Canllawiau

Ein harfer ar lofnodion electronig a oedd yn gyfredol rhwng 27 Gorffennaf 2020 a 6 Medi 2020

Diweddarwyd 15 April 2024

Applies to England and Wales

13. Llofnodion electronig

13.1 Cefndir

Yn Law Com Rhif 386, y cyfeiriwyd ato yn yr adran flaenorol (gweler Llofnodion Mercury), daeth Comisiwn y Gyfraith i’r casgliad bod modd defnyddio llofnod electronig yn y gyfraith i gyflawni dogfen, gan gynnwys gweithred. Daeth Comisiwn y Gyfraith i’r casgliad hefyd y gellid tystio llofnod electronig yn yr un modd yn y bôn â llofnod inc gwlyb, heblaw y byddai’r tyst yn gweld y llofnodwr yn ychwanegu ei lofnod at ddogfen ar sgrin.

Ar yr un pryd, roedd Comisiwn y Gyfraith yn cydnabod pe bai cofrestrfa gyhoeddus yn derbyn llofnodion inc gwlyb yn unig, ni fyddai’r partïon yn gallu cyflawni dogfennau yn electronig, waeth beth oedd y sefyllfa gyfreithiol. Nid oedd yn anghytuno â safbwynt Cofrestrfa Tir EF yn ei ymateb i bapur ymgynghori cynharach Comisiwn y Gyfraith fod “angen i awdurdod cofrestru gael rheolaeth dros y dull cyflawni a ddefnyddir ar gyfer dogfennau y mae’n rhaid eu cofrestru, yn enwedig lle cynigir gwarant teitl”.

13.2 Ein harfer

Hyd nes clywir yn wahanol, byddwn yn derbyn trosglwyddiadau a rhai gweithredoedd eraill (gweler Gweithredoedd y gellir eu llofnodi’n electronig) ar gyfer cofrestru sydd wedi eu llofnodi’n electronig ar yr amod bod y gofynion a nodir yn Ein gofynion yn cael eu bodloni.

Gall y weithred gael ei llofnodi gan unigolyn neu unigolion ar eu rhan eu hunain neu ar ran person arall, gan gynnwys cwmni. Lle bo’r weithred yn cael ei llofnodi ar ran cwmni gan ddau “lofnodwr awdurdodedig” o dan adran 44(2)(a) o Ddeddf Cwmnïau 2006, ni fydd unrhyw dyst yn gysylltiedig, ac mae’r gofynion i’w darllen yn unol â hynny.

Er mwyn ei gwneud yn glir i dyst yr hyn a ddisgwylir ganddo, efallai y bydd trawsgludwyr sy’n drafftio gweithred a allai gael ei llofnodi’n electronig am ychwanegu datganiad tebyg i’r canlynol wrth ymyl neu islaw lle mae’r tyst i lofnodi: “Rwy’n cadarnhau fy mod yn bresennol yn gorfforol pan lofnododd [enw’r llofnodwr] y weithred hon.”

Cynghorir trawsgludwyr y partïon i gadw copi o’u tystysgrif gwblhau neu adroddiad archwilio a gynhyrchwyd gan y platfform llofnod electronig (Platfform) gyda’u ffeil drawsgludo ar ddiwedd y broses lofnodi. Dylai tystysgrif neu adroddiad o’r fath roi trywydd archwilio’r llofnodi, gan gynnwys amser a dyddiad y llofnodion, cyfeiriadau ebost yr anfonwyd y ddogfen atynt, y dull cyfrinair un tro a ddefnyddiwyd, y meysydd a gwblhawyd a chyfeiriadau Protocol Rhyngrwyd y dyfeisiau a ddefnyddiwyd.

13.3 Ein gofynion

1.Mae’r holl bartïon yn cytuno i ddefnyddio llofnodion electronig a llwyfan mewn perthynas â’r weithred.

2.Mae gan yr holl bartïon drawsgludwyr yn gweithredu ar eu rhan.

3.Mae trawsgludwr yn gyfrifol am sefydlu a rheoli’r broses lofnodi trwy’r platfform.

4.Mae’r broses lofnodi a dyddio fel a ganlyn.

CAM 1 – Mae’r trawsgludwr sy’n rheoli’r broses lofnodi:

yn lanlwytho’r copi terfynol y cytunwyd arno (gan gynnwys unrhyw gynlluniau) i’r platfform

yn llenwi’r platfform gydag enw, cyfeiriad ebost a rhif ffôn symudol y llofnodwyr a’r tystion. Pan fydd y platfform yn caniatáu hynny, gellir llenwi’r manylion ar gyfer tyst yn ddiweddarach, naill ai trwy’r llofnodwr yn nodi’r manylion ar gyfer ei dyst neu’r trawsgludwr yn gwneud hynny, ar yr amod bod hyn yn cael ei wneud cyn CAM 5

yn tynnu sylw at y meysydd y mae angen eu cwblhau o fewn y weithred ac yn nodi gan bwy y maent i’w cwblhau, gan nodi’r drefn (felly mae’r tyst ar ôl y llofnodwr y mae ei lofnod yn cael ei dystio).

