Canllawiau

Y gwrandawiad: cyfarwyddyd i hawlwyr ac atebwyr (T425)

Diweddarwyd 21 Mai 2025

Mae’r llyfryn hwn yn egluro’r gwahanol fathau o wrandawiadau Tribiwnlys Cyflogaeth, sut i baratoi ar eu cyfer, beth sy’n digwydd ynddynt a beth fydd yn digwydd wedyn.

Os hoffech gael copi o’r llyfryn hwn mewn fformat arall, cysylltwch â’r Swyddfa Tribiwnlys neu Ganolfan Gyswllt Cwsmeriaid:

Cymru a Lloegr: 0300 323 0196 Siaradwyr Cymraeg: 0300 303 5176 Yr Alban: 0300 790 6234

Canllawiau’r Llywyddion

Dan Reolau’r Tribiwnlys Cyflogaeth gall Llywyddion y Tribiwnlysoedd Cyflogaeth yng Nghymru a Lloegr a’r Alban gyhoeddi Canllawiau. Nod y canllawiau hyn yw gwella’r cysondeb o ran y ffordd y mae Tribiwnlysoedd Cyflogaeth yn rheoli achosion a galluogi’r partïon i ddeall yn well yr hyn a ddisgwylir ganddynt a’r hyn i’w ddisgwyl gan y tribiwnlys. Nid ydynt yn orfodol ond dylid eu dilyn lle bo hynny’n bosib.

Gweler ganllawiau’r ddau lywydd yng Nghymru a Lloegr a chanllawiau llywydd yr Alban.

Y gwrandawiad

Bydd dyddiad, amser a lleoliad y gwrandawiad, ac amcan o’r hyd a gymerir ar y llythyr a anfonasom atoch. Cysylltwch â swyddfa’r tribiwnlys os nad ydych yn siŵr ble a phryd caiff y gwrandawiad ei gynnal. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd canolfan y gwrandawiad o leiaf 30 munud cyn mae’r gwrandawiad i fod i ddechrau, gan ganiatáu ar gyfer unrhyw oedi posibl wrth deithio.

A fydd fy achos yn cael ei glywed ar y dyddiad a roddwyd?

Byddwn yn ceisio ymdrin â’ch achos cyn gynted ag y bo modd ond gall oedi ddigwydd, er enghraifft, gan fod yr achos sydd cyn eich un chi’n cymryd mwy o amser na’r disgwyl. Rydym yn ceisio ymdrin â chynifer o achosion ag sy’n bosibl yn ystod pob diwrnod. Gall hyn olygu bod rhai achosion ‘heb eu neilltuo’ ac y byddant yn dechrau cyn gynted ag y bydd tribiwnlys ar gael. Os bydd yn dod yn amlwg na all tribiwnlys wrando eich achos y diwrnod hwnnw, byddwn yn dweud wrthych cyn gynted ag y bo modd.

A allaf ofyn am gael gohirio’r gwrandawiad?

Rhaid i chi wneud cais am ohiriad yn ysgrifenedig cyn gynted ag y bo modd gan roi rhesymau llawn dros eich cais. Dylech hefyd anfon copi o’ch cais at yr hawlydd er mwyn iddo fod yn ymwybodol ohono a dweud wrthynt gysylltu a ni cyn gynted â phosib os ydynt yn gwrthwynebu.

Bydd Barnwr Cyflogaeth yn penderfynu a yw er budd cyfiawnder caniatáu gohiriad ac efallai y bydd arno eisiau clywed safbwyntiau’r ochr arall cyn gwneud penderfyniad. Ni ddylech dybio bod eich cais wedi ei ganiatáu. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os yw wedi ei ganiatáu.

Os byddwch chi neu’r ochr arall (neu rywun arall sy’n gweithredu ar eich rhan chi neu’r ochr arall) yn methu ag ymddangos mewn gwrandawiad, caiff y tribiwnlys benderfynu’r achos yn eich absenoldeb chi neu hwy.

