Canllawiau

Y Ddeddf Hawliau Dynol a chosbau (CC/FS9)

Diweddarwyd 7 April 2022

Mae Erthygl 6 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, a ymgorfforwyd i gyfraith Prydain drwy Ddeddf Hawliau Dynol 1998, yn rhoi hawliau penodol i chi pan fyddwn yn ystyried a ddylid codi mathau penodol o gosbau.

Byddwn yn gofyn i chi ddarllen y daflen wybodaeth hon os byddwn o’r farn bod yr hawliau hyn yn berthnasol i chi ac os bydd angen eich help arnom i benderfynu a oes angen codi cosb arnoch.

Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhan o gyfres. I weld rhestr o’r taflenni gwybodaeth yn y gyfres, ewch i www.gov.uk/guidance/arweiniad-a-thaflenni-gwybodaeth-cthem ac edrych o dan y pennawd ‘Gwiriadau cydymffurfio’.

Os oes angen help arnoch

Os oes gennych unrhyw amgylchiadau iechyd neu bersonol y gall ei gwneud yn anodd i chi ddelio â ni, rhowch wybod i’r swyddog sydd wedi cysylltu â chi. Byddwn yn eich helpu ym mha ffordd bynnag y gallwn. I gael rhagor o fanylion, ewch i www.gov.uk/cael-help-cthem-cymorth-ychwanegol.

Gallwch hefyd ofyn i rywun arall ddelio â ni ar eich rhan, er enghraifft, ymgynghorydd proffesiynol, ffrind neu berthynas. Fodd bynnag, efallai y bydd dal angen i ni siarad â chi neu ysgrifennu atoch yn uniongyrchol am rai pethau. Os bydd angen i ni ysgrifennu atoch, byddwn yn anfon copi at y person rydych wedi gofyn i ni ddelio ag ef. Os bydd angen i ni siarad â chi, caiff yr unigolyn hwnnw fod gyda chi pan fyddwn yn gwneud hynny, pe bai’n well gennych.

Yr hyn y mae’ch hawliau o dan Erthygl 6 yn eu golygu i chi pan fyddwn yn ystyried cosbau

Rydym bob amser yn croesawu’ch cydweithrediad wrth i ni gynnal ein gwiriad cydymffurfio, ac wrth benderfynu ar y rhwymedigaethau cywir. Mae hyn yn cynnwys a allai cosbau fod yn ddyledus. Chi sydd i benderfynu i ba raddau y byddwch yn cydweithio â ni ac yn rhoi gwybodaeth i ni.

Pan fyddwn yn ystyried cosbau, mae gennych yr hawl o dan Erthygl 6 i beidio ag ateb ein cwestiynau. Weithiau, cyfeirir at hyn fel yr hawl i beidio â hunanargyhuddo neu’r hawl i aros yn ddistaw. Nid yw’r hawl hon yn cwmpasu gwybodaeth na dogfennau sy’n bodoli eisoes. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi roi’r wybodaeth neu’r dogfennau sydd eisoes yn bodoli i ni, os oes gennym hawl gyfreithiol i ofyn amdanynt.

Wrth wneud penderfyniad i ba raddau y byddwch yn cydweithio â ni, mae gennych yr hawl i gael help gan ymgynghorydd proffesiynol. Os nad oes ymgynghorydd gennych eisoes, efallai yr hoffech ystyried cysylltu ag un.

Mae gennych yr hawl i ddisgwyl i ni ddelio ag unrhyw fater sy’n ymwneud â chosbau heb oedi afresymol. Byddwn fel arfer yn rhoi gwybod i chi a oes cosbau’n ddyledus unwaith y byddwn wedi cytuno ar y sefyllfa dreth gyda chi. Os na allwn gytuno ar y sefyllfa dreth, byddwn yn anfon diwygiad neu asesiad o’r dreth ychwanegol y credwn ei bod yn ddyledus. Os ydym o’r farn bod cosb yn ddyledus hefyd, byddwn yn anfon asesiad o’r gosb atoch. Bydd yr asesiad yn seiliedig ar y dreth ychwanegol.

Os byddwn yn codi cosb arnoch, mae gennych yr hawl i ofyn am adolygiad neu i apelio. Mae gennych hefyd yr hawl i ofyn am i’ch adolygiad neu’ch apêl yn erbyn y penderfyniadau ynglŷn â’r dreth a’r cosbau gael eu hystyried gyda’i gilydd. Mae ein taflen wybodaeth CThEM1, ‘Penderfyniadau Cyllid a Thollau EM — beth i’w wneud os anghytunwch’, yn esbonio beth i’w wneud os ydych am ofyn am adolygiad, neu apelio. Mae rhagor o wybodaeth am dribiwnlysoedd ar wefan y tribiwnlysoedd. Ewch i www.gov.uk/government/organisations/hm-courts-and-tribunals-service/about.cy.

Mae gennych yr hawl i wneud cais am gynhorthwy cyfreithiol a ariennir yn gyhoeddus neu gymorth cyfreithiol. O dan rai amgylchiadau, efallai y bydd arian ar gael i’ch helpu i ddod â rhai apeliadau gerbron y tribiwnlys. Os ydych yn mynd i apelio yn erbyn asesiad o gosb, efallai y byddwch am wirio a yw’ch achos yn gymwys a’r math o help a allai fod ar gael. Nid oes gennym unrhyw ran i’w chwarae wrth benderfynu a fydd eich achos yn gymwys. Ceir manylion isod ynghylch ble y gallwch gael gwybodaeth.

Os oes unrhyw beth nad ydych yn ei ddeall am yr hawliau hyn, neu’r hyn y maent yn ei olygu i chi, rhowch wybod ar unwaith i’r swyddog sy’n delio â’r gwiriad cydymffurfio.

Cynhorthwy cyfreithiol a ariennir

Mae rhagor o fanylion am gynhorthwy cyfreithiol a ariennir neu gymorth cyfreithiol ar gael fel a ganlyn:

  • yng Nghymru a Lloegr, drwy fynd i’r wefan Cyngor Cyfreithiol Sifil yn www.gov.uk/civil-legal-advice neu drwy ffonio 0345 345 4345
  • yn yr Alban, drwy fynd i wefan Bwrdd Cymorth Cyfreithiol yr Alban yn www.slab.org.uk neu drwy ffonio 0131 226 7061
  • yng Ngogledd Iwerddon, drwy gysylltu â chyfreithiwr sy’n aelod o Gymdeithas Cyfreithwyr Gogledd Iwerddon. Ewch i www.lawsoc-ni.org

Gallwch hefyd gael rhagor o fanylion gan Gyngor ar Bopeth neu gallwch wneud cais am gynhorthwy cyfreithiol a ariennir neu gymorth cyfreithiol drwy gyfreithiwr unrhyw le yn y DU.

Ein hysbysiad preifatrwydd

Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu’n cadw gwybodaeth amdanoch. Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘HMRC Privacy Notice’.