Y fethodoleg a’r weithdrefn ar gyfer cyfrifo taliadau Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros becynwaith ar gyfer 2025 i 2026
Updated 26 July 2025
Dylid darllen y canllawiau hyn gyda’r llythyr Hysbysiad Asesu a anfonwyd at bob awdurdod lleol ym mis Gorffennaf 2025. Mae’r llythyr Hysbysiad Asesu yn amlinellu cyfanswm y taliadau Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros becynwaith y mae PackUK yn rhagweld y bydd yn eu gwneud ar gyfer blwyddyn ariannol 2025 i 2026, a phryd y bydd taliadau’n cael eu gwneud. Mae’r canllawiau hyn yn rhoi rhagor o fanylion am sut mae’r taliad disgwyliedig hwn wedi cael ei gyfrifo.
Mae’r llythyrau Hysbysiad Asesu a ddarparwyd ym mis Gorffennaf 2025 yn ymwneud â thaliadau disgwyliedig i’w gwneud ym mlwyddyn ariannol 2025 i 2026 yn unig.
Mae swm y taliad a ddangosir yn eich llythyr Hysbysiad Asesu yn adlewyrchu’r hyn y mae PackUK (gweinyddwr y cynllun) yn rhagweld y bydd yn ei wneud i’ch awdurdod ar hyn o bryd. Fodd bynnag, efallai y bydd eich taliad gwirioneddol yn dal yn wahanol i’r ffigur hwn mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig, gan gynnwys os bydd cwyn neu apêl lwyddiannus gan gynhyrchwyr neu awdurdodau lleol, neu os na fydd PackUK yn cael digon o arian gan gynhyrchwyr. Bydd symiau’r taliadau terfynol yn cael eu cadarnhau yn eich llythyrau dyfarnu grant chwarterol, y bydd eich awdurdod yn eu derbyn cyn pob taliad sydd wedi’i drefnu (edrychwch ar eich llythyr Hysbysiad Asesu i weld y rhestr daliadau).
Gall PackUK gasglu data wedi’i ddiweddaru a gwella’r dulliau modelu a ddefnyddir i asesu taliadau yn y dyfodol. Gall hyn, ynghyd â ffactorau eraill, gyfrannu at newidiadau yn nosbarthiad a gwerthoedd taliadau i awdurdodau lleol yn y dyfodol. Rydym yn rhagweld y byddwn yn diweddaru’r canllawiau hyn bob blwyddyn.
1. Cwmpas y Taliadau
Mae’r adran hon yn rhoi disgrifiad o’r costau y mae PackUK wedi rhoi cyfrif amdanynt wrth bennu taliad awdurdod lleol.
O dan Reoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Pecynwaith a Gwastraff Pecynwaith) 2024 (y rheoliadau ar gyfer Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros becynwaith), rhaid i PackUK (gweinyddwr y cynllun) asesu taliadau Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros becynwaith awdurdodau lleol ar gyfer 2025 i 2026, gan gynnwys:
-
cyfanswm costau gwaredu effeithlon ac ar gyfer pob categori pecynwaith - gan gynnwys yr holl dreuliau sy’n ymwneud â gwaredu, ailgylchu neu drin gwastraff yn briodol, gan sicrhau bod hyn yn cael ei wneud mewn ffordd ecogyfeillgar a chost-effeithiol. Mae hefyd yn cynnwys costau darparu gwybodaeth i’r cyhoedd am reoli gwastraff pecynwaith cartrefi, gan gynnwys y costau sy’n gysylltiedig â chynllunio a gweithredu unrhyw ymgyrchoedd gwybodaeth
-
incwm gwastraff o werthiant disgwyliedig gwastraff pecynwaith cartrefi ar gyfer pob categori pecynwaith
-
costau gwaredu effeithlon net ar gyfer pob categori pecynwaith - cyfrifir hyn drwy ystyried y costau gwaredu effeithlon llai’r incwm disgwyliedig o werthu gwastraff pecynwaith cartrefi
-
costau gwaredu taladwy - ar gyfer blwyddyn asesu 2025 i 2026, dyma fydd cyfanswm y costau gwaredu effeithlon net ar gyfer pob categori pecynwaith
O dan reoliad 70(6) o’r Rheoliadau ar gyfer Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros becynwaith, mae “costau gwaredu effeithlon” yn gostau gwaredu y byddai awdurdod yn eu hwynebu wrth ddarparu gwasanaeth rheoli gwastraff effeithlon. Mae awdurdod perthnasol yn darparu gwasanaeth rheoli gwastraff effeithlon os yw costau gwaredu’r awdurdod mor isel ag sy’n rhesymol bosibl, gan ystyried:
-
y gwasanaeth rheoli gwastraff a ddarperir gan yr awdurdod lleol
-
unrhyw ffactorau eraill sy’n benodol i’r awdurdod lleol hwnnw, neu i’r maes y mae’n arfer ei swyddogaethau rheoli gwastraff mewn perthynas ag ef, sydd, ym marn PackUK, yn debygol o effeithio ar ei gostau gwaredu
Mae costau gwaredu effeithlon yn cynnwys:
-
costau a ysgwyddir am gasglu (ar garreg y drws, casgliadau cymunedol, safleoedd dod â gwastraff a chanolfannau ailgylchu gwastraff y cartref lle bo hynny’n berthnasol)
-
costau a ysgwyddir am drin, didoli, trafod a gwaredu gwastraff pecynwaith cartrefi heb gynnwys incwm perthnasol, gan gynnwys costau gweinyddu a chyfathrebu, fel y costau i’r awdurdod o ddarparu gwybodaeth i’r cyhoedd am reoli gwastraff pecynwaith cartrefi, gan gynnwys y costau sy’n gysylltiedig â chynllunio a chynnal ymgyrchoedd gwybodaeth
Mae “costau gwaredu effeithlon net” yn golygu’r costau gwaredu effeithlon mewn blwyddyn asesu, llai’r incwm disgwyliedig ar gyfer y flwyddyn honno o werthu gwastraff pecynwaith cartrefi.
2. Model Costau a Pherfformiad Pecynwaith Awdurdodau Lleol (LAPCAP)
Mae’r costau y mae awdurdodau lleol yn eu hysgwyddo wrth reoli gwastraff pecynwaith cartrefi wedi cael eu hasesu gan ddefnyddio model a ddatblygwyd gan Defra ar ran pedair gwlad y DU. LAPCAP yw enw’r model hwn. Mae LAPCAP yn cyfrifo costau rheoli gwastraff effeithlon net rheoli gwastraff pecynwaith cartrefi ar gyfer pob awdurdod lleol unigol.
Mae’r gofynion deddfwriaethol sy’n sail i ddatblygu’r model wedi’u nodi yn y rheoliadau ar gyfer Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros becynwaith. Wrth bennu costau gwaredu effeithlon net ar gyfer blwyddyn asesu 2025 i 2026, gall LAPCAP ystyried:
-
amlder, patrwm a’r math o gasgliadau gwastraff pecynwaith cartrefi yn ardal eich awdurdod lleol (“yr ardal berthnasol”)
-
dwysedd y boblogaeth yn yr ardal berthnasol
-
math a hygyrchedd yr anheddau yn yr ardal berthnasol
-
lefelau amddifadedd yn yr ardal berthnasol
-
polisïau’r llywodraeth a’r gofynion rheoliadol sy’n effeithio ar reoli gwastraff y mae’r awdurdod yn ddarostyngedig iddynt
-
unrhyw ffactor arall y mae PackUK yn ei ystyried yn berthnasol i’r asesiad
Mae’r gofynion deddfwriaethol llawn ar gyfer asesu costau awdurdodau lleol, ac felly LAPCAP, wedi’u nodi yn y rheoliadau ar gyfer Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros becynwaith. Ar hyn o bryd, nid yw LAPCAP yn cynnwys costau sy’n gysylltiedig â gwastraff busnes, gwastraff biniau stryd na sbwriel, yn unol â’r rheoliadau hynny.
Bydd taliadau’n talu am gost elfen pecynwaith y ffrwd wastraff ar gyfer wyth math o ddeunyddiau pecynwaith lefel uchel. Dyma’r categorïau pecynwaith a nodir yn y rheoliadau ar gyfer Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros becynwaith:
-
gwydr
-
alwminiwm
-
dur
-
papur a cherdyn
-
plastig
-
pren
-
deunyddiau cyfansawdd ffeibr
-
deunyddiau eraill
Mae cynwysyddion diodydd wedi’u gwneud o bolyethylen tereffthalad (PET), dur, neu alwminiwm rhwng 150ml a 3l o ran maint wedi’u heithrio o ffioedd gwaredu Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros becynwaith tan 2028. Byddant yn dod o fewn y cwmpas o 2028 ymlaen os na fydd Cynllun Dychwelyd Ernes (DRS) ar waith erbyn hynny. Mae’r pecynwaith a gesglir yn y ffrydiau gwastraff bwyd a gardd hefyd wedi’i eithrio.
Mae’r ffrydiau gwastraff canlynol wedi’u cynnwys yn LAPCAP:
-
deunydd ailgylchu sych a gesglir yn gymysg neu ar wahân ar garreg y drws, mewn safleoedd dod â gwastraff neu mewn canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref, gan gynnwys y deunyddiau pecynwaith a restrir yn yr EPR ar gyfer rheoliadau pecynnu
-
gwastraff gweddilliol gan gynnwys y deunyddiau pecynwaith a restrir yn yr EPR ar gyfer rheoliadau pecynnu
Os bydd awdurdodau lleol yn darparu gwasanaeth symud deunyddiau ailgylchu sych a thrin a gwaredu gwastraff gweddilliol, bydd y broses o gyfrifo’r costau gwaredu effeithlon net yn cynnwys darpariaeth ar gyfer gorsaf drosglwyddo.
3. Taliadau tipio
Mae taliadau tipio yn berthnasol pan nad yw’r Cyngor Sir, sy’n gweithredu fel yr Awdurdod Gwaredu Gwastraff, yn gallu darparu lleoliad addas i’r Cynghorau Dosbarth a Bwrdeistref, yr Awdurdodau Casglu Gwastraff, dipio gwastraff o fewn pellter rhesymol i ffin eu hardal.
Nid yw’r model LAPCAP yn cynnwys darpariaeth ar gyfer costau sy’n gysylltiedig â thaliadau tipio. Mewn achosion lle mae taliad tipio yn angenrheidiol, mae’r model LAPCAP yn tybio y bydd Awdurdod Gwaredu Gwastraff yn parhau i wneud y taliad hwn. Mae’r model LAPCAP yn pennu costau effeithlon Awdurdod Casglu Gwastraff. Pe bai’n rhaid i’r Awdurdod Casglu Gwastraff gludo gwastraff ymhellach na’r hyn sy’n rhesymol, byddai hyn yn cael ei ystyried yn aneffeithlon, a byddai modd cyfiawnhau taliad tipio gan yr Awdurdod Gwaredu Gwastraff i’r Awdurdod Casglu Gwastraff o hyd.
Methodoleg LAPCAP
Mae’r adran hon yn disgrifio sut mae’r model yn cyfrifo costau gwaredu effeithlon net taliadau Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros becynwaith ar gyfer pob awdurdod lleol.
Mae LAPCAP yn defnyddio cyfuniad o ddata sy’n benodol i awdurdodau lleol a data cymharol i gyfrifo taliadau Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros becynwaith ar gyfer pob awdurdod lleol yn y DU. Er enghraifft,
-
tunelli - a gofnodir yn Waste Data Flow
-
data cymharol - grwpiau yn seiliedig ar ddata costau a gofnodwyd gan sampl o awdurdodau lleol (mae rhagor o wybodaeth am hyn yn yr adran meta ddata isod)
Gellir crynhoi methodoleg LAPCAP mewn ffordd syml fel a ganlyn:
Costau Casglu Deunyddiau Ailglychu + Cost Clin/Didoli Cost Cludo - Incwm o werthu deunydd ailglychu
+ Cost Casglu Gwastraff Gweddilliol + Cost Trin/Didoli Gwastraff Gweddilliol Cost Cludo + Trin/ Gwaredu Gwastraff Gweddilliol + Gorbenion Gwaredu
= Taliad net i’r ALl
Ar gyfer Awdurdodau Casglu Gwastraff ac Awdurdodau Gwaredu Gwastraff yn y drefn honno, caiff costau gwaredu a chasglu eu hepgor lle bo hynny’n briodol a gwneir addasiad i roi cyfrif am gredydau ailgylchu, oni bai fod gwybodaeth bod trefniadau lleol eraill ar waith.
Mae rhagor o fanylion am sut mae’r model yn delio ag awdurdod dwy haen a chredydau ailgylchu ar gael yn yr adrannau ar wahân isod.
Mae’r model yn cynnwys pedwar modiwl, sy’n dod at ei gilydd i gynhyrchu data allbwn. Defnyddir y data allbwn hwn yn y cyfrifiad uchod i gynhyrchu allbynnau terfynol. Dyma’r pedwar modiwl:
-
meta ddata
-
llif gwastraff
-
ffioedd clwyd
-
costau fesul tunnell
Y modiwl meta ddata
Mae hyn yn darparu nodweddion yr awdurdod lleol, fel:
-
enw
-
gwlad
-
math o awdurdod lleol
-
lefel gwledigrwydd
-
lefel amddifadedd
-
nifer yr aelwydydd yn ôl math o eiddo
-
system gasglu ar gyfer pob awdurdod lleol yn y DU
Defnyddir y data hwn i fewnbynnu i’r modiwlau eraill. Mae rhagor o wybodaeth am nodweddion awdurdodau lleol a sut mae’r rhain yn cael eu defnyddio i grwpio awdurdodau lleol wrth gyfrifo costau casglu gwastraff ar gael yn yr adran isod.
Y modiwl llif gwastraff
Mae’r modiwl llif gwastraff yn trosi data a gofnodir gan awdurdod lleol ar symudiadau gwastraff i’r tunelledd pecynwaith perthnasol ar gyfer y model. Mae’n defnyddio’r system ar y we a ddefnyddir gan awdurdodau lleol y DU i adrodd ar ddata gwastraff trefol i’r llywodraeth. Mae’r modiwl yn defnyddio data tunelledd o’r system Waste Data Flow ynghyd â data am gyfansoddiad gwastraff pecynwaith o astudiaeth o gyfansoddiad gwastraff WRAP 2017, astudiaeth o gyfansoddiad gwastraff Zero Waste Scotland 2023 ac astudiaeth o gyfansoddiad WRAP Cymru 2023 i amcangyfrif:
-
tunelledd o wastraff pecynwaith a gesglir gan bob dull casglu e.e. o garreg y drws, safleoedd dod â gwastraff a chanolfannau ailgylchu gwastraff y cartref
-
tunelledd sy’n mynd i bob dull gwaredu
Mae’r math o gynllun yn cyfeirio at gasglu tunelledd deunyddiau yn y gwasanaeth canlynol:
-
Cymysg
-
Aml-ffrwd
-
Dwy Ffrwd
Mae data ar y math o gynllun yn seiliedig ar ddata porth WRAP awdurdodau lleol a gedwir ar gyfer 2021 i 2022; defnyddiwyd eleni i gyd-fynd â’r set ddata tunelledd archwiliedig ddiweddaraf sydd ar gael ar ddechrau’r gwaith o adeiladu’r model LAPCAP.
