Guidance

Deaths in police custody: leaflet for families - Welsh (accessible version)

Updated 20 September 2019

“Ni allaf bwysleisio ddigon pa mor hanfodol bwysig yw hi i deuluoedd gael gwybod ar unwaith am eu hawliau cyfreithiol a’r ymchwiliad sydd i ddod, yn dilyn marwolaeth eu hanwylyd yn nalfa’r wladwriaeth. Mae’r daflen yn rhoi arweiniad cynnar critigol ar sut i gael mynediad at y gefnogaeth honno a chyngor arbenigol.”

Marcia Rigg, chwaer Sean Rigg, a fu farw yn nalfa’r heddlu, 2008

Mae’r daflen hon ar gyfer teulu rhywun sydd wedi marw yn nalfa’r heddlu neu ar ôl bod yno. Gan ddibynnu ar yr amgylchiadau, fe allai fod yn ddefnyddiol hefyd ar gyfer y rheini y mae aelod o’u teulu wedi marw ar ôl cyswllt arall gyda’r heddlu.

Mae’n amlinellu’r wybodaeth gychwynnol y mae ei hangen arnoch chi am eich hawliau a beth sy’n digwydd nesaf. Mae’r cynnwys wedi’i lunio gan brofiadau teuluoedd eraill mewn profedigaeth.

1. Beth sy’n digwydd nesaf?

Dywed y gyfraith y dylid cynnal ymchwiliad trylwyr, annibynnol pa bryd bynnag y bydd marwolaeth yn digwydd yn nalfa’r heddlu.

Dylai’r heddlu fod wedi bod mewn cysylltiad â chi neu aelod arall o’r teulu yn barod i’ch hysbysu chi o’r farwolaeth ac o bosibl i ofyn am gymorth gydag adnabod eich aelod o’r teulu.

“Rydym ni, teulu Seni Lewis, yn gwybod bod gwybodaeth ddi-oed ar eich hawliau i sicrhau cymorth cyfreithiol ac yn ymwneud â phost-mortem yn allweddol i ddeall y rhesymau y tu ôl i farwolaeth. Mae hon yn daflen bwysig i unrhyw deulu sydd wedi’i effeithio gan farwolaeth cysylltiedig â’r heddlu.”

Ajibola Lewis, mam Seni Lewis a fu farw ar ôl cyswllt â’r heddlu, 2010

Rhaid i’r heddlu gyfeirio’r farwolaeth heb oedi i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC). Mae’r IOPC yn goruchwylio system gwynion yr heddlu yng Nghymru a Lloegr. Mae’n ymchwilio i’r materion mwyaf difrifol ac mae’n annibynnol ar yr heddlu. Bydd yr IOPC yn gyfrifol am ymchwilio bob achos fwy neu lai. Bydd yr ymchwiliad yn edrych ar beth ddigwyddodd i’ch aelod o’r teulu a rôl a gweithredoedd yr heddlu. Byddwch chi’n cael cyswllt penodol o fewn yr IOPC a fydd yn eich helpu i ddeall pob agwedd ar ymchwiliad a phenderfyniadau’r IOPC.

Bydd y crwner sy’n gyfrifol am yr ardal lle bu farw’ch aelod o’r teulu wedi’i hysbysu hefyd. Mae crwner yn ddeiliad swydd barnwrol annibynnol (barnwr) ac yn annibynnol ar yr heddlu a’r IOPC. Ar wahân i’r IPOC, mae’r crwner yn gyfrifol am gynnal ymchwiliad i ddod o hyd i’r ffeithiau i bennu pryd, ble a sut y bu farw’ch aelod o’r teulu. Mae ymchwiliad y crwner yn dechrau’n fuan ar ôl marwolaeth eich aelod o’r teulu a bydd yn dod i ben ychydig ar ôl hynny gyda gwrandawiad llys o’r enw cwest. Mae’r cwest yn debyg o gael ei gynnal o flaen rheithgor ac, yn dibynnu ar gymhlethdod y materion, gall bara nifer o ddyddiau neu wythnosau.

Mae’n bwysig nodi nad yw cwestau yn achosion troseddol. Diben cwest yw sefydlu amgylchiadau marwolaeth person. Diben achos troseddol, ar y llaw arall, yw pennu a yw person yn euog neu’n ddieuog ar ôl iddo gael ei gyhuddo o drosedd.

2. Eich hawliau a chorff yr aelod o’ch teulu

Fel rhan o’r ymchwiliad, mae’r crwner yn derbyn rheolaeth gyfreithiol dros dro o gorff eich aelod o’r teulu. Mae hwn yn amddiffyniad, i ddiogelu annibyniaeth yr ymchwiliad.

