Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros Becynwaith: 2025 Ffioedd Sylfaenol
Published 27 June 2025
Mae’r ddogfen yma yn darparu ffioedd sylfaenol blwyddyn 1 (2025 /2026) y cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr (EPR) dros becynwaith. Mae’n ymwneud â ffioedd a fyddai’n cael eu codi ar gynhyrchwyr pecynwaith dan rwymedigaeth gan PecynUK (Gweinyddwr y Cynllun). Bydd y ffioedd a delir gan y cynhyrchwyr yn talu costau PecynUK ac yn darparu incwm ychwanegol i’r awdurdodau lleol i dalu am gost ailgylchu a gwaredu deunyddiau pecynwaith gwastraff.
Nid yw’n cynnwys:
- ffioedd a thaliadau cofrestru sy’n cael eu talu i Gyfoeth Naturiol Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd, Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban ac Asiantaeth Amgylchedd Gogledd Iwerddon
- costau sy’n gysylltiedig â bodloni targedau ailgylchu pecynwaith e.e. trwy brynu Nodiadau Ailgylchu Gwastraff Pecynwaith.
Mae’r ddogfen yma wedi’i chyhoeddi gan PecynUK yn rhinwedd ei swydd fel Gweinyddwr y Cynllun ar gyfer y cynllun pedair gwlad.
1. 2025 Ffioedd sylfaenol
Tabl 1. Ffioedd sylfaenol Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr 2025/26 ar gyfer yr holl ddeunyddiau pecynwaith
Mae ‘Arall’ yn cynnwys unrhyw ddeunyddiau sydd heb eu rhestru isod, er enghraifft, bambŵ, cerameg, copr, corc, cywarch, rwber. Mae’r ffioedd wedi’u talgrynnu i’r £1 agosaf. Sylwch y caiff yr anfonebau eu seilio ar ffioedd wedi’u talgrynnu i bedwar lle degol.
Deunydd | Cyfradd (£/tunnell) |
---|---|
Alwminiwm | 266 |
Cyfansoddion seiliedig ar ffeibr | 461 |
Gwydr | 192 |
Papur a cherdyn | 196 |
Plastig | 423 |
Dur | 259 |
Pren | 280 |
Arall | 259 |
Mae’r ffioedd sylfaenol yn seiliedig ar y senario modelu arfaethedig terfynol y cytunwyd arno ar gyfer cyfanswm costau gwaredu’r awdurdodau lleol y dylid eu hadennill trwy EPR yn 2025/2026 a chostau perthnasol eraill y manylir arnyn nhw isod.
Mae’r ffioedd sylfaenol yn defnyddio’r data tunelledd pecynwaith diweddaraf a gyflwynwyd gan y cynhyrchwyr ar borth ar-lein Rhoi Gwybod am Ddata Pecynwaith (RPD) ar gyfer cyfnod llawn 2024 fel yr oedd ar 9 Mehefin 2025, gydag addasiadau wedi’u cymhwyso (gweler isod i gael rhagor o fanylion).
2. Methodoleg
Cyfrifir ffioedd sylfaenol drwy rannu costau rheoli gwastraff pecynwaith (ar gyfer gwastraff pecynwaith cartrefi) a chostau perthnasol eraill â chyfanswm y pecynwaith cartrefi a roddwyd ar y farchnad. Y canlyniad yw cyfradd ffi a fynegir mewn £ am bob tunnell o becynwaith a roddwyd ar y farchnad. Gwneir y cyfrifiad canlynol ar gyfer pob categori o becynwaith ar wahân:
Rhifiadur: (1) Costau a ysgwyddir gan yr awdurdodau lleol i reoli gwastraff o’r categori pecynwaith hwnnw (gwastraff pecynwaith cartrefi yn unig) minws refeniw o werthu deunyddiau plws (2) cyfran y categori pecynwaith hwnnw o’r costau eraill, (costau PecynUK, costau cyfathrebu a chostau’r ddarpariaeth ar gyfer dyledion).