Mae angen deall y cynlluniau casglu a ddefnyddir gan awdurdodau lleol i ddosbarthu tunelledd yn gywir ar sail data’r cynllun.
Ym mis Tachwedd 2024, rhoddwyd cyfle i awdurdodau lleol gadarnhau eu math o gynllun ar gyfer cyfnod 2021 i 2022. Lle bo’n berthnasol, mae’r adborth wedi cael ei ymgorffori i sicrhau cysondeb. Bydd diweddariadau pellach yn cael eu rhoi ar waith ar gyfer Blwyddyn 2 y cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros becynwaith.
Mae’r modiwl hwn yn darparu’r holl fewnbwn ar dunelledd a symudiadau gwastraff ar gyfer y model. Lle nad yw data cyfansoddiad yn ddigon manwl, mae ffynonellau ychwanegol wedi cael eu defnyddio, gan gynnwys:
-
Data a gyflwynir gan gynhyrchwyr yn y system Rhoi Gwybod am Ddata Pecynwaith (RPD) ar gyfer 2024 – mae categorïau yn yr astudiaethau cyfansoddiad gwastraff sy’n cynnwys symiau bach amhenodol o becynwaith cyfansawdd ffeibr, pren a deunydd ‘arall’ o fewn y cwmpas. Defnyddir data RPD i bennu’r cyfrannau priodol yma yn seiliedig ar ba werthoedd sy’n arwain at gysoni tunelledd mewn modelau â’r tunelledd hyn a gofnodir gan gynhyrchwyr.
-
Mae adroddiad PackFlow Refresh 2023 ynghylch Plastig yn cael ei ddefnyddio i bennu cyfran y poteli PET yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, sydd wedi’i heithrio o Gyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr. Mae hyn yn cael ei gymhwyso i ddata WRAP 2017 i rannu’r categori hwn yn ddeunydd o fewn y cwmpas a’r tu allan i’r cwmpas. Cyn rhoi Cynllun Dychwelyd Ernes ar waith, mae’r eithriad perthnasol o daliadau Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros becynwaith ym Mlwyddyn 1 yn berthnasol yn benodol i gynwysyddion diodydd a wneir o bolyethylen tereffthalad (PET), dur, neu alwminiwm, sy’n amrywio o ran maint o 150ml i 3 litr. Mae’r eithriad hwn ar waith tan 2028. Mae categorïau’r astudiaeth cyfansoddiad gwastraff ar gyfer dur ac alwminiwm sydd wedi’u heithrio ar y sail hon yn ddigon manwl fel nad oes angen data ychwanegol arnom.
Mae rhagor o wybodaeth am fewnbynnau data ar gael yn Atodiad A.
Y modiwl ffioedd clwyd
Mae’r modiwl ffioedd clwyd yn darparu data ar y gost fesul tunnell i waredu gwastraff. Mae’n cyfrifo ffioedd clwyd net ar gyfer pob math o ddeunydd sy’n mynd i bob math o gyfleuster (cost fesul tunnell o wastraff ar gyfer pob cyfleuster). Ar gyfer cyfleusterau adennill deunyddiau, mae ffi glwyd net wahanol hefyd yn cael ei chyfrifo ar gyfer pob gwlad. Mae ffioedd clwyd wedi’u cyfrifo yn cynnwys costau crynhoi, cludo a throsglwyddo. Er mwyn cyfrifo ffioedd clwyd net (sy’n cael eu defnyddio yn y cyfrifiad terfynol) yn gyntaf rydym yn cyfrifo ffioedd clwyd gros ac yna’n tynnu incwm fel y disgrifir yn y camau isod. Defnyddir cyfartaledd ffioedd clwyd am nad yw’n cael ei ystyried yn bosibl modelu’r ffactorau sy’n dylanwadu ar ffioedd clwyd mewn ffordd ddibynadwy ar hyn o bryd mewn gwahanol awdurdodau lleol.
Yn y dyfodol, byddwn yn ystyried cyflwyno methodolegau mwy soffistigedig i fodelu’n fwy cywir y gwahanol ffioedd clwyd y mae awdurdodau lleol yn eu talu. Yn y dyfodol, rydym hefyd yn bwriadu addasu ffioedd clwyd wedi’u cyfrifo i roi cyfrif am gostau trosglwyddo a chludo sy’n amrywio rhwng awdurdodau lleol.
Cam 1: cyfrifo ffioedd clwyd gros canolrifol ar gyfer gwahanol ddulliau gwaredu
Ar gyfer deunydd ailgylchu sych sy’n cael ei anfon i gyfleusterau adennill deunyddiau, mae’r modiwl ffioedd clwyd yn cyfrifo ffi glwyd gros canolrifol ar gyfer pob gwlad. Mae hyn yn defnyddio data o Arolwg Ffioedd Clwyd WRAP 2022/23 ar gyfer costau trin deunyddiau sy’n cael eu hanfon i gyfleusterau adennill deunyddiau.
Ar gyfer ailbroseswyr, ailddefnyddio, ailddefnyddio allforwyr ac ailgylchu allforwyr, mae’r modiwl ffioedd clwyd yn cyfrifo un ffi glwyd gros ganolrifol ar gyfer pob math o ddeunydd, gan ddefnyddio data a ddarperir gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a Rhaglen Gyflenwi Seilwaith Gwastraff (WIDP), sydd wedyn yn cael ei gymhwyso i bob awdurdod lleol ledled y DU. Mae’r holl ddulliau gwaredu hyn yn cael yr un ffi glwyd gros ganolrifol ar gyfer pob math o ddeunydd oherwydd cyfyngiadau data.
Cam 2: cyfrifo incwm – cyfrifo gwerth ad-daliadau ar gyfer pob deunydd sy’n mynd i bob math o gyfleuster
Mae’r adran hon yn egluro sut rydym yn cyfrifo gwerth ad-daliad ar gyfer pob deunydd ym mhob math o gyfleuster. Cyfrifir un gwerth ad-daliad ar gyfer pob math o gyfleuster a math o ddeunydd ac yna caiff ei gymhwyso i bob awdurdod lleol yn y DU. Defnyddir gwerth ad-daliad i gyfrifo ffioedd clwyd net yn y cam nesaf.
Cyfrifir incwm o werthu deunyddiau ailgylchu sych o gyfleusterau adennill deunyddiau, ailbroseswyr, ailddefnyddio, ailddefnyddio allforwyr ac ailgylchu allforwyr drwy gymryd y gwahaniaeth rhwng y ffioedd clwyd canolrifol gros a chanolrifol net a dosrannu gwerth yr ad-daliad hwn ar draws gwahanol ddeunyddiau. Canolrif y ffi glwyd net yn yr achos hwn yw canolrif y ffi glwyd a gofnodwyd o’r un ffynonellau data a nodwyd uchod, a ddefnyddiwyd i gyfrifo’r ffi glwyd gros ganolrifol (arolwg ffioedd clwyd WRAP, CLlLC a WIDP). Mae hyn yn wahanol i’r ffioedd clwyd net a gyfrifwyd y mae’r modiwl yn eu dosbarthu fel ei brif allbwn.
Ar gyfer pob math o gyfleuster, rydym yn defnyddio’r gwahaniaeth rhwng ffioedd clwyd gros a net i bennu cyfanswm ad-daliad ar gyfer yr holl ddeunyddiau (e.e. yr ad-daliad ar gyfer tunnell o ddeunydd ailgylchu cymysg sy’n mynd i gyfleuster adennill deunyddiau). Yna, rydym yn cyfrifo faint o gyfanswm yr ad-daliad hwn ddylid ei neilltuo i bob deunydd, ar sail prisiau deunyddiau Lets Recycle (Prisiau - letsrecycle.com) a thunelledd o bob math o ddeunydd sy’n mynd i bob cyfleuster o’r Modiwl Llif Gwastraff. Mae data gan Lets Recycle ar gael fesul mis am sawl blwyddyn. Defnyddir prisiau o flwyddyn ariannol 2022 i 2023 i gyfateb i ddata ffioedd clwyd.
I grynhoi, mae pob categori deunyddiau pecynwaith Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr yn cael gwerth ad-daliad fesul tunnell ar gyfer pob math o gyfleuster, sydd wedyn yn cael ei ddefnyddio i gyfrifo costau ar gyfer pob awdurdod lleol perthnasol ledled y DU. I gael rhagor o wybodaeth am y cyfrifiad hwn, tarwch olwg ar yr enghreifftiau ymarferol.
Cyfrifo ffioedd clwyd net gan ddefnyddio’r gwerthoedd ad-dalu
Cyfrifir ffioedd clwyd net ar gyfer pob deunydd ar gyfer pob math o gyfleuster, ac ym mhob gwlad ar gyfer cyfleusterau adennill deunyddiau (e.e. plastig yn mynd i gyfleusterau adennill deunyddiau yn yr Alban, gwydr yn mynd i ailbrosesydd yn unrhyw le yn y DU) drwy gymryd y ffi glwyd gros ganolrifol ar gyfer y math hwnnw o gyfleuster a thynnu gwerth yr ad-daliad perthnasol (yn yr achos hwn, ad-daliad o blastig yn mynd i gyfleuster adennill deunyddiau yn yr Alban, ad-daliad o wydr yn mynd i ailbrosesydd).
Yna pennir costau gwaredu pob awdurdod lleol drwy luosi’r ffioedd clwyd net a gyfrifwyd â thunelledd y deunyddiau sy’n mynd i bob cyfleuster o’r Modiwl Llif Gwastraff.
Ar gyfer gwastraff gweddilliol a anfonir i bob math o gyfleuster (gan gynnwys ynni o wastraff, triniaeth fiolegol fecanyddol, tirlenwi ac ati) mae’r modiwl ffi glwyd yn cyfrifo ffi glwyd net ganolrifol ar gyfer pob math o gyfleuster yn uniongyrchol o Arolwg Ffioedd Clwyd WRAP. Yna, mae’r ffi glwyd net ganolrifol hon yn cael ei lluosi â thunelledd deunyddiau sy’n mynd i bob cyfleuster o’r modiwl Llif Gwastraff i bennu’r costau gwaredu. Mae hyn yn golygu, yn ymarferol (ac o ran yr effaith ar ffioedd sylfaenol) bod costau ac unrhyw incwm o’r cyfleusterau hyn yn cael eu dosrannu’n gyfartal ar draws deunyddiau yn ôl tunelledd. Edrychwch ar yr atodiad sy’n cynnwys enghreifftiau ymarferol i gael dadansoddiad manwl o sut mae hyn yn cael ei gyfrifo.
Mae gwahaniaethau mewn ffigurau costau fesul tunnell rhwng gwahanol awdurdodau lleol yn gallu cael eu sbarduno gan wahaniaethau mewn cyfansoddiad gwastraff tybiedig sy’n mynd i bob dull gwaredu, a’r incwm amrywiol o werthu deunyddiau yn seiliedig ar y gwahaniaethau hyn.
Er bod cyfansoddiadau cenedlaethol yn cael eu defnyddio, rydym yn gwneud addasiadau unigol, er enghraifft lle rydym yn gwybod bod deunyddiau’n cael eu casglu ar wahân. Gall hyn effeithio ar ffigurau costau fesul tunnell ar gyfer rhai dulliau gwaredu, gan gynnwys Cyfleusterau Adennill Deunyddiau. I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar y ddogfen sy’n cynnwys enghreifftiau ymarferol.
Ychwanegir at holl ffioedd clwyd Cyfleusterau Adennill Deunyddiau (ar gyfer didoli ffrydiau wedi’u cyfuno a deunyddiau wedi’u casglu ar wahân) i dalu am y gost ychwanegol o gydymffurfio â’r canlynol:
-
Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2023
-
Samplu ac adrodd mewn cyfleusterau adennill deunyddiau yn yr Alban: cod ymarfer 2024
Mae’r taliad ychwanegol hwn yn ymwneud â chostau gweithredol o ddydd i ddydd fel yr amcangyfrifwyd yn yr asesiad effaith Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros becynwaith a chynnydd mewn ffioedd rheoleiddio.
Costau gorbenion
Telir yr un faint i bob awdurdod lleol am orbenion cartrefi. Mae’r costau hyn yn adlewyrchu costau gweinyddu, rheoli contractau a chostau eraill awdurdodau lleol o ran rheoli swyddogaethau gwaredu gwastraff a chanolfannau ailgylchu gwastraff y cartref. Mae costau ymgyrchoedd cyfathrebu lleol hefyd yn cael eu cynnwys.
Cyfrifir gorbenion ar sail fesul aelwyd ac ar y gost gyfartalog fesul tunnell fesul aelwyd. Daw data ar niferoedd aelwydydd o ddata 2021 y Swyddfa Ystadegau Gwladol ONS a Chofnodion Cenedlaethol yr Alban 2021 SNR. Rydym yn cyfrifo un gost fesul aelwyd gan ddefnyddio’r data Ceisiadau am Wybodaeth (RFI) ac yna’n lluosi ag amcangyfrifon niferoedd yr aelwydydd yr ONS a’r SNR i gael cyfanswm gorbenion pob awdurdod lleol. Mae Ceisiadau am Wybodaeth yn arolwg a anfonir at awdurdodau lleol i ofyn am wybodaeth am gasglu data cyfredol am gostau gwirioneddol gwasanaethau casglu a gwaredu gwastraff, lle bo hynny’n berthnasol ar gyfer defnyddio LAPCAP.
Gall gorbenion y dunnell amrywio rhwng awdurdodau lleol oherwydd y gwahaniaethau yn nifer y tunelli a gesglir fesul aelwyd. Os yw cartref cyffredin mewn un awdurdod lleol yn cynhyrchu mwy o wastraff na’r cartref cyffredin mewn awdurdod lleol arall, bydd y gorbenion fesul tunnell yn wahanol.
Nid yw costau gorbenion yn cael eu cynnwys mewn ffioedd clwyd ar gyfer Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref a thrin a gwaredu fel tirlenwi, llosgi ac ynni o wastraff2, felly maent yn cael eu hychwanegu i adlewyrchu costau llawn yr awdurdod lleol o reoli swyddogaethau gwaredu gwastraff.
Contractau Menter Cyllid Preifat (PFI)
Mae contractau PFI yn golygu bod awdurdodau lleol yn trosglwyddo’r cyfrifoldeb dros ariannu a rheoli seilwaith gwastraff, fel gorsafoedd trosglwyddo gwastraff, canolfannau ailgylchu, a safleoedd troi gwastraff yn ynni i gwmnïau preifat. Mae awdurdodau lleol yn talu’r cwmnïau preifat ar sail perfformiad a’r gwasanaethau a ddarperir dros gyfnod y contract.
Lle’r ymatebodd awdurdodau lleol â chontractau PFI i arolwg Ffioedd Clwyd WRAP, mae eu data wedi’i ymgorffori yn y model. Felly, caiff y costau hyn eu hadlewyrchu yn y ffigurau cyfartalog cyffredinol a ddefnyddiwyd yn y dadansoddiad. Mae data a gedwir gan Defra a’r Rhaglen Gyflenwi Seilwaith Gwastraff (WIDP) sy’n ymwneud â ffioedd clwyd Triniaeth Fiolegol Fecanyddol (MBT) wedi’u cynnwys mewn costau ffioedd clwyd.
