Cyfarwyddyd ymarfer 84: Hawliau rheoli contractiol
Cyhoeddwyd 26 Hydref 2026
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn ymdrin â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.
1. Cyflwyniad
Mae’r cyfarwyddyd hwn yn ymwneud â Rheoliadau Darparu Gwybodaeth (Rheoli Contractiol) (Tir Cofrestredig) 2026, sy’n gymwys i dir cofrestredig yng Nghymru a Lloegr. Mae’r Rheoliadau yn rhan o nod y llywodraeth i wella tryloywder ynghylch pwy sydd â budd mewn datblygu tir, cefnogi marchnad dir fwy effeithlon a thecach a helpu awdurdodau lleol a chymunedau i ddeall pwy sy’n rheoli tir yn eu hardal.
O dan y Rheoliadau, rhaid darparu gwybodaeth i Gofrestrfa Tir EF am hawliau sydd wedi eu cynnwys mewn contractau penodol yn ymwneud â thir, megis opsiwn, hawliau contract amodol a hawl rhagbrynu (hawliau rheoli contractiol). Rhaid darparu gwybodaeth am reoli contractiol pan roddir hawl rheoli contractiol newydd neu pan gaiff hawl bresennol ei hamrywio neu ei haseinio’n ysgrifenedig. Ar ôl darparu gwybodaeth am reoli contractiol mewn perthynas â hawl, mae angen cadarnhad hefyd pan gaiff ei harfer neu pan ddaw i ben, boed hynny mewn perthynas â’r cyfan neu ran yn unig o’r tir yr effeithir arno.
Gwnaed y Rheoliadau ar 8 Mehefin 2026 a byddant yn dod i rym ar 6 Ebrill 2027. Bydd y gofyniad i ddarparu gwybodaeth yn gymwys o 6 Ebrill 2027 a bydd yn cynnwys dyletswydd i ddarparu gwybodaeth am reoli contractiol mewn perthynas â hawliau rheoli contractiol a roddwyd rhwng 8 Mehefin 2026 a 5 Ebrill 2027 (gweler Rhoi hawl rheoli contractiol ar neu ar ôl 8 Mehefin 2026 ond cyn 6 Ebrill 2027 am ragor o wybodaeth).
Bwriad y cyfarwyddyd hwn yw eich helpu i ddeall pa hawliau sy’n dod o fewn ei gwmpas, pa wybodaeth y mae’n rhaid ei darparu, a phryd a sut y mae’n rhaid ichi ei darparu. Nid yw’n disodli cyngor cyfreithiol, nac yn addasu nac yn gwrthwneud testun ac ystyr y Rheoliadau a’r diffiniadau sydd ynddynt. Byddwn yn ei adolygu a’i ddiweddaru yn ôl yr angen yn unol â datblygiadau gweithredol ac adborth. Rydym yn croesawu eich adborth i’n helpu i wella ein gwasanaethau a’n canllawiau; gweler Ein hymrwymiad a’ch adborth am ragor o fanylion am sut i gysylltu â ni.
1.1 Rhagor o wybodaeth a chysylltau
- Bydd gwybodaeth am sut i ddefnyddio’r set ddata gwybodaeth am reoli contractiol, a fydd ar gael o 6 Ebrill 2028, yn cael ei chyhoeddi cyn gynted â phosibl.
- I gael gwybodaeth fwy cyffredinol am ddiogelu hawliau, gan gynnwys hawliau rheoli contractiol, ar y gofrestr teitl, gweler cyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a diogelu buddion trydydd parti yn y gofrestr.
- I gael rhagor o fanylion am ganlyniadau methu â chydymffurfio â’r Rheoliadau, gweler Contractual control agreements.
I gael cyfarwyddyd ar sut mae’r Rheoliadau yn gymwys mewn sefyllfaoedd penodol, gweler Senarios hawliau rheoli contractiol.
2. Termau a ddefnyddir yn y cyfarwyddyd hwn
Yn y cyfarwyddyd hwn, mae gan y termau canlynol yr ystyron a ganlyn.
‘Business Gateway’ – ein sianel API sy’n caniatáu integreiddio uniongyrchol rhwng busnesau ein cwsmeriaid a’n systemau ar gyfer rheoli prosesau cofrestru’n ddigidol. Sylwer: efallai na fydd darparwyr meddalwedd sy’n integreiddio â Business Gateway yn cynnig yr holl swyddogaethau y cyfeirir atynt yn y cyfarwyddyd hwn i’w cwsmeriaid. Dylai cwsmeriaid wirio gyda’u cyflenwr eu hunain fod y meddalwedd a ddarperir iddynt yn diwallu eu hanghenion a’u disgwyliadau unigol.
‘Gwybodaeth am reoli contractiol’ – y wybodaeth y mae’r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i grantî ei darparu mewn perthynas â hawl rheoli contractiol – gweler Categorïau o wybodaeth am reoli contractiol am arweiniad.
‘Set ddata gwybodaeth am reoli contractiol’ – y set ddata o wybodaeth am reoli contractiol y byddwn yn ei chyhoeddi ac yn ei diweddaru o fis Ebrill 2028.
‘Hawl rheoli contractiol’ – un o’r categorïau o hawl a ddiffinnir yn y Rheoliadau y mae’n rhaid darparu gwybodaeth am reoli contractiol yn ei chylch. Gweler Hawliau rheoli contractiol am ganllawiau ar yr hyn sy’n gyfystyr â hawl rheoli contractiol.
‘Trawsgludwr’ – unigolyn sy’n cael ei reoleiddio’n bersonol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007 i gyflawni gweithgareddau offerynnau neilltuedig yn ymwneud â chofrestru tir. Sylwer: nid yw hyn yn cynnwys cyflogeion cwmnïau trawsgludo a reoleiddir os nad ydynt yn cael eu rheoleiddio’n bersonol.
‘Grantî’ – y person sy’n gallu gorfodi hawl neu, lle bo’n gymwys, sydd â hawl gyfreithiol i ofyn neu gyfarwyddo bod y perchennog yn trosglwyddo neu’n prydlesu’r tir yr effeithir arno.
‘Porthol’ – ein porthol ar-lein ar gyfer cyflwyno ceisiadau cofrestru tir yn ddigidol.
‘Rheoliadau’ – Rheoliadau Darparu Gwybodaeth (Rheoli Contractiol) (Tir Cofrestredig) 2026.
‘Rhif Cyfeirnod Eiddo Unigryw’ – rhif adnabod unigryw ar gyfer pob lleoliad y gellir rhoi cyfeiriad iddo ym Mhrydain Fawr.
