. Mae 9 diwrnod rhwng 23 Mawrth a 31 Mawrth.

  1. Dechreuwch â £15,000 (swm y cyflog a oedd yn daladwy i’r cyflogai yn y flwyddyn dreth hyd at y diwrnod cyn iddo gael ei roi ar ffyrlo).
  2. Rhannwch â 352 (nifer y diwrnodau ers dechrau’r gyflogaeth, hyd at y diwrnod cyn iddo gael ei roi ar ffyrlo).
  3. Lluoswch â 9 (nifer y diwrnodau ffyrlo yn ystod y cyfnod cyflog hwn).
  4. Lluoswch ag 80% – £306.82 yw hwn.

Darllenwch arweiniad ar sut i gyfrifo 80% o gyflog misol cyfartalog ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf.

3.7 Enghraifft o gyfrifo 80% o gyflog cyfartalog ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf os dechreuodd y gyflogaeth ar ôl 6 Ebrill 2019

Dechreuodd cyflogai weithio i A Cyf ar 1 Mai 2019, a chafodd ei roi ar ffyrlo ar 23 Mawrth 2020, gan gael cyflog o £15,000 rhwng 1 Mai 2019 a 22 Mawrth 2020 yn gynhwysol. Mae 327 diwrnod rhwng 1 Mai 2019 a 22 Mawrth 2020. Mae A Cyf yn hawlio ar gyfer 23 Mawrth i 31 Mawrth 2020. Mae 9 diwrnod rhwng 23 Mawrth a 31 Mawrth.

  1. Dechreuwch â £15,000 (swm y cyflog a oedd yn daladwy i’r cyflogai yn y flwyddyn dreth hyd at y diwrnod cyn iddo gael ei roi ar ffyrlo).
  2. Rhannwch â 327 (nifer y diwrnodau ers dechrau’r gyflogaeth, hyd at y diwrnod cyn iddo gael ei roi ar ffyrlo).
  3. Lluoswch â 9 (nifer y diwrnodau ffyrlo yn ystod y cyfnod cyflog hwn).
  4. Lluoswch ag 80% – £330.28 yw hwn.

Darllenwch arweiniad ar sut i gyfrifo 80% o gyflog cyfartalog ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf.

3.8 Enghraifft o sut i gyfrifo isafswm y cyflog ffyrlo ar gyfer cyflogai sydd ar ffyrlo hyblyg

Mae cyflogai Q Cyf wedi bod ar ffyrlo yn barhaus ers 1 Mai 2020. Caiff y cyflogai ei dalu bob mis calendr. O 1 Gorffennaf ymlaen mae’r cyflogai’n dychwelyd i weithio rhan-amser i Q Cyf ac mae’n cael ei roi ar ffyrlo ar gyfer gweddill ei oriau arferol. Mae Q Cyf yn gwneud hawliad ffyrlo hyblyg ar gyfer 1 Gorffennaf i 31 Gorffennaf.

Mae Q Cyf wedi cyfrifo mai 164 yw oriau arferol y cyflogai o 1 Gorffennaf i 31 Gorffennaf. Mewn gwirionedd mae’r cyflogai’n gweithio 80 awr, ac felly mae’n cael ei roi ar ffyrlo am yr 84 awr arferol sy’n weddill. Mae Q Cyf wedi cyfrifo mai 80% o gyflog arferol y cyflogai yw £1,800. Yr uchafswm cyflog yw £2,500 gan fod yr hawliad ar gyfer mis llawn.

Mae Q Cyf y cyfrifo isafswm y cyflog ffyrlo:

  1. Dechreuwch â £1,800 – dyma’r lleiaf o 80% o gyflog arferol y cyflogai (£1,800) a’r uchafswm cyflog (£2,500).
  2. Lluoswch ag 84 – dyma oriau ffyrlo y cyflogai.
  3. Rhannwch â 164 – dyma oriau arferol y cyflogai.

