Y gwrandawiad: canllawiau i hawlwyr (T424)
Diweddarwyd 21 Mai 2025
Mae’r canllawiau hyn wedi eu hysgrifennu’n benodol ar gyfer hawliadau fel eich un chi, ac yn egluro beth sy’n digwydd mewn gwrandawiad yn y Tribiwnlys Cyflogaeth, a sut i baratoi ato a beth all ddigwydd wedi hynny. Cysylltwch â swyddfa tribiwnlys neu’r Ganolfan Gyswllt Cwsmeriaid os hoffech gael copi o’r cyhoeddiad hwn mewn fformat gwahanol:
Cymru a Lloegr: 0300 323 0196 Siaradwyr Cymraeg: 0300 303 5176 Yr Alban: 0300 790 6234
Canllawiau’r Llywyddion
Dan Reolau’r Tribiwnlys Cyflogaeth gall Llywyddion y Tribiwnlysoedd Cyflogaeth yng Nghymru a Lloegr a’r Alban gyhoeddi Canllawiau. Nod y canllawiau hyn yw gwella’r cysondeb o ran y ffordd y mae Tribiwnlysoedd Cyflogaeth yn rheoli achosion a galluogi’r partïon i ddeall yn well yr hyn a ddisgwylir ganddynt a’r hyn i’w ddisgwyl gan y tribiwnlys. Nid ydynt yn orfodol ond dylid eu dilyn lle bo hynny’n bosib.
Gweler ganllawiau’r ddau lywydd yng Nghymru a Lloegr a chanllawiau llywydd yr Alban.
Crynodeb o’r broses hawlio
1. Datrys anghydfod
1. Anghydfod yn codi.
2. Ceisio datrys y mater yn anffurfiol gyda’r cyflogwr.
3. Cymodi cynnar gydag Acas (y gwasanaeth cynghori, cymodi a chyflafareddu).
2. Cyflwyno hawliad i’r tribiwnlys
Amcangyfrif amser: 5 diwrnod
1. Anfon hawliad i dribiwnlys.
2. Derbyn yr hawliad (neu dim ei dderbyn a’i ddychwelyd) a’i anfon at yr atebydd.
3. Ymateb yr atebydd
Mae gan yr atebydd 28 diwrnod i ymateb.
4. Rheoli achos
Amcangyfrif amser: 26 wythnos
1. Os na wnaeth yr atebydd ymateb i’r hawliad, bydd dyfarniad yn cael ei gyhoeddi.
2. Os cafwyd ymateb, gall y ddau barti wneud ceisiadau o fewn yr achos.
3.Cynhelir gwrandawiad.
5. Dyfarniad
Cyhoeddir dyfarniad o fewn 4 wythnos ar ôl y gwrandawiad terfynol.
Mae dyfarniadau a gyflwynir ar bartïon ers mis Chwefror 2017 ymlaen yn cael eu cyhoeddi ar y gofrestr gyhoeddus ar-lein.
Beth mae’r tribiwnlys yn ei wneud unwaith mae wedi derbyn fy hawliad?
Rydym wedi derbyn eich hawliad ac wedi rhoi rhif achos iddo, a dylech ddyfynnu’r rhif hwn pan fyddwch yn cysylltu â swyddfa’r tribiwnlys drwy ffonio neu drwy ysgrifennu atynt.
Rydym hefyd wedi anfon copi o’ch hawliad at yr atebydd (neu atebwyr os ydych yn hawlio yn erbyn mwy nag un), ynghyd â ffurflen ymateb y mae’n rhaid iddynt roi gwybodaeth benodol arni, a dweud os ydynt yn anghytuno â’ch (gwrthod eich) hawliad, a pham.
Faint o amser sydd gan yr atebydd i ymateb i fy hawliad?
Mae’n rhaid i’r atebydd lenwi a dychwelyd y ffurflen ymateb o fewn 28 diwrnod i’r dyddiad yr anfonasom gopi o’ch hawliad atynt, neu’n hirach, os yw’r tribiwnlys yn rhoi estyniad amser iddynt. Os nad yw’r atebydd yn ateb o fewn y terfyn amser neu’n methu â rhoi’r wybodaeth angenrheidiol, ni fydd eu hymateb yn cael ei dderbyn ac mae’n debygol y bydd yr hawliad yn cael ei drin fel un lle nad oes amddiffyniad wedi’i gyflwyno.