Beth ddylwn i ei wneud os bydd fy achos yn cael ei ddatrys neu os wyf am dynnu fy hawliad yn ôl?

Dylech roi gwybod i ni ar unwaith os bydd eich achos yn cael ei ddatrys cyn y gwrandawiad. Bydd y swyddog cymodi’n rhoi gwybod i ni os bydd eich achos yn cael ei setlo drwy Acas. Os chi yw’r hawlydd rhaid i chi roi gwybod i ni yn ysgrifenedig os byddwch yn penderfynu tynnu eich hawliad cyfan neu ran ohono yn ôl. Rhaid i chi hefyd ddweud wrth yr atebydd eich bod yn tynnu eich hawliad yn ôl. Rhaid i chi wneud hyn cyn gynted ag y bo modd. Os byddwch yn tynnu’ch hawliad yn ôl, bydd yn cael ei wrthod yn awtomatig ac eithrio mewn amgylchiadau prin iawn lle byddwch yn gofyn iddo beidio â chael ei wrthod neu os bydd y Tribiwnlys yn teimlo na fyddai gwrthod er budd cyfiawnder. Os dilëir yr hawliad, ni fyddwch yn gallu gwneud hawliad arall yn erbyn yr atebydd sy’n ymwneud â’r un cwyn.

Os bydd eich hawliad yn setlo drwy ACAS, bydd yr hawliad yn cael ei dynnu oddi ar y rhestr ar gyfer gwrandawiad (os rhestrwyd yr achos ar gyfer gwrandawiad), a bydd ffeil yr achos yn cael ei ddinistrio yn unol â’n polisi dinistrio 12 mis o ddyddiad y setliad.

Beth yw’r gwahanol fathau o wrandawiadau?

Gwrandawiadau rhagarweiniol – gellir cynnal y rhain i reoli’r achos gan gynnwys:

  • egluro’r materion yn yr achos
  • penderfynu pa orchmynion ddylai gael eu gwneud ynglŷn â materion fel dogfennau a thystion
  • penderfynu ynglŷn â dyddiad, amser a hyd y gwrandawiad llawn.

neu eu cynnal i

  • benderfynu a ddylai’r hawliad yn llawn neu’n rhannol neu’r ymateb gael ei ddileu
  • penderfynu ynglŷn â chwestiynau hawl i ddwyn hawliad neu i’w amddiffyn
  • penderfynu, os bydd achos y naill ochr neu’r llall yn ymddangos yn wan, a oes angen talu blaendal, ac os oes, faint, cyn y gall yr ochr honno fynd yn ei blaen

Bydd y llythyr sy’n rhoi dyddiad y gwrandawiad yn nodi’r materion y bydd angen penderfynu arnynt yn y gwrandawiad rhagarweiniol, a fydd y gwrandawiad cyfan neu ran ohono’n cael ei gynnal yn breifat, ac a fydd y gwrandawiad yn cael ei gynnal dros y ffôn, drwy gyswllt fideo neu gyda’r partïon yn bresennol.

Os yw’r gwrandawiad rhagarweiniol yn cael ei gynnal i benderfynu a ddylai’r ymateb neu’r hawliad cyfan, neu ran ohono, gael ei ddileu, neu i benderfynu ar gwestiynau’n ymwneud â hawl i ddod a hawliad neu i amddiffyn hawliad, neu a oes angen i barti dalu blaendal, efallai y bydd yn rhaid rhoi tystiolaeth mewn gwrandawiad o’r fath. Bydd angen i chi benderfynu pa dystion (os o gwbl) a thystiolaeth i ddod gyda chi, gan gofio’r materion penodol y bydd y tribiwnlys yn eu hystyried bryd hyn.

Y gwrandawiad terfynol

Dyma’r gwrandawiad sy’n:

  • penderfynu a fydd yr hawliad yn llwyddiannus neu’n aflwyddiannus ac, os bydd yn llwyddiannus
  • pa ateb sy’n briodol er mwyn gwneud iawn.

