Ffioedd ar gyfer gwirio llwythi anifeiliaid byw ar safleoedd rheolaethau'r ffin
Diweddarwyd 5 Gorffennaf 2023
Yn berthnasol i Gymru, Loegr a Scotland
Rhaid i chi dalu i wirio eich llwyth ar safle rheolaethau’r ffin o dan Reoliad 38 o Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol 2011
1. Ffioedd ar gyfer archwilio llwythi o anifeiliaid o wledydd nad ydynt yn rhan o’r UE
Rhaid i chi dalu ffioedd ar gyfer gwirio’r canlynol:
- dofednod (gan gynnwys wyau sy’n cael eu mewnforio’n rheolaidd), adar hela bach a - ratidau: £53
- adar caeth: £61
- pysgod, anifeiliaid dyfrol ac ymlusgiaid byw: £48
- gwenyn, infertebratau a phryfed eraill: £40
- cwningod a llygod: £44
- ceffylau: £79
- anifeiliaid fferm, gan gynnwys gwartheg, defaid, geifr, camelidau, moch a baeddod gwyllt: £190
- anifeiliaid heb ddatganiad gyda nhw: £63
- anifeiliaid nas cwmpesir gan unrhyw gategori arall: £50
2. Ffioedd am wiriadau trawslwytho
Rhaid i chi dalu £79 fesul Dogfen Mynediad Iechyd Cyffredin (CHED) ar gyfer gwiriadau trawslwytho.
3. Ffioedd am wiriadau y tu allan i oriau neu ar benwythnosau
Gwasanaeth | Ffioedd o 1 Gorffennaf 2023 |
---|---|
Gwiriad y Tu Allan i Oriau | £261 |
Gwiriad ar benwythnosau neu ar wyliau cyhoeddus | £346 |
Amser a dreulir gan swyddog milfeddygol yn teithio i Safle Rheolaethau’r Ffin (BCP) ac oddi yno | £16 |
3.1 Y tu allan i oriau
Mae’r ffi y tu allan i oriau yn daladwy os bydd y llwyth yn cyrraedd y Safle Rheolaethau’r Ffin cyn 8:30am neu ar ôl 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
3.2 Sut mae APHA yn codi tâl am amser teithio
Rhaid i chi dalu £16 fesul chwarter awr neu lai ar gyfer yr amser y mae APHA yn ei dreulio yn teithio i Safle Rheolaethau’r Ffin ac oddi yno.
Mae APHA yn cyfrifo eich ffioedd teithio i’r chwarter awr llawn nesaf o waith, gan ddefnyddio’r swyddfa APHA agosaf at Safle Rheolaethau’r Ffin.
Er enghraifft, os bydd APHA yn treulio 20 munud yn teithio i Safle Rheolaethau’r Ffin o swyddfa agosaf APHA, byddwch yn talu am hanner awr.
4. Ffioedd ar gyfer gwiriadau ychwanegol oherwydd achosion o ddiffyg cydymffurfio neu fesurau rheoli ychwanegol
Rhaid i chi dalu ffioedd ychwanegol os bydd gwiriad yn nodi achos o ddiffyg cydymffurfio â’r rheolau ar gyfer mewnforio anifeiliaid byw i Brydain Fawr.
Ceir ffioedd gwahanol os bydd yr amser sy’n cael ei dreulio yn ymdrin ag unrhyw achos o ddiffyg cydymffurfio yn digwydd yn ystod oriau gwaith craidd yn ystod yr wythnos, y tu allan i oriau yn ystod yr wythnos neu ar y penwythnos ac yn ystod gwyliau cyhoeddus.
Mae oriau busnes craidd APHA o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8:30am a 5pm.
Gwasanaeth | Ffioedd o 1 Gorffennaf 2023 |
---|---|
Gwiriadau ychwanegol yn ystod oriau craidd yn ystod yr wythnos | £14 |
Gwiriadau ychwanegol y tu allan i oriau | £21 |
Gwiriadau ychwanegol ar benwythnosau neu yn ystod gwyliau cyhoeddus | £28 |
Amser a dreulir gan swyddog milfeddygol yn teithio i Safle Rheolaethau’r Ffin (BCP) ac oddi yno | £16 |
4.1 Sut mae APHA yn codi tâl am amser teithio a gwiriadau
Rhaid i chi dalu £16 fesul chwarter awr neu lai ar gyfer yr amser y mae APHA yn ei dreulio yn cyflawni gwiriadau ac yn teithio i Safle Rheolaethau’r Ffin ac oddi yno.
Mae APHA yn cyfrifo eich ffioedd gwirio a theithio i’r chwarter awr llawn nesaf o waith, gan ddefnyddio’r swyddfa APHA agosaf at Safle Rheolaethau’r Ffin.
Er enghraifft, os bydd APHA yn treulio 20 munud yn teithio i Safle Rheolaethau’r Ffin ac oddi yno o swyddfa agosaf APHA, a 60 munud ychwanegol am yr achosion o ddiffyg cydymffurfio, byddwch yn talu am awr a hanner.