Deunydd hyrwyddo

Sut i ddefnyddio deunyddiau hyrwyddo Bwyta Allan i Helpu Allan

Cyhoeddwyd 13 July 2020

This deunydd hyrwyddo was withdrawn on

The Eat Out to Help Out Scheme closed on 31 August 2020. If you’ve already registered you can submit a claim until 30 September 2020.

Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan

Nawr eich bod wedi cofrestru ar gyfer y Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan, mae’n amser i chi roi gwybod i’ch cwsmeriaid eich bod yn cymryd rhan.

I’ch helpu, rydym wedi paratoi pecyn o ddeunyddiau hyrwyddo i chi eu defnyddio.

Maent yn cynnwys:

  • pecyn o bosteri ynghyd ag ‘hysbys ar gyfer y bwrdd’ i’w defnyddio yn eich safle
  • delweddau a ffeiliau digidol i’w defnyddio ar eich gwefan neu sianeli cyfryngau cymdeithasol

Gallwch eu defnyddio mor aml ag y dymunwch, a hynny yn rhad ac am ddim.

Os nad ydych wedi cofrestru eto, neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, gallwch wneud y canlynol:

Nodweddion y cynllun

Gallwch ddefnyddio’r Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan:

  • i gynnig gostyngiad o 50%, hyd at uchafswm o £10 yr un, oddi ar fwyd neu ddiodydd di-alcohol i bobl sydd am eu mwynhau y tu mewn
  • i hawlio’r arian yn ôl gan y llywodraeth yn gyflym ac yn hawdd
  • ar yr un pryd â bargeinion eraill yr ydych yn eu cynnig er mwyn i gwsmeriaid gael manteision ychwanegol

Gallwch gynnig y cynllun drwy’r dydd, bob dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Mercher, o 3 i 31 Awst 2020.

Nid oes cyfyngiad ar faint o weithiau y gall cwsmeriaid ddefnyddio’r cynnig yn ystod cyfnod y cynllun, ac nid oes angen iddynt ddangos taleb.

Ni all eich cwsmeriaid gael gostyngiad ar ran rhywun nad yw’n bwyta nac yn yfed yno.

Cewch eich ychwanegu at dwlsyn ar-lein y bydd pobl yn ei ddefnyddio i ddod o hyd i sefydliadau sy’n cymryd rhan.

Mae alcohol a thaliadau gwasanaeth wedi’u heithrio o’r cynnig.