Canllawiau

Cosbau am fethu â chyflwyno Ffurflenni Treth ar amser — Treth Incwm, Treth Enillion Cyfalaf a Threth Flynyddol ar Anheddau sydd wedi’u Hamgáu — CC/FS18a

Diweddarwyd 19 May 2022

Mae’r daflen wybodaeth hon yn gymwys i Ffurflenni Treth blynyddol ac achlysurol ar gyfer Treth Incwm, Treth Enillion Cyfalaf, y Cynllun Pensiwn Cofrestredig, Treth Cyflogres Banc, Treth Flynyddol ar Anheddau wedi’u Hamgáu a Threth Tollau Stamp Wrth Gefn.

Mae’n cynnwys gwybodaeth am gyfradd ganrannol y gosb y gallwn ei chodi. Bydd y gyfradd yn cynyddu pan fo’ch Ffurflen Dreth fwy na 12 mis yn hwyr.

Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhan o gyfres. I weld rhestr lawn o’r taflenni gwybodaeth yn y gyfres, ewch i www.gov.uk/arweiniad-a-thaflenni-gwybodaeth-cthem.

Os oes angen help arnoch

Os yw’n bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu’ch iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio â’r gwiriad hwn, rhowch wybod i’r swyddog sydd wedi cysylltu â chi. Byddwn yn eich helpu ym mha ffordd bynnag y gallwn. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.gov.uk/cael-help-cthem-cymorth-ychwanegol

Gallwch hefyd ofyn i rywun arall ddelio â ni ar eich rhan, er enghraifft, ymgynghorydd proffesiynol, ffrind neu berthynas. Fodd bynnag, efallai y bydd dal angen i ni siarad â chi neu ysgrifennu atoch yn uniongyrchol am rai pethau. Os bydd angen i ni ysgrifennu atoch, byddwn yn anfon copi at yr unigolyn rydych wedi gofyn i ni ddelio ag ef. Os bydd angen i ni siarad â chi, caiff yr unigolyn hwnnw fod gyda chi pan fyddwn yn gwneud hynny, pe bai’n well gennych.

Y cosbau y gallwn eisoes fod wedi’u codi arnoch

Oherwydd nad ydych wedi cyflwyno’ch Ffurflen Dreth neu ddogfen arall mewn pryd, efallai ein bod eisoes wedi codi’r cosbau canlynol arnoch:

  • cosb gychwynnol o £100 ar y diwrnod ar ôl y dyddiad cau ar gyfer eich Ffurflen Dreth neu ddogfen
  • cosbau dyddiol o £10 y dydd am 90 diwrnod pan fydd eich Ffurflen Dreth neu ddogfen 3 mis yn hwyr
  • ‘cosb bellach’ o 5% o’n hamcangyfrif o’ch rhwymedigaeth i dreth, neu £300 (p’un bynnag sydd uchaf), pan fydd eich Ffurflen Dreth neu ddogfen 6 mis yn hwyr
  • ail ‘gosb bellach’ o 5% o’n hamcangyfrif o’ch rhwymedigaeth i dreth, neu £300 (p’un bynnag sydd uchaf), pan fydd eich Ffurflen Dreth neu ddogfen 12 mis yn hwyr

Pan nad yw’ch Ffurflen Dreth neu ddogfen wedi’i chyflwyno, gallwn amcangyfrif eich rhwymedigaeth i dreth. Os gwnawn hyn, bydd y gosb a godir ar ôl 6 mis a 12 mis yn 5% o’r rhwymedigaeth amcangyfrifedig, neu £300 os yw’r swm hwn yn uwch.

Pan fyddwch yn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth neu ddogfen, bydd y cosbau a godir ar ôl 6 mis a 12 mis yn cael eu hail‑gyfrifo’n awtomatig os yw’r rhwymedigaeth i dreth yn y Ffurflen Dreth yn wahanol i’n hamcangyfrif.

Mae ‘rhwymedigaeth i dreth’ yn golygu swm y dreth ac unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG) y dylid fod wedi’u dangos neu eu datgan ar eich Ffurflen Dreth neu ddogfen arall.