Mae’n rhaid i Q Cyf dalu £921.95 i’r cyflogai ar gyfer yr amser mae ar ffyrlo. Gall Q Cyf ddewis talu mwy na hyn i’r cyflogai ar gyfer yr amser y mae ar ffyrlo, ond nid oes rhaid iddo wneud hynny. Nesaf, bydd angen i Q Cyf gyfrifo faint o isafswm y cyflog ffyrlo y gall ei hawlio.

Darllenwch arweiniad ar sut i gyfrifo isafswm y cyflog ffyrlo ar gyfer cyflogai sydd ar ffyrlo hyblyg.

3.9 Enghraifft o sut i gyfrifo faint o isafswm y cyflog ffyrlo y gallwch ei hawlio

Mae cyflogai R Cyf wedi bod ar ffyrlo yn barhaus ers 15 Ebrill 2020. Caiff y cyflogai ei dalu bob mis calendr. Mae R Cyf yn gwneud hawliad ar gyfer 1 Medi i 30 Medi. Mae R Cyf wedi cyfrifo mai £1,500 yw isafswm y cyflog ffyrlo ar gyfer y cyfnod hwn, sy’n 80% o gyflog arferol y cyflogai.

Mae R Cyf yn cyfrifo faint mae’n gallu hawlio ar gyfer cyflog ffyrlo ei gyflogai:

  1. Dechreuwch â £1,500 - dyma isafswm y cyflog ffyrlo
  2. Rhannu â 80
  3. Lluoswch â 70 - oherwydd bod y cyfnod hawlio ym mis Medi

Mae R Cyf yn hawlio grant o £1,312.50 tuag at gyflog ei gyflogai. Mae’n rhaid i R Cyf dalu isafswm y cyflog ffyrlo i’r cyflogai, sef £1,500, ac mae’n gallu dewis talu mwy na hyn ond does dim rhaid iddo wneud hynny.

Darllenwch arweiniad ar sut i gyfrifo faint o isafswm y cyflog ffyrlo y gallwch hawlio.

4. Cyfrifo faint y gallwch ei hawlio am gyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG) y cyflogwr

4.1 Enghraifft o gyfrifo’r grant ar gyfer costau CYG y cyflogwr ar gyfer cyflogai sydd ar ffyrlo llawn (ar gyfer hawliadau rhwng 1 Gorffennaf a 31 Gorffennaf 2020)

Mae X Cyf yn gwneud hawliad ar gyfer cyflogai sy’n cael ei dalu’n wythnosol. Y cyfnod hawlio yw 6 Gorffennaf i 12 Gorffennaf 2020 sy’n cyd-fynd â chyfnod cyflog y cyflogai. Mae X Cyf yn hawlio £500 tuag at gyflog ei gyflogai.

Yn gyntaf, mae X Cyf yn cyfrifo’r trothwy CYG eilaidd wedi’i addasu.

  1. Dechreuwch â £169 (dyma’r trothwy CYG eilaidd perthnasol).
  2. Rhannwch â 7 (nifer y diwrnodau yn ystod y cyfnod cyflog).
  3. Lluoswch â 7 (nifer y diwrnodau yn ystod y cyfnod ffyrlo).

Nid yw camau 4 a 5 yn berthnasol oherwydd nad yw’r cyflogai ar ffyrlo hyblyg rhan-amser. Y trothwy CYG eilaidd wedi’i addasu yw £169.

Nesaf, mae X Cyf yn cyfrifo swm y grant tuag at gostau CYG y cyflogwr.

  1. Dechreuwch â £500 (swm y grant cyflog gros).
  2. Didynnwch £169 (y trothwy CYG eilaidd wedi’i addasu).
  3. Lluoswch ag 13.8%.

Gall X Cyf hawlio £45.68 tuag at gostau CYG y cyflogwr.

Os yw X Cyf yn hawlio’r Lwfans Cyflogaeth, mae’n rhaid iddo wneud yn siŵr nad yw’n hawlio gormod drwy’r cynllun.