Flexible Plastic Fund (FPF) - FlexCollect Scheme
Mae FlexCollect yn brosiect peilot i brofi a mireinio dulliau ar gyfer casglu ac ailgylchu pecynwaith plastig hyblyg o gartrefi.
Ar gyfer yr awdurdodau lleol hynny y gwyddys eu bod yn cynnal cynllun peilot ffilmiau plastig ffurfiol fel rhan o gynllun FlexCollect UK, mae taliad ychwanegol wedi cael ei wneud i dalu am y gost a gofnodir o weithredu’r cynllun peilot yn 2025 i 2026. Mae allbynnau model LAPCAP yn cyfrifo taliad FlexCollect awdurdodau lleol. Mae hyn wedi’i gynnwys yn y llythyr hysbysiad asesu.
Y modiwl costau fesul tunnell
Mae’r modiwl costau fesul tunnell yn cyfrifo costau effeithlon casglu gwastraff pecynwaith ar gyfer pob awdurdod lleol drwy’r dulliau canlynol:
-
casgliadau ailgylchu a chasgliadau gweddilliol ar garreg y drws
-
safleoedd dod â gwastraff
-
canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref
Mae’r modiwl hwn yn grwpio awdurdodau lleol i gyfrifo costau fesul tunnell ar gyfer gwastraff a gesglir o bob un o’r ffynonellau hyn, gan adlewyrchu’r ffaith bod costau casglu yn amrywio yn dibynnu ar nodweddion awdurdodau lleol. Mae’r costau’n cynnwys:
-
staff rheng flaen
-
cerbydau (costau rhedeg, cynnal a chadw, tanwydd a gwariant cyfalaf blynyddol)
-
cynwysyddion a ddarperir i ddeiliaid tai (gwariant cyfalaf blynyddol ac amnewid bob blwyddyn)
-
gorbenion gan gynnwys rheoli, gweinyddu, offer, TG, ymgyrchoedd cyfathrebu lleol
-
gwariant cyfalaf, sy’n cael ei adlewyrchu yn y gwerthoedd cost fesul tunnell. Mae’n cael ei wneud yn flynyddol - er enghraifft, os yw awdurdod lleol yn prynu cerbyd sydd â disgwyliad oes o bum mlynedd, rydym yn priodoli un rhan o bump o’r costau bob blwyddyn.
Pennir ffigurau’r gost fesul tunnell ar gyfer casglu gwastraff gweddilliol a deunyddiau ailgylchu ar garreg y drws hefyd drwy ddefnyddio dull grwpio. Mae’r dull grwpio yn creu 10 grŵp o awdurdodau lleol ar gyfer casgliadau gweddilliol a 10 grŵp ar gyfer casgliadau ailgylchu. I greu’r grwpiau hyn, dadansoddwyd data costau a gofnodwyd3 o sampl o 49 awdurdod lleol o bob rhan o’r DU, yn ogystal â data costau gwirioneddol gan awdurdodau lleol Cymru gan CLlLC, i nodi’r nodweddion cyffredin sy’n dylanwadu fwyaf ar y costau casglu hyn. Rhestrir y nodweddion hyn isod yn adran Grwpiau Awdurdodau Lleol (gweddilliol ac ailgylchu) y canllawiau ac mae enghreifftiau o sut mae hyn yn gweithio i’w gweld yn yr atodiad ymarferol.
Er mwyn grwpio awdurdodau lleol y disgwylir iddynt ysgwyddo costau tebyg fesul tunnell o wastraff a gesglir, mae’r model yn defnyddio:
-
canfyddiadau’r dadansoddiad hwn
-
gofynion cyfreithiol ar y ffactorau y mae’n rhaid i ni eu hystyried
-
data ar nodweddion awdurdodau lleol o’r modiwl meta ddata
Cyfrifo costau fesul tunnell
Mae LAPCAP yn grwpio awdurdodau lleol yn ôl eu nodweddion i greu:
-
10 grŵp o awdurdodau lleol ar gyfer casgliadau deunyddiau ailgylchu
-
10 grŵp o awdurdodau lleol ar gyfer casgliadau gwastraff gweddilliol
Mae rhagor o wybodaeth am y rhain ar gael yn yr adran Grwpiau Awdurdodau Lleol (gweddilliol ac ailgylchu). Defnyddir y gost gyfartalog fesul tunnell ar gyfer awdurdodau lleol a samplwyd ym mhob grŵp i bennu ffigurau cost fesul tunnell ar gyfer pob grŵp.
Mae costau canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref wedi’u seilio ar ddata a ddarparwyd gan ein sampl o Awdurdodau Gwaredu Gwastraff ynghyd â’r awdurdodau unedol yn y sampl Ceisiadau am Wybodaeth. Ein huchelgais yn y dyfodol yw cael sampl ehangach. Oherwydd prinder data costau Ceisiadau am Wybodaeth sydd ar gael ar gyfer canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref a safleoedd dod â gwastraff, mae LAPCAP yn defnyddio dull lle mae’r gost gyfartalog gyffredinol fesul tunnell ar draws pob awdurdod lleol yn cael ei defnyddio.
Grwpiau Awdurdodau Lleol (gweddilliol ac ailgylchu)4
Dyma’r ffactorau a ddefnyddir i grwpio’r awdurdodau lleol ar gyfer casglu deunyddiau ailgylchu ar garreg y drws:
-
amlder casglu - er enghraifft, bob wythnos, bob pythefnos, bob 3 wythnos
-
gwledigrwydd (% trefol) - % gwledigrwydd yn seiliedig ar lefelau gwledig iawn, gwledig a threfol
-
cyfran y fflatiau - canran yr unedau tai ym mhob ardal sy’n fflatiau o’i gymharu ag eiddo preswyl arall ar sail cyfrifiad 2021 y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac amcangyfrifon Cofnodion Cenedlaethol yr Alban
-
amddifadedd - cyfran yr ardaloedd cynnyrch ehangach haen is ym mand D ac E y Mynegeion Amddifadedd (Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is) yn yr awdurdod
-
gwlad yn y DU
-
tunelli a gesglir fesul cartref - mae LAPCAP yn cyfrifo hyn, i helpu i bennu grwpiau casglu gwastraff awdurdodau lleol fel y tunelli a gesglir o garreg y drws fel gwastraff gweddilliol neu ailgylchu sych
-
cyfran y cynllun casglu - cyfran yr aelwydydd a wasanaethir gan bob cynllun casglu gwastraff penodol ar gyfer gwastraff cymysg, aml-ffrwd a dwy ffrwd
-
baner casglu bwyd - dangosydd deuaidd, wedi’i osod ar 1 os yw awdurdod lleol wedi adrodd ar gasglu gwastraff drwy ffrwd casglu gwastraff bwyd bwrpasol, a 0 fel arall
Ar gyfer casgliadau gwastraff gweddilliol ar garreg y drws, mae’r modiwl hwn yn defnyddio’r ffactorau canlynol i grwpio awdurdodau lleol. Mae’r un diffiniadau’n berthnasol i’r ffactorau hyn ag uchod:
-
amlder casglu
-
gwledigrwydd (% trefol)
-
cyfran y fflatiau
-
amddifadedd
-
gwlad
-
tunelli a gesglir fesul cartref
-
baner casglu gwastraff gardd - dangosydd deuaidd, wedi’i osod ar 1 os yw awdurdod lleol wedi adrodd ar gasglu gwastraff drwy ffrwd casglu gwastraff gardd bwrpasol, a 0 fel arall
-
baner safle dod â gwastraff - dangosydd deuaidd, wedi’i osod ar 1 os yw awdurdod lleol wedi adrodd ar gasglu gwastraff drwy safleoedd dod â gwastraff, a 0 fel arall
Mae awdurdodau’n cael eu grwpio drwy ddod o hyd i’w gymharydd agosaf ar gyfer pob un o’r newidynnau hyn. Mae awdurdodau lleol yn cael eu rhoi mewn grwpiau gydag awdurdodau lleol eraill sy’n rhannu’r nodweddion tebycaf iddynt ar draws y ffactorau5.
Gwledigrwydd / Amddifadedd
Mae awdurdodau lleol yn cael eu neilltuo i grŵp amddifadedd gwledigrwydd, grŵp ailgylchu sych a grŵp gwastraff gweddilliol. Mae’r gost fesul tunnell ar gyfer pob ffrwd yn seiliedig ar y grŵp y mae’r awdurdod lleol ynddo. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yn yr adran Grwpiau Awdurdodau Lleol.
Nifer yr aelwydydd
Defnyddir niferoedd aelwydydd mewn dwy ffordd yn y model:
-
pennu gorbenion
-
grwpio awdurdodau lleol ar gyfer costau casglu
Daw’r data ar niferoedd yr aelwydydd o’r ffynonellau canlynol:
-
Cyfrifiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol 2021 ar gyfer Cymru a Lloegr
-
Cofnodion Cenedlaethol yr Alban ar gyfer yr Alban
-
NISRA 2021 ar gyfer Gogledd Iwerddon
Bydd y setiau data hyn yn cael eu hadolygu’n gyson i sicrhau bod LAPCAP yn cynnwys y data gorau posibl.
Er mwyn pennu gorbenion, daw’r gost fesul aelwyd o’r Ceisiadau am Wybodaeth a gyflenwir gan awdurdodau lleol sydd â swyddogaethau gwaredu, er enghraifft Awdurdodau Unedol ac Awdurdodau Gwaredu Gwastraff. Mae’r gorbenion hyn hefyd yn cynnwys costau rheoli canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref a safleoedd dod â gwastraff. Yna, mae’r gost fesul aelwyd yn cael ei lluosi â nifer yr aelwydydd ym mhob awdurdod lleol.
Wrth grwpio awdurdodau lleol ar gyfer costau casglu, mae tri ffactor yn defnyddio data aelwydydd:
-
Cyfran y fflatiau sy’n defnyddio data stoc cyngor 2021 ar gyfer Lloegr
-
Cyfran y casgliadau cymunedol sy’n defnyddio data porth awdurdodau lleol WRAP ar gyfer 2021/22 ynghylch nifer yr aelwydydd a wasanaethir
-
Tunelli fesul aelwyd sy’n defnyddio data porth awdurdodau lleol WRAP ar gyfer 2021/22 ynghylch nifer yr aelwydydd a wasanaethir
Er bod data aelwydydd yn dod o wahanol ffynonellau, y data hwn yw’r data mwyaf cyson a’r data gorau sydd ar gael.
Oherwydd y gwahaniaeth mewn ffactorau sy’n rheoli costau rhwng ailgylchu sych a gwastraff gweddilliol, gall un awdurdod lleol fod mewn un grŵp ar gyfer ei gasgliadau ailgylchu sych a’i safleoedd dod â gwastraff, ac mewn grŵp arall ar gyfer gwastraff gweddilliol a chanolfannau ailgylchu gwastraff y cartref.
Nid yw Cyd-awdurdodau Gwaredu Gwastraff Statudol (SJWDA) na chynghorau sir yn ymddangos mewn grwpiau awdurdodau lleol gan mai dim ond i bennu costau casglu y defnyddir y grwpiau hyn. Ar hyn o bryd nid oes gennym ddull grwpio cyfatebol ar gyfer costau gwaredu oherwydd yr amrywiaeth o ffactorau gwahanol sy’n ysgogi’r costau hyn a data cyfyngedig ar y ffactorau hyn. Newidiadau i grwpiau yn y dyfodol
Rydym yn bwriadu ailgyfrifo grwpiau costau casglu bob blwyddyn ar gyfer Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros becynwaith. Er enghraifft, os bydd nodweddion grwpio awdurdod lleol yn newid o flwyddyn 1, gallai hyn olygu bod yr awdurdod lleol yn symud grŵp pan gaiff grwpiau eu hailgyfrifo.
Oherwydd natur y dadansoddiad, gallai newidiadau yn nodweddion rhai awdurdodau lleol effeithio ar grwpiau eraill, hyd yn oed os nad yw nodweddion yr awdurdodau hynny wedi newid eu hunain. Mae’r gost fesul tunnell ar gyfer pob ffrwd yn seiliedig ar y grŵp perthnasol y mae’r awdurdod lleol yn perthyn iddo.
Ceir tabl sy’n dangos y grwpiau y mae pob awdurdod lleol ynddynt yn Atodiad B.
Dod â’r cyfan at ei gilydd – cyfrifo’r allbwn terfynol
Mae sawl swyddogaeth yn cyfuno allbynnau’r pedwar modiwl i gynhyrchu’r allbynnau terfynol. Er enghraifft, mae ffioedd clwyd yn cael eu cyfuno â thunelledd gwaredu i gyfrifo costau gwaredu. Mae’r costau hyn wedyn yn cael eu darparu fel allbynnau wedi’u rhannu yn ôl ffactorau amrywiol, gan gynnwys ffrwd wastraff, categori pecynwaith ac awdurdod lleol. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yn yr atodiad enghreifftiau ymarferol ond mae’r ffigur canlynol a’r testun esboniadol isod yn rhoi crynodeb o sut mae allbynnau o’r pedwar modiwl yn dod at ei gilydd.
Costau Casglu Deunyddiau Ailglychu + Cost Clin/Didoli Cost Cludo - Incwm o werthu deunydd ailglychu
+ Cost Casglu Gwastraff Gweddilliol + Cost Trin/Didoli Gwastraff Gweddilliol Cost Cludo + Trin/ Gwaredu Gwastraff Gweddilliol + Gorbenion Gwaredu
= Taliad net i’r ALl
Mae’r modiwl costau fesul tunnell yn rhoi amcangyfrif o’r costau casglu ar garreg y drws, canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref a safleoedd dod â gwastraff ar gyfer gwastraff gweddilliol ac ailgylchu pob awdurdod lleol. Mae’r allbynnau hyn wedyn yn cael eu cyfuno â thunelli o’r modiwl llif gwastraff i gyfrifo:
-
costau casglu deunyddiau ailgylchu sych ar garreg y drws
-
costau casglu gwastraff gweddilliol ar garreg y drws
-
costau casglu canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref a chostau casglu safleoedd dod â gwastraff
Gwneir hyn ar gyfer deunydd pob categori pecynwaith ac ar gyfer cyfanswm y costau casglu ar draws holl wastraff pecynwaith cartrefi.
Ar gyfer costau casglu deunyddiau ailgylchu sych ar garreg y drws, mae’r effaith y mae’r cyfaint hwnnw’n ei chael ar gostau casglu yn cael ei hystyried.
Gwneir hyn fel a ganlyn:
-
Lluosi’r ffigur costau fesul tunnell (a ddarperir gan y modiwl costau fesul tunnell) â chyfanswm y tunelledd y mae pob awdurdod lleol yn ei reoli mewn casgliadau deunyddiau ailgylchu sych ar garreg y drws.
-
Mae hwn yn cyfrifo cyfanswm y gost o gasglu deunydd ailgylchu sych (pecynwaith a’r holl wastraff arall).