Dan yr amgylchiadau hynny, gall Farnwr Tribiwnlys wneud penderfyniad ynghylch yr achos heb fod angen gwrandawiad, ond weithiau mae’n bosib y bydd angen gwrandawiad i benderfynu ynghylch iawndal.
Rôl Acas
Yn y rhan fwyaf o achosion byddwn yn anfon copi o’ch ffurflen hawlio a ffurflen ymateb yr atebydd at Acas (y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu), sefydliad annibynnol a diduedd. Bydd cymodwr Acas yn cysylltu â chi i geisio eich helpu i ddod i setliad heb yr angen i fynd i dribiwnlys. Mae’r cam hwn yn ofynnol yn ôl y gyfraith, er eich bod eisoes wedi bod drwy gymodi cynnar. Ni chodir tâl am y gwasanaeth hwn, ac mae pob trafodaeth ag Acas yn gyfrinachol.
Y gwrandawiad
Bydd dyddiad, amser a lleoliad y gwrandawiad, ac amcan o hyd y gwrandawiad wedi’u nodi ar y rhybudd o wrandawiad a gyhoeddir gan y swyddfa leol. Cysylltwch â swyddfa’r tribiwnlys os nad ydych yn siŵr ble a phryd caiff y gwrandawiad ei gynnal. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd y ganolfan wrandawiadau o leiaf 30 munud cyn mae’r gwrandawiad i fod i ddechrau, gan ganiatáu ar gyfer unrhyw oedi posibl wrth deithio. Ar ôl i chi gyrraedd efallai y bydd yn rhaid i chi aros nes i’r tribiwnlys gwblhau gwrandawiadau eraill.
A allaf ofyn am gael gohirio’r gwrandawiad?
Os oes gennych reswm da dros ofyn i gael gohirio eich gwrandawiad, mae’n rhaid i chi wneud eich cais yn ysgrifenedig mor fuan â phosib, gan roi rhesymau llawn am eich cais. Dylech hefyd anfon copi o’ch cais at yr atebydd er mwyn iddo fod yn ymwybodol ohono.
Bydd Barnwr Cyflogaeth yn penderfynu a yw er budd cyfiawnder caniatáu gohiriad ac efallai y bydd arno eisiau clywed safbwyntiau’r atebydd cyn gwneud penderfyniad. Ni ddylech dybio bod eich cais wedi ei ganiatáu. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os yw wedi ei ganiatáu. Os byddwch chi neu’r atebydd (neu rywun arall sy’n gweithredu ar eich rhan chi neu’r atebydd) yn methu ag ymddangos mewn gwrandawiad, gall y tribiwnlys benderfynu’r achos yn eich absenoldeb.
Materion Rhagarweiniol
Cewch wybod os oes unrhyw faterion rhagarweiniol y bydd angen i’r tribiwnlys benderfynu arnynt, er enghraifft a yw’r hawliad wedi ei gyflwyno i’r tribiwnlys cyn pen y cyfnod penodol. Os bydd materion o’r fath yn codi, delir â’r rhain yn y gwrandawiad, a dylech fod yn barod i roi tystiolaeth amdanynt.
Paratoi ar gyfer gwrandawiad
Gall fod yn ddefnyddiol gwylio gwrandawiad mewn tribiwnlys er mwyn i chi ddeall y weithdrefn a beth sy’n digwydd. Gallwch wneud hyn drwy gysylltu ag unrhyw swyddfa tribiwnlys a gofyn a oes gwrandawiad addas i chi ei arsylwi.
Pa ddogfennau sydd eu hangen ar gyfer y gwrandawiad?
Efallai fod gennych chi ddogfennau (e.e. slip cyflog) sy’n cefnogi’ch achos ac rydych am eu cyflwyno gerbron y tribiwnlys fel tystiolaeth. Os oes gennych, rhaid i chi wneud yn siŵr bod yr atebydd yn cael rhybudd rhesymol o’ch bwriad (o leiaf saith niwrnod cyn y gwrandawiad).
Diogelwch yn ein hadeiladau
Gofynnir i chi gerdded trwy fwa ddiogelwch neu gael eich sganio gan synhwyrydd llaw cyn dod i mewn i’n adeilad. Dywedwch wrth y staff diogelwch os oes gennych chi unrhyw fewnblaniadau meddygol (megis rheolydd calon) y gallent gael eu heffeithio neu eu synhwyro gan y sganiwr.
