Guidance

Cyfarwyddyd i'r cydlofnodydd ar gwblhau'r ffurflen gais DBS (HTML)

Updated 2 November 2021

Rheolau cyffredinol

  • Sicrhewch fod y partïon i gyd yn ymwybodol o’r diweddariadau o ran cwestiwn e55 a’r hysbysiad prosesu teg (gweler Cyfarwyddyd i’r ymgeisydd i gwblhau ffurflen gais DBS).
  • Peidiwch â chyflwyno llungopïau o’r ffurflen gais, byddant yn cael eu dychwelyd.
  • Peidiwch ag anfon unrhyw ddogfennau hunaniaeth gyda’r cais.
  • Llenwch adrannau w, x ac y yn unig.
  • Defnyddiwch INC DU wrth gwblhau’r ffurflen hon a rhoi un nod yn unig ym mhob blwch.
  • Defnyddiwch BRIFLYTHRENNAU wrth gwblhau’r ffurflen hon.
  • Mae’r holl rannau mewn GLAS a’u meysydd cysylltiedig yn ofynnol a rhaid eu cwblhau.
  • Os nad yw maes yn berthnasol i chi, dylech ei adael yn wag. Peidiwch â rhoi Amh nac unrhyw amrywiad ar hyn.
  • Os ydych chi’n gwneud camgymeriad, rhowch linell trwyddo a’i gywiro ar yr ochr dde. PEIDIWCH â defnyddio hylif cywiro.
  • Sicrhewch eich bod yn rhoi’ch holl gyfeiriadau ble bu’r ymgeisydd yn byw yn y pum mlynedd ddiwethaf, yn cynnwys y wlad a dyddiadau ar gyfer unrhyw gyfeiriadau tramor.
  • Os nad oes digon o le ar y ffurflen gais, dylai’r ymgeisydd lawrlwytho a chwblhau dalen barhad o www.gov.uk/dbs.
  • Os ydych chi wedi dewis mwy nag un i’r opsiynau IE/NA trwy gamgymeriad, rhowch groes yn y blwch cywiro a’i gylchu.
  • Cadwch eich llofnodion yn y blwch a ddarparwyd.
  • Ni ddylech roi stampiau na sticeri ar y ffurflen.
  • Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach ynglŷn â’r broses ymgeisio neu ar gwblhau’r ffurflen gais, cysylltwch â Chanolfan Alwadau Gwasanaethau Cwsmeriaid y DBS ar 03000 200 191.

Adran w – gwirio hunaniaeth yr ymgeisydd

Peidiwch ag anfon unrhyw ddogfennau hunaniaeth gyda’r cais

  • Rhaid i wirydd tystiolaeth hunaniaeth cymeradwy y Corff Cofrestredig wirio hunaniaeth yr ymgeisydd yn drylwyr o restr o ddogfennau cymeradwy. Mae hyn yn allweddol i’r broses ymgeisio a chywirdeb y gwiriadau hunaniaeth a gyflawnir gan y DBS, felly sicrhewch eich bod yn cymryd gofal mawr trwy gydol y broses hon.
  • Dim ond dogfennau gwreiddiol ddylai’r ymgeisydd ddarparu. Peidiwch â derbyn llungopïau.
  • Gellir derbyn dogfennau mewn enw blaenorol, ond dim ond ble gall yr ymgeisydd ddarparu dogfennaeth yn cefnogi newid enw.
  • Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r detholiad o ddogfennau y gellir eu derbyn fel tystiolaeth o hunaniaeth ymgeisydd, ewch i’r adran cyhoeddiadau ar wefan y DBS.
  • Rhowch enw llawn y sawl sydd wedi gwirio dogfennau hunaniaeth yr ymgeisydd yn w58. Gall y gwirydd tystiolaeth nodi hyn, na fydd o reidrwydd y Cydlofnodydd.
  • Wedi cadarnhau hunaniaeth yr ymgeisydd, dylai naill ai’r Cydlofnodydd neu’r gwirydd tystiolaeth roi cadarnhaol yn adran w59. Os ydych chi’n dewis Na, bydd y DBS yn ceisio cadarnhau hunaniaeth yr ymgeisydd yn defnyddio dulliau amgen.
  • Os nad chi yw’r Cydlofnodydd PEIDIWCH Â CHWBLHAU ADRAN Y.
W58 - prawf hunaniaeth

Adran x – cais am wiriad DBS

Cwblhewch yr adran hon i ddynodi pa lefel o wiriad DBS sydd angen, pa weithlu mae’rymgeisydd yn gwneud cais i weithio ynddo a pha swydd fydd gan yr ymgeisydd. Cyfeiriwch at adran cyhoeddiadau’r wefan DBS am restr lawn o’r categorïau y gellir gwneud cais am wiriad DBS ar eu cyfer.

  • Peidiwch â chwblhau adran x60.
  • Rhowch y gweithlu a swydd yr ymgeisir ar ei chyfer yn adran x61 gyda chyfanswm o 60 o nodau.

