Skip to main content
Canllawiau

Stampiau’r doll fepio – cosbau a sancsiynau — CC/FS87

Cyhoeddwyd 23 Ebrill 2026

Os ydych am brynu neu atodi stampiau’r doll yn y DU, bydd yn rhaid i chi ddilyn Rheoliadau Cynnyrch Fepio (Cynhyrchu, Stampiau’r Doll a Chychwyn) 2026. Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhoi gwybod i chi am y cosbau y gallwn eu codi, a sancsiynau eraill y gallwn eu defnyddio, os na fyddwch yn cydymffurfio â’r rheoliadau hynny.

I gael rhagor o wybodaeth am gynnyrch fepio a stampiau’r doll fepio, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘preparing for Vaping Products Duty and the Vaping Duty Stamps Scheme’.

Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhan o gyfres. I weld y rhestr lawn, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘HMRC compliance checks factsheets’.

Gwybodaeth am y cynllun ‘Stampiau’r Doll Fepio’

O 1 Hydref 2026 ymlaen, mae’n rhaid i bob cynnyrch fepio sy’n cael ei ryddhau i’w fanwerthu fod â stamp y doll fepio arno. Gallwch brynu neu atodi stampiau’r doll fepio o 1 Ebrill 2026 ymlaen os ydych yn un o’r canlynol:

  • gweithgynhyrchydd yn y DU
  • ceidwad warws
  • cynrychiolydd yn y DU ar gyfer gweithgynhyrchydd tramor

I wneud hyn, mae’n rhaid i chi wneud cais am y cynllun Stampiau’r Doll Fepio (VDS). Os byddwn yn cymeradwyo’ch cais, byddwch yn dod yn ‘deiliaid stampiau sydd wedi’i gymeradwyo’. Gall deiliad stampiau sydd wedi’i gymeradwyo brynu stampiau’r doll gan gyflenwr a ddewiswyd gennym ni, ac atodi stampiau’r doll lle bod caniatâd i wneud hynny.

Cosbau am beidio â chydymffurfio â’r rheoliadau

Bydd cosbau sy’n ymwneud â stampiau’r doll fepio yn dod i rym o 1 Ebrill 2026 ymlaen. Mae’n bosibl y byddwn yn codi cosbau arnoch os byddwch yn methu â chydymffurfio â’r rheoliadau neu’r telerau sy’n gysylltiedig â’ch cymeradwyaeth. Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn codi cosbau os byddwch yn methu â bodloni’r gofynion o ran cadw cofnodion mewn perthynas â’r stampiau.

Mae’n bosibl y byddwn yn codi cosbau arnoch os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn gwerthu, yn cynnig gwerthu, yn delio â neu’n pacio cynnyrch fepio heb stamp at ddibenion manwerthu
  • rydych yn defnyddio, yn meddu ar neu’n delio â stampiau’r doll annilys, gan gynnwys stampiau sydd wedi’u newid, stampiau sydd wedi’u dirymu, neu stampiau ffug
  • rydych yn methu ag atodi stamp y doll yn ôl y gofyn, neu’n methu â dilyn y rheolau ynghylch trin stampiau, gan gynnwys eu hactifadu a’u sganio yn ôl y gofyn
  • rydych yn methu â dychwelyd, dinistrio neu roi cyfrif am stampiau’r doll sydd heb eu defnyddio, a hynny o fewn y terfyn amser gofynnol
  • rydych yn colli stampiau’r doll, neu nad yw stamp y doll wedi’i atodi, ei actifadu, ei ddychwelyd neu ei ddinistrio cyn pen 12 mis i’r adeg y cafodd ei roi i chi
  • rydych yn gwneud newidiadau i stamp y doll ar ôl iddo gael ei roi i chi, neu rydych yn atodi stamp annilys i gynnyrch fepio

Cosbau am ddelio â chynnyrch fepio heb stamp

Mae’n bosibl y byddwn yn codi cosb arnoch os byddwch yn gwerthu, yn cynnig gwerthu, neu’n delio â chynnyrch fepio heb stamp sydd wedi’i bacio at ddibenion manwerthu. Mae’r cosbau hyn yn berthnasol o 1 Hydref 2026 ymlaen.

Er mwyn cyfrifo swm y gosb, byddwn yn ystyried nifer yr ‘unedau’ manwerthu o gynnyrch fepio heb stamp. Mae ‘uned’ yn golygu nifer benodol o’r cynnyrch fepio sydd wedi’i bacio at ddibenion manwerthu unigol.

Os byddwch yn methu â chydymffurfio â’r rheoliadau hyn o hyd, mae’n bosibl y byddwn yn codi cosbau pellach arnoch. Yn yr achos hwn, byddwn yn edrych dros ‘cyfnod perthnasol’ ac yn nodi sawl gwaith y gwnaethoch fethu â chydymffurfio â’r rheoliadau. ‘Cyfnod perthnasol’ yw’r 24 mis sy’n arwain at y dyddiad y daethoch yn agored i’r gosb.

Dangosir symiau’r cosbau isod.

Nifer yr unedau sydd wedi’u canfod ar yr achlysur hwn Unwaith Dwywaith Tair gwaith neu fwy
Llai na 100 uned £2,500 £5,000 £7,500
100 i 299 o unedau £5,000 £7,500 £10,000
300 i 499 o unedau £7,500 £10,000 £10,000
500 neu fwy o unedau £10,000 £10,000 £10,000

Cosbau am stampiau’r doll sydd ar goll, sydd wedi cael eu dwyn neu eu camddefnyddio

Os ydych yn ddeiliaid stampiau sydd wedi’i gymeradwyo, byddwch yn agored i gosb am unrhyw stampiau’r doll sydd ar goll, sydd wedi cael eu dwyn neu eu camddefnyddio, neu sy’n cael eu trin fel petai hynny wedi digwydd.