Yn ogystal, gofynnir i chi ganiatáu i swyddogion gynnal chwiliad gweledol o gynnwys unrhyw fagiau, ac efallai bydd eitemau gwaharddedig yn cael eu cymryd oddi wrthych.
Bydd unrhyw arfau ymosodol a fydd yn cael eu darganfod yn ystod gweithdrefnau chwilio yn cael eu hatafaelu a chewch eich riportio i’r heddlu.
Os byddwch yn gwrthod chwiliad, efallai y byddwch yn cael eich hebrwng allan neu’n cael eich gwahardd o’r adeilad.
Beth fydd yn digwydd yn y gwrandawiad?
Y tribiwnlys fydd yn penderfynu a fydd eich hawliad yn llwyddo ynteu’n methu, a beth ddylech ei gael os bydd yr hawliad yn llwyddo.
Mae’n arferol mewn hawliadau fel eich un chi, i’r Barnwr Cyflogaeth eistedd ar ei ben ei hun ac i achosion gael eu dyrannu i wrandawiad awr o hyd. Os ydych yn meddwl y dylai tribiwnlys llawn ei wrando, rhowch wybod i’r tribiwnlys yn ysgrifenedig, gan roi eich rhesymau. Bydd y Barnwr Cyflogaeth yn gwneud yn siŵr eich bod yn cymryd y camau a ddisgrifir isod mewn ffordd gymedrol a chall. Fodd bynnag, efallai y bydd yn rhaid iddo fod yn gadarn o ran symud yr achos ymlaen i sicrhau ei fod yn mynd rhagddo mewn modd a fydd yn golygu y gellir delio ag ef yn y cyfnod a glustnodwyd.
Fel arfer byddwch chi’n rhoi tystiolaeth ac yn galw unrhyw dystion yn gyntaf. Fodd bynnag, nid oes rheol bendant ynghylch pa ochr sy’n mynd gyntaf. Bydd yn rhaid i chi a’ch tystion roi tystiolaeth ar lw neu drwy gadarnhau. Os byddwch yn dweud celwydd ar ôl tyngu llw neu gadarnhau, gellid eich cael yn euog o anudoniaeth (perjury). Yng Nghymru a Lloegr, cewch roi tystiolaeth drwy ddarllen datganiad ysgrifenedig a fydd wedi ei baratoi ymlaen llaw os ydych yn dymuno.
Gall yr atebydd neu eu cynrychiolydd ofyn cwestiynau i chi neu eich tyst (‘croesholi’ yw’r enw ar hyn). Yn olaf, caiff y Barnwr Cyflogaeth ofyn cwestiynau. Yna, dilynir yr un drefn fel arfer ar gyfer y tystion eraill ac yna gyda’r atebydd. Ar ôl gwrando’r holl dystiolaeth, bydd y Barnwr Cyflogaeth fel arfer yn cyhoeddi’r dyfarniad ac yn rhoi’r rhesymau dros hynny.
Cyhoeddi Dyfarniadau Tribiwnlysoedd Cyflogaeth
Mae Rheoliad 14(1) Rheoliadau’r Tribiwnlysoedd Cyflogaeth (Cyfansoddiad a Rheolau Trefniadaeth) (S.I. 2013/1237) (y Rheoliadau) yn mynnu bod yr Arglwydd Ganghellor yn cadw cofrestr o’r holl ddyfarniadau (yn cynnwys rhesymau ysgrifenedig) a gyhoeddir gan Dribiwnlysoedd Cyflogaeth. Mae cynnwys y gofrestr ar gael yn agored i’r cyhoedd ei archwilio.
Rhaid cyhoeddi’r mwyafrif llethol o ddyfarniadau a roir i bartïon ar y gofrestr y gellir ei gweld ar-lein yma: https://www.gov.uk/employment-tribunal-decisions.
Eglurir Rheolau Trefniadaeth y Tribiwnlysoedd Cyflogaeth (y Rheolau) yn Atodlen 1 y Rheoliadau. Mae gan Dribiwnlys Cyflogaeth rym, o dan Reol 50 i wneud gorchymyn gyda golwg ar rwystro neu gyfyngu ar ddadlennu unrhyw agwedd ar achos mewn tribiwnlys i’r cyhoedd ond ni all wneud y cyfryw orchymyn oni byddir yn cwrdd ag un neu ragor o amodau llym iawn. (Dyry Rheol 50 ragor o fanylion am yr amodau hyn.)