3. Hawliau rheoli contractiol
Mae’r Rheoliadau yn gymwys i hawliau penodol sy’n rhoi i rywun, datblygwr neu hyrwyddwr tir fel arfer, y gallu i reoli gwerthiannau neu brydlesi tir cofrestredig yn y dyfodol.
Mae’r Rheoliadau yn gymwys i bedwar categori cyffredinol o hawl rheoli contractiol.
- Opsiwn i fynnu bod y tirfeddiannwr yn trosglwyddo neu’n prydlesu tir.
- Contract amodol – lle gall y grantî fynnu bod y tirfeddiannwr yn trosglwyddo neu’n prydlesu tir ar ôl bodloni amodau penodedig.
- Hawl rhagbrynu a all roi hawl i’r grantî gael trosglwyddiad neu brydles tir.
- Hawl gyfreithiol i gyfarwyddo neu ofyn i’r tirfeddiannwr werthu neu brydlesu tir. Mae’r hawliau hyn yn aml wedi eu cynnwys mewn cytundebau hyrwyddo tir lle gall y grantî fynnu bod y tirfeddiannwr yn gwerthu’r tir ar y farchnad agored ac yn rhannu’r elw â’r grantî.
Yn aml, hawl rheoli contractiol fydd yr unig hawl neu’r brif hawl yn y contract sy’n ei chreu. Mewn achosion eraill, gall un contract greu nifer o hawliau. Os yw mwy nag un o’r hawliau hynny yn bodloni’r meini prawf ar gyfer bod yn hawl rheoli contractiol, bydd yn rhaid darparu gwybodaeth am reoli contractiol am bob hawl sy’n gwneud hynny.
Er y bydd natur a disgrifiad y contract mewn llawer o achosion yn rhoi arwydd clir ei fod yn debygol o gynnwys un neu ragor o hawliau rheoli contractiol, ni fydd hynny’n wir bob amser. Dylai’r canllawiau hyn eich helpu i nodi:
- y meini prawf angenrheidiol er mwyn i hawl gymhwyso fel hawl rheoli contractiol; ac
- eithriadau sy’n atal hawl rhag bod yn hawl rheoli contractiol.
Os nad ydych yn siwr ar ôl darllen y canllawiau hyn a yw hawl yn hawl rheoli contractiol, dylech gyfeirio’n uniongyrchol at y Rheoliadau.
I gael cyfarwyddyd ar sut mae’r Rheoliadau yn gymwys mewn sefyllfaoedd penodol, gweler Senarios hawliau rheoli contractiol.
3.1 Meini prawf ar gyfer hawl rheoli contractiol
3.1.1 Rhaid i’r hawl godi o dan gontract ysgrifenedig
Fel y mae’r disgrifiad yn ei awgrymu, dim ond i hawliau contractiol y mae’r Rheoliadau yn gymwys. Mae hyn yn golygu na all hawliau statudol, na hawliau a grëwyd trwy orchymyn llys, fod yn hawliau rheoli contractiol. Yn y cyd-destun hwn, mae ‘contract’ yn cynnwys gweithred, p’un a roddir unrhyw gydnabyddiaeth yn gyfnewid am yr hawl ai peidio.
3.1.2 Rhaid i’r hawl ymwneud â throsglwyddiad neu brydles hir tir cofrestredig yn y dyfodol
Mae pob categori o hawl rheoli contractiol yn rhoi hawl i’r grantî reoli perchnogaeth hirdymor y tir yr effeithir arno yn y dyfodol.
Dim ond os yw opsiwn neu hawl contractiol arall yn rhoi hawl i’r grantî reoli trosglwyddo tir rhydd-ddaliol neu roi neu werthu prydles hir gan y perchennog cofrestredig y bydd yn hawl rheoli contractiol.
Mae hyn yn golygu nad yw’r enghreifftiau canlynol yn hawliau rheoli contractiol.
- Opsiwn i gaffael hawddfraint yn unig neu hawl arall dros dir cofrestredig.
- Contract ar gyfer rhoi prydles â chyfnod contractiol o lai na 15 mlynedd.
- Contract i gymryd trosglwyddiad o brydles gofrestredig y mae llai na 15 mlynedd o’i chyfnod contractiol ar ôl ar ddyddiad y contract.
Dim ond i hawliau sy’n effeithio ar dir cofrestredig y mae’r Rheoliadau yn gymwys. Mae bron pob tir yng Nghymru a Lloegr yn gofrestredig erbyn hyn, ond nid yw hawl a roddir dros dir digofrestredig yn unig yn hawl rheoli contractiol bryd hynny. Fodd bynnag, efallai y bydd angen darparu gwybodaeth am reoli contractiol yn ddiweddarach os cofrestrir y tir wedyn ac amrywir neu aseinir yr hawl, neu os gwneir cais yn ddiweddarach am rybudd neu gyfyngiad i ddiogelu’r hawl ar y gofrestr teitl. Gweler Pryd y mae’n rhaid darparu gwybodaeth am hawl rheoli contractiol? am arweiniad ynghylch y digwyddiadau sy’n peri’r gofyniad i ddarparu gwybodaeth am reoli contractiol.
3.1.3 Rhaid dal yr hawl ‘at ddibenion ymgymeriad’
Dim ond hawliau a ddelir at ddibenion ymgymeriad a all ddod o fewn cwmpas y Rheoliadau.
Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y gall hawliau a gaffaelir at ddibenion busnes, elusennol neu gyhoeddus fod yn hawliau rheoli contractiol. I’r gwrthwyneb, ni fydd hawliau a gaffaelir at ddibenion personol yn unig yn hawliau o’r fath. Er enghraifft, ni fyddai opsiwn a gaffaelwyd gan unigolyn fel buddsoddiad preifat neu i brynu llain i adeiladu ei gartref ei hun arni yn hawl rheoli contractiol, hyd yn oed pe bai ganddo holl nodweddion eraill hawl o’r fath.
At y dibenion hyn, dehonglir ‘ymgymeriad’ yn eang. Mae’n cynnwys busnesau, elusennau a sefydliadau tebyg, yn ogystal ag arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus.
Mae’r rhan fwyaf o hawliau rheoli contractiol yn debygol o gael eu rhoi i gwmnïau neu sefydliadau eraill. Er ei fod yn llai cyffredin, gall hawl a roddir i un neu ragor o unigolion fod yn hawl rheoli contractiol o hyd pan gaiff ei dal at ddibenion ymgymeriad, er enghraifft pan fo unigolion yn cynnal busnes neu’n gweithredu fel ymddiriedolwyr elusen.