Un o ddyletswyddau’r crwner yw pennu achos y farwolaeth ac i wneud hyn bydd yn rhoi cyfarwyddyd i batholegydd (meddyg sy’n arbenigo mewn deall sut y mae person wedi marw) i gynnal archwiliad meddygol o’r enw post-mortem. Mae’r patholegydd yn gweithio ar gyfarwyddyd y crwner a neb arall. Fel arfer bydd y patholegydd yn cynnal post-mortem o fewn 24 i 48 awr, er fe allai gymryd wythnosau neu fisoedd i gynhyrchu’r adroddiad terfynol. Nid oes yn rhaid i’r crwner aros am adroddiad y patholegydd cyn rhyddhau corff yr aelod o’ch teulu i chi a dylai wneud hynny cyn gynted â phosibl ar ôl y postmortem. Serch hynny, mae’n bosibl y bydd y corff yn cael ei gadw gan y crwner i ganiatáu ar gyfer ymchwiliad pellach. Bydd y corff yn cael ei gadw yn y marwdy yn ystod yr amser hwn. Mae’n bosibl y bydd angen cadw samplau o gorff yr aelod o’ch teulu, ond dywedir wrthoch chi os bydd hyn yn digwydd a’r rhesymau dros hynny.

Fel aelod o’r teulu, mae gennych chi hawliau ar hyd pob cam. Dylech gael eich hysbysu a dylid esbonio unrhyw oedi wrthych chi. Gellir cyfeirio unrhyw gwestiynau a allai fod gennych chi at swyddfa’r crwner. Mae gwybodaeth am weld corff yr aelod o’ch teulu ar gael yma: Guidance for coroners - viewing.

Dylai’r crwner ddweud wrthoch chi pryd a ble y mae’r post-mortem yn cael ei gynnal a phryd y bydd corff yr aelod o’ch teulu yn cael ei ryddhau. Mae gennych yr hawl i gael eich cynrychioli gan ymarferwr meddygol yn y post-mortem. Os byddwch chi, aelod o’r teulu neu’ch cyfreithiwr yn dymuno bod yn bresennol, bydd angen i chi ofyn i swyddog y crwner. Mae arweiniad i grwneriaid am ail bost-mortem ar gael yma: Guidance for coroners about secondpost mortems.

Ni ellir cofrestru marwolaeth yr aelod o’ch teulu nes ar ôl y cwest, ond fe all y crwner roi tystysgrif marwolaeth dros droi chi. Gallwch ei defnyddio i roi gwybod i sefydliadau am y farwolaeth a gwneud cais am brofiant. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: When a death is reported to a coroner.

3. Cyngor a chynrychiolaeth gyfreithiol

Bydd gan yr heddlu a sefydliadau eraill o bosibl gyfreithwyr i’w cynrychioli. Gallwch geisio cyngor cyfreithiol yn syth ar ôl marwolaeth yr aelod o’ch teulu. Gall cyfreithiwr eich helpu chi i ddeall y prosesau yn y daflen hon a’ch cynrychioli chi yng ngwrandawiad y cwest. Fel arfer, mae arian y wlad, a elwir yn gymorth cyfreithiol, ar gael yn dilyn marwolaeth yn nalfa’r heddlu.

4. Cymorth a chyngor arbenigol

INQUEST – mae’n elusen annibynnol sy’n darparu gwasanaeth cyfrinachol, am ddim i bobl mewn profedigaeth yn dilyn marwolaeth yn gysylltiedig â’r heddlu. Gall eu gweithwyr achos eich cynghori chi a gweithio gyda chi, gan eich helpu chi os dymunwch archwilio opsiynau yn ymwneud â chynrychiolaeth gyfreithiol. Gallant hefyd eich rhoi chi mewn cysylltiad â theuluoedd eraill mewn profedigaeth sydd wedi bod trwy brofiad tebyg. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma: Inquest neu 020 7263 1111.

Cruse Bereavement Care – maen nhw’n cynnig cefnogaeth a gwybodaeth gyfrinachol am ddim pan fydd rhywun yn marw. Mae Cruse yn cynnig cefnogaeth wyneb yn wyneb, ar y ffôn, trwy e-bost ac ar y wefan. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma: Cruse Bereavement Care neu 0808 808 1677.

Mae Gwasanaeth Cefnogi Llys y Crwner yn cynnig cefnogaeth emosiynol gyfrinachol ac am ddim a chymorth ymarferol i deuluoedd mewn profedigaeth, tystion ac eraill sy’n mynychu cwest yn Llys y Crwner. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Coroners’ Courts Support Service neu 0300 111 2141.

Mae’n bosibl y bydd sefydliadau eraill yn gallu rhoi cyngor a chefnogaeth i chi. Gall eich cyswllt yn yr IOPC eich cyfeirio chi atynt.

“Pan gollom ein mab James yn nalfa’r heddlu, roeddem wedi ein parlysu gyda galar a doedd gennym ni ddim syniad beth oedd i ddod. Bydd y daflen hon yn helpu teuluoedd i ddeall y prosesau ymchwilio sydd i ddod yn syth ar ôl marwolaeth cysylltiedig â’r heddlu ac o bosibl bydd yn eich helpu i gael yr atebion y mae eu hangen arnoch chi ac yr ydych chi’n haeddu eu clywed.”

Tony Herbert, tad i James Herbert a fu farw yn nalfa’r heddlu, 2010