Enwadwr: Cyfanswm pwysau’r categori pecynwaith hwnnw a roddwyd ar y farchnad (pecynwaith cartrefi yn unig). Mae’r tunelledd cartrefi sydd o fewn y rhychwant ar gyfer ffioedd cynhyrchwyr ar gyfer pob categori deunydd wedi’i gyfrifo trwy adio’r tunelleddau y mae’r cynhyrchwyr wedi rhoi gwybod amdanyn nhw fel pecynwaith cartrefi ac fel pecynwaith a waredir yn gyffredin mewn biniau cyhoeddus neu fel sbwriel. Mae’r tunelledd gwydr yn cynnwys cynwysyddion diodydd cartrefi gan eu bod nhw o fewn rhychwant ffioedd cynhyrchwyr EPR, yn wahanol i gynwysyddion diodydd PET, alwminiwm a dur untro 150ml i 3l o faint, sydd o fewn y rhychwant y Cynllun Dychwelyd Ernes (DRS) ar gyfer cynwysyddion diodydd ledled Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban a fydd yn lansio ym mis Hydref 2027. Wrth i fanylion y cynllun hwn a DRS Cymru gael eu cwblhau, byddwn yn gweithio’n agos gyda’r pedair gwlad ac unrhyw Sefydliadau Rheoli Ernes penodedig i sicrhau bod DRS ac EPR yn gweithio’n effeithiol.
Sylwch: ar gyfer blwyddyn gyntaf Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros becynwaith (2025 i 2026), ni fydd costau sy’n gysylltiedig â rheoli pecynwaith sy’n cael ei waredu’n gyffredin mewn biniau cyhoeddus neu fel sbwriel yn cael eu cynnwys yn y rhifiadur. Er hynny, fe fydd yr enwadur yn cynnwys pecynwaith y rhoddir gwybod amdano fel pecynwaith cartrefi a phecynwaith y rhoddir gwybod ei fod yn cael ei waredu’n gyffredin mewn biniau cyhoeddus neu fel sbwriel.
Dylech gyfeirio at y datganiad cyntaf o ffioedd sylfaenol enghreifftiol i gael rhagor o fanylion ar egwyddorion cyfrifo’r ffioedd sylfaenol.
Mae’r model dadansoddol a ddefnyddiwyd i gyfrifo cyfanswm pwysau’r pecynwaith sydd o fewn y rhychwant ac i gyfrifo’r ffioedd sylfaenol wedi mynd drwy waith Sicrhau Ansawdd allanol gan Adran Actiwari’r Llywodraeth. Mae’r fethodoleg ar gyfer addasu at ddata pecynwaith yr RPD er mwyn rhoi’r disgrifiad gorau o’r cynhyrchwyr sydd heb roi gwybod eto wedi cael ei hadolygu gan Uwch Ddadansoddwyr o bob Llywodraeth yn y Deyrnas Unedig.
3. Sut mae’r datganiad yma yn wahanol i’r datganiad blaenorol
3.1 Gwahaniaethau yn y ffioedd enghreifftiol
Mae’r ffioedd sylfaenol a gyhoeddir yn y ddogfen yma i gyd o fewn yr amrediadau o ffioedd sylfaenol enghreifftiol a gyhoeddwyd o’r blaen. O’u cymharu â’r ffioedd sylfaenol enghreifftiol a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2024, mae’r gwahaniaethau yn deillio o’r canlynol:
- newidiadau yn nhunelledd y pecynwaith y rhoddwyd gwybod amdano gan y cynhyrchwyr yn RPD. Mae hyn yn cynnwys defnyddio data y rhoddwyd gwybod amdano gan y cynhyrchwyr ar gyfer blwyddyn galendr lawn 2024, yn hytrach na hanner cyntaf 2024 fel a wnaed ar gyfer cyhoeddiad mis Rhagfyr.
- newidiadau yn y ffordd rydyn ni’n amcangyfrif tunelledd coll (gweler Adran 3.3 isod),
- newidiadau ym modelau costau’r awdurdodau lleol, gan gynnwys o ganlyniad i adborth y diwydiant a’r awdurdodau lleol.
- gostyngiad yn y ffi ‘darpariaeth dyled ddrwg’ a gymhwysir at gyfanswm y costau, o 6% i 4%.
