Cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr dros becynwaith: Ffioedd wedi'u cadarnhau 2026 i 2027
Diweddarwyd 25 Tachwedd 2026
Cyflwyniad
Mae’r canllawiau yma yn nodi’r ffioedd am waredu gwastraff pecynwaith ar gyfer 2026 i 2027 (y cyfeirir atyn nhw’n syml fel ‘ffioedd’ drwy’r ddogfen hon) ar gyfer cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr (EPR) dros becynwaith.
Mae’r canllawiau’n ymdrin â’r ffioedd a godir ar gynhyrchwyr mawr sy’n atebol o dan y rheoliadau. PackUK, gweinyddwr y cynllun, sy’n dyroddi’r ffioedd yma.
Nid yw’r canllawiau’n cynnwys:
-
ffioedd cofrestru a thaliadau a delir i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Asiantaeth yr Amgylchedd (EA), Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban (SEPA) ac Asiantaeth Amgylchedd Gogledd Iwerddon (NIEA)
-
costau sy’n gysylltiedig â chyrraedd targedau ailgylchu pecynwaith, er enghraifft prynu nodiadau ailgylchu gwastraff pecynwaith
Mae’r ffioedd sydd wedi’u cadarnhau yn cynnwys ffioedd wedi’u modiwleiddio (gwyrdd, melyn a choch) sy’n gysylltiedig â rhoi’r fethodoleg asesu ailgylchu (RAM) ar waith.
Gallwch ddarllen y datganiad ar fodiwleiddio’r EPR ar GOV.UK.
Ffioedd wedi’u cadarnhau ar gyfer 2026 i 2027
Mae’r tabl o ffioedd sydd wedi’u cadarnhau ar gyfer 2026 i 2027 yn nodi’r ffioedd a gadarnhawyd ar gyfer blwyddyn 2026 i 2027 o’r EPR. Mae ffioedd melyn wedi’u gosod ar y gyfradd sylfaenol ac roedd y cyhoeddiadau blaenorol yn cyfeirio at y rhain fel ‘ffioedd sylfaenol’. Mae ffioedd coch yn gymwys i ddeunyddiau sy’n llai ailgylchadwy yn ôl y fethodoleg asesu ailgylchu (RAM). Mae ffioedd coch wedi’u gosod ar 1.2 gwaith ffioedd melyn yn 2026 i 2027.
Mae ffioedd gwyrdd yn gymwys i ddeunyddiau sy’n fwy ailgylchadwy. Mae lefel y disgownt ar gyfer ffioedd gwyrdd yn dibynnu ar y gyfran gymharol o ddeunyddiau gwyrdd, melyn a choch y rhoddir gwybod amdanyn nhw yn y gwasanaeth rhoi gwybod am ddata pecynwaith (RPD).
Ffioedd wedi’u cadarnhau ar gyfer 2026 i 2027
Mae’r ffioedd sydd wedi’u cadarnhau wedi’u talgrynnu i’r £1 agosaf.
| Deunydd | Ffi wyrdd (fesul tunnell) | Ffi felyn (fesul tunnell) | Ffi goch (fesul tunnell) | Red fee (per tonne) | Sgôr RAM y mwyafrif ohonyn nhw |
|---|---|---|---|---|---|
| Alwminiwm | £269 | £290 | £349 | £349 | Gwyrdd |
| Deunyddiau cyfansawdd ffeibr | £480 | £518 | £622 | £622 | Melyn |
| Gwydr | £192 | £207 | £249 | £249 | Gwyrdd |
| Papur a cherdyn | £199 | £215 | £258 | £258 | Gwyrdd |
| Plastig | £467 | £505 | £606 | £606 | Coch |
| Dur | £274 | £296 | £356 | £356 | Gwyrdd |
| Pren | £538 | £581 | £697 | £697 | Coch |
| Arall | £214 | £232 | £278 | £278 | Coch |
Mae ‘Arall’ yn cynnwys unrhyw ddeunyddiau sydd heb eu rhestru, er enghraifft, bambŵ, seramig, copr, corc, cywarch, rwber, silicôn.
Mae plastig wedi’i rannu’n 2 is-gategori (anhyblyg a hyblyg) at ddibenion rhoi gwybod amdano, ond bydd yr un ffioedd yn cael eu codi ar y ddau ym mlwyddyn 2026 i 2027 o’r EPR dros becynwaith.
Ffactorau modiwleiddio 2026 i 2027
| #Sgôr RAM | Newid yn y ffi ganrannol o’r ffi felyn |
|---|---|
| Coch | Cynnydd o 20% |
| Melyn | Ddim yn berthnasol |
| Gwyrdd | Gostyngiad o 7.5% |
Mae’r canrannau yn y tabl yma wedi’u talgrynnu i’r rhif cyfan agosaf. Mae gwerth manylach yn cael ei ddefnyddio yn y cyfrifiadau ar gyfer yr hysbysiadau atebolrwydd unigol sy’n cael eu dyroddi.
Methodoleg
Cyfrifo’r ffi felyn
Mae ffioedd melyn yn cael eu seilio ar gostau rheoli gwastraff pecynwaith ar gyfer gwastraff pecynwaith cartref a chostau perthnasol eraill a ddisgrifir yn y rhifiadur. Yna caiff y costau yma eu rhannu â chyfanswm y pecynwaith cartref a roddwyd ar y farchnad yn 2025 gan y cynhyrchwyr atebol. Y canlyniad yw cyfradd ffi mewn punnoedd (£) fesul tunnell o becynwaith a roddwyd ar y farchnad. Mae’r cyfrifiad yma yn dilyn yr un dull â chyfrifiad y ffi sylfaenol o 2025 i 2026. Mae’r cyfrifiad canlynol yn cael ei wneud ar wahân ar gyfer pob categori pecynwaith.
Mae’r rhifiadur yn cynnwys:
-
y costau effeithlon a ysgwyddir gan yr awdurdodau lleol i reoli gwastraff pecynwaith cartref yn y categori pecynwaith hwnnw, minws refeniw o werthu deunyddiau
-
cyfran y categori pecynwaith o gostau eraill, sef costau gweinyddu PackUK, costau gwybodaeth gyhoeddus a chostau’r ddarpariaeth ar gyfer dyled
Yr enwadur yw cyfanswm yr amcangyfrif o bwysau’r categori pecynwaith hwnnw a roddwyd ar y farchnad fel pecynwaith cartref.
Mae pwysau cartrefi sydd o fewn rhychwant ffioedd cynhyrchwyr ar gyfer pob categori deunydd wedi’u cyfrifo drwy adio’r pwysoliadau y rhoddodd y cynhyrchwyr wybod amdanyn nhw fel:
-
pecynwaith cartref
-
pecynwaith sy’n cael ei waredu’n gyffredin mewn biniau cyhoeddus neu sy’n cael ei daflu fel sbwriel
Mae pwysau gwydr yn cynnwys cynwysyddion diodydd cartref gan fod y rheiny o fewn rhychwant yr EPR o ran ffioedd cynhyrchwyr pecynwaith. Mae cynwysyddion diodydd polyethylen tereffthalad untro (PET), alwminiwm a dur rhwng 150ml a 3 litr heb eu cynnwys yn y pwysau ar gyfer eu priod gategorïau deunydd. Y rheswm am hyn yw eu bod o fewn rhychwant y cynllun dychwelyd ernes (DRS) perthnasol ar draws Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Yn 2026 i 2027, mae’r costau sy’n gysylltiedig â rheoli pecynwaith sy’n cael ei waredu’n gyffredin mewn biniau cyhoeddus neu yn cael ei daflu fel sbwriel heb eu cynnwys yn y rhifiadur. Er hynny, mae’r enwadur yn cynnwys yr holl becynwaith cartref y rhoddwyd gwybod amdano, gan gynnwys pecynwaith y rhoddwyd gwybod amdano fel pecynwaith sy’n cael ei waredu’n gyffredin mewn biniau cyhoeddus neu yn cael ei daflu fel sbwriel. Mae hyn yn cyd-fynd â’r rheoliadau ac yn adlewyrchu sut y cyfrifwyd y ffioedd yn 2025 i 2026.
Costau’r awdurdodau lleol
Model cost a pherfformiad pecynwaith awdurdodau lleol PackUK (LAPCAP) sydd wedi’i ddefnyddio i gyfrifo’r ffioedd sydd wedi’u cadarnhau. Mae LAPCAP yn defnyddio 2 fath o ddata i gyfrifo taliad i bob awdurdod lleol yn y Deyrnas Unedig:
-
data sy’n benodol i’r awdurdodau lleol, megis y pwysoliadau y rhoddir gwybod amdanyn nhw yn WasteDataFlow
-
data cymaradwy sydd wedi’i seilio ar ddata costau y rhoddwyd gwybod amdano gan sampl o awdurdodau lleol
Cyfanswm y taliad i bob awdurdod lleol a gyfrifir gan LAPCAP yw’r ‘costau effeithlon a ysgwyddir gan awdurdodau lleol sy’n rheoli gwastraff’ a ddefnyddir i gyfrifo’r ffioedd a gadarnhawyd.
Mae dogfen dechnegol sy’n nodi’r fethodoleg a ddefnyddiwyd i bennu amcangyfrifon taliadau 2026 i 2027 ar gyfer awdurdodau lleol ar gael ar GOV.UK.
Cyfrifo’r ffi goch
Mae’r ffi goch yn cael ei chyfrifo drwy gymhwyso lluosydd gosod at y ffi felyn. Yn 2026 i 2027, sef y flwyddyn fodiwleiddio gyntaf, mae’r ffi goch yn 1.2 gwaith y ffi felyn. Bydd y lluosydd yn cynyddu yn y blynyddoedd i ddod i hybu symudiad tuag at ddylunio pecynwaith sy’n fwy cynaliadwy yn amgylcheddol.
Fel y ffi felyn, nid yw’r ffi goch yn dibynnu ar gyfrannau’r pecynwaith coch, melyn a gwyrdd y mae’r cynhyrchwyr yn rhoi gwybod amdanyn nhw.
Cyfrifo’r ffi wyrdd
Mae’r cyllid ychwanegol o’r ffi goch uwch yn cael ei ddefnyddio i ddisgowntio ffioedd gwyrdd fel bod cyfanswm cost y cynllun yn aros yn sefydlog. Mae’r cyllid ychwanegol yn cael ei rannu’n gyfartal ar draws yr holl ddeunyddiau, sy’n golygu bod pob deunydd gwyrdd yn derbyn yr un disgownt.
Mae’r disgownt gwyrdd yn cael ei gyfrifo drwy rannu’r refeniw ychwanegol o ddeunyddiau coch â chyfanswm y refeniw o ddeunyddiau gwyrdd petaen nhw’n cael eu codi ar y gyfradd sylfaenol. Gwneir y cyfrifiad canlynol ar draws pob deunydd i bennu cyfradd y disgownt gwyrdd cyffredinol.
Y rhifiadur yw’r cyllid ychwanegol a gesglir o ddeunyddiau â sgôr coch. Mae’n cael ei gyfrifo fel cyfanswm y cyllid o ddeunyddiau â sgôr goch a godir yn unol â’r ffioedd coch minws cyfanswm y cyllid o’r un deunyddiau hynny, â sgôr goch, petaen nhw’n cael eu codi ar y gyfradd sylfaenol (melyn). Mae hyn yn golygu mwyaf i gyd o ddeunydd â sgôr goch a roddwyd ar y farchnad, mwyaf i gyd yw’r disgownt gwyrdd.
Yr enwadur yw cyfanswm y cyllid o ddeunyddiau â sgôr gwyrdd petaen nhw’n cael eu codi ar y gyfradd sylfaenol (melyn).
Mae hyn yn golygu mwyaf i gyd o ddeunydd â sgôr wyrdd a roddwyd ar y farchnad, lleiaf i gyd yw’r disgownt gwyrdd.
Y ffi wyrdd ar gyfer pob deunydd yw’r ffi felyn gyda’r disgownt gwyrdd wedi’i gymhwyso. Mae’r ffi wyrdd yn dibynnu ar gyfrannau’r deunyddiau coch, melyn a gwyrdd a roddwyd ar y farchnad.
Os rhoddwyd mwy o ddeunyddiau â sgôr wyrdd ar y farchnad, mae’r ffioedd gwyrdd yn cynyddu, ond os rhoddir llai o ddeunyddiau â sgôr gwyrdd ar y farchnad, mae’r ffi wyrdd yn gostwng. Ceir manylion pellach yn y datganiad polisi modiwleiddio.
Gwiriadau’r rheoleiddiwr ar yr RPD
Mae’r rheoleiddwyr o dan ddyletswydd i fonitro cywirdeb data’r EPR dros becynwaith a gyflwynir drwy borth ar-lein yr RPD. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda chynlluniau cydymffurfio a chynhyrchwyr unigol i nodi a chywiro gwallau yn y data. Mae’r rheoleiddwyr hefyd wedi bod yn cysylltu â chynhyrchwyr a allai fod â rhwymedigaethau o dan y rheoliadau ond sydd wedi methu â rhoi gwybod am ddata pecynwaith. Mae’r gwaith hwn yn parhau.