Os nad ydym eisoes wedi codi’r cosbau hyn arnoch ac mae’r Ffurflen Dreth neu’r ddogfen 12 mis yn hwyr, efallai y gwnawn godi’r holl gosbau arnoch am beidio â chyflwyno’ch Ffurflen Dreth mewn pryd gyda’i gilydd.

Pryd y gwnawn gynyddu cyfradd ganrannol y gosb ar gyfer yr ail gosb bellach

Pan fyddwn eisoes wedi codi’r ail gosb bellach, byddwn yn cynyddu’r gyfradd ganrannol os, drwy beidio â chyflwyno’ch Ffurflen Dreth neu ddogfen cyn pen 12 mis, y gwnaethoch y canlynol:

  • dal gwybodaeth yn ôl
  • gwybod y byddai’r wybodaeth yn ein helpu i gadarnhau’ch rhwymedigaeth gywir o ran treth

Yn ystod ein gwiriad, byddwn yn cadarnhau p’un a ydych wedi dal gwybodaeth yn ôl ac, os felly, y rheswm pam.

Yr enw a rown ar hwn yw ‘ymddygiad’. Eglurir yr ymddygiadau gwahanol isod.

Pan na fyddwn yn codi cosbau arnoch am beidio â chyflwyno mewn pryd

Ni fyddwn yn codi unrhyw gosbau arnoch am beidio â chyflwyno’ch Ffurflen Dreth neu ddogfen mewn pryd os oedd gennych esgus rhesymol dros wneud hynny – cyhyd â’ch bod wedyn yn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth heb oedi unwaith y daeth yr esgus rhesymol i ben.

Esgus rhesymol yw rhywbeth a wnaeth eich rhwystro rhag bodloni ymrwymiad treth mewn pryd, er i chi gymryd gofal rhesymol i’w fodloni. Gall hyn fod o oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’ch rheolaeth, neu gyfuniad o ddigwyddiadau. Unwaith y bydd yr esgus rhesymol wedi dod i ben, mae’n rhaid i chi unioni pethau heb oedi diangen.

Mae a oes gennych esgus rhesymol yn dibynnu ar amgylchiadau’r methiant i fodloni’r ymrwymiad, a’ch sefyllfa a’ch galluoedd penodol. Gallai hynny olygu na fyddai’r hyn sy’n cael ei ystyried yn esgus rhesymol yn achos un person yn cael ei ystyried yn esgus rhesymol yn achos rhywun arall. Os ydych o’r farn bod gennych esgus rhesymol, rhowch wybod i ni. Os derbyniwn fod gennych esgus rhesymol, ni fyddwn yn codi cosbau arnoch am beidio â chyflwyno mewn pryd. Os ydym eisoes wedi codi rhai, byddwn yn eu canslo.

Os oedd unrhyw beth am eich iechyd neu’ch amgylchiadau personol y gwnaeth hi’n anodd i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth neu ddogfen mewn pryd, dywedwch wrth y swyddog sy’n cynnal y gwiriad. Bydd dweud wrtho yn ei alluogi i gymryd hyn i ystyriaeth wrth benderfynu a oedd gennych esgus rhesymol.

Pam y dylech ddweud wrthym am wybodaeth yr ydych wedi’i dal yn ôl gennych cyn i ni ddod i wybod amdani

Os ydych o’r farn eich bod wedi dal gwybodaeth yn ôl, dylech ddweud wrthym ar unwaith. Os ydych yn dweud wrthym am wybodaeth yr ydych wedi’i dal yn ôl cyn eich bod yn credu ein bod ar fin dod i wybod amdani, rydym yn galw hyn yn ‘ddatgeliad heb ei annog’. Os ydych yn dweud wrthym am wybodaeth yr ydych wedi’i dal yn ôl ar unrhyw adeg arall, rydym yn ei alw’n ‘ddatgeliad wedi’i annog’. Bydd cyfradd ganrannol y gosb ar gyfer datgeliadau heb eu hannog yn llai nag ar gyfer datgeliadau wedi’u hannog.

