Dilyn ac Olrhain Tybaco yn y DU — Cosbau a sancsiynau (CC/FS76)
Diweddarwyd 9 Tachwedd 2023
Os ydych yn gweithgynhyrchu, mewnforio, cludo, storio neu’n gwerthu cynhyrchion tybaco penodol yn y DU, mae’n rhaid i chi ddilyn y rheoliadau o ran y cynllun Dilyn ac Olrhain Tybaco yn y DU (TT&T). Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhoi gwybod i chi am y cosbau y gallwn eu codi, a sancsiynau eraill y gallwn eu defnyddio, os na fyddwch yn cydymffurfio â’r rheoliadau hynny.
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch y cynllun Dilyn ac Olrhain Tybaco, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘tobacco product traceability’.
Mae’r daflen wybodaeth hon yn un o gyfres o daflenni gwybodaeth ynghylch gwiriadau cydymffurfio. I weld y rhestr lawn, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘HMRC compliance checks factsheets’.
Os oes angen help arnoch
Os yw’n bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu’ch iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio â ni, rhowch wybod i’r swyddog a gysylltodd â chi. Byddwn yn eich helpu ym mha ffordd bynnag y gallwn. I gael rhagor o fanylion, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘get help from HMRC if you need extra support’, yna dewiswch yr opsiwn Cymraeg.
Gallwch hefyd ofyn i rywun arall ddelio â ni ar eich rhan. Er enghraifft, ymgynghorydd proffesiynol, ffrind, neu aelod o’ch teulu. Fodd bynnag, efallai y bydd yn dal i fod yn rhaid i ni siarad â chi neu ysgrifennu atoch yn uniongyrchol am rai pethau. Os bydd angen i ni ysgrifennu atoch, byddwn yn anfon copi at yr unigolyn rydych wedi gofyn i ni ddelio ag ef. Os bydd angen i ni siarad â chi, caiff yr unigolyn hwnnw fod gyda chi pan fyddwn yn gwneud hynny, pe bai’n well gennych.
Ynglŷn â’r cynllun Dilyn ac Olrhain Tybaco
Mae cynhyrchion tybaco yn cael eu holrhain o’r adeg weithgynhyrchu neu fewnforio i’r DU, hyd at y manwerthwr cyntaf. Caiff deunydd pacio tybaco ei sganio drwy’r gadwyn gyflenwi ac mae’r data’n cael eu storio yn ystorfa’r DU.
Ar gyfer cynhyrchion tybaco yng Ngogledd Iwerddon, bydd data’n cael eu cyflwyno i’r ystorfeydd data yn y DU a’r UE.
Cofrestru ar gyfer y cynllun dilyn ac olrhain tybaco
Mae’n rhaid i fusnesau sy’n ymwneud â gweithgynhyrchu neu gyflenwi cynhyrchion tybaco gofrestru â’r rhoddwr ID ar gyfer y DU. Mae hyn yn cynnwys busnesau sy’n storio neu’n gwerthu i fasnachau neu i’r cyhoedd.
Y rhoddwr ID ar gyfer y DU yw Dentsu Tracking. Pan fyddwch yn cofrestru â nhw, byddant yn rhoi’r canlynol i chi:
- cod adnabod i weithredwyr economaidd (EOID) ar gyfer eich busnes
- cod adnabod cyfleuster (FID) ar gyfer pob un o’ch cyfleusterau — os oes gennych fwy nag un
Mae angen i chi roi’r codau hyn i’ch cyfanwerthwr os ydych yn prynu sigaréts a thybaco y gellir ei rolio â llaw i’w gwerthu i gwsmeriaid.
Gallwch ddysgu rhagor am gofrestru ar-lein. Ewch i GOV.UK a chwilio am ‘register with the UK ID issuer if your business is involved in the supply of tobacco products’.
Cydymffurfio â’r rheoliadau
Os nad ydych yn cydymffurfio â’r rheoliadau, rydym yn disgrifio hyn fel ‘mynd yn groes’. Mae rheoliadau gwahanol yn berthnasol i wahanol rannau o’r gadwyn gyflenwi. I gael gwybod am y rheoliadau ar gyfer eich busnes, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘tobacco product traceability’.
Gall CThEF a Safonau Masnach ymweld â safleoedd busnes i gynnal ymchwiliadau ac i dynnu cynhyrchion tybaco na ddylid bod ar gael i’w gwerthu â’u cymryd oddi yno. Yr enw ar y rhain yw ‘cynhyrchion tybaco anghyfreithlon’. Pwrpas yr ymweliadau hyn yw sicrhau mai dim ond cynhyrchion tybaco cyfreithlon sy’n cael eu gwerthu.
Os bydd Safonau Masnach yn ymweld â chi ac o’r farn nad ydych wedi cydymffurfio â’r rheoliadau, mae’n bosibl y byddant yn rhannu’ch gwybodaeth â CThEF.
Cosbau am beidio â chydymffurfio â’r rheoliadau
Os gwelwn nad ydych wedi cydymffurfio â’r rheoliadau, efallai y byddwn yn codi cosb arnoch. Bydd swm unrhyw gosb yn dibynnu ar y canlynol:
- sawl uned o gynhyrchion tybaco nad ydynt yn cydymffurfio a ganfuwyd ar yr achlysur hwn
- sawl gwaith rydym wedi canfod eich bod wedi torri’r rheoliadau o’r blaen
Uned yw 20 sigarét neu 30g o dybaco rholio â llaw.