Yn dibynnu ar natur yr hawliad, efallai y bydd y gwrandawiad yn cael ei gynnal gan dribiwnlys llawn sy’n cynnwys Barnwr Cyflogaeth a dau aelod lleyg neu gan Farnwr Cyflogaeth yn eistedd ar ei ben ei hun. Gweler yr adran ‘Beth fydd yn digwydd yn y gwrandawiad?’ yn nes ymlaen yn y llyfryn hwn am fanylion llawn am y weithdrefn yn y gwrandawiad.

Cynrychiolaeth yn y gwrandawiad

Hyd yn oed os ydych wedi cynrychioli eich hun neu eich sefydliad eich hun tan ddyddiad y gwrandawiad, mae’n bosibl y gellir trefnu cynrychiolaeth yn y gwrandawiad ei hun.

Gallwch gysylltu ag un o’r ffynonellau isod i gael cymorth, ond rhaid i chi wneud hyn mewn da bryd:

  • Os ydych yn aelod, gallwch gysylltu â’ch undeb neu sefydliad cyflogwyr
  • Gallwch gysylltu â gwasanaethau cyngor di-dâl fel canolfannau cyngor ar bopeth neu ganolfan y gyfraith
  • Gallwch gysylltu â chyfreithwyr neu gynghorwyr proffesiynol eraill. Efallai y gallwch gael Cymorth Cyfreithiol yn yr Alban

Paratoi ar gyfer gwrandawiad

Gall fod yn ddefnyddiol gwylio gwrandawiad mewn tribiwnlys er mwyn i chi ddeall y drefn a beth sy’n digwydd. Gallwch wneud hyn drwy gysylltu ag unrhyw swyddfa tribiwnlys a gofyn a oes gwrandawiad addas i chi ei arsylwi. Ceir manylion cyswllt y swyddfa leol ar dudalen gefn y cyhoeddiad hwn.

Pa ddogfennau fydd angen i mi eu cael ar gyfer y gwrandawiad?

Mae’n bosibl y byddwch wedi cael gorchymyn gan y tribiwnlys i ddatgelu eich dogfennau i’r ochr arall.

Ond hyd yn oed os nad ydych, rhaid i chi wneud yn siŵr bod yr ochr arall yn cael hysbysiad rhesymol (o leiaf saith niwrnod) ynglŷn ag unrhyw ddogfennau y bwriadwch eu defnyddio yn y gwrandawiad i gefnogi eich achos.

Os ydych yn dibynnu ar unrhyw ddogfennau, yn ychwanegol at eich copi eich hun ohonynt, dylech ddod a thri chopi i’r gwrandawiad os yw’n cael ei gynnal gerbron Barnwr Cyflogaeth ar ei ben ei hun, a phump os yw gerbron tribiwnlys llawn.

A allaf ddod â thystion i’r gwrandawiad?

Gallwch ddod â thystion i’r gwrandawiad i roi tystiolaeth berthnasol. Hyd yn oed os nad oes neb wedi dweud wrthych am wneud hynny, mae’n werth gadael i’r tribiwnlys wybod ymlaen llaw faint o dystion y bwriadwch ddod gyda chi. Mae’n bosibl bod y tribiwnlys wedi eich gorchymyn i lunio datganiad ysgrifenedig o’ch tystiolaeth eich hun ac o dystiolaeth eich tystion. Hyd yn oed os nad yw, mae’n bosibl y byddech yn hoffi gwneud hynny. Fodd bynnag, yn yr Alban, ni ddylech wneud hynny oni bai bod y tribiwnlys wedi gorchymyn i chi wneud.

Mae’n bwysig iawn fod eich tystion yn mynychu’r gwrandawiad i roi tystiolaeth gan mai ychydig iawn o bwys y bydd y Tribiwnlys yn ei roi ar ddatganiad tyst os nad yw’n bresennol. Eich cyfrifoldeb chi yw gwneud yn siŵr bod eich tystion yn dod i’r gwrandawiad.

