Canllawiau

Gwiriadau cydymffurfio: hysbysiadau diogelu ynghylch y Rheol Gwrth-gamddefnydd Gyffredinol – CC/FS36a

Diweddarwyd 31 May 2022

Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhoi gwybod i chi am hysbysiadau diogelu ynghylch y GAAR a roddir o dan y rheol gwrth-gamddefnydd gyffredinol (GAAR). I gael rhagor o wybodaeth am y GAAR, darllenwch daflen wybodaeth CC/FS34a ‘Gwybodaeth am y Rheol Gwrth-gamddefnydd Gyffredinol’.

Pan fo’r daflen wybodaeth hon yn cyfeirio at ‘dreth’, mae hyn yn golygu’r trethi, yr ardollau a’r cyfraniadau y mae’r GAAR yn berthnasol iddynt. Mae’r manylion hyn ar gael yn nhaflen wybodaeth CC/FS34a.

Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhan o gyfres. I weld y rhestr lawn, ewch i www.gov.uk/guidance/arweiniad-a-thaflenni-gwybodaeth-cthem ac edrych o dan y pennawd ‘Gwiriadau cydymffurfio’.

Os oes angen help arnoch

Os yw’n bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu’ch iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio â ni, rhowch wybod i’r swyddog sydd wedi cysylltu â chi. Byddwn yn eich helpu ym mha ffordd bynnag y gallwn. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.gov.uk/cael-help-cthem-cymorth-ychwanegol.

Gallwch hefyd ofyn i rywun arall ddelio â ni ar eich rhan, er enghraifft, ymgynghorydd proffesiynol, ffrind neu berthynas. Fodd bynnag, efallai y bydd yn dal i fod yn rhaid i ni siarad â chi neu ysgrifennu atoch yn uniongyrchol am rai pethau. Os bydd angen i ni ysgrifennu atoch, byddwn yn anfon copi at yr unigolyn rydych wedi gofyn i ni ddelio ag ef. Os bydd angen i ni siarad â chi, caiff yr unigolyn hwnnw fod gyda chi pan fyddwn yn gwneud hynny, pe bai’n well gennych.

Ynglŷn â hysbysiadau diogelu ynghylch y GAAR

Os ystyriwn y gallai mantais dreth fod wedi codi i chi drwy drefniadau treth sy’n gamfanteisiol, mae’n bosibl y byddwn yn rhoi hysbysiad diogelu ynghylch y GAAR i chi. Efallai y byddwn yn gwneud hyn os ystyriwn y dylai unrhyw fantais dreth sy’n codi gael ei gwrthweithio o dan y GAAR.

Os rhoddwn hysbysiad diogelu ynghylch y GAAR i chi, byddwn yn dileu’r fantais dreth (neu’n ei ‘gwrthweithio’) drwy wneud yr addasiadau a ddangosir yn yr hysbysiad hwnnw. Er enghraifft, drwy wneud asesiad neu drwy ddiwygio’ch Ffurflen Dreth.

Bydd yr hysbysiad diogelu ynghylch y GAAR yn dweud wrthych:

  • at ba drefniadau treth a manteision treth y mae’n cyfeirio
  • am bob un, neu rywfaint, o’r addasiadau y credwn y gallai fod eu hangen er mwyn gwrthweithio’r fantais dreth
  • na allwch apelio yn erbyn yr hysbysiad diogelu ynghylch y GAAR
  • unwaith y byddwn wedi gwneud yr addasiadau, y byddwch yn gallu apelio yn eu herbyn os ydych yn anghytuno
  • os na fyddwch yn apelio, y bydd yn rhaid i chi dalu’r dreth ddyledus ychwanegol sy’n deillio o’r ffaith ein bod yn gwrthweithio’r fantais dreth a ddangosir yn yr hysbysiad

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adran ‘Apeliadau yn erbyn gwrthweithio’r fantais dreth’.

Mae hysbysiad diogelu ynghylch y GAAR yn ein galluogi i wneud yr addasiadau cyn i holl weithdrefnau’r GAAR gael eu cwblhau.

Ni fyddwn yn anfon hysbysiad diogelu ynghylch y GAAR atoch os ydym wedi rhoi un o’r hysbysiadau canlynol i chi ar neu ar ôl 22 Gorffennaf 2020:

  • hysbysiad o wrthweithio arfaethedig (o dan baragraff 3 o Atodlen 43)
  • hysbysiad cyfuno (o dan baragraff 1 o Atodlen 43A)
  • hysbysiad rhwymo (o dan baragraff 2 o Atodlen 43A)

Os ydym wedi rhoi un o’r hysbysiadau hyn i chi ar neu ar ôl 22 Gorffennaf 2020, byddwn wedi rhoi gwybod i chi y bydd hyn yn ein galluogi i wneud addasiadau cyn i’r weithdrefn GAAR gael ei chwblhau.