Darllenwch arweiniad ar gyfrifo’r grant ar gyfer costau CYG y cyflogwr ar gyfer cyflogai sydd ar ffyrlo llawn.

4.2 Enghraifft o gyfrifo’r grant ar gyfer costau CYG y cyflogwr ar gyfer cyflogai sydd ar ffyrlo hyblyg (ar gyfer hawliadau o 1 Gorffennaf i 31 Gorffennaf 2020)

Mae Y Cyf yn gwneud hawliad ar gyfer cyflogai sy’n cael ei dalu’n wythnosol. Y cyfnod hawlio yw 6 Gorffennaf i 12 Gorffennaf 2020 sy’n cyd-fynd â chyfnod cyflog y cyflogai. Mae Y Cyf yn hawlio £170 tuag at gyflog ei gyflogai. Mae’r cyflogai’n cael ei roi ar ffyrlo am 10 allan o’i 30 awr arferol yn ystod y cyfnod hawlio.

Yn gyntaf mae Y Cyf yn cyfrifo’r trothwy CYG eilaidd wedi’i addasu.

  1. Dechreuwch â £169 (dyma’r trothwy CYG eilaidd perthnasol).
  2. Rhannwch â 7 (nifer y diwrnodau yn ystod y cyfnod cyflog).
  3. Lluoswch â 7 (nifer y diwrnodau yn ystod y cyfnod ffyrlo).
  4. Rhannwch â 30 (oriau arferol y cyflogai yn ystod y cyfnod hawlio).
  5. Lluoswch â 10 (yr oriau mae’r cyflogai ar ffyrlo yn ystod y cyfnod hawlio).

Y trothwy CYG eilaidd wedi’i addasu yw £56.33.

Nesaf, mae Y Cyf yn cyfrifo swm y grant tuag at gostau CYG y cyflogwr.

  1. Dechreuwch â £170 (swm y grant cyflog gros).
  2. Didynnwch £56.33 (y trothwy CYG eilaidd wedi’i addasu).
  3. Lluoswch ag 13.8%.

Gall Y Cyf hawlio £15.69 tuag at gostau CYG y cyflogwr.

Os yw Y Cyf yn hawlio’r Lwfans Cyflogaeth, mae’n rhaid iddo wneud yn siŵr nad yw’n hawlio gormod drwy’r cynllun.

Darllenwch arweiniad ar gyfrifo’r grant ar gyfer costau CYG y cyflogwr ar gyfer cyflogai sydd ar ffyrlo hyblyg (ar gyfer hawliadau o 1 Gorffennaf i 31 Gorffennaf 2020).

4.3 Enghraifft o gyfrifo’r grant ar gyfer costau CYG y cyflogwr ar gyfer cyflogai sydd ar ffyrlo hyblyg pan nad yw’r cyfnod hawlio ffyrlo hyblyg yn cyd-fynd â chyfnod cyflog y cyflogai

Mae Z Cyf yn gwneud hawliad ar gyfer cyflogai sy’n cael ei dalu’n wythnosol. Y cyfnod hawlio yw 29 Gorffennaf i 31 Gorffennaf 2020 sy’n disgyn o fewn y cyfnod cyflog 29 Gorffennaf i 4 Awst 2020. Mae Z Cyf yn hawlio £160 tuag at gyflog ei gyflogai. Mae’r cyflogai’n cael ei roi ar ffyrlo am 10 allan o’i 15 awr arferol yn ystod y cyfnod hawlio.

Yn gyntaf mae Z Cyf yn cyfrifo’r trothwy CYG eilaidd wedi’i addasu.

  1. Dechreuwch â £169 (dyma’r trothwy CYG eilaidd perthnasol).
  2. Rhannwch â 7 (nifer y diwrnodau yn ystod y cyfnod cyflog).
  3. Lluoswch â 3 (nifer y diwrnodau yn ystod y cyfnod ffyrlo).
  4. Rhannwch ag 15 (oriau arferol y cyflogai yn ystod y cyfnod hawlio).
  5. Lluoswch â 10 (yr oriau mae’r cyflogai ar ffyrlo yn ystod y cyfnod hawlio).