3.1.4 Yn gyffredinol, rhaid gallu gorfodi’r hawl yn erbyn perchennog yr ystad gofrestredig
Mewn prosiectau datblygu mwy, gall datblygwr sydd wedi caffael hawl i gael tir gan y perchennog cofrestredig ymrwymo i gytundebau pellach i werthu neu brydlesu’r cyfan neu ran o’r tir hwnnw o dan amgylchiadau penodedig. Gall yr hawliau eilaidd hyn gael eu rhoi i ddatblygwyr eraill neu i’r rhai a fydd yn berchen ar y tir yn y pen draw ar ôl cwblhau’r datblygiad. O ganlyniad, gall cadwyn gymhleth o hawliau godi tra bo’r tir yn parhau ym mherchnogaeth y perchennog gwreiddiol.
Yn gyffredinol, dim ond y brif hawl, sy’n galluogi’r grantî i reoli gwarediad gan y perchennog cofrestredig yn y dyfodol, fydd yn hawl rheoli contractiol.
Fodd bynnag, mae eithriad yn gymwys pan gofnodir rhybudd neu gyfyngiad yn y gofrestr i ddiogelu hawl eilaidd, megis is-gontract amodol. Yn yr achos hwnnw, bydd yr hawl eilaidd yn cael ei thrin fel hawl rheoli contractiol os byddai fel arall yn bodloni’r meini prawf, oni bai am y ffaith iddi gael ei rhoi gan rywun heblaw’r perchennog cofrestredig (gweler Gwneud cais am rybudd neu gyfyngiad mewn perthynas â hawl rheoli contractiol).
3.2 Hawliau contractiol eithriedig
3.2.1 Hawliau tymor byr
Ni fydd hawl a all bara am gyfnod o lai na 18 mis yn hawl rheoli contractiol.
Ni fydd hawl yn gymwys ar gyfer yr eithriad tymor byr os yw’r cytundeb yn caniatáu iddi barhau am 18 mis neu fwy, hyd yn oed os yw’r cyfnod cychwynnol yn fyrrach. Er enghraifft, gall hawl i brynu tir, sy’n amodol ar ganiatâd cynllunio, barhau yn ystod unrhyw apêl gynllunio. Os gallai hyn arwain at gyfnod cyfan o 18 mis neu fwy, ni fydd yr eithriad yn gymwys.
3.2.2 Hawliau a ddelir at ddibenion nad ydynt yn ymwneud â datblygu
Nod y Rheoliadau yw gwella tryloywder ynghylch pwy sydd â budd mewn datblygu tir, yn enwedig datblygiad yn ymwneud â thai neu adeiladu arall.
Bydd hawl a ddelir yn unig at ddiben nad yw’n ymwneud â datblygu tai neu ddatblygiad sy’n creu 100 metr sgwâr neu ragor o arwynebedd llawr mewn adeilad wedi ei heithrio.
- Mae’r eithriad hwn yn eithaf penodol a dylid ei ddehongli’n gul. Efallai y bydd y canllawiau canlynol o help.
- Mae i ddatblygiad yr un ystyr ag yn adran 55 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.
- Mae datblygu tai yn cynnwys darparu unrhyw fath o annedd, gan gynnwys fflatiau. Mae hefyd yn cynnwys darparu tai trwy newid defnydd adeilad presennol.
- Ni fydd yr eithriad yn gymwys os yw’r hawl yn cefnogi datblygiad tai neu ddatblygiad adeiladu perthnasol arall, hyd yn oed pan fydd y datblygiad hwnnw’n digwydd ar dir gwahanol. Er enghraifft, ni fyddai opsiwn i gaffael tir ar gyfer ffordd fynediad sy’n gwasanaethu tai newydd ar dir cyfagos yn gymwys i gael ei eithrio.
- Mae opsiwn a gaffaelir dros dir yn gyffredinol yn y gobaith y bydd ei werth yn cynyddu yn annhebygol o gymhwyso ar gyfer yr eithriad hwn. Yn aml, bydd y cynnydd y gobeithir amdano yn ymwneud â datblygiad yn y dyfodol.
- Mae’r eithriad yn debygol o fod yn gymwys dim ond pan all y grantî ddangos bod ganddo ddiben clir dros gaffael yr hawl ac nad yw’r diben hwnnw’n ymwneud â datblygu.
Rydym wedi ystyried rhai senarios sy’n dangos sut y gall yr eithriad hwn fod yn gymwys i fathau cyffredin o hawliau contractiol (gweler Senarios hawliau rheoli contractiol).
3.2.3 Hawliau i sicrhau taliad gorswm yn y dyfodol
Yng nghyd-destun y farchnad eiddo, mae gorswm yn gyffredinol yn cyfeirio at rwymedigaeth i dalu cydnabyddiaeth bellach i gyn-dirfeddiannwr, yn aml pan roddir caniatâd cynllunio neu pan fo amgylchiadau eraill yn codi sy’n arwain at gynnydd yng ngwerth y tir.
Pan fydd hynny’n digwydd, mae’r cyn-dirfeddiannwr yn aml yn gosod arwystl neu hawliau eraill i sicrhau taliad y gydnabyddiaeth bellach. Mae’r eithriad hwn yn sicrhau na fydd hawliau o’r fath yn hawliau rheoli contractiol.
3.2.4 Sicrwydd ar gyfer benthyciadau neu gyllid
Mae hawl sy’n angenrheidiol neu’n gysylltiedig â sicrwydd ar gyfer benthyciad neu offeryn ariannol wedi ei heithrio rhag bod yn hawl rheoli contractiol. Yn aml, mae arwystlon ariannol, trefniadau sicrwydd a darpariaethau eraill sy’n gysylltiedig â benthyciadau neu offerynnau ariannol yn cynnwys darpariaethau a allai, oni bai am yr eithriad hwn, ddod o fewn diffiniad hawl rheoli contractiol.
Nid diben hawliau o’r fath yw caniatáu i’r grantî reoli gwarediad o’r tir yn y dyfodol at ddibenion datblygu, ond sicrhau y gall adennill arian sy’n ddyledus iddo os na fydd y cymerwr benthyg yn ad-dalu, fel arfer o enillion gwerthu’r tir.
3.2.5 Hawliau mewn rhai cytundebau adran 106
Bydd hawl sydd wedi ei chynnwys mewn contract gydag awdurdod cynllunio lleol a wnaed o dan adran 106 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 wedi ei heithrio rhag bod yn hawl rheoli contractiol, ond dim ond pan fo’n ymwneud yn unig â darparu seilwaith, amwynderau neu wasanaethau mewn cysylltiad â rhoi caniatâd cynllunio.
3.2.6 Diogelwch gwladol neu amddiffyn
Mae hawl sydd wedi ei chynnwys mewn contract a wnaed at ddibenion diogelwch gwladol neu amddiffyn wedi ei heithrio rhag bod yn hawl rheoli contractiol.