-
Yna caiff cyfanswm y gost ei ddosrannu ar draws deunyddiau yn seiliedig ar gyfran pob deunydd yn ôl cyfaint.
-
Mae’r cyfaint a amcangyfrifir ar gyfer pob deunydd yn y ffrwd ailgylchu deunyddiau sych yn cael ei gyfrifo drwy’r tunelledd a gwerth dwysedd swmp cyfatebol (data a ddarperir gan WRAP ac a gefnogir gan y data a gesglir yn Adolygiad Desg y Ffactorau Dwysedd Swmp 2022). Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yn Atodiad C.
-
Defnyddir dosrannu swmp ar draws pob deunydd (o fewn y cwmpas a’r tu allan i’r cwmpas) gan fod yr holl ddeunyddiau’n cael eu casglu gan yr un cerbydau casglu.
Felly, mae cyfaint y deunyddiau y tu allan i’r cwmpas a gyfrifwyd yn effeithio’n uniongyrchol ar ddosraniad costau deunyddiau pecynwaith Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr. Er enghraifft, os bydd awdurdod lleol penodol yn casglu llawer iawn o ddeunydd dwysedd isel nad yw’n becynwaith yn ei ffrwd ailgylchu sych, bydd hyn yn golygu bod cyfran is o gostau casglu’n cael ei dyrannu i ddeunyddiau pecynwaith dwysedd uwch. Mae’r addasiad hwn yn cydnabod mai cyfaint yw’r ffactor sy’n aml yn cyfyngu yng nghyswllt casglu deunyddiau ailgylchu sych.
Mae cyfansoddiad deunyddiau ailgylchu sych yn amrywio rhwng awdurdodau lleol oherwydd gwahanol ffactorau, fel:
-
math o gynllun casglu deunyddiau i’w hailgylchu
-
pa ddeunyddiau sy’n cael eu hailgylchu
-
demograffeg
Daw’r data a ddefnyddiwn o system Waste Data Flow, felly mae’r wybodaeth a ddarperir yn effeithio ar wahanol ffactorau. Gall hyn olygu y gall y costau casglu dilynol fesul tunnell ar gyfer ailgylchu sych ar garreg y drws amrywio hyd yn oed ar gyfer awdurdodau lleol o fewn yr un grŵp.
Mae costau’n cael eu chwyddo i’r flwyddyn a ddymunir gan ddefnyddio rhagolygon chwyddiant Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI) y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR).
Cyfrifir costau trin, didoli a chludo gwastraff gweddilliol a chostau trin a gwaredu gwastraff gweddilliol gan ddefnyddio’r canlynol:
-
ffioedd clwyd net cyfartalog cenedlaethol y DU ar gyfer y gwahanol ddulliau gwaredu o’r modiwl ffioedd clwyd
-
tunelledd ar gyfer deunydd pob categori pecynwaith o’r modiwl llif gwastraff
Cyfrifir costau trin, didoli a chludo deunydd ailgylchu sych net o incwm gan ddefnyddio ffi glwyd gros7 a’r ad-daliad deunydd penodol8 a gymerir o’r Model Ffi Glwyd fel cost fesul tunnell. Caiff hyn ei luosi â’r tunelledd ar gyfer pob categori pecynwaith a gymerir o’r Modiwl Llif Gwastraff. Mae’r gost gros a’r addasiad ar gyfer incwm i’w gweld yn eich llythyr hysbysiad asesu.
Mae gorbenion gwaredu wedi cael eu pennu drwy luosi costau gorbenion gwaredu cyfartalog fesul aelwyd (a gymerir o ddata costau gwirioneddol o sampl gynrychioliadol o 32 awdurdod lleol o bob rhan o’r DU) â nifer yr aelwydydd ym mhob awdurdod lleol.
Mae’r gorbenion hyn yn adlewyrchu costau gweinyddu, rheoli contractau a chostau eraill awdurdodau lleol o ran rheoli swyddogaethau gwaredu gwastraff.
Daw’r data ar nifer yr aelwydydd o’r ffynonellau canlynol:
-
Cyfrifiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol 2021 ar gyfer Cymru a Lloegr
-
Cofnodion Cenedlaethol yr Alban - amcangyfrifon o 2021 ar gyfer yr Alban
-
NISRA 2021 ar gyfer Gogledd Iwerddon
4. Dyrannu Costau ar draws Awdurdodau Dwy Haen (Lloegr yn unig)
Dyrennir costau ar gyfer gwahanol wasanaethau rheoli gwastraff pecynwaith y cartref yn y model ar draws awdurdodau dwy haen yn ôl y tabl isod. Mae hyn yn dilyn deddfwriaeth berthnasol sy’n neilltuo cyfrifoldeb dros ddarparu’r gwasanaethau hyn. Mae tic yn dangos bod costau’r gwasanaeth cyfatebol wedi’u cynnwys yn yr asesiad taliadau ar gyfer y math hwnnw o awdurdod lleol.
Cost Awdurdod Lleol | Unedol | Awdurdod Casglu Gwastraff | Awdurdod Gwaredu Gwastraff | Cyd-bartneriaeth Gwastraff Statudol Awdurdod Casglu Gwastraff | Cyd-bartneriaeth Gwastraff Statudol Awdurdod Gwaredu Gwastraff |
---|---|---|---|---|---|
Casglu deunyddiau ailgylchu sych ar garreg y drws | Oes | Oes | Nac oes | Oes | Nac oes |
Casglu gwastraff gweddilliol ar garreg y drws | Oes | Oes | Nac oes | Oes | Nac oes |
Safleoedd dod â gwastraff | Oes | Oes | Nac oes | Oes | Nac oes |
Casglu deunyddiau ailgylchu sych mewn canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref | Oes | Nac oes | Oes | Nac oes | Oes |
Casglu gwastraff gweddillol mewn canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref | Oes | Nac oes | Oes | Nac oes | Oes |
Gorsafoedd trosglwyddo/crynhoi a chludo deunyddiau ailgylchu | Oes | Nac oes | Oes | Nac oes | Oes |
Gorsafoedd trosglwyddo/crynhoi a chludo gwastraff gweddilliol | Oes | Nac oes | Oes | Nac oes | Oes |
Taliadau Tipio | Amh. | Nac oes | Nac oes | Nac oes | Nac oes |
Trin a Didoli Deunyddiau Ailgylchu | Oes | Nac oes | |||
(oni bai bod gennym wybodaeth fod yr Awdurdod Casglu Gwastraff wedi cymryd cyfrifoldeb) | Oes (oni bai bod gennym wybodaeth fod yr Awdurdod Casglu Gwastraff wedi cymryd cyfrifoldeb) | Nac oes | Oes | ||
Incwm wedi’i dynnu o ddeunyddiau ailgylchu | Oes | Nac oes |
(oni bai bod gennym wybodaeth fod yr Awdurdod Casglu Gwastraff wedi cymryd cyfrifoldeb) | Oes (oni bai bod gennym wybodaeth fod yr Awdurdod Casglu Gwastraff wedi cymryd cyfrifoldeb) | Nac oes | Oes | |||
Trin a gwaredu gwastraff gweddilliol | Oes | Nac oes | Oes | Nac oes | Oes | |
Credyd Ailgylchu | Amh. | Nac oes |
(Gwerth y taliad credyd i’r Awdurdod Gwaredu Gwastraff, wedi’i dynnu oddi ar gyfanswm taliad yr Awdurdod Casglu Gwastraff) | Oes (Lle mae’n hysbys y telir credydau i Awdurdod Casglu Gwastraff) | Nac oes | Nac oes | |||
Taliad Rhyngawdurdod Arall am wastraff | Amh. | Nac oes | Nac oes | Nac oes | Nac oes |
Ffigur 3: Tabl y costau ar gyfer gwahanol wasanaethau rheoli gwastraff pecynwaith yn y model ar draws awdurdodau dwy haen
5. Addasiadau ar gyfer Credydau Ailgylchu (Lloegr yn unig)
Mae Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Gwaredu Gwastraff dalu taliadau credyd ailgylchu gwastraff i Awdurdod Casglu Gwastraff yn ei ardal pan fydd Awdurdod Casglu Gwastraff yn cadw gwastraff ar gyfer ei ailgylchu.
Mae’r cynllun yn ceisio sicrhau bod unrhyw arbedion o’r costau gwaredu gwastraff ar gyfer Awdurdod Gwaredu Gwastraff (pan gaiff gwastraff ei ailgylchu) yn cael eu rhannu â’r Awdurdod Casglu Gwastraff perthnasol, ac wrth wneud hynny’n cymell Awdurdodau Casglu Gwastraff i ailgylchu.
Oni chytunir fel arall9, mae’n rhaid i Awdurdodau Gwaredu Gwastraff dalu credydau ailgylchu pan fydd yr Awdurdod Casglu Gwastraff yn eu hawlio. Rhaid i Awdurdod Gwaredu Gwastraff dalu ei arbedion, ar ôl tynnu gwariant, i Awdurdod Casglu Gwastraff. Lle nad yw’r gwerth hwn yn hysbys, mae Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Taliadau Ailgylchu Gwastraff) (Lloegr) 2006 10 yn rhoi gwerth diofyn gyda mynegeio o 3%.
Mae taliad credyd ailgylchu gan Awdurdod Gwaredu Gwastraff yn dod o dan y diffiniad o “gostau gwaredu” at ddibenion Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros becynwaith, ac felly mae wedi ei gynnwys wrth asesu costau. Mae hefyd yn bwysig na chodir tâl ddwywaith ar gynhyrchwyr am weithgareddau rheoli gwastraff. Os bydd Awdurdod Gwaredu Gwastraff yn derbyn y costau gwaredu gan PackUK i roi cyfrif am y credydau ailgylchu a delir i’r Awdurdod Casglu Gwastraff, ni all yr Awdurdod Casglu Gwastraff hawlio’r gost o ailgylchu’r deunydd hwnnw fel rhan o’i gostau gwaredu ei hun.
Yn seiliedig ar yr uchod, mae LAPCAP yn gwneud y canlynol:
-
talu Awdurdodau Gwaredu Gwastraff am gost credydau ailgylchu ar gyfer gwastraff pecynwaith y cartref lle gwyddys bod Awdurdod Gwaredu Gwastraff yn gwneud taliadau rhwng awdurdodau i’r Awdurdodau Casglu Gwastraff sy’n ymwneud ag ailgylchu
-
nid yw’n talu credydau ailgylchu i Awdurdodau Gwaredu Gwastraff na Chyd-awdurdodau Gwaredu Gwastraff Statudol lle gwyddys nad oes credydau ailgylchu na threfniadau tebyg ar waith.
Os bydd credydau ailgylchu yn cael eu talu i Awdurdod Gwaredu Gwastraff, byddant wedi cael eu cyfrifo gan ddefnyddio’r dull a nodir yn Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Taliadau Ailgylchu Gwastraff) 2006 (gan ddefnyddio’r gwerthoedd talu diofyn a nodir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau).
Cysylltwch â PackUK os ydych chi wedi cael taliad am gredydau ailgylchu, neu os oes un wedi’i dynnu oddi ar eich taliad, a bod un o’r canlynol yn berthnasol i chi:
-
nid oes gennych unrhyw drefniadau ar gyfer talu neu dderbyn credyd ond mae gennych addasiad yn eich llythyr hysbysiad asesu
-
rydych chi’n talu credydau ailgylchu ac nid oes gennych chi addasiad yn eich llythyr hysbysiad asesu.
Ni fydd addasiadau ar gyfer credydau ailgylchu yn berthnasol i Gyd-awdurdodau Gwaredu Gwastraff Statudol na Chyd-awdurdodau Casglu Gwastraff Statudol.
6. Cyfrifo credydau ailgylchu
Telir credydau ailgylchu am bob tunnell o wastraff pecynwaith cartrefi a gesglir yn y cynllun ailgylchu sych. I weld enghraifft o sut mae credydau ailgylchu’n cael eu cyfrifo yn y model, trowch at yr atodiad sy’n cynnwys enghreifftiau ymarferol.
7. Sampl o Ddata Costau Awdurdodau Lleol - Casglu Data
Yn 2023, cysylltodd Defra (gyda chefnogaeth pedwar contractwr) â 110 o awdurdodau lleol i ofyn am wybodaeth gynhwysfawr am gostau eu gwasanaethau gwastraff er mwyn i’r data hwn allu cyfrannu at adeiladu model LAPCAP ar gyfer y flwyddyn gyntaf. Er mwyn sicrhau ystod mor eang ac amrywiol â phosibl, cafodd holl Awdurdodau Lleol Casglu Gwastraff y DU eu rhoi mewn un o ddeg grŵp demograffeg gymdeithasol. Ar ben hynny, fe’u gwahanwyd ymhellach ar sail eu system ailgylchu deunyddiau sych ac amlder eu casgliadau gwastraff gweddilliol, gan greu cyfanswm o chwe deg a saith is-grŵp ar gyfer samplu. Mae’r tabl yn Atodiad E yn dangos nifer yr awdurdodau lleol ym mhob grŵp.
Dewiswyd samplau o Geisiadau am Wybodaeth gynrychioliadol ar draws y grwpiau. Lle nad oedd awdurdod lleol yn gallu darparu data, cysylltwyd ag awdurdod lleol arall tebyg yn lle hynny.
Cafodd yr holl ddata a gasglwyd ac a ddarparwyd ei sicrhau o ran ansawdd er mwyn sicrhau cywirdeb a pherthnasedd i’r model.
Cynhyrchodd y broses hon 52 o setiau data awdurdodau lleol o ansawdd addas i’w defnyddio yn y model. O blith y Ceisiadau am Wybodaeth hyn, daw
-
40 o Loegr
-
2 o Ogledd Iwerddon
-
5 o’r Alban
-
5 o Gymru
-
19 gan Awdurdodau Casglu Gwastraff
-
28 gan Awdurdodau Unedol
-
5 gan Awdurdodau Gwaredu Gwastraff
Isod ceir rhestr o’r awdurdodau lleol a ddarparodd ddata ceisiadau am wybodaeth:
Armagh Banbridge Craigavon | Sevenoaks | Gogledd Ayrshire |
---|---|---|
Dudley | De Ayrshire | Orkney |
Cernyw | Stockton-on-Tees | Swydd Rydychen |
Swydd Derby | Surrey | Sir Benfro |
Dwyrain Swydd Hertford | Wandsworth | Rhondda Cynon Taf |
Dwyrain Renfrewshire | Westminster | Kirklees |
East Riding | Worthing | Newcastle Upon Tyne |
Hackney | Wyre | Norfolk |
Huntingdon | Cheltenham | Gogledd-orllewin Swydd Gaerlŷr |
Ynys Scilly | Harrogate | Oldham |
Leeds | Powys | Plymouth |
Maldon | Rotherham | Thurrock |
Castell-nedd Port Talbot | Blackburn | Belfast |
Gogledd-ddwyrain Swydd Lincoln | Basingstoke | Conwy |
Newham | Calderdale | Redcar a Cleveland |
Dover | Cheltenham | Gogledd Swydd Efrog |
Caeredin | Fareham | Haringey |
Ynys Wyth |
8. Model Sicrhau Ansawdd
Mae prosesau cadarn ar waith ar gyfer sicrhau ansawdd LAPCAP. Mae hyn wedi cynnwys gweithio’n agos gydag Adran Actiwari’r Llywodraeth i helpu i ddatblygu ein proses Sicrhau Ansawdd gyffredinol a dilysu modelau. Gwiriwyd yr holl allbynnau yn erbyn data sampl yr awdurdod lleol yn ogystal â setiau data eraill fel RO511 a data a gedwir gan Lywodraeth Cymru.
