Skip to main content
Canllawiau

Y Ddeddf Hawliau Dynol a’r cosbau am wneud datganiad anghywir mewn perthynas â deunydd breintiedig — CC/FS85

Cyhoeddwyd 22 Gorffennaf 2026

Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhoi gwybod i chi am eich hawliau o dan Erthygl 6 o Gonfensiwn Ewrop ar Hawliau Dynol. Cafodd hyn ei ymgorffori yng nghyfraith y DU drwy Ddeddf Hawliau Dynol 1998. Mae’n rhoi rhai hawliau i chi pan fyddwn yn ystyried a ddylem godi mathau penodol o gosbau.

Byddwn yn gofyn i chi ddarllen y daflen wybodaeth hon os ydym yn ystyried codi cosb arnoch.

Mae’r cosbau hyn ar gyfer (naill ai):

  • gwneud datganiad sy’n cynnwys gwybodaeth anghywir, neu

  • darparu datganiad wedi ei wneud gan berson arall sy’n cynnwys gwybodaeth anghywir, a’ch bod chi naill ai’n gwybod neu y dylech fod wedi gwybod bod yr wybodaeth yn anghywir

Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhan o gyfres. I weld y rhestr lawn, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘HMRC compliance checks factsheets’.

Yr hyn y mae’ch hawliau o dan Erthygl 6 yn eu golygu i chi pan fyddwn yn ystyried cosbau

Byddem yn gwerthfawrogi eich cydweithrediad wrth benderfynu a ddylem godi cosb arnoch ac wrth gyfrifo faint y dylai’r gosb honno fod. Eich dewis chi’n llwyr yw i ba raddau y byddwch yn ein helpu a faint o wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ni.

Pan fyddwn yn ystyried codi cosbau, mae gennych yr hawl o dan Erthygl 6 i beidio ag ateb ein cwestiynau. Weithiau, cyfeirir at hyn fel yr hawl i beidio â hunanargyhuddo, neu’r hawl i aros yn ddistaw. Nid yw’r hawl hon yn cwmpasu’r wybodaeth na dogfennau sydd eisoes yn bodoli. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi roi’r wybodaeth neu’r dogfennau i ni sydd eisoes yn bodoli, os oes gennym hawl gyfreithiol i ofyn amdanynt.

Wrth benderfynu faint y byddwch yn cydweithredu â ni, mae gennych yr hawl i gael cymorth gan ymgynghorydd proffesiynol. Os nad oes ymgynghorydd gennych eisoes, efallai y byddwch am ystyried cysylltu ag un.

Mae gennych yr hawl i ddisgwyl i ni ddelio ag unrhyw fater sy’n ymwneud â chosbau heb oedi afresymol. Os byddwn yn penderfynu codi cosb arnoch, byddwn yn anfon asesiad o gosb atoch ac yn esbonio sut rydym wedi cyfrifo’r gosb.

Os byddwn yn codi cosb arnoch, mae gennych yr hawl i ofyn am adolygiad neu i apelio.

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau i apelio a chael adolygiad, ewch i GOV.UK a chwiliwch am ‘HMRC1’ neu ‘anghytuno â phenderfyniad treth neu ddirwy’ a dewis yr opsiwn Cymraeg ar y dudalen berthnasol. Gallwch ofyn am gopi drwy ffonio 0300 200 1900. Gallwch hefyd gael rhagor o wybodaeth am dribiwnlysoedd ar wefan y tribiwnlys. Ewch i GOV.UK a chwilio am ‘courts and tribunals’.

Mae gennych yr hawl i wneud cais am gymorth cyfreithiol (legal aid) neu gynhorthwy cyfreithiol a ariennir yn gyhoeddus. O dan rai amgylchiadau, efallai y bydd arian ar gael i’ch helpu i ddod â rhai apeliadau gerbron y tribiwnlys. Os ydych yn mynd i apelio yn erbyn asesiad o gosb, efallai y byddwch am wirio a yw’ch achos yn gymwys a’r math o help a allai fod ar gael. Nid ydym yn ymwneud ag unrhyw benderfyniadau ynghylch p’un a fydd eich achos yn gymwys.

Os oes unrhyw beth nad ydych yn ei ddeall am yr hawliau hyn neu beth maent yn ei olygu i chi, dywedwch wrth y swyddog a gysylltodd â chi ynghylch dirwyon ar unwaith.

Cynhorthwy cyfreithiol a ariennir

I gael rhagor o wybodaeth am gynhorthwy cyfreithiol a ariennir neu gymorth cyfreithiol:

  • yng Nghymru a Lloegr, ewch i wefan Cyngor Cyfreithiol Sifil yn www.gov.uk/civil-legal-advice neu ffoniwch 0345 345 4345
  • yn yr Alban, ewch i wefan Bwrdd Cymorth Cyfreithiol yr Alban yn www.slab.org.uk neu ffoniwch 0131 226 7061
  • yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â chyfreithiwr sy’n aelod o Gymdeithas Cyfreithwyr Gogledd Iwerddon, ewch i www.lawsoc-ni.org

Gallwch hefyd gael rhagor o wybodaeth gan Gyngor ar Bopeth, neu gallwch wneud cais am gynhorthwy cyfreithiol a ariennir neu gymorth cyfreithiol drwy gyfreithiwr unrhyw le yn y DU.

Ein hysbysiad preifatrwydd

Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu’n cadw gwybodaeth amdanoch. Ewch i GOV.UK a chwilio am ‘HMRC Privacy Notice’ a dewis yr opsiwn Cymraeg ar y dudalen berthnasol.