4. Pryd y mae’n rhaid darparu gwybodaeth am hawl rheoli contractiol?
Mae’r adran hon yn rhoi arweiniad am y canlynol.
- Pryd y mae’n rhaid darparu gwybodaeth am reoli contractiol am hawl am y tro cyntaf.
- Y digwyddiadau pellach sy’n peri gofyniad i ddarparu gwybodaeth wedi ei diweddaru.
I gael arweiniad am y wybodaeth y mae’n rhaid ei darparu pan gaiff hawl gofnodedig ei harfer neu pan ddaw i ben fel arall, gweler Gwybodaeth am derfynu, dod i ben neu arfer hawl gofnodedig.
4.1 Digwyddiadau sy’n digwydd ar neu ar ôl 6 Ebrill 2027 sy’n peri’r gofyniad i ddarparu gwybodaeth am reoli contractiol am hawl am y tro cyntaf
Os bydd unrhyw un o’r digwyddiadau canlynol yn digwydd ar neu ar ôl 6 Ebrill 2027, bydd angen darparu gwybodaeth am reoli contractiol. Y digwyddiadau hynny yw:
- rhoi hawl rheoli contractiol newydd
- aseinio hawl rheoli contractiol bresennol
- unrhyw amrywiad ysgrifenedig i hawl bresennol sy’n newid unrhyw ran o’r wybodaeth am reoli contractiol.
Os rhoddir hawl rheoli contractiol newydd ar neu ar ôl 6 Ebrill 2027, rhaid i’r grantî ddarparu gwybodaeth am yr hawl o fewn 60 niwrnod i’w rhoi. Yn yr un modd, os aseinir neu amrywir hawl a oedd yn bodoli eisoes ar neu ar ôl 6 Ebrill 2027, rhaid i’r grantî ddarparu’r wybodaeth o fewn 60 niwrnod i’r aseiniad neu’r amrywiad (gweler Gwybodaeth am derfynu, dod i ben neu arfer hawl gofnodedig).
Bydd cais am rybudd neu gyfyngiad mewn perthynas â hawl rheoli contractiol yn peri gofyniad i ddarparu gwybodaeth hefyd. Gweler Gwneud cais am rybudd neu gyfyngiad mewn perthynas â hawl rheoli contractiol.
Dylech asesu a yw hawl yn hawl rheoli contractiol ar y dyddiad y mae’r digwyddiad peri yn digwydd. Er enghraifft, ni fyddai’n rhaid darparu gwybodaeth am opsiwn a roddwyd yn 2025, hyd yn oed pe bai’n cael ei aseinio yn 2028, os oes cyn lleied o amser ar ôl o gyfnod yr opsiwn erbyn dyddiad yr aseiniad nes ei fod wedi dod yn hawl tymor byr (gweler Hawliau tymor byr) ac felly nad yw bellach yn gymwys fel hawl rheoli contractiol.
4.2 Rhoi hawl rheoli contractiol ar neu ar ôl 8 Mehefin 2026 ond cyn 6 Ebrill 2027
Os rhoddir hawl newydd yn ystod y cyfnod rhwng y dyddiad y gwnaed y Rheoliadau (8 Mehefin 2026) a’r dyddiad y dônt i rym (6 Ebrill 2027), rhaid i’r grantî ddarparu gwybodaeth am yr hawl ar ôl i’r Rheoliadau ddod i rym. Rhaid i’r grantî wneud hyn cyn 6 Hydref 2027.
Pwysig
Efallai y bydd angen ichi ddarparu gwybodaeth am hawliau a roddwyd ar neu ar ôl 8 Mehefin 2026, er nad oedd y Rheoliadau mewn grym pan roddwyd yr hawliau hynny.
Rhaid cyflwyno gwybodaeth am yr hawliau hynny pan fydd gwasanaeth cyflwyno digidol Cofrestrfa Tir EF ar gael ym mis Ebrill 2027.
Dim ond rhoi hawl rheoli contractiol newydd yn ystod y cyfnod hwn sy’n peri gofyniad i ddarparu gwybodaeth. Ni fydd aseinio hawl bresennol yn ystod y cyfnod, nac amrywiad nad yw mor sylfaenol fel ei fod yn gyfystyr ag ildio ac ail-roi’r hawl, yn cael yr un effaith. Fodd bynnag, rhaid i roddai hawl newydd ddarparu gwybodaeth gyfredol. Felly, os aseinir neu amrywir yr hawl cyn i’r Rheoliadau ddod i rym, rhaid i’r wybodaeth a ddarperir yn ddiweddarach adlewyrchu’r newidiadau hynny.
4.3 Y gofyniad i ddiweddaru gwybodaeth a ddarparwyd am hawl rheoli contractiol pan gaiff ei haseinio neu ei hamrywio
Ar ôl darparu gwybodaeth am hawl, rhaid i’r grantî gadarnhau a diweddaru’r wybodaeth o fewn 60 niwrnod i’r hawl gael ei haseinio neu ei hamrywio, pan fo’r amrywiad yn ysgrifenedig ac yn newid unrhyw wybodaeth a ddarparwyd eisoes.
Mae hyn yn wir hyd yn oed os nad yw’r hawl, erbyn adeg yr aseiniad, bellach yn gymwys fel hawl rheoli contractiol, efallai am ei bod wedi dod yn hawl tymor byr (gweler Hawliau tymor byr, neu am fod yr aseinai wedi caffael yr hawl yn unig at ddiben nad yw’n ymwneud â datblygu (gweler Hawliau a ddelir at ddibenion nad ydynt yn ymwneud â datblygu).
Ceir un eithriad i’r gofyniad i’r derbynnydd gadarnhau a diweddaru’r wybodaeth rheoli contractiol sydd eisoes wedi ei darparu yn dilyn trosglwyddiad neu amrywiad. Mae hyn pan ddilynir yr aseiniad neu’r amrywiad yn fuan gan ddigwyddiad sy’n dod â’r hawl i ben yn llwyr, ar yr amod bod y grantî yn cadarnhau bod yr hawl wedi dod i ben cyn diwedd y cyfnod 60 niwrnod ar gyfer rhoi gwybod am yr aseiniad neu’r amrywiad (gweler Gwybodaeth am derfynu, dod i ben neu arfer hawl gofnodedig).