Yr hyn y gallwch ei wneud i ostwng y cynnydd i gyfradd ganrannol yr ail gosb bellach

Gallwn ostwng swm unrhyw ail gosb bellach, yn dibynnu ar ein barn ynghylch faint o gymorth a roesoch i ni pan fyddwch yn gwneud datgeliad. Rydym yn cyfeirio at y cymorth hwn fel ‘ansawdd y datgeliad’, neu fel ‘dweud, helpu a rhoi’.

Mae enghreifftiau o wneud datgeliad yn cynnwys:

  • cytuno eich bod wedi dal gwybodaeth yn ôl, neu ddweud wrthym amdani
  • rhoi cymaint o fanylion ag y gallwch am yr wybodaeth yr ydych wedi’i dal yn ôl cyn gynted ag y gallwch
  • ein helpu, drwy ddefnyddio’ch cofnodion eich hun, i gyfrifo’ch rhwymedigaeth gywir i dreth
  • ein helpu i ddeall eich ffigurau neu’ch cofnodion
  • dweud wrthym a’n helpu drwy ateb ein cwestiynau’n llawn
  • caniatáu i ni weld eich cofnodion drwy anfon eich Ffurflen Dreth atom, yn ogystal ag unrhyw ddogfen arall sydd ei hangen arnom i gyfrifo’ch rhwymedigaeth gywir o ran treth

Byddwn yn gostwng y gosb fwyaf posibl wrth gyfrifo’r ail gosb bellach uwch os gwnewch y canlynol:

  • yn rhoi popeth ag y gallwch am unrhyw gamweddu cyn gynted â phosibl
  • yn gwneud popeth ag y gallwch i’n helpu i’w gywiro

Os byddwch yn oedi cyn gwneud datgeliad, mae’n bosibl y bydd gennych hawl i ostyngiad o hyd, ond bydd hwnnw’n llai. Os nad oes angen unrhyw gymorth ychwanegol arnom oddi wrthych, byddwn yn rhoi rhywfaint o ostyngiad i chi am ‘ddweud, helpu a rhoi’.

Rhoi gwybod i ni am unrhyw amgylchiadau arbennig

Os ydych o’r farn y dylai’r swyddog sy’n delio â’r gwiriad ystyried amgylchiadau arbennig wrth gyfrifo’r gosb, dylech roi gwybod iddo ar unwaith.

Sut yr ydym yn cyfrifo swm unrhyw gynnydd yng nghyfradd ganrannol ail gosb bellach

Mae yna 8 cam wrth gyfrifo’r cynnydd yng nghyfradd ganrannol y gosb. Caiff pob cam ei esbonio’n fanylach isod.

1 Cyfrifo’r rhwymedigaeth i dreth

Mae’r gosb yn ganran o’r rhwymedigaeth i dreth a ddylai fod wedi’i dangos ar y Ffurflen Dreth neu’r ddogfen. Bydd y swyddog sy’n delio â’r gwiriad yn esbonio sut y cyfrifir hwn.

2 Pennu ein barn am yr ‘ymddygiad’

Pan fo Ffurflen Dreth fwy na 12 mis yn hwyr, mae’n rhaid i ni wybod y rheswm pam. Gelwir y rheswm hwn yn ‘ymddygiad’. Bydd math yr ymddygiad yn pennu p’un a ddylwn gynyddu cyfradd ganrannol yr ail gosb bellach.

Mae 3 math o ymddygiad.

Anfwriadol

Dyma pan nad oeddech yn gwybod, drwy beidio â chyflwyno’ch Ffurflen Dreth neu ddogfen mewn pryd, bod gwybodaeth yn cael ei dal yn ôl a fyddai wedi ein helpu i gadarnhau eich rhwymedigaeth gywir i dreth. Mewn achosion tebyg, ni fyddwn yn cynyddu cyfradd ganrannol yr ail gosb bellach.

Bwriadol

Mae hyn lle roeddech yn gwybod, drwy beidio â chyflwyno’ch Ffurflen Dreth neu ddogfen mewn pryd, bod gwybodaeth yn cael ei dal yn ôl a fyddai wedi ein helpu i gadarnhau eich rhwymedigaeth gywir i dreth.

