Canllawiau

Gwiriadau cydymffurfio: cosbau am drafodiadau sy'n gysylltiedig â thwyll TAW — CC/FS42

Diweddarwyd 12 May 2022

Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhoi gwybod i chi am y cosbau y gallwn eu codi os oeddech yn gwybod, neu os dylech fod wedi gwybod, eich bod wedi cymryd rhan mewn un neu fwy o drafodion sy’n gysylltiedig â thwyll TAW gan fasnachwr sy’n ddiffygdalwr. Mae masnachwr sy’n ddiffygdalwr yn fusnes, a elwir yn aml yn “fasnachwr coll”, sydd – drwy dwyll – wedi methu â rhoi cyfrif cywir am y TAW y mae wedi’i chodi ar ei gyflenwadau i gwsmeriaid. Mae’r cosbau yn y daflen wybodaeth hon yn berthnasol i fusnesau sy’n hwyluso achosion o dwyll gan fasnachwyr coll, megis twyll masnachwr coll o fewn y gymuned (MTIC).

Mae’r daflen wybodaeth hon yn un o gyfres o daflenni gwybodaeth cydymffurfio. I weld rhestr o’r taflenni gwybodaeth yn y gyfres, ewch i www.gov.uk/guidance/arweiniad-a-thaflenni-gwybodaeth-cthem ac edrych o dan y pennawd ‘Gwiriadau cydymffurfio’.

Os oes angen help arnoch

Os yw’n bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu’ch iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio â’r mater hwn, rhowch wybod i’r swyddog a gysylltodd â chi. Byddwn yn eich helpu ym mha ffordd bynnag y gallwn. I gael rhagor o fanylion, ewch i www.gov.uk/cael-help-cthem-cymorth-ychwanegol

Gallwch hefyd ofyn i rywun arall ddelio â ni ar eich rhan, er enghraifft, ymgynghorydd proffesiynol, ffrind neu berthynas. Er hynny, mae’n bosibl y bydd yn dal i fod yn rhaid i ni siarad â chi neu ysgrifennu atoch yn uniongyrchol ynglŷn â rhai pethau. Os bydd angen i ni ysgrifennu atoch, byddwn yn anfon copi at yr unigolyn yr ydych wedi gofyn i ni ddelio ag ef. Os bydd angen i ni siarad â chi, caiff yr unigolyn hwnnw fod gyda chi pan fyddwn yn gwneud hynny, pe bai’n well gennych.

Pryd y gallwn godi cosb arnoch am drafodion sy’n gysylltiedig â thwyll TAW MTIC

Gallwn godi cosb arnoch os ydych yn bodloni pob un o’r 3 amod canlynol:

  • rydych wedi cymryd rhan mewn un neu fwy o drafodion a oedd yn gysylltiedig â thwyll TAW
  • roeddech yn gwybod, neu dylech fod wedi gwybod, fod y trafodion hyn yn gysylltiedig â thwyll TAW
  • rydym wedi rhoi gwybod i chi nad oes gennych hawl i ddibynnu ar ‘hawl TAW’ gan fod ‘egwyddor gwybodaeth’ yn berthnasol – ceir esboniad o ‘hawl TAW’ ac ‘egwyddor gwybodaeth’ isod

Mae hawl TAW yn cynnwys yr hawl i ddidynnu treth fewnbwn, yr hawl i godi cyfradd sero ar gyflenwadau rhyngwladol, ac unrhyw hawl arall sy’n gysylltiedig â TAW sy’n ymwneud â chyflenwad.

Gallwn wneud penderfyniad gan ddilyn yr hyn a elwir yn egwyddor gwybodaeth, sef nad oes gennych hawl i ddibynnu ar hawl TAW. Gallwn wneud y penderfyniad hwn pan oeddech yn gwybod, neu pan ddylech fod wedi gwybod, eich bod wedi cymryd rhan mewn un neu fwy o drafodion sy’n gysylltiedig â thwyll TAW.

O ganlyniad i unrhyw benderfyniad a wnawn gan ddilyn yr egwyddor gwybodaeth, efallai y gwnawn y naill neu’r llall o’r canlynol, neu’r ddau ohonynt:

  • gwrthod didynnu treth fewnbwn neu hawl TAW arall
  • asesu unrhyw TAW a all fod yn ddyledus

Mae ein hawl i ddilyn yr egwyddor gwybodaeth wedi’i sefydlu yn llysoedd Ewrop, sy’n cynnwys dyfarniadau Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer achosion Axel Kittel & Recolta Recycling (c-439/04 a c-440/04) a Mecsek-Gabona (c-273/11).