O dan Reol 50 gall Tribiwnlys Cyflogaeth wneud gorchymyn sy’n gosod cyfyngiadau ar yr hyn y gellir ei gyhoeddi yn y gofrestr. Gall hyn gynnwys gorchymyn sy’n atal datgelu enw un neu ragor o unigolion y cyfeirir atynt yn y dyfarniad, er enghraifft. Dylai unrhyw un sy’n dymuno gwneud cais am orchymyn o dan Reol 50 wneud hynny cyn gynted ag y gellir yn yr achos tribiwnlys. Gellir gwneud unrhyw gais o’r math hwn yn ysgrifenedig neu mewn unrhyw wrandawiad.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Pryd bynnag y bydd hynny’n bosibl, byddwch chi neu eich cynrychiolydd yn cael copi o ddyfarniad y tribiwnlys ar ddiwrnod y gwrandawiad. Os nad yw hyn yn bosibl, anfonir copi o’r dyfarniad ysgrifenedig atoch chi neu eich cynrychiolydd cyn gynted ag y bo modd ar ôl y gwrandawiad. Rhaid i chi gadw at ddyfarniad y Tribiwnlys Cyflogaeth gan ei fod yn eich rhwymo’n gyfreithiol.
Bydd rhesymau ysgrifenedig dros y dyfarniad hefyd yn cael eu rhoi os byddwch yn gofyn amdanynt yn y gwrandawiad neu’n cyflwyno cais ysgrifenedig cyn pen 14 diwrnod o ddyddiad anfon y dyfarniad atoch chi.
Beth ddylwn i ei wneud os bydd fy achos yn cael ei setlo neu os wyf eisiau tynnu fy hawliad yn ôl?
Dylech roi gwybod i ni ar unwaith os bydd eich achos yn cael ei ddatrys cyn y gwrandawiad. Bydd y swyddog cymodi’n rhoi gwybod i ni os bydd eich achos yn cael ei setlo drwy Acas. Rhaid i chi ysgrifennu atom os ydych eisiau tynnu rhan o’ch hawliad/ neu eich hawliad cyfan yn ôl. Rhaid i chi hefyd ddweud wrth yr atebydd eich bod yn tynnu eich hawliad yn ôl. Rhaid i chi wneud hyn cyn gynted ag y bo modd.
Os bydd eich hawliad yn setlo drwy Acas, bydd yr hawliad yn cael ei dynnu oddi ar y rhestr ar gyfer gwrandawiad (os rhestrwyd yr achos ar gyfer gwrandawiad), a bydd ffeil yr achos yn cael ei ddinistrio yn unol â’n polisi dinistrio 12 mis o ddyddiad y setliad.
A allaf hawlio treuliau?
Nid oes treuliau na lwfansau’n daladwy i bartïon, tystion a chynrychiolwyr gwirfoddol (ac eithrio lle bo’r sawl sy’n bresennol yn y gwrandawiad wedi cael ei alw gan y tribiwnlys i roi tystiolaeth feddygol) am fynd i wrandawiad tribiwnlys cyflogaeth o unrhyw fath os yw’r gwrandawiad yn ymwneud â hawliad a wnaethpwyd i dribiwnlys cyflogaeth ar 6 Ebrill 2012 neu ar ôl hynny. Lle gelwir ar dyst i roi tystiolaeth feddygol rhaid i’r parti ofyn i weinyddiaeth y tribiwnlys awdurdodi’r treuliau ymlaen llaw.
Os gwnaethpwyd yr hawliad ar 5 Ebrill 2012, neu cyn hynny, yna mae’n bosibl y bydd gennych chi, eich tystion a chynrychiolwyr gwirfoddol (er enghraifft, cynrychiolwyr di-dâl o ganolfan cyngor ar bopeth) hawl i gostau teithio a lwfansau eraill wrth fynd i wrandawiad tribiwnlys. Gallwch lwytho copi o’r daflen ‘Expenses and allowances payable to parties and witnesses attending an Employment Tribunal’ i lawr o’r wefan, er mwyn gweld beth y mae gennych hawl iddo.
Ni fyddwn yn talu cosatau cyfreithiol.