Bwriadol ac wedi’i guddio

Dyma pan roeddech yn gwybod bod gwybodaeth yn cael ei dal yn ôl a fyddai wedi ein helpu i gadarnhau’ch rhwymedigaeth gywir i dreth, a dilynoch gamau ychwanegol i guddio hyn. Dyma’r math mwyaf difrifol o fethiant, sy’n dwyn y cosbau uchaf.

3 Penderfynu a oedd y datgeliad yn un heb ei annog neu wedi’i annog

Mae hyn yn pennu canran isaf posibl y gosb y gallwn ei chodi. Eglurir hyn mewn mwy o fanylder yn yr adran â’r enw ‘Pam y dylech ddweud wrthym am wybodaeth a gelwyd gennych cyn i ni ddod i wybod amdani’.

4 Penderfynu ar yr ystod y mae cyfradd ganrannol y gosb yn syrthio ynddi pan fo wedi’i chynyddu

Mae cyfradd ganrannol y gosb, pan fo wedi’i chynyddu, yn dibynnu ar p’un a oedd yr ymddygiad yn ‘fwriadol’ neu’n ‘fwriadol ac wedi’i guddio’, a ph’un a oedd y datgeliad ‘wedi’i annog’ neu ‘heb ei annog’. Mae’r tabl canlynol yn dangos ystod y cosbau.

Math o ymddygiad Datgeliad heb ei annog Datgeliad wedi’i annog
Anfwriadol Dim cynnydd yn y gosb Dim cynnydd yn y gosb
Bwriadol 20% i 70% 35% i 70%
Bwriadol ac wedi’i guddio 30% i 100% 50% i 100%

5 Cyfrifo’r gostyngiadau ar gyfer ansawdd y datgelu (a elwir hefyd yn ’dweud, helpu a rhoi’)

Mae ansawdd y datgeliad yn pennu lle y bydd y gosb yn syrthio o fewn ystod y gosb. Mae’r gostyngiad a rown yn dibynnu ar faint o gymorth a rowch i ni. Ar gyfer:

  • dweud — rydym yn rhoi hyd at 30%
  • helpu — rydym yn rhoi hyd at 40%
  • gadael i ni weld cofnodion — rydym yn rhoi hyd at 30%

Wrth gyfrifo ansawdd y datgeliad am fethiannau bwriadol a methiannau bwriadol sydd wedi’u cuddio, byddwn hefyd yn ystyried pa mor hir yr ydych wedi ei gymryd i roi gwybod i ni am yr wybodaeth sydd wedi’i dal yn ôl gennych. Os yw wedi cymryd amser hir i chi, (megis 3 blynedd neu fwy), rydym fel arfer yn cyfyngu ar y gostyngiad mwyaf a rown ar gyfer ansawdd y datgeliad i 10 pwynt canran yn uwch na lleiafswm y gosb. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn cael budd o’r ganran gosb isaf sydd fel arfer ar gael.

6 Cyfrifo cyfradd ganrannol y gosb, pan fo wedi’i chynyddu

Pennir cyfradd ganrannol y gosb, pan fo wedi’i chynyddu, gan ystod y gosb a’r gostyngiad ar gyfer ansawdd y datgeliad.

Enghraifft

Gwnaethom gadarnhau bod cwsmer wedi dal gwybodaeth yn ôl yn fwriadol am enillion trethadwy wrth werthu ased, drwy beidio â chyflwyno’i Ffurflen Dreth ar gyfer y flwyddyn honno. Pan heriwyd y cwsmer ynghylch hyn, anfonodd y Ffurflen Dreth atom a chyfaddef ei fod wedi dal yr wybodaeth yn ôl yn fwriadol. Roedd hwn yn ddatgeliad wedi’i annog.

Ystod y gosb am ymddygiad bwriadol gyda datgeliad wedi’i annog yw 35% i 70% o’r rhwymedigaeth i dreth.

Roedd y gostyngiad ar gyfer ansawdd y datgeliad (dweud, helpu a rhoi) yn 100%.