A all y tribiwnlys orchymyn tyst i ddod i’r gwrandawiad?

Gallwch ofyn i’r tribiwnlys gyhoeddi gorchymyn tyst a fydd yn gwysio rhywun rydych yn dymuno ei gael yn y gwrandawiad, hyd yn oed os nad yw ef neu hi yn dymuno bod yno, gyhyd â bod y dystiolaeth y bydd yn ei rhoi yn berthnasol i’ch achos. Rhaid i chi wneud cais ysgrifenedig mewn da bryd cyn y gwrandawiad.

Os byddwch yn gwneud hynny bydd angen i chi ddweud wrth y tribiwnlys:

  • beth yw enw a chyfeiriad y tyst

  • beth fydd y tyst yn ei ddweud a sut y bydd yn helpu eich achos
  • pam nad yw’r tyst yn barod i ddod i’r gwrandawiad o’i wirfodd.

Beth sydd angen i mi ei wneud ynglŷn ag iawndal a gwneud iawn?

Os chi yw’r hawlydd

Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth i ddangos bod genych hawl i’r swm rydych yn ei hawlio. Mewn achos diswyddo annheg neu hawliad neu gwahaniaethu sy’n cynnwys colli gwaith, rhaid i chi allu dangos pa gamau rydych wedi’u cymryd i ddod o hyd i swydd newydd. Os na fyddwch yn darparu’r wybodaeth hon, gallech nid yn unig adennill llai nag y byddai gennych hawl iddo fel arall, ond, os oes angen gwrandawiad pellach o ganlyniad i’ch methiant, gallai gorchymyn am gostau gael ei wneud yn eich erbyn.

Os chi yw’r atebydd

Dylech gyflwyno unrhyw dystiolaeth a chyflwyniadau sy’n ymwneud â’r hyn y mae’r hawlydd yn ei geisio os bydd ei hawliad yn llwyddiannus.

Os bydd yr hawlydd yn llwyddo mewn cwyn yn ymwneud â diswyddo annheg (neu fethu â chaniatáu i ferch ddychwelyd i’w gwaith yn dilyn beichiogrwydd) gall y tribiwnlys ystyried gorchymyn ailbenodi neu ailgyflogi. O ganlyniad, dylech fod yn barod i roi tystiolaeth yn y gwrandawiad ynglŷn â’r canlynol:

  • argaeledd y swydd yr oedd yr hawlydd yn ei dal neu swyddi tebyg
  • a fyddech yn cymryd yr hawlydd yn ôl, yn yr hen swydd neu mewn un debyg;
  • eich rhesymau os ydych yn dweud na fyddai’n ymarferol neu’n bosibl ailbenodi’r hawlydd.

Os yw’r hawlydd wedi nodi ymlaen llaw mae ei nod yw cael ei ailgyflogi neu ei ailbenodi a chithau heb yr wybodaeth yn y gwrandawiad, a’r achos yn gorfod cael ei gohirio oherwydd hynny, mae’n debyg y bydd yn rhaid ichi dalu’r costau sy’n gysylltiedig â gohirio’r achos.

Dylech hefyd fod yn barod i roi tystiolaeth yn y gwrandawiad ynglŷn â beth y byddech yn ei ystyried yn iawndal priodol a sut rydych yn gwneud yr asesiad hwnnw.

Os oedd yr hawlydd yn aelod o gynllun pensiwn, rhaid i chi ddod â’r wybodaeth a ganlyn i’r tribiwnlys.

  • A oedd y cynllun yn gynllun cyfraniadau wedi’u diffinio neu’n gynllun cyflog terfynol
  • Os yw’n gynllun cyflog terfynol, beth yw gwerth y pensiwn gohiriedig
  • Yr oed ymddeol dan y cynllun
  • Swm cyfraniad y cyflogwr i’r cynllun.

Os na fyddwch yn rhoi’r wybodaeth ofynnol i’r tribiwnlys, efallai y bydd angen gwrandawiad arall a gallai olygu bod gorchymyn am gostau’n cael ei wneud yn eich erbyn.