Codir unrhyw gosb o dan adran 69C o Ddeddf Treth Ar Werth 1994.

Pryd na fyddwn yn codi cosb arnoch

Ni fyddwn yn codi cosb arnoch os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn wir:

  • codwyd cosb arnoch eisoes am anghywirdeb yn ymwneud â’r un trafodion o dan Atodlen 24 i Ddeddf Cyllid 2007
  • fe’ch cafwyd yn euog o drosedd yn ymwneud â’r un trafodion

Yr hyn y gallwch ei wneud i osgoi cosb yn y dyfodol

Gallwch osgoi cosb drwy beidio â dod yn rhan o unrhyw drafodion sy’n gysylltiedig â thwyll TAW. Gallwch gael gwybod sut i adnabod twyll masnachwr coll yn y canllaw ‘TAW: twyll masnachwr coll’. Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘missing trader fraud’.

Sut yr ydym yn cyfrifo swm y gosb

Mae’r gosb yn seiliedig ar swm y TAW yr ydym wedi’i gwrthod neu ei hasesu gan ddilyn yr egwyddor gwybodaeth, a esbonnir uchod yn yr adran ‘Pryd y gallwn godi cosb arnoch’.

Cyfrifo swm y gosb

I gyfrifo swm y gosb, rydym yn lluosi swm y TAW a wrthodwyd neu a aseswyd gan ddilyn yr egwyddor gwybodaeth â chyfradd ganrannol y gosb o 30%. Pennir cyfradd y gosb am y math hwn o gosb ar 30%. Er enghraifft, os ydym yn gwrthod £1,000 o dreth fewnbwn gan ddilyn yr egwyddor gwybodaeth, yn seiliedig ar ddyfarniad ‘Kittel’, £300 fyddai swm y gosb.

Gostyngiad

Gallwn ostwng y gosb pan fo amgylchiadau lliniarol. Mae’r gostyngiadau hyn ond yn berthnasol os gallwch ein hargyhoeddi nad ydych wedi bod yn defnyddio’ch rhif cofrestru TAW yn bennaf i fod yn rhan o dwyll TAW.

Nid oes hawl gennych i unrhyw ostyngiad os yw dros 50% o werth y trafodion, yn ystod unrhyw un o’r cyfnodau TAW dan sylw, yn ffug neu’n gysylltiedig â thwyll, a’ch bod yn gwybod, neu dylech fod wedi gwybod, am hyn. Bydd swm y gosb y gallwn ei ostwng yn dibynnu ar y ffeithiau a’r amgylchiadau ym mhob achos.

O dan amgylchiadau eithriadol, gallwn hefyd ganiatáu gostyngiad os ydych wedi gweithredu’n ddidwyll neu os collwyd dim ond ychydig o dreth, os o gwbl.

Sut y byddwn yn rhoi gwybod i chi am y gosb

Byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod faint yw’r gosb ac i ba drafodion y mae’n berthnasol. Fer arfer, bydd yr hysbysiad o asesiad o gosb yn cael ei gynnwys yn yr un ddogfen â’r hysbysiad ar gyfer swm y TAW a wrthodwyd neu a aseswyd, ond mae hefyd yn bosibl y byddwn yn ei anfon ar wahân.

Os nad ydych yn cytuno â’r gosb, neu swm y gosb, gallwch apelio. Mae rhagor o wybodaeth am eich hawl i apelio i’w gweld yn nes ymlaen yn y daflen wybodaeth hon.

Atebolrwydd swyddog y cwmni

Gallai swyddog y cwmni fod yn agored i dalu holl gosb y cwmni, neu ran ohoni, o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • mae’r cwmni yr oedd y swyddog yn gweithredu ar ei ran ar adeg y trafodion yn agored i gosb oherwydd ei fod yn gwybod, neu y dylai fod wedi gwybod, fod ei drafodion yn gysylltiedig â thwyll TAW
  • cafodd gweithredoedd y cwmni, a arweiniodd at y gosb honno, eu priodoli i swyddog y cwmni, er enghraifft mewn achosion pan oedd y swyddog yn gwybod, neu pan ddylai fod wedi gwybod, fod trafodion y cwmni’n gysylltiedig â thwyll

Os bydd y cwmni’n talu’r gosb, ni fyddwn yn gofyn i’r swyddogion unigol ei thalu.