CAM 2 – Mae’r platfform yn anfon ebost at y llofnodwyr i roi gwybod iddynt fod y weithred yn barod i’w llofnodi.

CAM 3 – Er mwyn cyrchu’r weithred ar y platfform trwy’r ebost a dderbyniwyd ganddynt, mae’n ofynnol i’r llofnodwyr fewnbynnu cyfrinair un tro a anfonwyd atynt trwy neges destun gan y platfform. Rhaid i’r cyfrinair un tro gynnwys lleiafswm o chwe rhif.

CAM 4 – Mae’r llofnodwyr yn nodi’r cyfrinair un tro ac yn llofnodi’r weithred ym mhresenoldeb corfforol y tyst, gyda’r dyddiad a’r amser yn cael eu cofnodi’n awtomatig o fewn trywydd archwilio’r platfform.

CAM 5 – Ar ôl edrych ar y llofnodwr yn llofnodi’r weithred, bydd y tyst yn cael ebost gan y platfform yn ei wahodd i lofnodi ac ychwanegu ei fanylion yn y gofod a ddarperir yn y cymal ardystio. Mae’r tyst yn mewnbynnu cyfrinair un tro a anfonir atynt trwy neges destun gan y platfform, yn llofnodi ac yn ychwanegu ei gyfeiriad yn y gofod a ddarperir, gyda’r dyddiad a’r amser yn cael eu cofnodi’n awtomatig eto.

CAM 6 – Ar ôl i’r broses lofnodi ddod i ben, mae trawsgludwr yn peri cwblhad y weithred trwy ei dyddio o fewn y platfform.

5.Mae’r trawsgludwr sy’n cyflwyno’r cais yn gwneud hynny trwy ddulliau electronig ac yn cynnwys gyda’r cais PDF o’r weithred wedi’i chwblhau. Fodd bynnag, pan fo’r cais am gofrestriad cyntaf, gellir cyflwyno argraffiad o’r PDF, wedi ei ardystio i fod yn gopi cywir o’r weithred wedi ei chwblhau.

6.Mae’r trawsgludwr sy’n cyflwyno’r cais (gan gynnwys cais am gofrestriad cyntaf) yn darparu’r dystysgrif ganlynol: “Rwy’n tystio, hyd eithaf fy ngwybodaeth a’m cred, bod y gofynion a nodir yng nghyfarwyddyd ymarfer 8 ar gyfer cyflawni gweithredoedd gan ddefnyddio llofnodion electronig, wedi eu bodloni.”

13.4 Gweithredoedd y gellir eu llofnodi’n electronig

Bydd Cofrestrfa Tir EF, am y tro, yn derbyn at ddibenion cofrestru’r gweithredoedd canlynol sydd wedi eu llofnodi’n electronig yn unol â’r gofynion a nodir yn Ein gofynion.

Gweithred sy’n peri un o’r gwarediadau y cyfeirir atynt yn adran 27(2) a (3) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Rhyddhau neu ollwng ar ffurflen DS1 neu ffurflen DS3. Gweithredoedd cyfwerth mewn perthynas â thir digofrestredig. Cydsyniad o dir cofrestredig neu ddigofrestredig. Atwrneiaeth heblaw atwrneiaeth arhosol (gweler Atwrneiaethau arhosol).

13.5 “Llofnodi cymysg”

Os yw’n angenrheidiol i un parti mewn gweithred lofnodi inc gwlyb (naill ai yn y ffordd gonfensiynol neu fel rhan o’r broses lofnodi Mercury) ac un arall i lofnodi gyda llofnod electronig, gellir gwneud hyn trwy weithredoedd gwrthrannol (gweler Gwrthrannau). Yn yr un modd, mae’n agored i bartïon lofnodi gweithredoedd gwrthrannol, gyda phob un yn defnyddio platfform llofnod electronig gwahanol ar yr amod bod y gofynion a nodir yn Ein gofynion yn cael eu dilyn ym mhob achos.

13.6 Y dyfodol

Rydym yn gweithio ar hyn o bryd ar sut y gallem ganiatáu i drawsgludwyr ddibynnu ar adran 91 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 wrth gyflawni trosglwyddiadau a gwarediadau eraill, ar wahân i arwystlon penodol yn unig (morgeisi digidol) fel ar hyn o bryd: dylai hyn osgoi’r angen am weithredoedd gwaredol.