Y trothwy CYG eilaidd wedi’i addasu yw £48.29.

Nesaf, mae Z Cyf yn cyfrifo swm y grant tuag at gostau CYG y cyflogwr.

  1. Dechreuwch â £160 (swm y grant cyflog gros).
  2. Didynnwch £48.29 (y trothwy CYG eilaidd wedi’i addasu).
  3. Lluoswch ag 13.8%.

Gall Z Cyf hawlio £15.42 tuag at gostau CYG y cyflogwr.

Os yw Z Cyf yn hawlio’r Lwfans Cyflogaeth, mae’n rhaid iddo wneud yn siŵr nad yw’n hawlio gormod drwy’r cynllun.

Darllenwch arweiniad ar gyfrifo’r grant ar gyfer costau CYG y cyflogwr ar gyfer cyflogai sydd ar ffyrlo hyblyg pan nad yw’r cyfnod hawlio ffyrlo hyblyg yn cyd-fynd â chyfnod cyflog y cyflogai.

5. Cyfrifo faint y gallwch ei hawlio am gyfraniadau pensiwn y cyflogwr

5.1 Enghraifft o gyfrifo’r grant ar gyfer cyfraniadau pensiwn y cyflogwr ar gyfer cyflogai sydd ar ffyrlo llawn (ar gyfer hawliadau o 1 Gorffennaf 2020 i 31 Gorffennaf 2020)

Mae X Cyf yn gwneud hawliad ar gyfer cyflogai sy’n cael ei dalu’n wythnosol. Y cyfnod hawlio yw 6 Gorffennaf i 12 Gorffennaf 2020 sydd hefyd yn gyfnod cyflog y cyflogai. Mae X Cyf yn hawlio £500 tuag at gyflog ei gyflogai.

Yn gyntaf, mae X Cyf yn cyfrifo’r Lefel Is o Enillion Cymwys (LLQE) wedi’i haddasu.

  1. Dechreuwch â £120 (dyma’r LLQE berthnasol).
  2. Rhannwch â 7 (nifer y diwrnodau yn ystod y cyfnod cyflog).
  3. Lluoswch â 7 (nifer y diwrnodau yn ystod y cyfnod ffyrlo).

Nid yw camau 4 a 5 yn berthnasol oherwydd nad yw’r cyflogai ar ffyrlo hyblyg. Yr LLQE wedi’i haddasu yw £120.

Nesaf, mae X Cyf yn cyfrifo swm y grant tuag at gyfraniadau pensiwn.

  1. Dechreuwch â £500 (swm y grant cyflog gros).
  2. Didynnwch £120 (yr LLQE wedi’i haddasu).
  3. Lluoswch â 3%.

Gall X Cyf hawlio £11.40 tuag at gyfraniadau pensiwn y cyflogwr.

Darllenwch arweiniad ar gyfrifo’r grant ar gyfer cyfraniadau pensiwn y cyflogwr ar gyfer cyflogai sydd ar ffyrlo llawn (ar gyfer hawliadau o 1 Gorffennaf 2020 i 31 Gorffennaf 2020).

5.2 Enghraifft o gyfrifo’r grant ar gyfer cyfraniadau pensiwn y cyflogwr ar gyfer cyflogai sydd ar ffyrlo hyblyg (ar gyfer hawliadau o 1 Gorffennaf 2020 i 31 Gorffennaf 2020)

Mae Y Cyf yn gwneud hawliad ar gyfer cyflogai sy’n cael ei dalu’n wythnosol. Y cyfnod hawlio yw 6 Gorffennaf i 12 Gorffennaf 2020 sydd hefyd yn gyfnod cyflog y cyflogai. Mae Y Cyf yn hawlio £170 tuag at gyflog ei gyflogai. Mae’r cyflogai’n cael ei roi ar ffyrlo am 10 allan o’i 30 awr arferol yn ystod y cyfnod hawlio.