Mae swyddog y cwmni yn gyfarwyddwr, yn gyfarwyddwr cysgodol, yn ysgrifennydd y cwmni neu’n rheolwr y cwmni, yn aelod o bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig (PAC) neu, os nad yw’r cwmni yn gorff corfforaethol nac yn PAC, mae’r swyddog yn unrhyw berson arall sy’n rheoli materion y cwmni neu sy’n honni ei fod yn gwneud hynny.

Pan fo mwy nag un o swyddogion y cwmni’n agored i dalu’r gosb i gyd, neu ran ohoni, gallwn rannu’r gosb rhwng swyddogion y cwmni. Byddwn yn cymryd i ystyriaeth y rhan y mae pob swyddog wedi’i chwarae yn y trafodion perthnasol pan fyddwn yn penderfynu sut i rannu’r gosb.

Rhoi gwybod i swyddogion y cwmni am eu hatebolrwydd dros gosb

Cyn i ni anfon hysbysiad o atebolrwydd at swyddog y cwmni, byddwn yn:

  • rhoi gwybod iddo ein bod yn ystyried codi cosb
  • rhoi’r cyfle iddo gyflwyno achos ynghylch a ddylid anfon hysbysiad o atebolrwydd ato neu ynghylch cyfran y gosb yr ydym o’r farn y dylai ei thalu

Pan fo’r gosb wedi’i phriodoli i swyddog y cwmni, a’n bod wedi anfon hysbysiad o atebolrwydd ato, bydd yn rhaid i swyddog y cwmni dalu’r swm a ddangosir yn yr hysbysiad cyn pen 30 diwrnod.

Os anfonwn hysbysiad o atebolrwydd atoch fel swyddog y cwmni, ac nid ydych yn cytuno eich bod yn agored i dalu’r gosb neu’r swm sydd wedi’i briodoli i chi, gallwch apelio. Mae rhagor o wybodaeth am eich hawl i apelio i’w gweld yn nes ymlaen yn y daflen wybodaeth hon.

Enwi’r rheiny sydd wedi bod yn rhan o dwyll TAW

Gallwn gyhoeddi gwybodaeth benodol am y rheiny yr ydym yn ystyried eu bod yn rhan o dwyll TAW. O dan amgylchiadau penodol, gallwn gyhoeddi:

  • enwau’r busnesau a oedd yn gwybod, neu a ddylai fod wedi gwybod, fod eu trafodion yn gysylltiedig â thwyll TAW, pan fo swm y TAW a wrthodwyd neu a aseswyd, ac sy’n sail i’r gosb neu’r cosbau, yn fwy na £50,000
  • enwau swyddogion y cwmni, pan fo swm y gosb sydd wedi’i briodoli iddynt yn fwy na £25,000

Byddwn ond yn enwi busnesau a swyddogion yn yr achosion hynny yr ydym yn eu hystyried yn achosion difrifol. Byddwn ond yn enwi’r rheiny sy’n rhan o dwyll pan mai ad-droseddwyr ydynt, a phan ein bod yn credu eu bod yn rhan o ymosodiad ar y system TAW sydd wedi’i drefnu’n ofalus.

Ni fyddwn yn enwi busnesau:

  • sy’n bodoli i fasnachu’n gyfreithlon
  • pan fo anghydfod ynghylch y gosb, er enghraifft pan fyddwch wedi cyflwyno apêl

Cyhoeddi manylion y rheiny sy’n rhan o dwyll TAW

Byddwn yn rhoi gwybod i chi os ydym yn bwriadu cyhoeddi’ch manylion. Bydd gennych 30 diwrnod i roi gwybod i ni pam na ddylem gyhoeddi’ch manylion. Os na fyddwn yn cytuno â’ch rhesymau, byddwn yn cyhoeddi’ch manylion, ac nid oes hawl gennych i apelio yn erbyn hyn.

Os na chlywn gennych, neu os nad ydym wedi ein hargyhoeddi gan yr achos a gyflwynwyd gennych, byddwn yn cyhoeddi’ch manylion ar GOV.UK.

