Hawdd ei ddarllen: Ymweliadau cefnogol os oes angen help arnoch i hawlio budd-daliadau
Mae'r canllaw hawdd ei ddarllen hwn yn esbonio pryd y gall DWP ymweld â chi i'ch helpu i hawlio budd-daliadau a beth i'w ddisgwyl.
Yn berthnasol i Loegr, yr Alban a Chymru
Dogfennau
Manylion
Mae’r canllaw hawdd ei ddarllen hwn yn dweud wrthych:
- pryd y gall yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) drefnu i ymweld â chi
- sut y bydd DWP yn dweud wrthych am yr ymweliad
- sut i wirio bod y swyddog ymweld yn dod o DWP mewn gwirionedd
- am faint o amser gall yr ymweliad bara
- sut i newid dyddiad neu amser yr ymweliad
Mae dogfennau hawdd eu darllen wedi’u cynllunio i wneud gwybodaeth yn hygyrch i bobl ag anableddau dysgu. Os nad oes angen fformat hawdd ei ddarllen arnoch, darllenwch y canllaw Ymweliadau cefnogol os oes angen help arnoch i hawlio budd-daliadau.