Mae Adran Actiwari’r Llywodraeth wedi cwblhau adolygiad dilysu annibynnol cychwynnol o’r model a oedd yn canolbwyntio ar a oedd cyfrifiadau a roddwyd ar waith:
-
yn gyson â’r fethodoleg a ddogfennwyd
-
heb wallau
-
yn defnyddio strwythur rhesymegol
-
yn glynu wrth yr arferion gorau.
Roedd yr adolygiad yn cynnwys yr elfennau canlynol:
-
Profi cod y model a’r swyddogaethau sylfaenol
-
Profi mewnbwn ac allbwn – mae mewnbynnau ac allbynnau wedi cael eu darparu gan Defra, ac mae’r rhain wedi cael eu rhedeg drwy’r model i brofi bod modd atgynhyrchu’r canlyniadau. Adolygiad manwl o’r cod – mae pob rhan o’r model sydd o fewn y cwmpas wedi cael ei harchwilio’n drylwyr fel rhan o adolygiad “llinell wrth linell”. Bwriad hyn yw canfod a yw’r cod yn bodloni’r fanyleb, ddim yn cynnwys gwallau, yn defnyddio strwythur rhesymegol, yn cael ei gyflwyno’n briodol, ac yn glynu wrth yr arferion gorau.
-
Profion annibynnol – gall cynhyrchu allbynnau o fodel cwbl annibynnol roi sicrwydd ynghylch addasrwydd i bwrpas y model sy’n cael ei adolygu. Byddai disgwyl i’r canlyniadau ar gyfer senarios tebyg gytuno o fewn goddefiant yn seiliedig ar farn briodol.
-
Asesu addasrwydd dogfennau’r model er mwyn deall sut mae model yn cael ei roi ar waith.
Mae canfyddiadau Adran Actiwari’r Llywodraeth, ar sail cwmpas adolygiad yr Adran honno, yn dangos:
-
mae’r model yn rhedeg heb wallau
-
gellir atgynhyrchu’r canlyniadau
-
roeddent yn gallu profi ac atgynhyrchu canlyniadau’n annibynnol
-
Lle i wella ein proses sicrhau ansawdd. Rydym wedi gweithredu ar yr adborth hwn ac mae Adran Actiwari’r Llywodraeth wedi nodi bod ein prosesau sicrhau ansawdd wedi gwella’n sylweddol ers hynny. Rydym wedi rhoi prosesau sicrhau ansawdd ôl-weithredol ar waith ymhellach drwy gynnal profion atchweliad ar fersiynau cynharach o’r model.
Mae adolygiad dilysu Adran Actiwari’r Llywodraeth yn seiliedig ar y model ar adeg benodol ac nid oedd yn ymdrin â phob agwedd ar y model.
Nid rôl yr Adran o ran dilysu’r model yw cadarnhau bod y model wedi’i sicrhau’n llawn o ran ansawdd a’i fod yn addas i’r diben. PackUK sy’n gyfrifol am hyn.
9. Diweddariadau yn y Dyfodol
Bydd PackUK yn parhau i sicrhau bod y model yn defnyddio’r data diweddaraf a mwyaf cynrychioliadol.
Yn y dyfodol, bydd gwasanaeth digidol Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros becynwaith yn cefnogi’r gwaith o gyflwyno a dilysu data awdurdodau lleol, ac rydym yn gweithio ar y ffordd orau o hwyluso prosesu data’n effeithlon. O 1 Hydref 2024 ymlaen, bydd angen i ragor o gyfleusterau deunyddiau samplu ac adrodd ar eu gwastraff a bydd y gwaith samplu ac adrodd yn fwy manwl ac yn digwydd yn amlach. Bydd hyn yn darparu data manwl ychwanegol, yn enwedig ar gyfansoddiad, yr ydym yn rhagweld y bydd y model yn gallu ei ddefnyddio yn y dyfodol.
10. Effeithlonrwydd ac Effeithiolrwydd
O dan y rheoliadau ar gyfer Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros becynwaith, mae awdurdod yn darparu gwasanaeth rheoli gwastraff effeithlon os yw costau’r gwasanaeth hwn mor isel ag sy’n rhesymol bosibl, gan ystyried:
-
y gwasanaeth rheoli gwastraff a ddarperir gan yr awdurdod
-
unrhyw ffactor arall sy’n benodol i’r awdurdod hwnnw, neu i’r maes y mae’n arfer ei swyddogaethau rheoli gwastraff ar ei gyfer, sydd ym marn PackUK yn debygol o effeithio ar ei gostau gwaredu
Gan ddefnyddio data a gafwyd drwy Geisiadau am Wybodaeth a ffynonellau data eraill, gellir grwpio awdurdodau lleol yn ôl tebygrwydd y gwasanaethau a ddarperir a nodweddion lleol. Mae PackUK yn gallu amcangyfrif, drwy gyfartaleddau, pa lefel o wariant sy’n rhesymol i awdurdodau lleol yn y grwpiau hynny ddarparu gwasanaeth rheoli gwastraff ar gyfer pecynwaith cartrefi.
Ystyrir mai’r metrig hwn yw’r gost resymol isaf i’r grŵp hwnnw.
Ni fydd asesiadau effeithiolrwydd yn cael eu cynnal ym mlwyddyn gyntaf Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros becynwaith.
Mae rheoliad 73 o’r rheoliadau ar gyfer Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros becynwaith hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i PackUK gynnal ei asesiadau mewn ffordd sy’n cymell canlyniadau amgylcheddol da.
Drwy gael ffioedd sy’n seiliedig ar dunelledd, mae’n cymell cynhyrchwyr i leihau pwysau’r pecynwaith maent yn ei roi ar y farchnad. Drwy beidio â chodi ail dâl am becynwaith sy’n cael ei ailddefnyddio, mae’r system yn annog ailddefnyddio, sy’n helpu i leihau faint o becynwaith sy’n dod yn wastraff yn y pen draw. Drwy dynnu gwerth cyfartalog deunyddiau yng nghyfrifiadau LAPCAP, mae’r system yn gwobrwyo deunyddiau o ansawdd uwch sy’n fwy gwerthfawr fel deunydd eildro.
11. Modiwleiddio
Gall ffioedd gwaredu a delir gan gynhyrchwyr (ond nid taliadau awdurdodau lleol) newid o ganlyniad i fodiwleiddio yn dod i rym ym mlwyddyn 2 Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros becynwaith (2026 i 2027) a fydd yn cymell penderfyniadau pecynwaith cynaliadwy ymhellach ac yn ysgogi cyfraddau ailgylchu. Bydd y mathau o becynwaith a fydd yn destun ffioedd gwaredu gwastraff pecynwaith cartrefi wedi’u modiwleiddio uwch neu is yn seiliedig ar asesiadau ailgylchadwyedd yn unol â’r Fethodoleg Asesu Ailgylchadwyedd (RAM) a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Mae manylion y dull modiwleiddio yn dibynnu ar ragor o waith dylunio ac ymgysylltu â’r diwydiant. Ni fydd newidiadau i ffioedd gwaredu o ganlyniad i fodiwleiddio yn effeithio ar y swm a delir i awdurdodau lleol.
12. Cwynion ac Apelau
Cwynion
Os oes gennych chi gŵyn am y ffordd rydym yn gweithredu neu am y gwasanaethau rydym yn eu darparu, dilynwch Weithdrefn Gwyno PackUK
Apelau
Rydym yn deall y gall fod adeg pan fyddwch yn dymuno apelio yn erbyn penderfyniad a wnaed gan PackUK. Cyn i chi allu apelio, rhaid i chi fod wedi gwneud cwyn o dan weithdrefn gwyno PackUK yn gyntaf. Os daw gwybodaeth neu ddata newydd ar gael sy’n ymwneud â’ch cwyn wreiddiol, gallwch ofyn am gael ailystyried eich apêl.
Darllenwch weithdrefn apelio PackUK i gael rhagor o fanylion am sut i apelio.
Atodiadau
13. Atodiad A – Crynodeb o Fewnbynnau Data
Ffynhonnell ddata | Crynodeb o fewnbynnau data, gan gynnwys dolenni |
---|---|
Tunelledd o’r system Waste Data Flow | Daw’r data hwn gan awdurdodau lleol sy’n adrodd ar symudiadau gwastraff gan ddefnyddio’r system Rheoli Gwastraff Waste Data Flow. Mae data o 21/22 wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae data o flwyddyn galendr 2021 wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer yr Alban. |
Dadansoddiadau Cenedlaethol o Gyfansoddiad Gwastraff | Daw’r data hwn o astudiaeth o gyfansoddiad gwastraff WRAP 2017, astudiaeth o gyfansoddiad gwastraff Zero Waste Scotland 2023 ac astudiaeth o gyfansoddiad WRAP Cymru 2023. Lle nad oedd data cyfansoddiad yn ddigon manwl o ran data’r farchnad a gyflwynwyd gan gynhyrchwyr i’r system porth ar-lein - Rhoi Gwybod am Ddata Pecynwaith - ar gyfer blwyddyn galendr 2023, a gwaith a gomisiynwyd gan y llywodraeth ar gyfran y categorïau pecynwaith penodol sydd o fewn cwmpas y Cynllun Dychwelyd Ernes. Oherwydd diffyg tystiolaeth ynghylch cyfran y deunyddiau ‘pren’ a deunyddiau ‘eraill’ a fyddai’n cael eu hystyried yn becynwaith yn y ffrwd wastraff, cafodd tybiaethau ynghylch y cyfrannau hyn eu haddasu i gyd-fynd â thunelledd y deunyddiau a gofnodwyd yn y porth Rhoi Gwybod am Ddata Pecynwaith ar-lein fel rhai a roddir ar y farchnad. Cafodd tybiaethau ynghylch tunelledd deunyddiau pecynwaith ‘deunyddiau cyfansawdd ffeibr’ a ‘phapur a cherdyn’ yn y ffrwd wastraff eu haddasu hefyd i adlewyrchu’n well tunelledd y deunyddiau a adroddwyd yn y porth Rhoi Gwybod am Ddata Pecynwaith ar-lein fel rhai a roddir ar y farchnad (gan gadw cyfanswm y tunelledd yn y ffrwd wastraff yn gyson). Mae data o gomisiynau’r llywodraeth sy’n gweithio ar gyfran y categorïau pecynwaith penodol sydd o fewn cwmpas Cynllun Dychwelyd Ernes yn cael eu defnyddio i gwblhau tunelledd pecynwaith drwy dynnu deunyddiau Cynllun Dychwelyd Ernes. |
Costau gwaredu o Arolwg Ffioedd Clwyd WRAP | Mae’r data hwn wedi cael ei gymryd o (WRAP) ac mae’n cael ei ddefnyddio ar gyfer yr holl ddulliau gwaredu ac eithrio ailbroseswyr a gweithfeydd Triniaeth Fiolegol Fecanyddol. |
Costau gwaredu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru | Defnyddiwyd data costau a gymerwyd gan awdurdodau lleol Cymru i bennu ffioedd clwyd i grynhoi a thrin deunydd a anfonir yn uniongyrchol i ailbrosesydd yn dilyn casgliadau ar wahân. Mae hyn yn cynnwys ailddefnyddio, ailddefnyddio allforwyr ac ailgylchu allforwyr. |
Costau gwaredu o Raglen Datblygu Seilwaith Gwastraff Defra | Mae costau gwaredu o Raglen Datblygu Seilwaith Gwastraff Defra wedi cael eu defnyddio i bennu ffioedd clwyd ar gyfer gweithfeydd Triniaeth Fiolegol Fecanyddol. |
Prisiau deunyddiau | Mae data ar gyfer prisiau deunyddiau gan Lets Recycle Prisiau - letsrecycle.com, sydd ar gael fesul mis am sawl blwyddyn. Mae’r model yn defnyddio prisiau ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22 yn ddiofyn. |
Data’r Cynllun | Cafwyd y data hwn ar gyfer 21/22 o borth awdurdodau lleol WRAP |
Nifer yr aelwydydd | Yn seiliedig ar [Gyfrifiad 2021 y Swyddfa Ystadegau Gwladol].(https://cy.ons.gov.uk/census) Yn seiliedig ar amcangyfrifon Cofnodion Cenedlaethol yr Alban o 2021 ar gyfer yr Alban a NISRA 2021 ar gyfer Gogledd Iwerddon |
Data Dwysedd Swmp | Data a ddarperir yn uniongyrchol gan WRAP |
Sampl o Ddata Costau Awdurdodau Lleol | Cymerwyd hwn mewn ymarfer Ceisiadau am Wybodaeth lle’r oedd 52 o awdurdodau lleol ledled y DU yn darparu data cost real ar eu costau rheoli gwastraff. Mae rhagor o wybodaeth am Sampl o Ddata Costau Awdurdodau Lleol ar gael uchod. Mae data costau awdurdodau lleol Cymru wedi’i gynnwys yn y sampl o ddata costau awdurdodau lleol hefyd. Daw’r data hwn o Ddata Cyllid Gwastraff Cynllun Gwella Cymru 2021/2022 |
14. Atodiad B – Grwpiau Awdurdodau Lleol
Grwpiau Ailgylchu Sych Awdurdodau Lleol
Grŵp Ailgylchu Sych | Themâu Grwpiau Awdurdodau Lleol | £/tunnell - mae’r adran hon yn cynnwys costau cyfartalog fesul tunnell ar gyfer pob grŵp ar gyfer pob ffrwd wastraff (ar garreg y drws, canolfan ailgylchu gwastraff y cartref, gorbenion ac ati) |
---|---|---|
D1 | awdurdodau cymysg, trefol yn bennaf, gyda lefel amddifadedd uwch | 253.91 |
D2 | awdurdodau trefol a lled-drefol dwy ffrwd | 109.04 |
D3 | awdurdodau cymysg, lled-drefol yn bennaf | 128.06 |
D4 | awdurdodau cymysg, gwledig yn bennaf | 132.25 |
D5 | awdurdodau dwy-ffrwd, lled-wledig yn bennaf | 132.07 |
D6 | awdurdodau aml-ffrwd trefol a lled-drefol | 225.89 |
D7 | awdurdodau aml-ffrwd gwledig | 278.62 |
D8 | awdurdodau cymysg gwledig, Gogledd Iwerddon | 293.76 |
D9 | awdurdodau cymysg, gyda llawer o amlder, trefol yn bennaf | 216.89 |
D10 | grŵp gwledig, anhygyrch | 1851.81 |
Grŵp Ailgylchu Sych | Awdurdodau Lleol |
---|---|
D1 | Barking and Dagenham; Barnet; Belfast; Bracknell Forest; Bradford; Brent; Camden; Coventry; Ealing; Eastbourne; Enfield; Exeter; Fareham; Glasgow; Gosport; Greenwich; Hackney; Hammersmith & Fulham; Hartlepool; Hastings; Havant; Havering; Hillingdon; Inverclyde; Ipswich; Kingston upon Hull; Kirklees; Lambeth; Leeds; Leicester; Lewisham; Lincoln; Liverpool; Middlesbrough; Newham; Norwich; Plymouth; Portsmouth; Reading; Sandwell; Slough; Southwark; Tower Hamlets; Walsall; Waltham Forest; Wandsworth; West Dunbartonshire; Wirral; Wolverhampton |