Nid oes hawl i apelio yn erbyn cyhoeddi’ch manylion.

Os byddwch yn anghytuno

Os nad ydych yn cytuno â rhywbeth, rhowch wybod i ni.

Os byddwn yn gwneud penderfyniad y gallwch apelio yn ei erbyn, byddwn yn ysgrifennu atoch ynghylch y penderfyniad ac yn rhoi gwybod i chi beth i’w wneud os ydych yn anghytuno. Fel arfer, bydd gennych 3 opsiwn.

Cyn pen 30 diwrnod, gallwch wneud y canlynol:

  • anfon gwybodaeth newydd at y swyddog sy’n delio â’r gwiriad, a gofyn iddo ei hystyried
  • cael eich achos wedi’i adolygu gan swyddog CThEM na fu’n ymwneud â’r mater cyn hyn
  • trefnu i dribiwnlys annibynnol wrando ar eich apêl a phenderfynu ar y mater

Pa un bynnag a ddewiswch, mae’n bosibl y gallwch hefyd ofyn i un o swyddogion arbenigol CThEM weithredu fel hwylusydd diduedd er mwyn helpu i ddatrys yr anghydfod. Y Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod (ADR) yw’r enw a roddwn ar hyn.

Dim ond ar gyfer anghydfodau sy’n ymwneud â meysydd treth penodol y mae ADR ar gael. Bydd y swyddog sy’n delio â’r gwiriad yn rhoi gwybod i chi a yw ADR ar gael ar gyfer eich anghydfod. I gael rhagor o wybodaeth am apeliadau ac ADR, darllenwch y taflenni gwybodaeth canlynol:

  • HMRC1, ‘Penderfyniadau Cyllid a Thollau EM: beth i’w wneud os anghytunwch’
  • CC/FS21, ‘Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod’

ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘HMRC1’ neu ‘CC/FS21’.

Eich hawliau pan fyddwn yn ystyried codi cosbau

Mae’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn rhoi hawliau penodol i chi pan fyddwn yn ystyried a ddylid codi mathau penodol o gosbau. Mae’r hawliau hyn fel a ganlyn:

  • os byddwn yn gofyn unrhyw gwestiynau i chi i’n helpu i benderfynu p’un a ddylid codi cosb arnoch, nid oes yn rhaid i chi eu hateb — eich penderfyniad chi yw faint o help y byddwch yn ei roi i ni pan fyddwn yn ystyried pa gosbau i’w codi arnoch
  • os byddwch yn penderfynu ateb ein cwestiynau, efallai y byddwch am gael cyngor gan ymgynghorydd proffesiynol — yn arbennig os nad oes un gennych yn barod
  • os ydych yn anghytuno â ni ynglŷn â’r dreth neu’r cosbau y credwn eu bod yn ddyledus, gallwch apelio — os byddwch yn apelio yn erbyn y dreth a’r cosbau, gallwch ofyn i’r ddwy apêl gael eu hystyried gyda’i gilydd
  • gallwch wneud cais am gynhorthwy cyfreithiol a ariennir er mwyn delio ag apêl yn erbyn rhai cosbau penodol
  • mae gennych yr hawl i ddisgwyl bod unrhyw fater sy’n ymwneud â chosbau yn cael ei drin o fewn cyfnod amser rhesymol

Mae rhagor o wybodaeth am yr hawliau hyn yn nhaflen wybodaeth CC/FS9, ‘Y Ddeddf Hawliau Dynol a chosbau’. Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘CC/FS9’.

Trethi a chyfnodau treth y mae’r rheolau cosbi hyn yn berthnasol iddynt

Mae’r cosbau hyn ond yn berthnasol i TAW. Maent ond yn berthnasol pan fyddwn wedi penderfynu yr oeddech yn gwybod, neu y dylech fod wedi gwybod, fod un neu ragor o drafodion yn gysylltiedig â thwyll TAW.

Mae’r cosbau hyn ond yn berthnasol i drafodion ar ôl 16 Tachwedd 2017. Am drafodion cyn y dyddiad hwn, efallai y bydd CThEM yn ystyried codi cosb am anghywirdeb o dan Atodlen 24 i Ddeddf Cyllid 2007.

Ein hysbysiad preifatrwydd

Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu’n cadw gwybodaeth amdanoch. Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘HMRC Privacy Notice’.