Symudiadau Ecséis: cais i gofrestru ar gyfer y cynllun Derbynnydd Cofrestredig Dros Dro (TRC1)
Defnyddiwch y gwasanaeth ffurflenni ar-lein i wneud cais i gofrestru fel Derbynnydd Cofrestredig Dros Dro.
Dogfennau
Manylion
Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi roi gwybodaeth ychwanegol i CThEM i ategu’ch cais.
Mae’r gwasanaeth hwn yn berthnasol dim ond ar gyfer nwyddau sy’n cael eu cludo o un o aelod-wladwriaethau’r UE i Ogledd Iwerddon.
Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn ar gyfer nwyddau sy’n cael eu cludo i leoliad ym Mhrydain Fawr o un o aelod-wladwriaethau’r UE.
Rhagor o wybodaeth am:
- mewnforio nwyddau ecséis i’r DU o’r UE o 1 Ionawr 2021 ymlaen
- symud nwyddau ecséis fel llwyth o dan Brotocol Gogledd Iwerddon o 1 Ionawr 2021 ymlaen
Gwneud cais ar-lein
Er mwyn gwneud cais ar-lein, bydd angen Dynodydd Defnyddiwr a chyfrinair Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes gennych un, gallwch greu un pan fyddwch yn gwneud cais.
Os nad ydych eisoes yn fusnes mawr sefydledig, sydd â Rheolwr Cysylltiadau Cwsmeriaid CThEM, bydd angen i chi atodi’ch cynllun busnes. Dylai hwn fod yn fformat JPEG neu PDF, ac yn uchafswm o 5MB.
Bydd cyfeirnod unigryw yn cael ei roi i chi pan fyddwch yn cyflwyno’r ffurflen ar-lein. Dylech nodi’r cyfeirnod hwn gydag unrhyw wybodaeth ychwanegol yr ydych yn ei hanfon drwy’r post.
Gallwch gadw llygad ar hynt y ffurflen ar-lein drwy ddefnyddio’r un cyfeirnod.
Gwneud cais drwy’r post
Dylech lenwi’r ffurflen ar y sgrîn, ei hargraffu a’i phostio atom ynghyd ag unrhyw wybodaeth arall.
Os anfonwch y ffurflen drwy’r post, ni fyddwch yn gallu cadw golwg ar ei hynt ar-lein.
Bydd angen i chi lenwi’r ffurflen yn llawn cyn i chi allu’i hargraffu. Ni all ffurflen sydd wedi’i llenwi’n rhannol cael ei chadw, felly dylech wneud yn siŵr bod yr wybodaeth sydd ei angen arnoch i gyd gennych cyn i ddechrau arni.
Anfonwch eich cais drwy’r post i:
Timau Prosesu Ecséis CThEM / HMRC Excise Processing Teams
BX9 1GL
Os ydych yn defnyddio hen borwr, er enghraifft Internet Explorer 8, bydd angen i chi ei ddiweddaru neu ddefnyddio porwr gwahanol. Rhagor o wybodaeth am borwyr.
Derbynnydd Cofrestredig Dros Dro
Mae Derbynyddion Cofrestredig Dros Dro yn fasnachwyr ecséis, sydd wedi’u cymeradwyo i fewnforio nwyddau ecséis o dan waharddiad toll dros dro i mewn i’r DU o Aelod-wladwriaethau eraill yr UE, ar sail fesul llwyth.
Mae’r cynllun hwn yn berthnasol i’r canlynol:
- alcohol a diodydd alcoholig
- tybaco wedi’i weithgynhyrchu (er enghraifft sigaréts, sigarau a thybaco ysmygu)
- cynhyrchion ynni, megis olewau hydrocarbon
O dan y cynllun hwn, ni allwch ddal nac anfon nwyddau ecséis o dan waharddiad toll dros dro. Ar ôl i chi gael eich cymeradwyo fel Derbynnydd Cofrestredig Dros Dro, bydd yn rhaid i chi gael rhif Cymeradwyo Llwyth Dros Dro (Temporary Consignment Authorisation - TCA) gan CThEM cyn i chi gael unrhyw nwyddau.
Os ydych am gael llwythau yn fwy aml, dylech wneud cais i ddod yn Dderbynnydd Cofrestredig.
Darllenwch Hysbysiad 204A cyn ceisio llenwi’r cais.
Pryd i wneud cais am gymeradwyaeth
Cyflwynwch eich cais o leiaf 45 diwrnod cyn yr ydych yn bwriadu gwneud cais am Awdurdod Cyflenwad Dros Dro (TCA).
Peidiwch â gwneud archebion na threfniadau sy’n gysylltiedig â’r cynllun hwn hyd nes bod CThEM wedi derbyn a chymeradwyo eich cais.
Gwnewch gais am gymeradwyaeth ar yr adeg gywir er mwyn osgoi cael cosb ariannol wedi’i chodi arnoch gan CThEM. Mae gennych yr hawl i apelio os gwnawn godi cosb debyg arnoch.
Mae’n rhaid i chi lenwi’r ffurflen yn gywir a chynnwys yr holl wybodaeth a ofynnwn amdani neu mae’n bosibll y byddwn yn gwrthod eich cais.
Updates to this page
-
This service will only remain relevant for goods being delivered from an EU member state into Northern Ireland. It cannot be used where goods are delivered to a location in Great Britain from an EU member state.
-
This page has been updated because the Brexit transition period has ended.
-
New details under 'Apply online' and 'Apply by post' have been added.
-
Welsh version of text added.
-
An online service is now available.
-
First published.