D2 | Ashfield; Barnsley; Basildon; Bexley; Birmingham; Blackburn with Darwen; Blackpool; Bolton; Brighton and Hove; Bromley; Broxtowe; Burnley; Bury; Canterbury; Castle Point; Chesterfield; Croydon; Dartford; Doncaster; Dundee; East Dunbartonshire; East Renfrewshire; Eastleigh; Epsom and Ewell; Gateshead; Gloucester; Hertsmere; Kingston upon Thames; Luton; Manchester; Medway; Merton; Milton Keynes; Newcastle upon Tyne; North Lanarkshire; North Tyneside; Nottingham; Nuneaton and Bedworth; Oldham; Pendle; Preston; Redbridge; Reigate & Banstead; Renfrewshire; Richmond upon Thames; Rochdale; Rossendale; Rotherham; Rushmoor; Salford; Sheffield; Solihull; South Lanarkshire; South Ribble; South Tyneside; Southampton; Southend-on-Sea; St Albans; Stockport; Stoke-on-Trent; Sunderland; Sutton; Tameside; Telford & Wrekin; Thanet; Torbay; Trafford; Warwick; Welwyn Hatfield; Wigan |
D3 | Aberdeen; Adur; Arun; Ashford; Blaby; Bournemouth, Christchurch and Poole; Bromsgrove; Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili; Cambridge; Cannock Chase; Cyngor Caerdydd; Charnwood; Cherwell; Cheshire East; Crawley; Dacorum; Derby; Elmbridge; Erewash; Fenland; Gravesham; Guildford; Halton; Harlow; Harrow; High Peak; Knowsley; Lewes; Lichfield; Maidstone; Mansfield; Mid Sussex; Mole Valley; North Northamptonshire; Oadby and Wigston; Oxford; Peterborough; Redditch; Rochford; Rugby; Runnymede; Sefton; South Kesteven; Spelthorne; Staffordshire Moorlands; Surrey Heath; Swale; Tamworth; Tandridge; Tewkesbury; Three Rivers; Thurrock; Wakefield; Warrington; Watford; Waverley; West Lothian; West Northamptonshire; Windsor and Maidenhead; Woking; Wokingham; Worcester; Worthing; Wyre Forest |
D4 | Aberdeenshire; Angus; Argyll and Bute; Babergh; Bassetlaw; Bedford; Boston; Braintree; Breckland; Broadland; Cyngor Sir Gâr; Central Bedfordshire; Chichester; Clackmannanshire; Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy; East Cambridgeshire; East Lindsey; East Riding of Yorkshire; East Suffolk; Great Yarmouth; Harborough; Herefordshire; Highland; Hinckley and Bosworth; Horsham; Huntingdonshire; King’s Lynn and West Norfolk; Lisburn and Castlereagh; Malvern Hills; Melton; Mid Suffolk; Newark and Sherwood; North Kesteven; North Norfolk; North Warwickshire; Northumberland; Perth and Kinross; Rushcliffe; Rutland; Scottish Borders; Sevenoaks; South Cambridgeshire; South Holland; South Norfolk; South Oxfordshire; South Staffordshire; Stirling; Stratford-on-Avon; Test Valley; Uttlesford; Vale of White Horse; Wealden; West Lindsey; West Suffolk; Wychavon |
D5 | Amber Valley; Ards and North Down; Basingstoke and Deane; Bath and North East Somerset; Bolsover; Brentwood; Buckinghamshire; Cyngor Sir Ceredigion; Chorley; Derbyshire Dales; Dorset; Dover; Durham; East Devon; East Hampshire; East Hertfordshire; East Staffordshire; Epping Forest; Fife; Folkestone and Hythe; Fylde; Gedling; Hart; Isle of Wight; Lancaster; Maldon; Midlothian; New Forest; Newcastle-Under-Lyme; North Ayrshire; North East Derbyshire; North Hertfordshire; Redcar and Cleveland; Rhondda Cynon Taf; Ribble Valley; Rother; Shropshire; Somerset; South Derbyshire; South Hams; Stafford; Stroud; Tendring; Tonbridge and Malling; West Lancashire; Wiltshire; Winchester; Wyre |
D6 | Antrim and Newtownabbey; Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent; Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent; Bristol; Broxbourne; Calderdale; Chelmsford; Cheltenham; Cheshire West and Chester; Colchester; Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy; Darlington; Dudley; Falkirk; Cyngor Sir y Fflint; Hounslow; Hyndburn; Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful; Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful; Cyngor Dinas Casnewydd; North East Lincolnshire; North Somerset; South Ayrshire; South Gloucestershire; St Helens; Stevenage; Stockton-on-Tees; Dinas a Sir Cyngor Abertawe; Swindon; Torfaen; Vale of Glamorgan; Wrexham; York |
D7 | Cornwall; Cotswold; Cumberland; Dumfries and Galloway; East Ayrshire; East Lothian; Forest of Dean; Cyngor Gwynedd; Cyngor Gwynedd; Mid Devon; Mid and East Antrim; Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful; Moray; North Devon; North Lincolnshire; North West Leicestershire; North Yorkshire; Cyngor Dinas Casnewydd; Powys; Teignbridge; Torridge; Tunbridge Wells; West Berkshire; West Devon; West Oxfordshire; Westmorland and Furness |
D8 | Armagh, Banbridge and Craigavon; Causeway Coast and Glens; Derry and Strabane; Fermanagh and Omagh; Mid Ulster; Newry, Mourne and Down |
D9 | City of Edinburgh; City of London; Haringey; Islington; Kensington and Chelsea; Westminster |
D10 | Isles of Scilly; Na h-Eileanan Siar; Orkney Islands; Shetland Islands |
Grwpiau Awdurdodau Lleol Gweddilliol
Grŵp Gweddilliol | Themâu Grwpiau Awdurdodau Lleol | £/tunnell - mae’r adran hon yn cynnwys costau cyfartalog fesul tunnell ar gyfer pob grŵp ar gyfer pob ffrwd wastraff (ar garreg y drws, canolfan ailgylchu gwastraff y cartref, gorbenion ac ati) |
---|---|---|
R1 | awdurdodau lleol gwledig iawn | 79.26 |
R2 | awdurdodau trefol a lled-drefol yn bennaf gydag amddifadedd uchel | 69.18 |
R3 | awdurdodau lleol trefol yn bennaf, gyda llawer o amlder | 114.69 |
R4 | awdurdodau lleol trefol yn bennaf gyda chyfran uchel o fflatiau | 59.50 |
R5 | awdurdodau lleol trefol yn bennaf gyda llawer o dunelli fesul aelwyd | 66.04 |
R6 | awdurdodau lled-wledig yn bennaf gyda chasgliadau bob pythefnos a llai o dunelli fesul aelwyd | 78.92 |
R7 | awdurdodau lled-wledig, yn Lloegr yn bennaf | 68.54 |
R8 | awdurdodau trefol a lled-drefol yn bennaf gyda lefel amddifadedd isel | 82.07 |
R9 | awdurdodau gwledig, Gogledd Iwerddon | 128.96 |
R10 | grŵp gwledig, anhygyrch | 390.10 |
Grŵp Gweddilliol | Awdurdodau Lleol |
---|---|
R1 | Aberdeenshire; Argyll and Bute; Babergh; Breckland; Broadland; Cyngor Sir Ceredigion; Chichester; Clackmannanshire; Cornwall; Cotswold; Derbyshire Dales; Dumfries and Galloway; East Ayrshire; East Cambridgeshire; East Devon; East Lindsey; East Lothian; Forest of Dean; Cyngor Gwynedd; Harborough; Herefordshire; Highland; Horsham; Huntingdonshire; Cyngor Gwynedd; King’s Lynn and West Norfolk; Maldon; Malvern Hills; Mid Devon; Mid Suffolk; Moray; North Devon; North Kesteven; North Norfolk; North Warwickshire; North Yorkshire; Cyngor Dinas Casnewydd; Perth and Kinross; Powys; Ribble Valley; Rother; Rushcliffe; Rutland; Scottish Borders; Shropshire; South Cambridgeshire; South Hams; South Holland; South Norfolk; Stratford-on-Avon; Torridge; Uttlesford; West Devon; West Lindsey; West Oxfordshire; Westmorland and Furness; Winchester; Wychavon |
R2 | Ashfield; Barnsley; Belfast; Birmingham; Blackburn with Darwen; Blackpool; Bolton; Bradford; Burnley; Calderdale; Chesterfield; Coventry; Darlington; Derby; Doncaster; Dudley; Gateshead; Gloucester; Halton; Hartlepool; Hastings; Havant; Hyndburn; Ipswich; Kingston upon Hull; Kirklees; Knowsley; Leeds; Lincoln; Liverpool; Manchester; Mansfield; Medway; Middlesbrough; Newcastle upon Tyne; North East Lincolnshire; North Lanarkshire; Norwich; Nottingham; Nuneaton and Bedworth; Oldham; Pendle; Peterborough; Plymouth; Preston; Redditch; Rochdale; Rossendale; Rotherham; Salford; Sandwell; Sefton; Sheffield; South Tyneside; St Helens; Stoke-on-Trent; Sunderland; Tameside; Tamworth; Telford & Wrekin; Thanet; Wakefield; Walsall; Wigan; Wirral; Wolverhampton |
R3 | Camden; City of Edinburgh; City of London; Islington; Kensington and Chelsea; Southwark; Westminster |
R4 | Aberdeen; Brent; Brighton and Hove; Bristol; Croydon; Dundee; Ealing; Eastbourne; Enfield; Glasgow; Greenwich; Hackney; Hammersmith & Fulham; Haringey; Hounslow; Lambeth; Lewisham; Portsmouth; Renfrewshire; Southampton; Southend-on-Sea; Tower Hamlets; Wandsworth; West Dunbartonshire |
R5 | Barking and Dagenham; Barnet; Basildon; Dartford; East Dunbartonshire; Havering; Leicester; Luton; Newham; Redbridge; Slough; Stockton-on-Tees; Thurrock; Waltham Forest |
R6 | Angus; Antrim and Newtownabbey; Ards and North Down; Bath and North East Somerset; Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent; Buckinghamshire; Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili; Cyngor Caerdydd; Cyngor Sir Gâr; Cheshire West and Chester; Colchester; Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy; Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy; Dorset; East Riding of Yorkshire; Falkirk; Fife; Cyngor Sir y Fflint; Folkestone and Hythe; Guildford; Inverclyde; Isle of Wight; Lisburn and Castlereagh; Maidstone; Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful; Mole Valley; Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful; Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful; Cyngor Dinas Casnewydd; North Ayrshire; Rhondda Cynon Taf; Somerset; South Ayrshire; South Oxfordshire; Staffordshire Moorlands; Stirling; Stroud; Dinas a Sir Cyngor Abertawe; Tandridge; Teignbridge; Tewkesbury; Torfaen; Vale of Glamorgan; Vale of White Horse; Waverley; West Lothian; Wrexham |
R7 | Amber Valley; Ashford; Basingstoke and Deane; Bassetlaw; Bedford; Blaby; Bolsover; Boston; Braintree; Brentwood; Bromsgrove; Central Bedfordshire; Chelmsford; Cherwell; Chorley; Cumberland; Dover; Durham; East Hampshire; East Hertfordshire; East Staffordshire; East Suffolk; Epping Forest; Fenland; Fylde; Gedling; Great Yarmouth; Hart; High Peak; Hinckley and Bosworth; Lancaster; Lichfield; Melton; Mid and East Antrim; Midlothian; New Forest; Newark and Sherwood; Newcastle-Under-Lyme; North East Derbyshire; North Lincolnshire; North Northamptonshire; North West Leicestershire; Northumberland; Redcar and Cleveland; Rugby; Sevenoaks; South Derbyshire; South Kesteven; South Lanarkshire; South Staffordshire; Stafford; Swale; Tendring; Test Valley; Tonbridge and Malling; Tunbridge Wells; Wealden; West Berkshire; West Lancashire; West Northamptonshire; West Suffolk; Wiltshire; Wyre; Wyre Forest |
R8 | Adur; Arun; Bexley; Bournemouth, Christchurch and Poole; Bracknell Forest; Bromley; Broxbourne; Broxtowe; Bury; Cambridge; Cannock Chase; Canterbury; Castle Point; Charnwood; Cheltenham; Cheshire East; Crawley; Dacorum; East Renfrewshire; Eastleigh; Elmbridge; Epsom and Ewell; Erewash; Exeter; Fareham; Gosport; Gravesham; Harlow; Harrow; Hertsmere; Hillingdon; Kingston upon Thames; Lewes; Merton; Mid Sussex; Milton Keynes; North Hertfordshire; North Somerset; North Tyneside; Oadby and Wigston; Oxford; Reading; Reigate & Banstead; Richmond upon Thames; Rochford; Runnymede; Rushmoor; Solihull; South Gloucestershire; South Ribble; Spelthorne; St Albans; Stevenage; Stockport; Surrey Heath; Sutton; Swindon; Three Rivers; Torbay; Trafford; Warrington; Warwick; Watford; Welwyn Hatfield; Windsor and Maidenhead; Woking; Wokingham; Worcester; Worthing; York |
R9 | Armagh, Banbridge and Craigavon; Causeway Coast and Glens; Derry and Strabane; Fermanagh and Omagh; Mid Ulster; Newry, Mourne and Down |
R10 | Isles of Scilly; Na h-Eileanan Siar; Orkney Islands; Shetland Islands |
15. Atodiad C
Aliniad LAPCAP rhwng ffigurau dwysedd swmp WRAP a chategorïau deunyddiau Defra.
