Canllawiau

Atwrneiaeth barhaus: enghraifft ddilys

Detholiad swyddogol o atwrneiaeth barhaus ac esboniad o’r hyn sy’n gwneud y ddogfen yn ddilys.

Applies to England and Wales

Dogfennau

Sampl o atrneiaeth barhaus gorfrestredig

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch customerservices@publicguardian.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Mae’r ddogfen ar y dudalen hon yn enghraifft o atwrneiaeth barhaus gofrestredig, ac at ddibenion cyfeirio yn unig.

Atwrneiaeth barhaus oedd yr offeryn cyfreithiol a ddefnyddiwyd cyn cyflwyno atwrneiaeth arhosol yn 2007 er mwyn rhoi awdurdod i rywun allu gwneud penderfyniadau eiddo ac ariannol ar ran rhywun arall. Gellir dal defnyddio atwrneiaeth barhaus sy’n gyfredol, er na allwch chi wneud un newydd erbyn hyn.

Yn wahanol i atwrneiaeth arhosol, gellir defnyddio atwrneiaeth barhaus heb gofrestru os yw’r ‘rhoddwr’ (y person a wnaeth yr atwrneiaeth barhaus) dal â’r galluedd meddyliol – y gallu i wneud penderfyniadau drostynt eu hunain.

Os yw’r rhoddwr wedi colli galluedd meddyliol, mae’n rhaid i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus neu’r corff blaenorol, gofrestru’r atwrneiaeth barhaus.

Gallwch ddweud os yw atwrneiaeth barhaus wedi’i chofrestru drwy edrych ar dudalen flaen y ddogfen. Bydd stamp tyllog ar y gwaelod yn dweud ‘Validated’ a stamp ar frig y dudalen gyda’r dyddiad cofrestru.

Os nad yw’r atwrneiaeth barhaus wedi’i chofrestru, ni fydd y stampiau hyn arni, ond dylai’r rhoddwr fod wedi ei harwyddo y tu mewn, gydag un neu fwy o ‘atwrneiod’ (y bobl y mae’r rhoddwr yn eu penodi i wneud penderfyniadau) a thystion.

Mae’r enghraifft o atwrneiaeth barhaus sy’n cael ei chynnwys yma wedi’i stampio, ac mae’r stampiau a’r llofnodion yn cael eu nodi’n goch mewn cylchoedd.

Cofiwch edrych drwy’r atwrneiaeth barhaus gyfan. Efallai y bydd manylion oddi mewn yn disgrifio pwerau penodol y mae’n ei rhoi i ‘atwrnai/atwrneiod’ y tu hwnt i’r awdurdod cyffredinol y gall atwrneiaeth barhaus ei darparu. Gall bob atwrneiaeth barhaus hefyd wneud cyfyngiadau ar beth gall atwrnai/atwrneiod eu gwneud neu beidio.

I fod yn ddilys, dylid bod wedi arwyddo’r atwrneiaeth barhaus cyn mis Hydref 2007, pryd cafodd yr atwrneiaeth barhaus ei disodli gan yr atwrneiaeth arhosol. Os llofnodwyd yr atwrneiaeth barhaus ar ôl y dyddiad hwnnw, nid yw’n ddilys.

Os nad yw’r atwrneiaeth barhaus yn ddilys, gall y rhoddwr greu atwrneiaeth arhoso, os oes ganddynt y galluedd meddyliol. Os nad oes gan y rhoddwr alluedd meddyliol, gall yr atwrnai/atwrneiod wneud cais am orchymyn dirprwyaeth i wneud penderfyniadau ar eu rhan.

Gallwch hefyd edrych ar Gofrestr Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i gadarnhau bod gan rywun atwrnai yn gweithredu ar ei ran/rhan.

Gweler y dudalen hon ar weithredu fel atwrnai am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r pŵer y mae atwrneiaeth barhaus yn ei roi i wneud penderfyniadau ar ran rhywun arall.

Mae tudalen ar wahân yn dangos enghreifftiau o atwrneiaeth arhosol a gorchmynion dirprwyaeth.

Cyhoeddwyd ar 30 August 2016
Diweddarwyd ddiwethaf ar 13 January 2017 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.