Camau Enghraifft o gyfrifiad
I gyfrifo cyfradd ganrannol y gosb, yn gyntaf rhaid cyfrifo’r gwahaniaeth rhwng cyfraddau canrannol isaf ac uchaf y gosb. 70% llai 35% = 35
Yna, rydym yn lluosi’r ffigur hwnnw â’r gostyngiad ar gyfer ansawdd y datgeliad er mwyn rhoi canran y gostyngiad. 35 x 100% = 35%
Yna, rydym yn didynnu canran y gostyngiad oddi wrth ganran uchaf y gosb y gallwn ei chodi. 70% llai 35% = 35%
Mae hyn yn rhoi cyfradd ganrannol y gosb, pan fo wedi’i chynyddu. 35%

7 Cyfrifo swm yr ail gosb bellach

I gyfrifo swm yr ail gosb bellach, rydym yn lluosi’r rhwymedigaeth i dreth gyda chyfradd ganrannol y gosb, pan fo wedi’i chynyddu. Gweler yr enghraifft uchod.

£10,000 yw’r rhwymedigaeth i dreth a 35% yw cyfradd ganrannol y gosb, pan fo wedi’i chynyddu. Golyga hyn mai £3,500 yw swm yr ail gosb bellach. Yna, byddwn yn cyfrif am y gosb sydd eisoes wedi’i chodi, sef £500 (£10,000 x 5% = £500). £3,000 yw’r balans sydd i’w godi.

8 Ystyried gostyngiadau eraill

Ar ôl cyfrifo swm y gosb, rydym wedyn yn ystyried unrhyw ostyngiadau eraill sydd eu hangen. Er enghraifft, pan fyddwn eisoes wedi codi cosb neu ordal arall ar yr un dreth. Mae hyn, yn ei dro, yn rhoi swm y gosb a godwn.

Sut y byddwn yn dweud wrthych os byddwn yn cynyddu cyfradd ganrannol y gosb ar gyfer yr ail gosb bellach

Byddwn yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych faint yw’r ail gosb bellach, pan fo wedi’i chynyddu, a sut yr ydym wedi’i chyfrifo.

Os oes unrhyw beth ynglŷn â’r gosb hon nad ydych yn cytuno ag ef, neu os credwch fod unrhyw wybodaeth nad ydym eisoes wedi’i chymryd i ystyriaeth, dylech roi gwybod i ni ar unwaith. Ar ôl cymryd i ystyriaeth yr hyn yr ydych wedi dweud wrthym, byddwn yn:

  • anfon hysbysiad o asesiad o gosb bellach atoch, fel arfer
  • eich gwahodd i ymrwymo i gontract gyda ni i dalu’r gosb, ynghyd ag unrhyw dreth a/neu log sydd arnoch

Os ydych wedi gwneud rhywbeth o’i le yn fwriadol

Gallwn gynnal ymchwiliad troseddol gyda’r bwriad o erlyn os ydych wedi gwneud rhywbeth o’i le yn fwriadol, megis:

  • rhoi gwybodaeth i ni gan wybod ei bod yn anwir, boed ar lafar neu ar bapur
  • cam-gyfleu’n anonest faint o dreth sydd arnoch, neu hawlio taliadau nad oes gennych hawl iddynt

Rheoli diffygdalwyr difrifol

Os cawsoch eich materion treth yn anghywir yn fwriadol, a’n bod yn canfod hyn yn ystod y gwiriad, efallai y byddwn yn monitro’ch materion treth yn fanylach. Mae gennym raglen fonitro fanylach o’r enw ‘rheoli diffygdalwyr difrifol’. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch daflen wybodaeth CC/FS14, ‘Rheoli diffygdalwyr difrifol’.

Ewch i www.gov.uk/guidance/arweiniad-a-thaflenni-gwybodaeth-cthem a chwilio am ‘CC/FS14’.

Yr hyn i’w wneud os ydych yn anghytuno

Os oes rhywbeth nad ydych yn cytuno ag ef, rhowch wybod i ni.