Os bydd nifer o ddigwyddiadau’n digwydd o fewn cyfnod byr a byddai pob un fel arfer yn ei gwneud yn ofynnol i’r grantî ddarparu neu ddiweddaru gwybodaeth, nid oes yn rhaid i’r grantî gyflwyno adroddiad ar wahân ar ôl pob digwyddiad o angenreidrwydd. Mae’r grantî sy’n dal yr hawl pan fydd y digwyddiad cyntaf yn digwydd yn parhau’n gyfrifol am sicrhau bod y wybodaeth ofynnol yn cael ei darparu o fewn 60 niwrnod (neu, yn achos grant o’r math a amlinellir yn Rhoi hawl rheoli contractiol ar neu ar ôl 8 Mehefin 2026 ond cyn 6 Ebrill 2027 erbyn 6 Hydref 2027). Fodd bynnag, nid oes angen iddynt gyflwyno adroddiad ar gyfer y digwyddiad cyntaf os darperir gwybodaeth ddiweddaraf, sy’n adlewyrchu’r digwyddiad diweddarach, cyn y dyddiad cau hwnnw.
4.4 Gwneud cais am rybudd neu gyfyngiad mewn perthynas â hawl rheoli contractiol
Mae’r rhan fwyaf o hawliau rheoli contractiol yn cael eu diogelu ar y gofrestr teitl naill ai trwy rybudd, trwy gyfyngiad, neu weithiau trwy’r ddau fath o gofnod.
Gwneir y cais fel rheol yn syth ar ôl rhoi’r hawl er mwyn sicrhau bod ei blaenoriaeth wedi ei diogelu’n ddigonol. Rhaid i’r ceisydd fod wedi darparu gwybodaeth am yr hawl erbyn iddo wneud y cais, er nad yw’r terfyn amser 60 niwrnod wedi dod i ben eto. Yn gyffredinol, ni fyddwn yn derbyn cais am rybudd neu gyfyngiad os nad yw gofyniad i ddarparu gwybodaeth am reoli contractiol wedi ei fodloni eto.
Pan geisir rhybudd neu gyfyngiad i ddiogelu hawl a fyddai’n dod o fewn diffiniad hawl rheoli contractiol, oni bai nad yw’r grantiwr wedi ei gofrestru’n berchennog eto, mae’r Rheoliadau yn trin yr hawl honno fel hawl rheoli contractiol.
Mae’r cais yn gweithredu fel sbardun ar wahân ar gyfer darparu gwybodaeth. Mae hyn yn golygu bod rhaid darparu gwybodaeth cyn i’r cais fynd rhagddo, hyd yn oed os rhoddwyd yr hawl ymhell cyn gwneud y Rheoliadau ac na chafodd ei haseinio na’i hamrywio ers hynny.
Bydd Cofrestrfa Tir EF yn gofyn i rywun sy’n gwneud cais am rybudd neu gyfyngiad gadarnhau a yw’r cofnod yn ymwneud â hawl rheoli contractiol ac, os felly, a gydymffurfiwyd â gofynion y Rheoliadau.
5. Sut i ddarparu gwybodaeth am reoli contractiol
Bydd gwasanaeth cyflwyno digidol Cofrestrfa Tir EF ar gael o 6 Ebrill 2027. Bydd gwasanaeth newydd – ‘Rhoi gwybod am reoli contractiol dros dir’ – yn cael ei lansio yn y Porthol, ac yn Business Gateway wedi hynny. Byddwn yn gweithio gydag integreiddwyr Business Gateway trydydd parti i sicrhau bod ganddynt bopeth sydd ei angen arnynt i alluogi eu cwsmeriaid i ddefnyddio’r gwasanaeth newydd, a byddwn yn cyhoeddi canllawiau technegol â rhagor o fanylion am sut i gyflwyno gwybodaeth cyn lansio’r gwasanaeth.
6. Pwy sy’n gorfod darparu’r wybodaeth ofynnol
6.1 Cyfrifoldeb dros ddarparu gwybodaeth
Grantî hawl rheoli contractiol sy’n gyfrifol am ddarparu’r wybodaeth ofynnol i Gofrestrfa Tir EF a rhaid iddo sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei darparu gan drawsgludwr trwy ddefnyddio ein systemau digidol.
Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am reoli contractiol (gweler Y wybodaeth y mae’n rhaid ei darparu, yn ogystal â’r wybodaeth y mae’n rhaid ei darparu pan fydd hawl rheoli contractiol wedi ei harfer neu wedi dod i ben fel arall.
Er bod y grantî yn gyfrifol am ddarparu’r wybodaeth ofynnol ac yn atebol am wallau neu hepgoriadau perthnasol, nid oes rhaid iddo ailadrodd gwybodaeth y mae rhywun arall eisoes wedi ei darparu. Er enghraifft, pan fo nifer o hawliau’n codi o dan un contract, gall trawsgludwr sy’n gweithredu dros un grantî gytuno i ddarparu’r wybodaeth sy’n ymwneud â’r holl hawliau a roddwyd.
Pan fo’r hawl wedi ei diogelu yn y gofrestr teitl trwy rybudd neu gyfyngiad (gweler Gwneud cais am rybudd neu gyfyngiad mewn perthynas â hawl rheoli contractiol) mae’r ceisydd am y cofnod hefyd yn gyfrifol am ddarparu gwybodaeth cyn bwrw ymlaen â’i gais. Er y gallai hyn, yn dechnegol, olygu bod nifer o bobl yn gyfrifol am ddarparu’r un wybodaeth, dim ond unwaith y byddwn yn ei gwneud yn ofynnol iddi gael ei darparu ac, yn y rhan fwyaf o achosion, y grantî hefyd fydd y person sy’n gwneud cais i ddiogelu’r hawl ar y gofrestr.
6.2 Rhaid i’r wybodaeth gael ei darparu gan drawsgludwr
Rhaid i drawsgludwr sy’n darparu gwybodaeth i Gofrestrfa Tir EF ar ran grantî fod yn unigolyn sydd wedi cymhwyso i weithredu mewn materion cofrestru tir, megis cyfreithiwr a reoleiddir yn unigol, trawsgludwr trwyddedig neu weithredwr cyfreithiol siartredig. Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn sicrhau cywirdeb y wybodaeth.
Dim ond os ydynt yn cael eu rheoleiddio’n bersonol y bydd cyflogeion cwmnïau trawsgludo a reoleiddir sy’n gwneud ceisiadau cofrestru tir yn rheolaidd ar ran eu cwmni yn gallu darparu’r wybodaeth sy’n ofynnol gan y Rheoliadau (er y gall cydweithiwr fod wedi ei pharatoi i’w chyflwyno).
Byddwn yn gofyn i’r trawsgludwr a reoleiddir yn unigol gadarnhau ei rif cofrestru proffesiynol ac enw’r awdurdod a’i cyhoeddodd. Er enghraifft, os yw’r trawsgludwr yn gyfreithiwr, byddwn yn gofyn am ei rif unigol gyda’r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr. Ni fyddwn yn cyhoeddi’r wybodaeth hon. Gan nad yw trawsgludwyr yn cael eu holi’n rheolaidd am eu rhif cofrestru proffesiynol, dylent ei gael wrth law.
Pan gaiff hawl ei haseinio neu ei hamrywio, bydd angen i’r grantî ddarparu gwybodaeth wedi ei diweddaru a ddylai fod yn gyfredol ar y dyddiad y caiff ei darparu. Nid oes rhaid defnyddio’r un trawsgludwr ag a ddarparodd wybodaeth pan roddwyd yr hawl gyntaf. Mae’r un peth yn wir pan fo’n rhaid dweud wrthym fod hawl wedi ei harfer neu wedi dod i ben.
7. Y wybodaeth y mae’n rhaid ei darparu
Crynhoir y wybodaeth am reoli contractiol y mae’n rhaid ei darparu pan gaiff hawl ei rhoi, ei hamrywio neu ei haseinio, neu pan wneir cais i’w diogelu yn y gofrestr, yn Categorïau o wybodaeth am reoli contractiol.
Pan fydd yr un cytundeb yn cynnwys mwy nag un hawl rheoli contractiol, rhaid darparu gwybodaeth ar wahân ar gyfer pob hawl. Dim ond unwaith y mae angen darparu’r wybodaeth, hyd yn oed os oes mwy nag un person yn gyfrifol am ei darparu. Pan fo gwybodaeth yn berthnasol i fwy nag un hawl, ein nod yw lleihau’r angen i’w hailadrodd.
Pan fo’r Rheoliadau yn mynnu bod manylion yn cael eu darparu, byddwn yn eu cael trwy ofyn i drawsgludwyr ateb cwestiynau am yr hawl. Yn y rhan fwyaf o achosion, gofynnir i’r trawsgludwr ddewis un ateb neu ragor o blith nifer o ddewisiadau.
Rydym yn cynnal ymchwil defnyddwyr gyda thrawsgludwyr a defnyddwyr y set ddata yn y dyfodol. Ein nod yw dylunio gwasanaeth sy’n casglu’r wybodaeth sydd ei hangen i wella tryloywder tir, cefnogi marchnad dir deg ac effeithlon, a helpu awdurdodau lleol a chymunedau i ddeall pwy sy’n rheoli tir, gan leihau’r gost a’r baich gweinyddol ar y rhai sy’n darparu’r wybodaeth.
Rhaid i roddai hefyd ddweud wrthym pan ddaw hawl sydd wedi ei chofnodi yn y set ddata i ben, gan gynnwys pan fo hynny oherwydd bod yr hawl wedi ei harfer yn gyfan gwbl neu’n rhannol. Gweler Gwybodaeth am derfynu, dod i ben neu arfer hawl gofnodedig am ragor o arweiniad.
7.1 Categorïau o wybodaeth am reoli contractiol
7.1.1 Manylion y grantiwr a’r grantî
Mae angen y wybodaeth ganlynol er mwyn adnabod y partïon yn unigryw.
- Enwau llawn.
- Rhif adnabod yr endid, os yw’n gymwys: os yw’r naill barti neu’r llall yn gwmni neu’n endid arall sydd â phersonoliaeth gyfreithiol, dylid darparu rhif cofrestru cyhoeddus, yr awdurdod a’i cyhoeddodd (er enghraifft, Tŷ’r Cwmnïau neu’r Comisiwn Elusennau) a’r wlad ymgorffori.
- Dyddiad a man geni’r grantiwr, os yw’n unigolyn, er mwyn sicrhau hunaniaeth gywir. Ni fyddwn yn cyhoeddi’r wybodaeth hon.
Dylai trawsgludwyr sy’n gweithredu dros grantî a fydd angen darparu gwybodaeth ragweld yr angen i ddarparu’r wybodaeth hon pan fo un neu ragor o’r grantwyr yn unigolyn.
Mewn achosion eithriadol, gall y cofrestrydd dderbyn ei bod yn afresymol disgwyl i’r grantî ddarparu’r wybodaeth hon. Er enghraifft, gellir trosglwyddo hawl sy’n bodoli eisoes heb i berchennog y tir yr effeithir arno fod yn rhan o’r broses, ac efallai nad oes gan y perchennog hwnnw na’r trosglwyddwr y wybodaeth ofynnol, ac efallai na fyddant yn gallu ei chael.
Pwysig
Mae dyddiadau a mannau geni yn rhan o’r wybodaeth ofynnol. Gan na fydd unigolion preifat o bosibl yn disgwyl cael cais am y wybodaeth hon, dylai trawsgludwyr sy’n gweithredu dros y grantî ei chasglu cyn rhoi neu amrywio’r hawl.
7.1.2 Y math o hawl rheoli contractiol
Gofynnir i’r grantî nodi pa un o’r pedwar categori sy’n gymwys: a yw’r hawl yn
- opsiwn
- contract amodol
- hawl rhagbrynu
- neu hawl i gyfarwyddo neu ofyn i dirfeddiannwr werthu neu brydlesu tir
7.1.3 Dyddiad, partïon a theitl neu ddisgrifiad y contract a greodd neu a roddodd yr hawl
Bydd y wybodaeth hon yn helpu defnyddwyr i adnabod hawliau y maent eisoes yn gwybod amdanynt yn y set ddata ac i ddarganfod unrhyw hawliau cofnodedig nad oeddynt yn ymwybodol ohonynt cyn hynny.
7.1.4 Y dyddiad y gellir arfer yr hawl ohono, oni bai ei bod yn hawl rhagbrynu
Rhaid nodi’r dyddiad y gellir arfer yr hawl oddi arno. Os yw’r dyddiad yn dibynnu ar fod amodau penodol wedi eu bodloni, rhaid rhoi disgrifiad byr o’r amodau hynny yn lle hynny.
7.1.5 Cyfnod rheoli cychwynnol
Dyma’r cyfnod cychwynnol pan fo gan y grantî reoli dros y tir yr effeithir arno. Bydd y cyfnod yn dechrau ar ddyddiad y contract ac yn parhau hyd at y dyddiad diweddaraf y gellir arfer yr hawl, gan anwybyddu unrhyw ddarpariaethau i estyn y dyddiad hwnnw. Pan na ellir pennu’r dyddiad gorffen o dan y contract, bydd trawsgludwr yn gallu cadarnhau hyn.
7.1.6 Darpariaethau yn y contract i estyn y cyfnod rheoli cychwynnol
Unrhyw ddarpariaethau neu hawliau o dan y contract i estyn y cyfnod rheoli cychwynnol.
7.1.7 Hawl i derfynu’r hawl
Manylion unrhyw hawl gan y naill barti neu’r llall i derfynu’r hawl
7.1.8 Rhif neu rifau teitl yr ystadau cofrestredig yr effeithir arnynt gan yr hawl
Rhaid nodi pob rhif teitl yr effeithir arno. Pan fo rhif teitl newydd wedi ei ddyrannu dros dro i ystad ac nid yw’r cais i gwblhau ei chofrestriad wedi ei gwblhau, dylid nodi’r rhif teitl hwnnw.
7.1.9 Lleoliad y tir yr effeithir arno
Pan fo hawl yn effeithio ar y cyfan o bob teitl cofrestredig yr effeithir arno, ni fydd angen gwybodaeth ychwanegol arnom i leoli’r tir. Byddwn yn gallu sefydlu hyn o’r data sydd gennym eisoes am stent y teitlau hynny.
Pan mai dim ond rhan o’r tir mewn teitl cofrestredig yr effeithir arni, bydd angen gwybodaeth arnom i adnabod y rhan neu’r rhannau dan sylw.
Un ffordd o ddarparu’r wybodaeth hon yw uwchlwytho ffeil ddigidol sy’n cynnwys data gofodol (hynny yw, map y gall cyfrifiadur ei ddarllen sy’n dangos stent y tir yr effeithir arno) mewn fformat cymeradwy: Shapefile neu GeoJSON ar hyn o bryd, gan ddefnyddio cyfesurynnau’r Grid Cenedlaethol Prydeinig.
Gall fod yn hawdd cael ffeil o’r fath pan gyflogwyd arolygwr tir neu weithiwr proffesiynol arall i baratoi cynllun ar gyfer y contract i greu’r hawl. Efallai y bydd trawsgludwr y grantî am sicrhau bod ffeil ddigidol addas yn cael ei darparu.
Pwysig
Os ydych yn bwriadu uwchlwytho ffeil ddigidol sy’n cynnwys data gofodol, ystyriwch drefnu iddi gael ei pharatoi ar yr un pryd â chynllun y contract. Trafodwch hyn ymlaen llaw â’r arolygwr tir neu weithiwr proffesiynol arall sy’n paratoi’r cynllun er mwyn lleihau costau ac osgoi dyblygu ymdrech.
Pan nad oes ffeil ddigidol addas ar gael, byddwn yn darparu ffyrdd eraill i’r trawsgludwr adnabod tir mewn teitlau yr effeithir arnynt yn rhannol yn unig. Ni fyddwn yn mynnu bod y trawsgludwr yn cynrychioli stent cyfreithiol pendant hawl – dim ond i ddarparu tryloywder am y tir yr effeithir arno y mae angen y wybodaeth.
7.1.10 Cyfeiriad y tir
Nodwch leoliad diriaethol y tir a gwmpesir gan yr hawl, gan gynnwys unrhyw god post sy’n bodoli ar gyfer y tir. Efallai y byddwn yn gofyn am unrhyw Rif Cyfeirnod Eiddo Unigryw (UPRN) sy’n gymwys i’r tir hefyd.
7.1.11 Tir o dan yr wyneb a gofod awyr
Rhaid i’r trawsgludwr gadarnhau a yw’r ardal sy’n ddarostyngedig i’r hawl yn cynnwys tir (gan gynnwys gofod awyr) a ddelir ar wahân i’r tir ar yr wyneb.
7.2 Gwybodaeth am derfynu, dod i ben neu arfer hawl gofnodedig
Pan ddarparwyd gwybodaeth am hawl rheoli contractiol, rhaid i’r grantî hefyd gadarnhau o fewn 60 niwrnod ar ôl i’r hawl ddod i ben. Diben hyn yw sicrhau bod y set ddata yn cael ei diweddaru ac nad yw’n cael ei llenwi â manylion hawliau nad ydynt bellach yn effeithio ar y tir.
Rhaid i’r grantî gadarnhau’r canlynol o fewn y cyfnod 60 niwrnod:
- a ddaeth yr hawl i ben am iddi gael ei therfynu, a ddaeth i ben oherwydd treigl amser, neu a gafodd ei harfer
- a yw’r hawl wedi dod i ben yn gyfan gwbl, neu a yw’n parhau i effeithio ar ran o’r tir
- os mai dim ond mewn perthynas â rhan o’r tir y mae’r hawl wedi dod i ben, rhaid darparu digon o fanylion i adnabod y rhan honno.
Mae’r diffiniad o ‘arfer’ yn y Rheoliadau yn amrywio ychydig rhwng y gwahanol fathau o hawl rheoli contractiol.
- Ar gyfer cytundeb opsiwn, mae’n golygu arfer yr opsiwn.
- Caiff contract amodol ei arfer pan wneir y gwarediad gofynnol.
- Ar gyfer hawl rhagbrynu, mae’n golygu arfer yr hawl.
- Caiff hawl i gyfarwyddo neu ofyn i warediad gael ei wneud ei harfer pan gwblheir y gwarediad.
Wrth ddarparu manylion i nodi’r rhannau o’r tir y mae’r hawl wedi dod i ben mewn perthynas â nhw, bydd trawsgludwr y grantî yn gallu uwchlwytho ffeil ddigidol addas â data gofodol i adnabod naill ai’r ardal honno neu’r ardal y mae’r hawl yn parhau i effeithio arni. Os nad oes ffeil o’r fath ar gael, byddwn yn darparu ffyrdd eraill i’r trawsgludwr nodi’r ardal. Os mai dim ond peidio ag effeithio ar stent cyfan un teitl neu ragor y mae’r hawl, bydd y trawsgludwr yn gallu cadarnhau hyn ac ni fydd angen iddo wneud dim mwy na nodi’r rhifau teitl perthnasol.
Pwysig
Os ydych am uwchlwytho ffeil ddigidol sy’n cynnwys data gofodol i adnabod naill ai’r tir nad yw hawl rheoli contractiol bellach yn effeithio arno neu’r tir y mae’n dal i effeithio arno, dylech ystyried trefnu hyn ymlaen llaw gydag unrhyw arolygwr tir neu luniwr cynllun proffesiynol arall a gyflogir i baratoi cynllun sy’n dangos yr un stent, gan y dylai hyn leihau cost ac osgoi dyblygu ymdrech.
Gweler Lleoliad y tir yr effeithir arno am esboniad o’r hyn a olygir gan ffeil ddigidol sy’n cynnwys data gofodol ac am yr awgrym y gallai trawsgludwr ddymuno trefnu i ffeil o’r fath gael ei darparu gan arolygwr tir neu weithiwr proffesiynol arall sydd wedi paratoi cynllun contract.
Sylwer: yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y gofyniad i ddarparu gwybodaeth yn dilyn digwyddiad peri sydd wedi cael ei oruchwylio gan drawsgludwr. Fodd bynnag, pan ddaw hawl i ben heb gael ei harfer na’i therfynu’n fwriadol fel arall, bydd angen i’r grantî sicrhau bod ei drawsgludwr yn darparu’r wybodaeth ofynnol.
8. Ein hymrwymiad a’ch adborth
Mae’r Rheoliadau yn gosod gofynion newydd ar grantïon a’u trawsgludwyr. Yn yr un modd, rydym yn gyfrifol am gasglu a chyhoeddi’r wybodaeth am hawliau rheoli contractiol sy’n ofynnol o dan y Rheoliadau.
Byddwn yn dylunio ac adeiladu gwasanaethau sydd mor hawdd â phosibl i’n cwsmeriaid eu defnyddio, wrth ddarparu gwybodaeth inni ac gael gafael ar y data a gyhoeddwn. I’n helpu gyda hyn, rydym yn cynnal ymchwil defnyddwyr helaeth; rydym yn mireinio’n cynlluniau mewn ymateb i’r adborth amhrisiadwy a gawn ac wrth baratoi ar gyfer 6 Ebrill 2027, pan ddaw’r Rheoliadau i rym.
Wrth inni barhau i adeiladu ein gwasanaeth cyflwyno digidol, ni allwn gadarnhau eto yr union gwestiynau y byddwn yn gofyn i drawsgludwyr eu hateb mewn perthynas â hawliau perthnasol. Byddwn yn cyhoeddi canllawiau technegol â rhagor o fanylion am sut i gyflwyno gwybodaeth cyn lansio’r gwasanaeth.
Ein nod ar hyn o bryd yw darparu canllawiau cyffredinol ar y dull rydym yn ei ddilyn ac ar ofynion y Rheoliadau. Gobeithiwn y bydd y canllawiau hyn yn eich helpu i adnabod hawliau contractiol y mae’n rhaid darparu gwybodaeth amdanynt ac i ddeall pryd y mae hawliau tebyg y tu allan i gwmpas y Rheoliadau.
Os oes gennych gwestiwn am ddarparu gwybodaeth am reoli contractiol neu am unrhyw beth yn y canllawiau hyn, rhowch wybod inni. Gallwch anfon ebost at: contractualcontrolsteam@landregistry.gov.uk
Gallwch anfon awgrym neu adborth i’r un cyfeiriad hefyd. Er enghraifft, rhowch wybod inni os nad ydych yn gwybod sut mae’r Rheoliadau yn debygol o fod yn gymwys i set gyffredin o amgylchiadau ac os credwch y byddai’n ddefnyddiol inni gyhoeddi canllawiau penodol i gynorthwyo cwsmeriaid.
9. Pethau i’w cofio
Dyma rai pwyntiau allweddol i’w cofio er mwyn sicrhau eich bod chi a’ch cleientiaid yn cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol newydd:
- Er nad yw’r Rheoliadau mewn grym eto, byddant yn gymwys i rai hawliau a roddir ar neu ar ôl 8 Mehefin 2026. Dylai trawsgludwyr wirio a chynghori eu cleientiaid ynghylch a fydd unrhyw hawliau a roddwyd yn ddiweddar neu sydd i’w rhoi cyn bo hir yn cael eu heffeithio. Gall Hawliau rheoli contractiol a’r senarios rydym yn eu cyhoeddi yn Senarios hawliau rheoli contractiol eich helpu gyda hyn.
- Os byddwch yn adnabod hawl rheoli contractiol y bydd angen ichi ddarparu gwybodaeth amdani, ystyriwch wneud y canlynol.
- Os rhoddir yr hawl cyn i’r Rheoliadau ddod i rym, rhowch nodyn atgoffa ymlaen llaw yn eich calendr fel na fyddwch yn anghofio’r gofyniad i ddarparu gwybodaeth pan fydd ein gwasanaeth cyflwyno digidol ar gael ym mis Ebrill 2027 (gweler Rhoi hawl rheoli contractiol ar neu ar ôl 8 Mehefin 2026 ond cyn 6 Ebrill 2027 am ragor o wybodaeth).
- Mewn achos o’r fath, gwnewch yn siwr eich bod yn cadw copi o’r contract sy’n creu’r hawl er mwyn ichi allu ateb y cwestiynau y byddwn yn eu gofyn pan ddaw’r amser i ddarparu’r wybodaeth ofynnol.
- Os yw’r grantiwr yn unigolyn preifat, neu’n cynnwys unigolyn preifat, gwnewch yn siwr eich bod wedi cael ei ddyddiad geni a’i fan geni (gweler Manylion y grantiwr a’r grantî).
- Os yw’r hawl yn effeithio ar ran yn unig o’r tir mewn un neu ragor o’r teitlau yr effeithir arnynt, efallai y bydd angen ichi gael ffeil ddigidol sy’n cynnwys data gofodol i adnabod stent y tir yr effeithir arno (gweler Lleoliad y tir yr effeithir arno.
- Cynghorwch eich cleient y bydd angen iddo gyfarwyddo trawsgludwr i gadarnhau pan ddaw’r hawl i ben, yn gyfan gwbl neu’n rhannol. Efallai y bydd angen iddo roi nodyn atgoffa ymlaen llaw yn ei galendr ar gyfer y dyddiad y disgwylir i’r hawl ddod i ben os na chaiff ei therfynu neu ei harfer cyn hynny.
Os ydych wedi bod yn ymdrin â rhoi, aseinio neu amrywio hawl rheoli contractiol ar ran eich cwmni, neu os ydych yn ymdrin â’i diogelu ar y gofrestr, cofiwch y bydd yn rhaid i drawsgludwr a reoleiddir yn unigol sicrhau cywirdeb y wybodaeth ofynnol. Bydd angen iddo ddarparu ei rif rheoleiddio proffesiynol, megis rhif SRA unigol cyfreithiwr ac nid rhif SRA ei gwmni.
Cofiwch ei bod yn drosedd peidio â darparu gwybodaeth sy’n ofynnol gan y Rheoliadau oni bai bod gennych esgus rhesymol. Yn ogystal, yn gyffredinol ni fyddwn yn cytuno i gofnodi rhybudd neu gyfyngiad yn y gofrestr mewn perthynas â hawl rheoli contractiol nes bod yr holl wybodaeth ofynnol am yr hawl wedi ei darparu.
Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd am ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor a roddwn.