Anabledd neu anghenion arbennig
Os oes gennych chi, neu unrhyw un sy’n dod i dribiwnlys gyda chi, anabledd neu angen penodol, dylech gysylltu â’r swyddfa tribiwnlys sy’n ymdrin â’ch achos i drafod y mater. Mae enghreifftiau o’r help y gellir ei ddarparu yn cynnwys trosglwyddo dogfennau i Braille neu brint mwy, darparu gwybodaeth ar gryno ddisg a thalu am ddehonglwyr iaith arwyddion neu gyfieithwyr ar y pryd ar gyfer ieithoedd tramor. Gallwn hefyd ddarparu dolenni sain ar gyfer teclynnau clywed yn yr ystafell lle cynhelir y gwrandawiad os byddwch eu hangen. Cysylltwch â ni cyn gynted ag sy’n bosibl er mwyn i ni allu gwneud trefniadau priodol neu addas.
Safonau’r gwasanaeth
Os ydych yn anhapus â’n gwasanaeth, cysylltwch ag unrhyw swyddfa tribiwnlys neu Ganolfan Gyswllt Cwsmeriaid i gael copi o’n taflen EX343 - Anhapus â’n gwasanaeth - beth allwch chi ei wneud? Mae’n esbonio ein trefn gwyno.
Ceir manylion y Ganolfan Gyswllt Cwsmeriaid ar Dudalen 1.
Swyddfeydd tribiwnlysoedd cyflogaeth
Aberdeen
Ground floor, AB1
48 Huntly Street
Aberdeen
AB10 1SH
Ffôn. 01224 593 137
E-bost: aberdeenet@justice.gov.uk
Bryste
Bristol Civil and Family Justice Centre
2 Redcliff Street
Bryste
BS1 6GR
Ffôn: 0117 929 8261
E-bost: bristolet@justice.gov.uk
Dundee
Ground Floor
Endeavour House
Greenmarket
Dundee
DD1 4BZ
Ffôn: 01382 221578
E-bost: dundeeet@justice.gov.uk
Dwyrain Llundain
2nd Floor, Import Building
2 Clove Crescent
London
E14 2BE
Ffôn: 020 7538 6161
E-bost: eastlondon@justice.gov.uk
Caeredin
54-56 Melville Street
Caeredin
EH3 7HF
Ffôn: 0131 226 5584
E-bost: edinburghet@justice.gov.uk
Glasgow
The Glasgow Tribunals Centre
20 York Street
Glasgow
G2 8GT
Ffôn: 0141 204 0730
E-bost: glasgowet@justice.gov.uk
Leeds
West Gate
6 Grace Street
Leeds
LS1 2RP
Ffôn: 0113 245 9741
E-bost: leedset@justice.gov.uk
Canol Llundain
Victory House
30-34 Kingsway
Llundain
WC2B 6EX
Ffôn: 020 7273 8603
E-bost: londoncentralet@justice.gov.uk
De Llundain
Montague Court
101 London Road
West Croydon
CR0 2RF
Ffôn: 020 8667 9131
E-bost: londonsouthet@justice.gov.uk
Manceinion
Alexandra House
14-22 The Parsonage
Manceinion
M3 2JA
Ffôn: 0161 833 6100
E-bost: manchesteret@justice.gov.uk
Canolbarth Lloegr (Dwyrain)
Nottingham Justice Centre
Carrington Street
Nottingham
NG2 1EE
Ffôn: 0115 947 5701
E-bost: midlandseastet@justice.gov.uk
Canolbarth Lloegr (Gorllewin)
Centre City Tower
7 Hill Street
Birmingham
B5 4UU
Ffôn: 0121 600 7780
E-bost: midlandswestet@justice.gov.uk
Newcastle
Newcastle Civil Family Courts and Tribunal Centre
Barras Bridge
Newcastle Upon Tyne
NE1 8QF
Ffôn: 0191 2058750
E-bost: newcastleet@justice.gov.uk
Cymru
Llys Ynadon Caerdydd a’r Fro
Plas Fitzalan
Caerdydd
De Cymru
CF24 0RZ
Ffôn: 029 2067 8100
E-bost: waleset@justice.gov.uk
Watford
3rd Floor
Radius House
51 Clarendon Rd
Watford
WD17 1HP
Ffôn: 01923 281 750
E-bost: watfordet@justice.gov.uk
Mae ein swyddfeydd ar agor o 9.00 y bore tan 5.00 yr hwyr, o ddydd Llun i ddydd Gwener.