Diogelwch yn ein hadeiladau

Gofynnir i chi gerdded trwy fwa ddiogelwch neu gael eich sganio gan synhwyrydd llaw cyn dod i mewn i’n adeilad. Dywedwch wrth y staff diogelwch os oes gennych unrhyw fewnblaniadau meddygol (megis rheolydd calon) y gallent gael eu heffeithio neu eu synhwyro gan y sganiwr.

Yn ogystal, gofynnir i chi ganiatáu i swyddogion gynnal chwiliad gweledol o gynnwys unrhyw fagiau, ac efallai bydd eitemau gwaharddedig yn cael eu cymryd oddi wrthych.

Bydd unrhyw arfau ymosodol a fydd yn cael eu darganfod yn ystod gweithdrefnau chwilio yn cael eu hatafaelu a chewch eich riportio i’r heddlu.

Os byddwch yn gwrthod chwiliad, efallai y byddwch yn cael eich hebrwng allan neu’n cael eich gwahardd o’r adeilad.

Beth fydd yn digwydd yn y gwrandawiad?

Pan fyddwch yn cyrraedd y tribiwnlys dylech fynd i’r dderbynfa. Cyn y gwrandawiad bydd clerc tribiwnlys yn trafod nifer y tystion sydd gennych ac yn casglu unrhyw ddogfennau y gallech fod wedi dod â hwy gyda chi i’r tribiwnlys.

Dylech ddweud wrth y clerc os oes gennych chi neu unrhyw un o’ch tystion unrhyw anghenion arbennig neu bryderon. Bydd y Barnwr Cyflogaeth yn gwneud yn siŵr eich bod yn cymryd y camau a ddisgrifir isod mewn ffordd gymedrol a chall. Fodd bynnag, efallai y bydd yn rhaid iddo fod yn gadarn o ran symud yr achos ymlaen i sicrhau ei fod yn mynd rhagddo mewn modd a fydd yn golygu y gellir delio ag ef yn y cyfnod a glustnodwyd. O dan reolau’r tribiwnlys, mae gan y tribiwnlys y pŵer i amserlennu’r achos er mwyn iddo gael sylw o fewn terfyn amser penodol. Os bydd y cam hwn yn cael ei ystyried, bydd yn cael ei drafod gyda chi. Fel arfer, mewn achos o ddiswyddo annheg, bydd yr atebydd yn rhoi tystiolaeth yn gyntaf ac yn galw unrhyw dystion, ac mewn achos gwahaniaethu yr hawlydd fydd yr un cyntaf i roi tystiolaeth fel arfer, yn cael ei ddilyn gan unrhyw dystion. Fodd bynnag, does dim rheol bendant ynghylch pa ochr sy’n dechrau a thrafodir hyn gyda chi cyn i’r gwrandawiad ddechrau.

Bydd yn rhaid i chi a’ch tystion roi tystiolaeth ar lw neu drwy gadarnhau. Os byddwch yn dweud celwydd ar ôl tyngu llw neu gadarnhau, gellid eich cael yn euog o anudoniaeth (perjury). Yng Nghymru a Lloegr, os yw’r partïon wedi cael gorchymyn i gyfnewid datganiadau tystion, bydd y rhain yn sefyll fel tystiolaeth y tyst ac, yn y rhan fwyaf o achosion, ni fyddant yn cael eu darllen yn uchel yn y Tribiwnlys. Yn yr Alban, nid yw datganiadau tystion yn cael eu defnyddio fel arfer ond, mewn rhai achosion, byddan yn cael eu defnyddio os bydd barnwr yn gorchymyn hynny. Yna gofynnir cwestiynau i chi neu eich tystion gan yr ochr arall (‘croesholi’ yw’r enw ar hyn). Gallwch chi neu eich tystion roi rhagor o dystiolaeth wedyn i egluro materion a gododd pan oedd yr ochr arall yn gofyn cwestiynau (‘ailholiad’). Yn olaf, gall y Barnwr Cyflogaeth ac aelodau hefyd ofyn cwestiynau y gall y ddau barti eu hateb.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Pryd bynnag y bydd hynny’n bosibl, byddwch chi neu eich cynrychiolydd yn cael copi o ddyfarniad y tribiwnlys ar ddiwrnod y gwrandawiad. Os nad yw hyn yn bosibl, anfonir copi o’r dyfarniad ysgrifenedig atoch chi neu eich cynrychiolydd cyn gynted ag y bo modd ar ôl y gwrandawiad. Rhaid i chi gadw at ddyfarniad y Tribiwnlys Cyflogaeth gan ei fod yn eich rhwymo’n gyfreithiol. Bydd rhesymau ysgrifenedig dros y dyfarniad hefyd yn cael eu rhoi os byddwch yn gofyn amdanynt yn y gwrandawiad neu’n cyflwyno cais ysgrifenedig cyn pen 14 diwrnod o ddyddiad anfon y dyfarniad atoch chi.