Caiff stamp ei drin fel petai ar goll os, ar ôl 12 mis, mae’r canlynol yn wir:

  • nid yw’r stamp wedi’i atodi i gynnyrch fepio na’i actifadu, er enghraifft, nid yw’r stamp wedi’i sganio na’i uwchlwytho i’r system ddigidol sy’n ein galluogi ni i’w olrhain
  • nid yw’r stamp wedi cael ei ddychwelyd i’r sawl a wnaeth ei roi i chi
  • nid yw’r stamp wedi’i ddinistrio

Bydd symiau’r cosbau ar gyfer stamp y doll sydd ar goll, sydd wedi cael ei ddwyn neu ei gamddefnyddio, yn cael eu cyfrifo fesul achos. Os bydd stamp y doll yn mynd ar goll, bydd y gosb a godir yn hafal i swm y Doll Cynhyrchion Fepio sy’n ddyledus ar 10ml safonol wedi’i luosi â 5.

Os nid chi wnaeth golli’r stamp, a gwnaethoch gymryd camau rhesymol i atal hyn rhag digwydd, ni fyddwn yn codi cosb arnoch.

Fforffedu a sancsiynau eraill

Os nad yw’r rheolau wedi cael eu dilyn, bydd cynnyrch fepio a stampiau’r doll fepio yn agored i gael eu fforffedu. Mae ‘fforffedu’ yn golygu ymafael yn rhywbeth a’i fynd oddi ar y safle’n barhaol.

Os oes gennych gynnyrch fepio cyfreithlon ar eich safle, gallwn ymafael ynddynt a’u mynd â nhw oddi ar y safle’n barhaol ar yr un pryd â’r cynnyrch fepio anghyfreithlon.

Cyfyngiadau o ran prynu stampiau

Os bydd busnes yn parhau i beidio â chydymffurfio â’r rheoliadau, gan gynnwys achosion o droseddu sy’n digwydd dro ar ôl tro’n barhaus, gallwn ei stopio rhag prynu stampiau’r doll fepio.

Troseddau troseddol

Yn yr achosion mwyaf difrifol, mae’n bosibl y byddwn yn cynnal ymchwiliad troseddol ac yn eich erlyn. Os byddwch yn cael eich dyfarnu’n euog, gallwch wynebu dirwy ddiderfyn neu’n cael eich carcharu am 2 flynedd, neu’r ddau.

Os ydych yn anghytuno

Os oes rhywbeth nad ydych yn cytuno ag ef, rhowch wybod i ni.

Os byddwn yn gwneud penderfyniad y gallwch apelio yn ei erbyn, byddwn yn ysgrifennu atoch ynghylch y penderfyniad ac yn rhoi gwybod i chi beth i’w wneud os ydych yn anghytuno. Fel arfer, bydd gennych 3 opsiwn.

Cyn pen 30 diwrnod, gallwch wneud y canlynol:

  • anfon gwybodaeth newydd at y swyddog sy’n delio â’r gwiriad, a gofyn iddo ei hystyried
  • cael eich achos wedi’i adolygu gan un o swyddogion CThEF na fu’n ymwneud â’r mater cyn hyn
  • trefnu bod tribiwnlys annibynnol yn gwrando ar eich apêl ac yn penderfynu ar y mater

Gallwch ddysgu rhagor am apeliadau yn arweiniad HMRC1, ‘Sut i ofyn am adolygiad o benderfyniad gan CThEF’. Ewch i GOV.UK a chwilio am ‘HMRC1’, ac yna dewis yr opsiwn Cymraeg ar y dudalen berthnasol.

Os oes angen help arnoch

Os yw’n bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu’ch iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio â ni, rhowch wybod i’r swyddog sydd wedi cysylltu â chi. Byddwn yn eich helpu ym mha ffordd bynnag y gallwn. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.gov.uk/cael-help-cthem-cymorth-ychwanegol.

Gallwch hefyd ofyn i rywun arall ddelio â ni ar eich rhan. Er enghraifft, ymgynghorydd proffesiynol, ffrind, neu aelod o’ch teulu. Fodd bynnag, efallai y bydd yn dal i fod angen i ni siarad â chi neu ysgrifennu atoch yn uniongyrchol am rai pethau. Os bydd angen i ni ysgrifennu atoch, byddwn yn anfon copi at yr unigolyn rydych wedi gofyn i ni ddelio ag ef. Os bydd angen i ni siarad â chi, caiff yr unigolyn hwnnw fod gyda chi pan fyddwn yn gwneud hynny, pe bai’n well gennych.

Rhagor o wybodaeth

Ein hysbysiad preifatrwydd

Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu’n cadw gwybodaeth amdanoch. Ewch i GOV.UK a chwilio am ‘HMRC Privacy Notice’, ac yna dewis yr opsiwn Cymraeg ar y dudalen berthnasol.

Os ydych yn anfodlon ar ein gwasanaeth

Rhowch wybod i’r person neu’r swyddfa rydych wedi bod yn delio â nhw. Byddant yn ceisio unioni pethau. Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, byddant yn rhoi gwybod i chi sut i wneud cwyn ffurfiol.