Mae swm y gosb y gallwn ei chodi arnoch ym mhob achos yn cael ei ddangos yn y tabl canlynol.
| Nifer y troeon nad ydych wedi cydymffurfio â’r rheoliadau | Llai na 100 o unedau wedi’u canfod ar yr achlysur hwn | 100 i 299 o unedau wedi’u canfod ar yr achlysur hwn | 300 i 499 o unedau wedi’u canfod ar yr achlysur hwn | 500 neu fwy o unedau wedi’u canfod ar yr achlysur hwn |
|---|---|---|---|---|
| Unwaith | £2,500 | £5,000 | £7,500 | £10,000 |
| Dwywaith | £5,000 | £7,500 | £10,000 | £10,000 |
| Teirgwaith neu fwy | £7,500 | £10,000 | £10,000 | £10,000 |
Sancsiynau eraill
Os ydym yn canfod nad ydych wedi cydymffurfio â’r rheoliadau mwy nag unwaith, efallai y byddwn yn rhoi sancsiynau eraill ar waith.
Dadactifadu eich cod Adnabod Gweithredwyr Economaidd (EOID) neu’ch cod Adnabod Cyfleuster (FID)
Os oes gennych EOID ar gyfer gwerthu cynhyrchion tybaco ar eich safle, gallwn ddadactifadu eich cod EOID. Gallwn hefyd ddadactifadu cod FID y safle lle cafodd y tybaco nad yw’n cydymffurfio ei ganfod.
Mae hyd y cyfnod y gallwn ddadactifadu eich EOID neu’ch FID yn dibynnu ar:
- sawl uned o gynhyrchion tybaco nad ydynt yn cydymffurfio a ganfuwyd ar yr achlysur hwn
- sawl gwaith rydym wedi canfod eich bod wedi torri’r rheoliadau o’r blaen — does dim ots sawl uned a ganfuwyd ar yr achlysuron hynny
Uned yw 20 sigarét neu 30g o dybaco rholio â llaw.
Mae’r cyfnodau dadactifadu y gallwn ei roi ar waith ym mhob sefyllfa i’w gweld yn y tabl canlynol.
| Nifer y troeon nad ydych wedi cydymffurfio â’r rheoliadau | Llai na 100 o unedau wedi’u canfod ar yr achlysur hwn | 100 i 299 o unedau wedi’u canfod ar yr achlysur hwn | 300 i 499 o unedau wedi’u canfod ar yr achlysur hwn | 500 neu fwy o unedau a ganfuwyd ar yr achlysur hwn |
|---|---|---|---|---|
| Unwaith | Amherthnasol | Amherthnasol | Amherthnasol | Amherthnasol |
| Ddwywaith | 6 mis | 6 mis | 6 mis | 5 mlynedd |
| Deirgwaith neu fwy | 5 mlynedd | 5 mlynedd | 5 mlynedd | 5 mlynedd |
Os ydym yn ystyried dadactifadu, byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi. Byddwn yn rhoi cyfle i chi roi gwybod i ni pam rydych yn credu na ddylem ddadactifadu eich EOID neu’ch FID. Yna, byddwn yn ystyried yr holl dystiolaeth am eich achos ac yn gwneud ein penderfyniad.
Os penderfynwn ddadactifadu eich EOID neu’ch FID, byddwn yn anfon hysbysiad dadactifadu atoch. Bydd yr hysbysiad yn rhoi gwybod y canlynol i chi:
- dyddiad dechrau’r dadactifadu
- am faint o amser y bydd y dadactifadu yn para
Gallwch apelio yn erbyn ein penderfyniad. Mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig, gallwn oedi cyn y dadactifadu nes bod y tribiwnlys annibynnol sy’n delio â threthi wedi gwrando ar eich apêl. Byddwn yn sôn rhagor wrthych am hynny ar y pryd.
Tynnu cynhyrchion tybaco dilys
Hyd yn oed os oes gennych gynhyrchion tybaco sy’n cydymffurfio ar eich safle, gallwn ymafael ynddynt a’u mynd â nhw oddi ar y safle’n barhaol ar yr un pryd â’r cynhyrchion tybaco nad ydynt yn cydymffurfio. Yr enw ar hyn yw ‘fforffedu’ y nwyddau.
Os ydych yn anghytuno
Os oes rhywbeth nad ydych yn cytuno ag ef, rhowch wybod i ni.
Os byddwn yn gwneud penderfyniad y gallwch apelio yn ei erbyn, byddwn yn ysgrifennu atoch ynghylch y penderfyniad ac yn rhoi gwybod i chi beth i’w wneud os ydych yn anghytuno. Fel arfer, bydd gennych 3 opsiwn.
Cyn pen 30 diwrnod, gallwch wneud y canlynol:
- anfon gwybodaeth newydd at y swyddog sy’n delio â’r gwiriad, a gofyn iddo ei hystyried
- cael eich achos wedi’i adolygu gan un o swyddogion CThEF na fu’n ymwneud â’r mater cyn hyn
- trefnu bod tribiwnlys annibynnol yn gwrando ar eich apêl ac yn penderfynu ar y mater
Gallwch ddysgu rhagor am apeliadau yn arweiniad HMRC1, ‘Sut i ofyn am adolygiad o benderfyniad gan CThEF’. Ewch i GOV.UK a chwilio am ‘HMRC1’.
Rhagor o wybodaeth
Ein hysbysiad preifatrwydd
Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu’n cadw gwybodaeth amdanoch. Ewch i GOV.UK a chwilio am ‘HMRC Privacy Notice’, yna dewiswch yr opsiwn Cymraeg.
Os ydych yn anfodlon ar ein gwasanaeth
Rhowch wybod i’r person neu’r swyddfa rydych wedi bod yn delio â nhw. Byddant yn ceisio unioni pethau. Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, byddant yn rhoi gwybod i chi sut i wneud cwyn ffurfiol.