Cyhoeddi Dyfarniadau Tribiwnlysoedd Cyflogaeth

Mae Rheoliad 14(1) Rheoliadau’r Tribiwnlysoedd Cyflogaeth (Cyfansoddiad a Rheolau Trefniadaeth) (S.I. 2013/1237) (y Rheoliadau) yn mynnu bod yr Arglwydd Ganghellor yn cadw cofrestr o’r holl ddyfarniadau (yn cynnwys rhesymau ysgrifenedig) a gyhoeddir gan Dribiwnlysoedd Cyflogaeth. Mae cynnwys y gofrestr ar gael yn agored i’r cyhoedd ei archwilio.

Rhaid cyhoeddi’r mwyafrif llethol o ddyfarniadau a roir i bartïon ar y gofrestr y gellir ei gweld ar-lein yma: https://www.gov.uk/employment-tribunal-decisions.

Eglurir Rheolau Trefniadaeth y Tribiwnlysoedd Cyflogaeth (y Rheolau) yn Atodlen 1 y Rheoliadau. Mae gan Dribiwnlys Cyflogaeth rym, o dan Reol 50 i wneud gorchymyn gyda golwg ar rwystro neu gyfyngu ar ddadlennu unrhyw agwedd ar achos mewn tribiwnlys i’r cyhoedd ond ni all wneud y cyfryw orchymyn oni byddir yn cwrdd ag un neu ragor o amodau llym iawn. (Dyry Rheol 50 ragor o fanylion am yr amodau hyn.)

O dan Reol 50 gall Tribiwnlys Cyflogaeth wneud gorchymyn sy’n gosod cyfyngiadau ar yr hyn y gellir ei gyhoeddi yn y gofrestr. Gall hyn gynnwys gorchymyn sy’n atal datgelu enw un neu ragor o unigolion y cyfeirir atynt yn y dyfarniad, er enghraifft. Dylai unrhyw un sy’n dymuno gwneud cais am orchymyn o dan Reol 50 wneud hynny cyn gynted ag y gellir yn yr achos tribiwnlys. Gellir gwneud unrhyw gais o’r math hwn yn ysgrifenedig neu mewn unrhyw wrandawiad.

A allaf hawlio treuliau?

Nid yw Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF, lle gwnaethpwyd yr hawliad ar neu ar ôl 6 Ebrill 2012, yn talu treuliau na lwfansau partïon, tystion a chynrychiolwyr gwirfoddol sy’n mynychu unrhyw fath o wrandawiad tribiwnlys cyflogaeth (heblaw lle mae’r unigolyn sy’n mynychu wedi cael ei alw gan y tribiwnlys i roi tystiolaeth feddygol).

Os gwnaethpwyd yr hawliad ar 5 Ebrill 2012, neu cyn hynny, mae taflen sy’n sôn am y treuliau a’r lwfansau sy’n daladwy i bartïon a thystion sy’n mynychu Tribiwnlys Cyflogaeth ar gael yn http://hmctsformfinder.justice.gov.uk.