Categori Pecynwaith | Is-gategori | Categori WRAP a ddefnyddiwyd | tunnell/m3 |
---|---|---|---|
Alwminiwm | Pecynwaith alwminiwm nad yw’n rhan o Gynllun Dychwelyd Ernes | Caniau a ffoil alwminiwm12 | 0.020 |
Deunyddiau cyfansawdd ffeibr | Pecynwaith deunyddiau cyfansawdd ffeibr nad yw’n rhan o Gynllun Dychwelyd Ernes | Cerdyn a chartonau diodydd13 | 0.035 |
Gwydr | Pecynwaith gwydr - Cynllun Dychwelyd Ernes | Gwydr | 0.3 |
Gwydr | Pecynwaith gwydr nad yw’n rhan o Gynllun Dychwelyd Ernes | Gwydr | 0.3 |
Papur a Cherdyn | Pecynwaith cerdyn nad yw’n rhan o Gynllun Dychwelyd Ernes | Cerdyn | 0.06 |
Papur a Cherdyn | Pecynwaith papur nad yw’n rhan o Gynllun Dychwelyd Ernes | Papur | 0.305 |
Plastig | Ffilm neu becynwaith plastig hyblyg arall nad yw’n rhan o Gynllun Dychwelyd Ernes | Ffilm blastig | 0.02 |
Plastig | Pecynwaith plastig trwchus arall nad yw’n rhan o Gynllun Dychwelyd Ernes | Potiau, tybiau a hambyrddau plastig | 0.025 |
Plastig | Pecynwaith poteli plastig nad yw’n rhan o Gynllun Dychwelyd Ernes | Poteli plastig | 0.023 |
Plastig | Pecynwaith potiau, tybiau a hambyrddau plastig nad yw’n rhan o Gynllun Dychwelyd Ernes | Potiau, tybiau a hambyrddau plastig | 0.025 |
Dur | Pecynwaith dur nad yw’n rhan o Gynllun Dychwelyd Ernes | Caniau dur | 0.086 |
Pren | Pecynwaith pren nad yw’n rhan o Gynllun Dychwelyd Ernes | Gweddilliol | 0.2 |
Arall | Pecynwaith anllosgadwy nad yw’n rhan o Gynllun Dychwelyd Ernes | Gweddilliol | 0.2 |
Arall | Pecynwaith tecstilau nad yw’n rhan o Gynllun Dychwelyd Ernes | Gweddilliol | 0.2 |
Arall | Pecynwaith arall nad yw’n rhan o Gynllun Dychwelyd Ernes | Gweddilliol | 0.2 |
16. Atodiad D - Crynodeb o’r gofynion ar gyfer model safonol yn y rheoliadau
Mae’r tabl canlynol yn crynhoi sut mae’r model yn defnyddio’r ffactorau sydd wedi’u nodi yn Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Pecynwaith a Gwastraff Pecynwaith) 2024 i bennu eich taliad:
| Y ffactorau a ystyriwyd | Y dull modelu yn y flwyddyn gyntaf | | — | — | | 1. Amlder, patrwm a’r math o gasgliadau gwastraff pecynwaith cartrefi yn ardal eich awdurdod | Caiff y ffactorau hyn eu hystyried yn y dull grwpio a ddefnyddir yn y modiwl costau fesul tunnell | | 2. Dwysedd y boblogaeth yn eich ardal berthnasol | A ystyrir yn y modiwl costau fesul tunnell (wedi’i gynnwys wrth grwpio Awdurdodau Lleol ar gyfer taliadau) | | 3. Math a hygyrchedd yr anheddau yn eich ardal berthnasol | A ystyrir yn y modiwl costau fesul tunnell. Taliadau yn seiliedig ar nifer yr eiddo y mae pob Awdurdod Lleol yn gweithredu arnynt: - Casgliadau “safonol” - Casgliadau cymunedol pwrpasol | | 4. Lefelau amddifadedd yn eich ardal berthnasol | A ystyrir yn y modiwl costau fesul tunnell (wedi’i gynnwys wrth grwpio awdurdodau lleol ar gyfer taliadau) | | 5. Polisïau’r Llywodraeth a’r gofynion rheoliadol sy’n effeithio ar reoli gwastraff, y mae eich awdurdod yn ddarostyngedig iddynt | A ystyrir wrth gytuno ar ddull talu ar gyfer amlder, patrwm a math y casgliadau a gyflawnir gan yr awdurdod hwnnw fel rhan o’r modiwl costau fesul tunnell. | | 6. Unrhyw ffactor arall y mae PackUK yn ei ystyried yn berthnasol i’r asesiad | Dyma rai ffactorau eraill sy’n cael eu hystyried:
-
Llwybr gwaredu gwastraff gweddilliol
-
Math o gyfleuster adennill deunyddiau neu grynhoi a ddefnyddir ar gyfer ailgylchu
-
Costau sy’n gysylltiedig â:
-
Trosglwyddo a storio
-
Gweithredu canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref
-
Costau gweinyddol perthnasol
-
Costau cyfathrebu
17. E: Cymysg Amddifadedd Canolig
Nifer yr ALlau | Maint Targed | Gwir Faint | |
---|---|---|---|
Cyfanswm y Sampl Cymysg | 18 | 3 | 2 |
Cyfanswm y Sampl Dwy Ffrwd | 13 | 1 | 1 |
Cyfanswm y Sampl Aml-ffrwd | 8 | 3 | 3 |
Cyfanswm y Sampl Wythnosol | 4 | 1 | 1 |
Cyfanswm y Sampl Bob Pythefnos | 32 | 5 | 4 |
Cyfanswm y Sampl Bob Tair Wythnos | 3 | 1 | 1 |
Cyfanswm yr ALlau mewn Grwpiau sy’n cael eu Samplo | 39 | 7 | 6 |
18. F: Cymysg Amddifadedd Uchel
Nifer yr ALlau | Maint Targed | Gwir Faint | |
---|---|---|---|
Cyfanswm y Sampl Cymysg | 13 | 2 | 1 |
Cyfanswm y Sampl Dwy Ffrwd | 22 | 3 | 3 |
Cyfanswm y Sampl Aml-ffrwd | 10 | 2 | 2 |
Cyfanswm y Sampl Wythnosol | 2 | 1 | 1 |
Cyfanswm y Sampl Bob Pythefnos | 36 | 4 | 4 |
Cyfanswm y Sampl Bob Tair Wythnos | 7 | 2 | 1 |
Cyfanswm yr ALlau mewn Grwpiau sy’n cael eu Samplo | 45 | 7 | 6 |
19. G: Gweledig Amddifadedd Isel
Nifer yr ALlau | Maint Targed | Gwir Faint | |
---|---|---|---|
Cyfanswm y Sampl Cymysg | 25 | 3 | 3 |
Cyfanswm y Sampl Dwy Ffrwd | 10 | 2 | 2 |
Cyfanswm y Sampl Aml-ffrwd | 4 | 1 | 1 |
Cyfanswm y Sampl Wythnosol | 4 | 1 | 1 |
Cyfanswm y Sampl Bob Pythefnos | 35 | 5 | 5 |
Cyfanswm y Sampl Bob Tair Wythnos | 0 | 0 | 0 |
Cyfanswm yr ALlau mewn Grwpiau sy’n cael eu Samplo | 39 | 6 | 6 |
20. H: Gweledig Amddifadedd Canolig
Nifer yr ALlau | Maint Targed | Gwir Faint | |
---|---|---|---|
Cyfanswm y Sampl Cymysg | 20 | 1 | 1 |
Cyfanswm y Sampl Dwy Ffrwd | 14 | 2 | 2 |
Cyfanswm y Sampl Aml-ffrwd | 14 | 3 | 3 |
Cyfanswm y Sampl Wythnosol | 2 | 1 | 1 |
Cyfanswm y Sampl Bob Pythefnos | 43 | 4 | 4 |
Cyfanswm y Sampl Bob Tair Wythnos | 3 | 1 | 1 |
Cyfanswm yr ALlau mewn Grwpiau sy’n cael eu Samplo | 48 | 6 | 6 |
21. I: Gweledig Amddifadedd Uchel
Nifer yr ALlau | Maint Targed | Gwir Faint | |
---|---|---|---|
Cyfanswm y Sampl Cymysg | 16 | 2 | 2 |
Cyfanswm y Sampl Dwy Ffrwd | 5 | 2 | 1 |
Cyfanswm y Sampl Aml-ffrwd | 10 | 2 | 2 |
Cyfanswm y Sampl Wythnosol | 3 | 1 | 0 |
Cyfanswm y Sampl Bob Pythefnos | 24 | 4 | 4 |
Cyfanswm y Sampl Bob Tair Wythnos | 4 | 1 | 1 |
Cyfanswm yr ALlau mewn Grwpiau sy’n cael eu Samplo | 31 | 6 | 5 |
22. J: Gwledig Anhygyrch
Nifer yr ALlau | Maint Targed | Gwir Faint | |
---|---|---|---|
Cyfanswm y Sampl Cymysg | 3 | 1 | 1 |
Cyfanswm y Sampl Dwy Ffrwd | 2 | 0 | 0 |
Cyfanswm y Sampl Aml-ffrwd | 1 | 1 | 1 |
Cyfanswm y Sampl Wythnosol | 1 | 0 | 1 |
Cyfanswm y Sampl Bob Pythefnos | 4 | 2 | 1 |
Cyfanswm y Sampl Bob Tair Wythnos | 1 | 0 | 0 |
Cyfanswm yr ALlau mewn Grwpiau sy’n cael eu Samplo | 6 | 2 | 2 |
23. K: Cyfanswm
- | Cyfanswm ALlau | Maint Targed | Gwir Faint | % o’r Targed a Gyflawnwyd |
---|---|---|---|---|
Cyfanswm y Sampl Cymysg | 172 | 24 | 20 | 83% |
Cyfanswm y Sampl Dwy Ffrwd | 124 | 22 | 16 | 73% |
Cyfanswm y Sampl Aml-ffrwd | 59 | 15 | 14 | 93% |
Cyfanswm y Sampl Wythnosol | 53 | 15 | 12 | 80% |
Cyfanswm y Sampl Bob Pythefnos | 281 | 40 | 32 | 80% |
Cyfanswm y Sampl Bob Tair Wythnos | 21 | 6 | 6 | 100% |
Cyfanswm yr ALlau mewn Grwpiau sy’n cael eu Samplo | 355 | 61 | 50 | 82% |
Rhestr Termau
Safleoedd dod â gwastraff - Mannau casglu i ddeiliaid tai i ddod â deunyddiau glân y gellir eu hailgylchu i’w gwahanu yn y tarddle.
Dwysedd Swmp - Mesur màs sylwedd fesul cyfaint uned, gan gynnwys y bylchau gwag yn y deunydd.
Crynhoi - Mae hyn yn cyfeirio at gludo nifer fawr o nwyddau heb eu pecynnu.
Cyfrifiad 2021 - Data’r cyfrifiad diweddaraf a gafwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae’r data hwn yn caniatáu i ni weld yr holl Awdurdodau Casglu Gwastraff, Unedol, Metropolitanaidd a Bwrdeistrefi Llundain a oedd yn fyw yn 2021, yn ogystal â’u poblogaeth a nifer yr aelwydydd. Nid yw Awdurdodau Gwaredu Gwastraff wedi’u cynnwys yn y rhestr hon. Bydd y cyfrifiad nesaf yn 2031.
Cost Casglu - Y treuliau sy’n codi am godi, cludo a thrin gwastraff a deunyddiau y gellir eu hailgylchu yn y lle cyntaf.
Amlder casglu - Pa mor aml y cesglir gwastraff a deunyddiau y gellir eu hailgylchu o leoliad dynodedig, boed hynny bob wythnos, bob pythefnos, bob mis neu unrhyw gyfnod penodedig arall yn dibynnu ar yr Awdurdod Lleol. Mae’r model LAPCAP yn cyfrifo amlder casglu cyfartaledd pwysedig yr wythnos ar gyfer ailgylchu sych a gwastraff gweddilliol a gesglir ar garreg y drws ar gyfer pob Awdurdod Casglu Gwastraff ac awdurdod Unedol. Byddai amlder casglu o 1 yn golygu bod pob aelwyd a wasanaethir yn cael un casgliad bob wythnos ar gyfer y gwasanaeth hwnnw.
Cynllun casglu - System strwythuredig a luniwyd i gasglu gwastraff gweddilliol ac ailgylchu sych. Mae LAPCAP yn cyfrifo cyfran yr aelwydydd sy’n cael gwasanaeth ailgylchu deunyddiau sych a gesglir drwy gynlluniau casglu cymysg, dwy ffrwd neu aml-ffrwd ar gyfer pob Awdurdod Casglu Gwastraff ac awdurdod unedol. Mae LAPCAP hefyd yn ystyried y deunyddiau sydd wedi’u targedu i’w casglu fel rhan o bob cynllun.
Cymysg - Mae ailgylchu un ffrwd neu gymysg yn system lle mae’r holl ddeunyddiau ailgylchu sych (papur, plastig, metelau ac ati) yn cael eu cymysgu mewn un tryc casglu. Mae’r un ffrwd hon o ddeunydd ailgylchu cymysg sych wedyn yn cael ei didoli a’i gwahanu mewn cyfleuster adennill deunyddiau. Mae’r model LAPCAP yn cyfrifo cyfran yr aelwydydd sydd â’r cynllun casglu hwn ar gyfer pob Awdurdod Casglu Gwastraff ac awdurdod Unedol.
Casgliadau Cymunedol - Unrhyw gasgliadau o Eiddo Cymunedol, hynny yw, blociau o fflatiau, Tai Amlfeddiannaeth.
Eiddo Cymunedol - Unrhyw bwynt casglu a ddefnyddir ar gyfer sawl annedd, er enghraifft fflatiau.
Defra - Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) yn un o adrannau Llywodraeth Ei Fawrhydi sy’n gyfrifol am warchod yr amgylchedd, cynhyrchu bwyd a safonau bwyd, amaethyddiaeth, pysgodfeydd a chymunedau gwledig yn y Deyrnas Unedig.
Amddifadedd - Defnyddir amrywiaeth o fetrigau i sgorio elfennau economaidd-gymdeithasol ardal. Mae gan y pedair gwlad eu mesurau amddifadedd lluosog eu hunain, ond mae’r rhain i gyd yn cael eu cyfrifo ychydig yn wahanol i’w gilydd, ac o Fynegai Amddifadedd Lluosog Lloegr. Rydym wedi defnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog cyfansawdd y DU 2020 mySociety, sy’n creu metrig amddifadedd lluosog cyson ar draws y DU.
Costau Gwaredu - Mae’r costau gwaredu a ysgwyddir gan awdurdod perthnasol ar gyfer rheoli gwastraff pecynwaith cartrefi yn cynnwys amrywiaeth eang o weithgareddau fel casglu, didoli, ailgylchu, storio, trosglwyddo ac allforio gwastraff. Mae’r costau hyn hefyd yn cynnwys gweithrediadau mewn canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref, ymgyrchoedd gwybodaeth i’r cyhoedd, a marchnata deunyddiau y gellir eu hailgylchu. Ar ben hynny, maent yn cynnwys cynnal a chadw a gweithredu seilwaith angenrheidiol fel cerbydau a chynwysyddion. P’un a yw’r prosesau hyn yn cael eu cyflawni gan yr awdurdod ei hun neu’n cael eu rhoi ar gontract allanol i drydydd partïon, mae’r holl gostau staff, gweinyddol a chytundebol cysylltiedig yn cael eu cynnwys yng nghyfanswm y costau gwaredu. Daw’r term ‘costau gwaredu’ o’r rheoliadau ar gyfer Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros becynwaith, ond nid yw ei ystyr wedi’i gyfyngu i weithrediadau gwaredu yn unig.