Gallwch weld rhagor o wybodaeth am sut rydym yn gwneud yr addasiadau o dan yr adran ‘Gwneud yr addasiadau’.

Yr hyn i’w wneud pan fyddwch yn cael hysbysiad diogelu ynghylch y GAAR

Pan gewch hysbysiad diogelu ynghylch y GAAR, does dim rhaid chi wneud dim byd penodol amdano. Fodd bynnag, efallai y byddwch am drafod yr hysbysiad â’ch ymgynghorydd treth, os oes un gennych.

Mae’n bosibl y byddwch hefyd am ystyried setlo’ch materion treth. Os ydych am setlo, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl er mwyn i ni allu rhoi gwybod i chi beth i’w wneud nesaf. Os nad ydych am setlo’ch materion treth, byddwn yn parhau ag unrhyw gamau y gallwn eu cymryd – gan gynnwys unrhyw gamau o dan y GAAR.

Gwneud yr addasiadau

Byddwn fel arfer yn gwneud yr addasiadau yn weddol fuan ar ôl i ni roi hysbysiad diogelu ynghylch y GAAR i chi. Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud hyn, er enghraifft, drwy wneud asesiad neu drwy ddiwygio’ch Ffurflen Dreth, neu drwy ddiwygio neu wrthod hawliad.

Apeliadau yn erbyn gwrthweithio’r fantais dreth

Ni allwch apelio yn erbyn hysbysiad diogelu ynghylch y GAAR. Fodd bynnag, os gwnawn yr addasiadau a ddangosir yn yr hysbysiad, byddwch yn gallu apelio yn erbyn yr addasiadau os byddwch yn anghytuno â nhw. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am eich hawl i apelio pan wnawn yr addasiadau.

Os:

  • na fyddwch yn gwneud apêl
  • byddwch yn apelio ac wedyn yn tynnu’ch apêl yn ôl
  • caiff eich apêl ei setlo drwy gytundeb

ac na roddwn hysbysiad o benderfyniad terfynol i chi, yna bydd yr hysbysiad diogelu ynghylch y GAAR yn cael ei drin (at bob diben ar wahân i gosbau) fel pe bai’n hysbysiad o benderfyniad terfynol. Mae’r ddeddfwriaeth GAAR yn cyfeirio at hysbysiad o benderfyniad terfynol fel hysbysiad gwrthweithio GAAR terfynol. Mae rhagor o wybodaeth isod am yr hyn a olygwn gan hysbysiad gwrthweithio GAAR terfynol.

Os na fyddwch yn gwneud apêl, bydd yn rhaid i chi dalu’r dreth ychwanegol sy’n codi o’r addasiadau a wnaed gennym.

Os byddwch yn apelio yn erbyn yr addasiadau a wnaed gennym, ni all eich apêl fynd yn ei blaen tan y cynharaf o’r 2 ddyddiad canlynol:

  • y dyddiad y rhoddwn hysbysiad gwrthweithio GAAR terfynol i chi ar gyfer yr addasiadau
  • 12 mis ar ôl y dyddiad y gwnaethom roi’r hysbysiad diogelu ynghylch y GAAR i chi

Mae hysbysiad gwrthweithio GAAR terfynol yn un o’r canlynol:

  • hysbysiad o benderfyniad terfynol ar ôl ystyried barn Panel Cynghori’r GAAR (o dan baragraff 12 o Atodlen 43 i Ddeddf Cyllid 2013)
  • hysbysiad trefniadau cyfuno o benderfyniad terfynol (o dan baragraff 8(2) o Atodlen 43A i Ddeddf Cyllid 2013)
  • hysbysiad cyfeiriad generig o benderfyniad terfynol (o dan baragraff 8 o Atodlen 43B i Ddeddf Cyllid 2013)
  • hysbysiad cytundebau rhwym o benderfyniad terfynol (o dan baragraff 9(2) o Atodlen 43A i Ddeddf Cyllid 2013)

Bydd pob un o’r hysbysiadau hyn yn rhoi gwybod i chi a fydd y fantais dreth sy’n deillio o’ch trefniadau treth yn cael ei gwrthweithio o dan y GAAR.

Gallwch dynnu’ch apêl yn ôl neu ei setlo drwy gytundeb os byddwch yn newid eich meddwl ac yn penderfynu eich bod am setlo’ch materion treth.

Cosbau o dan y GAAR

Gallwn godi cosbau ar gyfer trefniadau a wnaed ar neu ar ôl 15 Medi 2016. Gallwn godi cosb GAAR o 60% o werth y fantais a wrthweithiwyd. Dim ond os ydym wedi rhoi hysbysiad o benderfyniad terfynol, ac os caiff y fantais dreth ei gwrthweithio o dan y GAAR, y gallwn godi cosb GAAR. Ni allwn godi cosb os caiff y fantais dreth ei gwrthweithio mewn unrhyw ffordd arall.