Skip to main content
Ffurflen

Canolfan pecynnu wyau: cofrestru

Ffurflen i ganolfannau pecynnu wneud cais am gymeradwyaeth i becynnu wyau.

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Dogfennau

EMR02: Cais i gofrestru canolfan pecynnu wyau

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch contentteam@defra.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Os yw’n bosibl, anfonwch eich cais drwy e-bost i csconehealtheggmarketing@apha.gov.uk. Os byddwch yn gwneud cais drwy’r post, gall gymryd mwy o amser. 

Gwnewch gais ymlaen llaw i osgoi oedi – mae APHA yn ymdrin â nifer mawr o geisiadau. 

Darperir y ffurflen hon i ganolfannau pecynnu wneud cais am awdurdodiad i becynnu wyau. 

Rhaid i ganolfannau pecynnu gael eu cymeradwyo fel gweithredwyr busnes bwyd gan yr awdurdod lleol. Rhaid iddynt fodloni gofynion ynglŷn â hylendid, cadw cofnodion a phrosesau HACCP. 

Rhoddir cod canolfan becynnu unigryw i ganolfannau pecynnu awdurdodedig. Rhaid i’r cod hwn gael ei ddefnyddio ar holl labeli wyau wedi’u graddio cyn iddynt adael y safle. 

Dylai ymgeiswyr ddarllen Eggs marketing: guidance on the legislation cyn cwblhau’r ffurflen. Mae’n esbonio’r rheolau ynglŷn â chynhyrchu, marcio, cludo, graddio a phecynnu wyau y bwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl a’u marchnata wedyn.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 25 Ebrill 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 4 Awst 2026 Show all updates
  1. Added the Welsh version of the form.

  2. Application for registration of an egg packing centre updated.

  3. Removed coronavirus (COVID-19) statement relating to email applications.

  4. Added coronavirus statement on sending applications by email.

  5. Application for registration of an egg packing centre and guidance document updated.

  6. Data protection statement updated on the form

  7. AHVLA documents have been re-assigned to the new Animal and Plant Health Agency (APHA).

  8. First published.

Argraffu'r dudalen hon