Yn gyntaf, mae Y Cyf yn cyfrifo’r LLQE wedi’i haddasu.

  1. Dechreuwch â £120 (dyma’r LLQE berthnasol).
  2. Rhannwch â 7 (nifer y diwrnodau yn ystod y cyfnod cyflog).
  3. Lluoswch â 7 (nifer y diwrnodau yn ystod y cyfnod ffyrlo).
  4. Rhannwch â 30 (oriau arferol y cyflogai yn ystod y cyfnod hawlio).
  5. Lluoswch â 10 (yr oriau mae’r cyflogai ar ffyrlo yn ystod y cyfnod hawlio).

Yr LLQE wedi’i haddasu yw £40.

Nesaf, mae Y Cyf yn cyfrifo swm y grant tuag at gyfraniadau pensiwn y cyflogwr.

  1. Dechreuwch â £170 (swm y grant cyflog gros).
  2. Didynnwch £40 (yr LLQE wedi’i haddasu).
  3. Lluoswch â 3%.

Gall Y Cyf hawlio £3.90 tuag at gyfraniadau pensiwn y cyflogwr.

Darllenwch arweiniad ar gyfrifo’r grant ar gyfer cyfraniadau pensiwn y cyflogwr ar gyfer cyflogai sydd ar ffyrlo hyblyg (ar gyfer hawliadau o 1 Gorffennaf 2020 i 31 Gorffennaf 2020).

5.3 Enghraifft o gyfrifo’r grant ar gyfer cyfraniadau pensiwn y cyflogwr ar gyfer cyflogai sydd ar ffyrlo hyblyg pan nad yw’r cyfnod hawlio ffyrlo hyblyg yn cyd-fynd â chyfnod cyflog y cyflogai (ar gyfer hawliadau o 1 Gorffennaf 2020 i 31 Gorffennaf 2020)

Mae Z Cyf yn gwneud hawliad ar gyfer cyflogai sy’n cael ei dalu’n wythnosol. Y cyfnod hawlio yw 29 Gorffennaf i 31 Gorffennaf 2020 sy’n disgyn o fewn y cyfnod cyflog 29 Gorffennaf i 4 Awst 2020. Mae Z Cyf yn hawlio £160 tuag at gyflog ei gyflogai. Mae’r cyflogai’n cael ei roi ar ffyrlo am 10 allan o’i 15 awr arferol yn ystod y cyfnod hawlio.

Yn gyntaf, mae Z Cyf yn cyfrifo’r LLQE wedi’i haddasu.

  1. Dechreuwch â £120 (dyma’r LLQE berthnasol).
  2. Rhannwch â 7 (nifer y diwrnodau yn ystod y cyfnod cyflog).
  3. Lluoswch â 3 (nifer y diwrnodau yn ystod y cyfnod ffyrlo).
  4. Rhannwch â 15 (oriau arferol y cyflogai yn ystod y cyfnod hawlio).
  5. Lluoswch â 10 (yr oriau mae’r cyflogai ar ffyrlo yn ystod y cyfnod hawlio).

Yr LLQE wedi’i haddasu yw £34.29.

Nesaf, mae Z Cyf yn cyfrifo swm y grant tuag at gyfraniadau pensiwn y cyflogwr.

  1. Dechreuwch â £160 (swm y grant cyflog gros).
  2. Didynnwch £34.29 (yr LLQE wedi’i haddasu).
  3. Lluoswch â 3%.

Gall Z Cyf hawlio £3.77 tuag at gyfraniadau pensiwn y cyflogwr.

Darllenwch arweiniad ar gyfrifo’r grant ar gyfer cyfraniadau pensiwn y cyflogwr ar gyfer cyflogai sydd ar ffyrlo hyblyg pan nad yw’r cyfnod hawlio ffyrlo hyblyg yn cyd-fynd â chyfnod cyflog y cyflogai (ar gyfer hawliadau o 1 Gorffennaf 2020 i 31 Gorffennaf 2020).