Os byddwn yn gwneud penderfyniad y gallwch apelio yn ei erbyn, byddwn yn ysgrifennu atoch ynghylch y penderfyniad ac yn rhoi gwybod i chi beth i’w wneud os ydych yn anghytuno. Fel arfer, bydd gennych 3 opsiwn. Cyn pen 30 diwrnod, gallwch wneud y canlynol:

  • anfon gwybodaeth newydd at y swyddog rydych wedi bod yn delio ag ef, a gofyn iddo’i hystyried
  • cael eich achos wedi’i adolygu gan un o swyddogion CThEF na fu’n ymwneud â’r mater cyn hyn
  • trefnu bod tribiwnlys annibynnol yn gwrando ar eich apêl ac yn penderfynu ar y mater

Pa un bynnag a ddewiswch, mae’n bosibl y gallwch hefyd ofyn i un o swyddogion arbenigol CThEF weithredu fel hwylusydd diduedd er mwyn helpu i ddatrys yr anghydfod. Y Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod (ADR) yw’r enw a rown ar hyn.

Dim ond ar gyfer anghydfodau sy’n ymwneud â meysydd treth penodol y mae ADR ar gael. Bydd y swyddog sy’n delio â’r gwiriad yn rhoi gwybod i chi a yw ADR ar gael ar gyfer eich anghydfod. I gael rhagor o wybodaeth am apeliadau ac ADR, darllenwch y taflenni gwybodaeth canlynol:

  • HMRC1, ‘Penderfyniadau Cyllid a Thollau EF: beth i’w wneud os anghytunwch’
  • CC/FS21, ‘Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod’

Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘HMRC1’ neu ‘CC/FS21’

Eich hawliau os ydym yn ystyried cosbau

Mae’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn rhoi hawliau pwysig i chi. Os ydym yn ystyried cosbau, byddwn yn rhoi gwybod i chi. Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi fod yr hawliau hyn yn gymwys, ac yn gofyn i chi gadarnhau eich bod yn eu deall. Mae’r hawliau hyn fel a ganlyn:

  • os byddwn yn gofyn unrhyw gwestiynau i chi i’n helpu i benderfynu p’un a ddylid codi cosb arnoch, mae gennych yr hawl i beidio â’u hateb – eich penderfyniad chi’n gyfan gwbl yw faint o help y byddwch yn ei roi i ni pan fyddwn yn ystyried cosbau
  • wrth benderfynu a ydych am ateb ein cwestiynau neu beidio, efallai y byddwch am gael cyngor gan ymgynghorydd proffesiynol – yn enwedig os nad oes un gennych yn barod
  • os ydych yn anghytuno â ni ynglŷn â’r dreth neu unrhyw gosbau y credwn eu bod yn ddyledus, gallwch apelio – os byddwch yn apelio yn erbyn y dreth a’r cosbau hefyd, mae gennych yr hawl i ofyn i’r ddwy apêl gael eu hystyried gyda’i gilydd
  • mae gennych yr hawl i wneud cais am gynhorthwy cyfreithiol a ariennir er mwyn delio ag unrhyw apêl yn erbyn rhai cosbau penodol
  • mae gennych hawl i ddisgwyl i ni ddelio â mater sy’n ymwneud â chosbau heb oedi afresymol

Mae rhagor o wybodaeth am yr hawliau hyn yn nhaflen wybodaeth CC/FS9, ‘Y Ddeddf Hawliau Dynol a chosbau’.

Ewch i www.gov.uk/cymraeg a chwilio am ‘CC/FS9’.

Ein polisi preifatrwydd

Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu’n cadw gwybodaeth amdanoch. Ewch i GOV.UK a chwilio am ‘HMRC Privacy Notice’.

Y cyfnodau treth y mae’r rheolau hyn ar gyfer codi cosbau yn berthnasol iddynt

Mae’r rheolau ar gyfer codi cosbau yn y daflen wybodaeth hon yn berthnasol i’r canlynol:

  • Ffurflenni Treth Incwm ac Enillion Cyfalaf ar gyfer blwyddyn dreth 2010 i 2011 ac ar ôl hynny
  • Treth Flynyddol ar Anheddau wedi’u Hamgáu ar gyfer blwyddyn dreth 2013 i 2014 ac ar ôl hynny
  • Ffurflenni Treth Cyflogres Banc a oedd i’w cyflwyno ar neu ar ôl 31 Awst 2010
  • Ffurflenni Treth Pensiwn Cofrestredig a oedd i’w cyflwyno ar neu ar ôl 30 Medi 2010
  • Trafodion Treth Tollau Stamp Wrth Gefn ar neu ar ôl 1 Ionawr 2015