Yn gyffredinol, mae cyfraddau’r ffioedd sylfaenol wedi gostwng ers mis Rhagfyr 2024 (o 8% yn llai yn achos pecynwaith “arall” i 39% yn llai yn achos Alwminiwm). Yr eithriad yw ffioedd cyfansoddion sy’n seiliedig ar ffibr, sydd wedi cynyddu 1%.
3.2 Gwiriadau’r rheoleiddwyr ar ddata’r RPD
Mae cyfansymiau’r tunelledd pecynwaith a gynhwysir yn y cyfrifiadau ffioedd sylfaenol yn cynrychioli’r tunelledd pecynwaith mwyaf rhesymol o gywir, o fewn y rhychwant, sydd wedi’i gyflenwi sydd ar gael ar hyn o bryd.
Mae’r rheoleiddwyr o dan ddyletswydd i fonitro cywirdeb y data EPR a gyflwynir i’r porth RPD ar-lein. Mae hyn yn cynnwys ymgysylltu â chynlluniau cydymffurfio a chynhyrchwyr unigol i nodi a chywiro gwallau data posibl. Mae’r rheoleiddwyr wedi bod yn cysylltu hefyd â chynhyrchwyr a allai fod â rhwymedigaethau o dan y Rheoliadau ond sydd wedi methu rhoi gwybod am ddata pecynwaith. Mae’r gweithgareddau hyn yn parhau.
3.3 Addasiadau yn nata RPD 2024
O ganlyniad i wiriadau data gan y rheoleiddwyr, rydyn ni wedi gwneud yr addasiadau canlynol yn nata’r RPD er mwyn creu’r disgrifiad gorau o’r cynhyrchwyr sydd heb roi gwybod eto:
- Pan nad yw’r cynhyrchwyr wedi rhoi gwybod eto yn 2024 ond eu bod wedi cydymffurfio’n llawn yn 2023, mae data’r RPD wedi’i addasu i fyny i gymryd i ystyriaeth y cynnydd disgwyliedig yn y tunelledd wrth i fwy o gynhyrchwyr gyflwyno data i’r RPD, yn seiliedig ar gymharu cyfanswm y tunelledd y rhoddwyd gwybod amdano yn 2023 a 2024.
- Pan fo’r rheoleiddwyr wedi darparu nifer y cynhyrchwyr yr amheuir eu bod yn gynffonwyr (yn osgoi talu ffioedd ond yn manteisio drwy’r ffioedd mae pawb arall yn eu talu), mae’r addasiadau canlynol wedi’u defnyddio:
- Yn achos cynffonwyr yn Lloegr, lluoswyd yr amcangyfrif o nifer y cynffonwyr â’r tunelli cyfartalog y rhoddwyd gwybod amdanyn nhw yn y Deyrnas Unedig fesul cynhyrchydd, sef rhif rydyn ni’n ei ostwng er mwyn cyfrif am y ffaith bod y rhai sy’n rhoi gwybod yn hwyr fel arfer yn cyflwyno tunelledd is (yn seiliedig ar gyfartaledd y rhai sy’n rhoi gwybod yn hwyr yn y Deyrnas Unedig).
- Yn achos cynffonwyr yn y gwledydd eraill, lluoswyd yr amcangyfrif o’r niferoedd priodol o gynffonwyr â’r tunelli cyfartalog y rhoddwyd gwybod amdanyn nhw yn y Deyrnas Unedig fesul cynhyrchydd, sef rhif rydyn ni’n ei ostwng er mwyn cyfrif am y tunelleddau cynhyrchwyr cyfartalog y rhoddwyd gwybod amdanyn nhw yn y wlad berthnasol.
- Yn achos y cynhyrchwyr hynny a gyflwynodd ddata am hanner y flwyddyn yn unig, cynyddwyd eu tunelledd nhw trwy gymharu cyfanswm y tunelledd ar draws dau hanner y flwyddyn.
- Cafodd cyflwyniadau data’r RPD gan gofrestrwyr uniongyrchol sydd wedi’u ‘gwrthod’ gan y rheoleiddwyr eu tynnu o’r set ddata, o gofio’r ansicrwydd ynghylch ailgyflwyniadau yn y dyfodol
- Mae data’r RPD o gynlluniau cydymffurfio sydd wedi’u ‘gwrthod’ gan y rheoleiddwyr wedi’i gadw i mewn, ar y rhagdybiaeth na fydd ailgyflwyniadau’r dyfodol yn bur wahanol i’r cyflwyniadau cychwynnol
3.4 Costau’r awdurdodau lleol
Defnyddiwyd model ‘Cost a Pherfformiad Pecynwaith Awdurdodau Lleol’ Defra (y cyfeirir ato fel ‘LAPCAP’ neu ‘y model’ yn y ddogfen yma) i gyfrifo’r ffioedd sylfaenol. Mae LAPCAP yn defnyddio cyfuniad o ddata penodol yr awdurdodau lleol (e.e. tunelli y rhoddir gwybod amdanyn nhw yn y Llif Data Gwastraff) a data cymharol (grwpiadau wedi’u seilio ar ddata costau a roddir gan sampl o awdurdodau lleol) er mwyn cyfrifo taliad i bob awdurdod lleol yn y Deyrnas Unedig. Cyfanswm y taliad i bob awdurdod lleol a gyfrifir gan LAPCAP yw’r ‘Costau a ysgwyddir gan yr awdurdodau lleol i reoli gwastraff’ a ddefnyddir wrth gyfrifo’r ffioedd sylfaenol enghreifftiol. Bydd nodyn esboniadol sy’n esbonio’r fethodoleg a’r weithdrefn a ddefnyddir i bennu amcangyfrifon taliadau EPR blwyddyn 1 ar gyfer awdurdodau lleol yn cael ei gyhoeddi cyn hir pan fydd asesiadau o’r taliadau ar gyfer Blwyddyn 1 EPR yn cael eu rhannu gyda’r awdurdodau lleol.
4. Y camau nesaf
Bydd manylion am sut y bydd ffioedd yn cael eu defnyddio i anfonebu cynhyrchwyr ym mis Hydref yn cael eu rhannu yn fuan.
Mae’r cynhyrchwyr o dan rwymedigaeth i barhau i roi gwybod am eu data pecynwaith trwy’r porth RPD ar-lein. Os ydych chi’n gynhyrchydd mawr, dylech roi gwybod am eich data ar gyfer 1 Ionawr i 31 Mehefin 2025 erbyn 1 Hydref 2025.
Bydd PecynUK yn defnyddio’r data yma a’r costau a restrir uchod i gyfrifo a rhyddhau ffioedd sylfaenol ar gyfer 2026/27.
5. Cyflwyno ffioedd modiwlaidd o 2026 ymlaen
O flwyddyn 2 EPR (2026 i 2027) ymlaen, bydd y ffioedd yn cael eu modiwleiddio i sbarduno symudiad at ddylunio pecynwaith sy’n fwy amgylcheddol gynaliadwy, gan ddefnyddio ailgylchadwyedd yn ddangosydd. Bydd y mathau o becynwaith a fydd yn talu ffioedd modiwlaidd uwch neu is yn seiliedig ar asesiadau o ailgylchadwyedd yn unol â Methodoleg Asesu Ailgylchadwyedd (RAM). Bydd sgôr Coch, Melyn neu Wyrdd yn cael ei rhoi i bob deunydd pecynwaith sydd o fewn y rhychwant o dan yr RAM: Coch yw’r lleiaf ailgylchadwy a Gwyrdd yw’r mwyaf ailgylchadwy
Ar gyfer tair blynedd cyntaf y polisi, bydd yr arian ychwanegol a godir trwy ddefnyddio ffactor modiwleiddio uwch ar gyfer deunydd pecynwaith Coch RAM yn ffurfio pot o arian i’w ailddosbarthu. Bydd y pot ailddosbarthu’n cael ei ddefnyddio er mwyn codi ffi gwaredu gwastraff pecynwaith cartref is am ddeunydd pecynwaith Gwyrdd RAM. Ni fydd deunydd a sgôr melyn yn gweld unrhyw newid yn ei ffi gwaredu gwastraff pecynwaith cartrefi yn sgil modiwleiddio, gan aros ar y gyfradd ffi sylfaenol.
Cyhoeddwyd fersiwn 1.1 o RAM ym mis Ebrill 2025 ar GOV.UK. Mae PecynUK yn bwriadu rhannu datganiad polisi modiwleiddio cyn hir ar GOV.UK.