Anabledd neu anghenion arbennig

Os oes gennych chi, neu unrhyw un sy’n dod i dribiwnlys gyda chi, anabledd neu angen penodol, dylech gysylltu â’r swyddfa tribiwnlys sy’n ymdrin â’ch achos i drafod y mater. Mae enghreifftiau o’r help y gallwn ei ddarparu yn cynnwys trosglwyddo dogfennau i Braille neu brint mwy a thalu am ddehonglwyr iaith arwyddion. Gallwn hefyd ddarparu dolenni sain ar gyfer teclynnau clywed yn yr ystafell lle cynhelir y gwrandawiad os byddwch eu hangen. Cysylltwch â ni cyn gynted ag sy’n bosibl er mwyn i ni allu gwneud trefniadau priodol neu addas.

Swyddfeydd tribiwnlysoedd cyflogaeth

Aberdeen

Ground floor, AB1
48 Huntly Street
Aberdeen
AB10 1SH

Ffôn. 01224 593 137
E-bost: aberdeenet@justice.gov.uk

Bryste

Bristol Civil and Family Justice Centre
2 Redcliff Street
Bryste
BS1 6GR

Ffôn: 0117 929 8261
E-bost: bristolet@justice.gov.uk

Dundee

Ground Floor
Endeavour House
Greenmarket
Dundee
DD1 4BZ

Ffôn: 01382 221578
E-bost: dundeeet@justice.gov.uk

Dwyrain Llundain

2nd Floor, Import Building
2 Clove Crescent
London
E14 2BE

Ffôn: 020 7538 6161
E-bost: eastlondon@justice.gov.uk

Caeredin

54-56 Melville Street
Caeredin
EH3 7HF

Ffôn: 0131 226 5584
E-bost: edinburghet@justice.gov.uk

Glasgow

The Glasgow Tribunals Centre
20 York Street
Glasgow
G2 8GT

Ffôn: 0141 204 0730
E-bost: glasgowet@justice.gov.uk

Leeds

West Gate
6 Grace Street
Leeds
LS1 2RP

Ffôn: 0113 245 9741
E-bost: leedset@justice.gov.uk

Canol Llundain

Victory House
30-34 Kingsway
Llundain
WC2B 6EX

Ffôn: 020 7273 8603
E-bost: londoncentralet@justice.gov.uk

De Llundain

Montague Court
101 London Road
West Croydon
CR0 2RF

Ffôn: 020 8667 9131
E-bost: londonsouthet@justice.gov.uk

Manceinion

Alexandra House
14-22 The Parsonage
Manceinion
M3 2JA

Ffôn: 0161 833 6100
E-bost: manchesteret@justice.gov.uk

Canolbarth Lloegr (Dwyrain)

Nottingham Justice Centre
Carrington Street
Nottingham
NG2 1EE

Ffôn: 0115 947 5701
E-bost: midlandseastet@justice.gov.uk

Canolbarth Lloegr (Gorllewin)

Centre City Tower
7 Hill Street
Birmingham
B5 4UU

Ffôn: 0121 600 7780
E-bost: midlandswestet@justice.gov.uk

Newcastle

Newcastle Civil Family Courts and Tribunal Centre
Barras Bridge
Newcastle Upon Tyne
NE1 8QF

Ffôn: 0191 2058750
E-bost: newcastleet@justice.gov.uk

Cymru

Llys Ynadon Caerdydd a’r Fro
Plas Fitzalan
Caerdydd
De Cymru
CF24 0RZ

Ffôn: 029 2067 8100
E-bost: waleset@justice.gov.uk

Watford

3rd Floor
Radius House
51 Clarendon Rd
Watford
WD17 1HP

Ffôn: 01923 281 750
E-bost: watfordet@justice.gov.uk

Mae ein swyddfeydd ar agor o 9.00 y bore tan 5.00 yr hwyr, o ddydd Llun i ddydd Gwener.