Gwnewch hyn fel a ganlyn:

Llinell 1: rhowch y gweithlu perthnasol, naill ai:

  • Gweithlu Plant
  • Gweithlu Oedolion
  • Gweithlu Plant ac Oedolion
  • Gweithlu Arall

Llinell 2: rhowch y swydd yr ymgeisiwyd ar ei chyfer

Mae’n allweddol eich bod yn llenwi’r ddau faes hyn yn gywir am eu bod yn ofynnol er mwyn i’r heddlu ystyried perthnasedd, a byddant yn caniatáu i’r ymgeisydd ddefnyddio’r Gwasanaeth Diweddaru os bydd yn dewis gwneud hynny.

  • Rhowch y cyflogwr ar gyfer y sefydliad y bydd yr ymgeisydd yn gweithio iddo yn adran x62.
  • Dewiswch y lefel o wiriad DBS sy’n ofynnol yn x63. Os ydych chi wedi dewis Safonol, ewch i x67. Os ydych chi wedi dewis Manwl, rhaid i chi lenwi gweddill yr adran.
  • Nodwch a oes gennych hawl i wybod a yw’r ymgeisydd wedi ei wahardd rhag gweithio gyda phlant neu oedolion yn x64 ac x65. Dewiswch na, os nad yw’r cwestiwn yn berthnasol. Ni ddylech adael y meysydd hyn yn wag os ydych chi wedi dewis Manwl.
  • Os nad ydych chi wedi rhoi croes yn y blwch perthnasol a bod y swydd yn galw am wiriad rhwystro, ni fydd y gwiriad DBS a gwblheir yn dangos yr wybodaeth berthnasol.
  • Nodwch a fydd yr ymgeisydd yn gweithio yn eu cyfeiriad cartref yn x66. Gallai hyn gynnwys gofalwyr plant neu ofalwyr maeth.
  • Rhaid i chi nodi a yw’r gwiriad ar gyfer gwirfoddolwr yn x68 trwy roi croes ar gyfer yr ateb cadarnhaol neu negyddol. Os nad ydych yn nodi eich bod angen gwiriad ar gyfer gwirfoddolwr, codir tâl arnoch am y cais.
X - gwneud cais am wiriad DBS

Adran y – datganiad gan yr unigolyn cofrestredig

  • Pan fydd yr holl adrannau wedi eu cwblhau, dylech lofnodi’r cais. Mae’r llofnod hwn yn cadarnhau’ch bod wedi sicrhau y darparwyd yr holl ddogfennaeth ofynnol a’i wirio, fod y cais yn bodloni’r meini prawf cymhwyster i ofyn am gwestiwn a eithriwyd neu ddiben a ragnodwyd a bod yr holl wybodaeth a ddarparwyd yn gyflawn a gwir.
  • Mae eich rhif Corff Cofrestredig wedi ei argraffu yn adran y69. Os nad dyma’ch rhif sefydliad, rhaid i chi gyflwyno’r cais ar ffurflen gyda’ch rhif wedi ei argraffu arno. Peidiwch ag addasu’r maes hwn.
  • Rhowch eich rhif cydlofnodydd yn y70. Bydd chwe digid cyntaf eich rhif yr un peth â chwe digid cyntaf y rhif Corff Cofrestredig, os yw’r rhifau hyn yn wahanol i’r ffurflen a gyhoeddwyd i Gorff Cofrestredig gwahanol ac ni ddylech gwblhau’r ffurflen gais.
  • Peidiwch ag addasu chwe digid cyntaf y rhif hwn.
  • Nodwch a oes gennych gyfrif talu yn adran y71. Os ydych chi wedi dethol Na, rhaid i chi amgáu taliad trwy siec. Peidiwch ag anfon manylion cerdyn debyd na chredyd nac arian parod.
  • Rhowch eich llofnod yn y blwch a ddarparwyd yn adran y72. Os yw’r ymgeisydd neu wirydd hunaniaeth wedi llofnodi trwy gamgymeriad, rhowch linell trwyddo a llofnodi yn y blwch.
  • Rhowch y dyddiad pan lofnodoch y ffurflen gais yn adran y73.
Y - datganiad gan berson cofrestredig

Beth sy’n digwydd nesaf?

Wedi i chi sicrhau eich bod wedi llenwi pob adran o’r ffurflen gais, rhaid i chi:

  • Llenwch y blychau gwirio yn adran a i sicrhau fod y cais wedi ei gwblhau.
  • Cofnodwch y Cyfeirnod Ffurflen ar flaen y ffurflen gais er mwyn i chi allu olrhain y cynnydd ar-lein yn www.gov.uk/dbs.
  • Mae’r gwasanaeth olrhain yn rhad ac am ddim i’w ddefnyddio. Gallwch olrhain mwy nag un cais ar unwaith.
  • Dylid hefyd darparu’r Cyfeirnod Ffurflen i’r ymgeisydd er mwyn iddo allu ymuno â’r Gwasanaeth Diweddaru os yw eisiau cadw ei Dystysgrif yn gyfredol.
  • Dylid anfon y ffurflen gais, ac unrhyw ddalenni parhad a ddefnyddiwyd, at y DBS i’w prosesu cyn gynted â phosibl.