Canllawiau

Seilwaith rhwydwaith trawsyrru trydan: Cronfeydd cymunedol

Disgwyliadau’r Llywodraeth o ran sut y dylai cymunedau sy’n byw ger datblygiadau seilwaith rhwydwaith trawsyrru trydan elwa o ganlyniad i gynnal y datblygiadau hyn.

Dogfennau

Manylion

Mae cronfeydd cymunedol yn fuddion ariannol ac anariannol a ddarperir gan ddatblygwyr.

Gallai’r cronfeydd ddarparu cymorth ar gyfer:

  • prosiectau sy’n gwella’r economi, cymdeithas ac amgylchedd lleol
  • blaenoriaethau cymunedol megis twristiaeth leol, addysg, a chyfleoedd datblygu sgiliau

Mae’r ddogfen hon yn darparu set o egwyddorion cyffredin y mae’r llywodraeth yn disgwyl i gymunedau a datblygwyr eu harwain wrth sefydlu cronfeydd cymunedol. Ei nod yw rhoi hyblygrwydd i ddatblygwyr ddarparu cyllid cymunedol mewn ffordd sy’n gweddu orau i anghenion a blaenoriaethau’r gymuned, ac mae’n cwmpasu:

  • pa seilwaith sydd o fewn cwmpas y polisi
  • lefelau cyllid fesul math o seilwaith
  • sut y caiff costau dosbarthu eu trin
  • sut i adennill costau
  • disgwyliadau’r llywodraeth o ran sut y dylai cymunedau a datblygwyr ymgysylltu â’r broses

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 10 Mawrth 2025
Diweddarwyd ddiwethaf ar 9 Ebrill 2025 show all updates
  1. Added Welsh version.

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon