Ffurflen

Gwneud cais am ad-daliad partner o ddidyniadau is-gontractiwr

Os ydych yn rhan o bartneriaeth, defnyddiwch ffurflen CIS41 Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) i wneud cais am ad-daliad o ddidyniadau is-gontractiwr yn ystod y flwyddyn dreth bresennol.

Dogfennau

Hawlio ar-lein (mewngofnodi drwy ddefnyddio Porth y Llywodraeth)

Hawlio drwy’r post

Manylion

Os ydych yn is-gontractiwr sy’n gweithio fel rhan o bartneriaeth, defnyddiwch y ffurflen ar-lein i wneud cais am ad-daliad o ddidyniadau is-gontractiwr yn ystod y flwyddyn dreth bresennol. Defnyddiwch eich Ffurflen Dreth yn lle’r ffurflen hon os ydych yn gwneud eich cais ar ôl diwedd y flwyddyn dreth.

Gallwch naill ai:

  • defnyddio’r gwasanaeth ar-lein, neu
  • llenwi’r ffurflen ar y sgrin, ei hargraffu a’i hanfon drwy’r post i CThEM

Er mwyn defnyddio’r gwasanaeth ar-lein, bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth.

Os ydych yn defnyddio’r ffurflen ar-lein, cewch gyfeirnod y gallwch ei ddefnyddio i gael gweld sut mae eich ffurflen yn symud ymlaen.

Gwybodaeth y bydd ei hangen arnoch

Bydd angen y manylion canlynol wrth law i’ch helpu i lenwi’r ffurflen ar-lein:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • cyfeirnod treth eich partneriaeth
  • cyfeirnod treth pob partner
  • manylion banc i anfon unrhyw ad-daliadau iddo

Cyn i chi ddechrau defnyddio’r ffurflen bost

Os ydych yn defnyddio’r ffurflen bost ac mae’ch porwr yn hen, er enghraifft, Internet Explorer 8, bydd angen i chi ei ddiweddaru neu ddefnyddio porwr gwahanol. Rhagor o wybodaeth am borwyr.

Bydd angen i chi lenwi’r ffurflen yn llawn cyn i chi allu ei hargraffu. Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi’i llenwi’n rhannol, felly casglwch eich holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau ei llenwi.

Ffurflenni cysylltiedig ag arweiniad

Defnyddiwch ffurflen CIS40 i wneud cais am ad-daliad o ddidyniadau is-gontractiwr.

Cyhoeddwyd ar 4 April 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 April 2023 + show all updates
  1. CIS41 (English and Welsh) has been updated to reflect new tax year changes.

  2. CIS41 (English and Welsh) has been updated to reflect new tax year changes.

  3. An online forms service is now available.

  4. CIS41 (English and Welsh) has been updated to reflect new tax year changes.

  5. Welsh translation added.

  6. First published.