Gorbenion Gwaredu – Y costau sy’n gysylltiedig â gweinyddu gwasanaethau gwaredu gwastraff (crynhoi, cludo, trin a gwaredu gwastraff cartrefi), gan gynnwys staff sy’n cefnogi gwaredu gwastraff (costau gweinyddol, rheoli a hyfforddi), cyfathrebu, marchnata, ymgynghori allanol, cyllid, TGCh, cyflogres, Adnoddau Dynol, rheoli cyfleusterau a chyfleustodau. Costau awdurdodau lleol yw’r rhain ac nid ydynt yn cynnwys costau ar gyfer canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref a ffioedd clwyd ar gyfer cyfleusterau gwaredu. Mae gorbenion casglu yn cael eu cynnwys mewn costau casglu ac nid ydynt yn cael eu cyfrifo ar wahân.
Gorbenion - Cyfrifir gorbenion ar sail fesul aelwyd (amcangyfrifon ONS ac SNR). Rydym yn cyfrifo un gwerth i bob aelwyd gan ddefnyddio Ceisiadau am Wybodaeth ac yna’n lluosi ag amcangyfrifon yr ONS/SNR i gael cyfanswm gorbenion pob awdurdod lleol. Telir yr un faint i bob awdurdod lleol fesul aelwyd.
DRS - Bydd y Cynllun Dychwelyd Ernes (DRS) ar gyfer cynwysyddion diodydd yn cyflwyno blaendal y gellir ei adhawlio ar gynwysyddion diodydd untro y gall cwsmeriaid ei hawlio’n ôl pan fydd y cynhwysydd gwag yn cael ei ddychwelyd. Bydd y Cynllun hwn yn lleihau sbwriel, yn cynyddu cyfraddau ailgylchu, yn creu deunyddiau eildro o ansawdd uchel i gynhyrchwyr ac yn hyrwyddo economi gylchol. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gyflwyno Cynllun Dychwelyd Ernes yn Lloegr ym mis Hydref 2027. Bydd gwaith yn parhau gyda phartneriaid yn y diwydiant a’r Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA) yng Ngogledd Iwerddon a Llywodraeth yr Alban i lansio cynlluniau yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban. Ym mis Tachwedd 2024, tynnodd Llywodraeth Cymru yn ôl o ddull Cynllun Dychwelyd Ernes y pedair gwlad. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei hamcan ar gyfer Cynllun o’r fath sy’n cyflawni ar gyfer Cymru ac sy’n cefnogi newid i ailddefnyddio pob cynhwysydd diod. Bydd partneriaeth waith agos yn parhau gyda Llywodraeth Cymru wrth iddi wneud penderfyniadau ynghylch Cynllun Dychwelyd Ernes yng Nghymru.
Effeithiolrwydd - [Rhagwelir] gan ddechrau o flwyddyn 2 y cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros becynwaith, y bydd PackUK yn asesu effeithiolrwydd gwasanaeth rheoli gwastraff pob awdurdod lleol. Bydd yr asesiad hwn yn ystyried nifer o ffactorau sydd wedi’u rhestru, fel cyfran y gwastraff pecynwaith (ym mhob ffrwd deunydd pecynwaith ac yn gyffredinol) sy’n cael ei ailgylchu, cyfanswm y gwastraff pecynwaith sy’n cael ei reoli a nodweddion demograffig a daearyddol ardal yr awdurdod.
Effeithlon – fel y diffinnir ar hyn o bryd yn y rheoliadau ar gyfer Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros becynwaith, mae awdurdod yn darparu gwasanaeth rheoli gwastraff effeithlon os yw costau’r gwasanaeth hwn mor isel ag sy’n rhesymol bosibl, gan ystyried:
-
Y gwasanaeth rheoli gwastraff a ddarperir gan yr awdurdod; ac
-
Unrhyw ffactor arall sy’n benodol i’r awdurdod hwnnw, neu i’r maes y mae’n arfer ei swyddogaethau rheoli gwastraff ar ei gyfer, sydd, ym marn PackUK, yn debygol o effeithio ar ei gostau gwaredu
Adran Actiwari’r Llywodraeth - Mae’r Adran hon yn darparu atebion actiwaraidd gan gynnwys gwaith dadansoddi risg, modelu a chynghori i gefnogi sector cyhoeddus y DU. Mae’n un o adrannau Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Ffioedd clwyd - Ffi glwyd (neu ffi tipio) yw’r ffi a godir ar swm penodol o wastraff a dderbynnir mewn cyfleuster prosesu gwastraff.
Yn achos safle tirlenwi, mae’n cael ei godi’n gyffredinol i wrthbwyso’r gost o agor, cynnal a chadw a chau’r safle yn y pen draw. Gall hefyd gynnwys unrhyw dreth tirlenwi sy’n berthnasol yn y rhanbarth.
Gyda chyfleusterau trin gwastraff fel llosgyddion, gweithfeydd ynni o wastraff, cyfleusterau triniaeth fiolegol fecanyddol neu weithfeydd compostio, mae’r ffi’n gwrthbwyso costau gweithredu, costau cynnal a chadw, costau llafur a chostau cyfalaf y cyfleuster ynghyd ag unrhyw elw a chostau gwaredu terfynol unrhyw weddillion na ellir eu defnyddio.
Cludo nwyddau - Y broses o gludo nwyddau
Gwastraff pecynwaith cartrefi - Mae hyn yn cyfeirio at wastraff pecynwaith sy’n cyfrif fel gwastraff cartrefi, ac eithrio categorïau penodol a restrir yn rheoliad 9 o’r rheoliadau ar gyfer Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros becynwaith.
Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref - Cyfleuster lle gall preswylwyr ddod â gwahanol fathau o wastraff cartrefi a deunyddiau y gellir eu hailgylchu nad ydynt fel arfer yn cael eu casglu gan wasanaethau rheolaidd ar garreg y drws.
Casgliadau ar garreg y drws - Casglu gwastraff o eiddo unigol neu eiddo cymunedol.
Tirlenwi - Safle gwaredu gwastraff ar dir neu i mewn i dir.
Model Costau a Pherfformiad Pecynwaith Awdurdodau Lleol (LAPCAP) - Model a ddatblygwyd gan Defra ar ran y pedair gwlad, sydd wedi cael ei ddefnyddio i gyfrifo’r costau effeithlonrwydd net a ysgwyddir gan bob Awdurdod Lleol yn y DU ar gyfer rheoli gwastraff pecynwaith cartrefi.
Cyfleuster deunyddiau/cyfleuster adennill deunyddiau - Llefydd lle caiff gwastraff i’w ailgylchu ei dderbyn, ei grynhoi i’w gludo a/neu ei ddidoli i ffrydiau deunyddiau eilaidd i’w gwerthu.
Aml-ffrwd - Mae hyn yn golygu gwahanu deunyddiau y gellir eu hailgylchu yn sawl categori cyn eu casglu, fel arfer wedi’u didoli mewn biniau neu adrannau penodol ar gerbyd casglu ar gyfer papur, cerdyn, cartonau, plastigau, metelau a gwydr. Mae’n bosibl casglu plastig a metel yn yr un adran. Mae’r model LAPCAP yn cyfrifo cyfran yr aelwydydd sydd â’r cynllun casglu hwn ar gyfer pob Awdurdod Casglu Gwastraff ac awdurdod Unedol.
Costau gwaredu effeithlon net (netio) - Costau gwaredu gwastraff effeithlon awdurdod lleol llai’r incwm o werthu gwastraff pecynwaith cartrefi.
Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros Becynwaith - Dull polisi lle mae cynhyrchwyr yn cael y cyfrifoldeb i dalu awdurdodau lleol am reoli pecynwaith cartrefi. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Pecynwaith a Gwastraff Pecynwaith) 2024.
PackUK - PackUK yw gweinyddwr y cynllun ar gyfer y cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros becynwaith yn y DU.
Menter Cyllid Preifat (PFI) - Contractau sy’n nodi cytundeb hirdymor rhwng y sector preifat a’r sector cyhoeddus i ddarparu seilwaith.
Categorïau pecynwaith - Y term a ddefnyddir yn y rheoliadau ar gyfer Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros becynwaith i ddynodi un o’r wyth deunydd pecynwaith: Alwminiwm, Deunydd cyfansawdd ffeibr, Gwydr, Papur a cherdyn, Plastig, Pren a deunyddiau eraill.
Cyfran y fflatiau - Canran yr unedau tai ym mhob ardal sy’n fflatiau o’i gymharu ag eiddo preswyl arall ar sail cyfrifiad 2021 y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac amcangyfrifon Cofnodion Cenedlaethol yr Alban.
Sicrhau Ansawdd - Gellir diffinio sicrhau ansawdd fel rhan o reoli ansawdd sy’n canolbwyntio ar roi hyder y bydd gofynion ansawdd yn cael eu bodloni. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adnoddau sydd wedi’u cyhoeddi gan y Llywodraeth, gan gynnwys yr Aqua Book.
Credydau ailgylchu - Cyflwynwyd Credydau Ailgylchu yn adran 52 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 fel ffordd o drosglwyddo’r arbedion yn y costau gwaredu a chasglu, sy’n deillio o ailgylchu gwastraff cartrefi, i’r sawl sy’n ailgylchu. Mae Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Taliadau Ailgylchu Gwastraff) 2006 yn rhoi hyblygrwydd i Awdurdodau Gwaredu Gwastraff ac Awdurdodau Casglu Gwastraff i gytuno ar drefniadau amgen.
Rhoi Gwybod am Ddata Pecynwaith - porth digidol y mae sefydliadau sy’n cyflenwi pecynwaith yn ei ddefnyddio i roi gwybod am eu data pecynwaith os yw’n ofynnol gan Gyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros becynwaith.
Ceisiadau am wybodaeth - Templed ffurflen arolwg a ddefnyddir ar gyfer casglu data.
Gwledigrwydd - Dosbarthiad Trefol Gwledig Cyfansawdd y DU. Metrig 3 lefel i ddisgrifio ardaloedd bach amrywiol (Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is/Parthau Data/Ardaloedd Cynnyrch Ehangach) ar raddfa wledig/trefol er mwyn cymharu ar draws y DU. Y metrig yw canran poblogaeth Awdurdodau Lleol sy’n byw mewn ardaloedd bach a ddiffinnir fel “Trefol”, “Gwledig” neu “Fwy Gwledig”. Daw’r metrig hwn o fethodoleg MySociety ac mae’n cael ei gyfrifo gan ddefnyddio dwysedd poblogaeth (a gynhyrchir gan ddefnyddio ffeiliau siâp ar gyfer Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is/Parth Data/Cynnyrch Ehangach ac amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn o’r gwahanol awdurdodau ystadegau ar gyfer 2019) a metrig gwledigrwydd pob gwlad hefyd:
-
Cymru/Lloegr - Dosbarthiad Gwledig/Trefol (RUC) y Swyddfa Ystadegau Gwladol
-
Yr Alban - Dosbarthiad Trefol - Gwledig Llywodraeth yr Alban (SGUR)
-
Gogledd Iwerddon - Amlinellu Aneddiadau (SDL) - Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon (NISRA)
Mae Trefol bob amser yn golygu mwy na 10,000 o bobl yn yr ardal fach. Yn gyffredinol, mae ‘Mwy Gwledig’ yn tracio gwahanol syniadau o aneddiadau o faint ‘pentref’, gan geisio casglu gwybodaeth sy’n ymwneud â natur anghysbell poblogaeth yr awdurdod yn ogystal â’i natur wledig.
Cyd-awdurdodau Gwastraff Statudol - Sefydlwyd o dan Orchymyn Rheoleiddio a Gwaredu Gwastraff (Awdurdodau) 1985. Mae gan y Cyd-bartneriaeth Gwastraff Statudol gyfrifoldebau Awdurdod Gwaredu Gwastraff mewn rhai ardaloedd ac mae gan yr awdurdodau cyfansoddol gyfrifoldebau’r Awdurdod Casglu Gwastraff.
Tunelli a gesglir fesul cartref - Mae LAPCAP yn cyfrifo hyn, i’w defnyddio i benderfynu ar grwpiau casglu gwastraff Awdurdodau Lleol fel y tunelli a gesglir ar garreg y drws fel gwastraff gweddilliol neu ailgylchu sych wedi’u rhannu â nifer yr aelwydydd a wasanaethir.
Trosglwyddo - Symud nwyddau o un dull trafnidiaeth i un arall neu i leoliad gwahanol.
Gorsaf Drosglwyddo - Cyfleusterau lle mae gwastraff yn cael ei gyfuno a’i grynhoi i’w gludo ymlaen. Mae’n bosibl y bydd rhywfaint o ddeunyddiau’n cael eu didoli yn y safleoedd hyn.
Dwy ffrwd – Mae dwy ffrwd yn system ailgylchu lle mae deunyddiau’n cael eu gwahanu’n ddau gategori gwahanol cyn eu casglu. Fel arfer, cânt eu didoli mewn biniau neu adrannau penodol ar gerbyd casglu. Cesglir papur a cherdyn neu wydr ar wahân i weddill y deunydd ailgylchu cymysg sych. Mae’r model LAPCAP yn cyfrifo cyfran yr aelwydydd sydd â’r cynllun casglu hwn ar gyfer pob Awdurdod Casglu Gwastraff ac awdurdod Unedol.
Awdurdodau dwy haen - Yn Lloegr, mae rheoli gwastraff yn cael ei ddarparu gan gymysgedd o awdurdodau unedol, awdurdodau dwy haen sy’n cynnwys siroedd sy’n gweithredu fel Awdurdodau Gwaredu Gwastraff a chynghorau dosbarth/bwrdeistref sy’n gweithredu fel Awdurdodau Casglu Gwastraff a phartneriaethau gwastraff statudol sy’n cynnwys awdurdodau gwaredu gwastraff statudol a’u cynghorau cyfansoddol.
Unedol - Mae awdurdodau unedol yn cyflawni’r holl wasanaethau a swyddogaethau a gyflawnir gan y Cyngor Sir a’r cynghorau dosbarth neu’r cynghorau bwrdeistref gyda’i gilydd. Mae Awdurdodau Unedol yn Awdurdodau Casglu Gwastraff ac yn Awdurdodau Gwaredu Gwastraff.
Rhaglen Weithredu’r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau (WRAP) - Corff Anllywodraethol sy’n gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd, sy’n gweithio ledled y byd i fynd i’r afael ag achosion yr argyfwng hinsawdd a rhoi dyfodol cynaliadwy i’r blaned. Fe’u sefydlwyd yn y DU yn 2000 ac maent bellach yn gweithio mewn dros 40 o wledydd.
Awdurdod Casglu Gwastraff - Corff llywodraeth leol sy’n gyfrifol am gasglu gwastraff cartrefi a deunyddiau y gellir eu hailgylchu gan breswylwyr fel y’u diffinnir yn adran 30 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (fel y’i diwygiwyd).
Waste Data Flow (WDF) - Waste Data Flow yw’r system ar y we i awdurdodau lleol y DU adrodd ar ddata gwastraff trefol i’r llywodraeth.
Awdurdod Gwaredu Gwastraff - Cyngor dosbarth neu ynys sy’n arfer ei swyddogaethau fel awdurdod gwaredu fel y’i diffinnir yn adran 30 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (fel y’i diwygiwyd).
Zero Waste Scotland - Corff cyhoeddus economi gylchol yr Alban, sy’n gweithio gyda’r llywodraeth, busnesau a chymunedau i newid yr economi.