Canllawiau

Gwiriadau cydymffurfio: cosbau am ddiffyg cydymffurfio alltraeth - CC/FS17

Diweddarwyd 11 January 2022

Mae’r daflen wybodaeth hon yn cynnwys gwybodaeth am y cosbau y gallwn eu codi ar gyfer diffyg cydymffurfio treth sy’n ymwneud â ‘materion alltraeth’ neu ‘drosglwyddiadau alltraeth. Cyfeirir at y termau hyn fel ‘diffyg cydymffurfio alltraeth’.

Gall y cosbau hyn fod yn berthnasol pan fydd diffyg cydymffurfio alltraeth mewn perthynas â Threth Incwm, Treth Enillion Cyfalaf neu Dreth Etifeddiant sy’n cynnwys naill ai:

  • anghywirdeb
  • methiant i hysbysu
  • dal gwybodaeth yn ôl yn fwriadol

Os ydych yn datgelu rhwymedigaethau a diffyg cydymffurfio alltraeth i Gyllid a Thollau EM (CThEM), mae’n rhaid i chi gyfrifo’r cosbau sy’n berthnasol i chi gan ddefnyddio’r wybodaeth isod.

Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhan o gyfres. I weld rhestr o’r taflenni gwybodaeth yn y gyfres, ewch i www.gov.uk/guidance/arweiniad-a-thaflenni-gwybodaeth-cthem ac edrych o dan y pennawd ‘Gwiriadau cydymffurfio’.

Os oes angen help arnoch

Os oes gennych unrhyw amgylchiadau iechyd neu bersonol y gall ei gwneud yn anodd i chi ddelio â ni, rhowch wybod i’r swyddog sydd wedi cysylltu â chi. Byddwn yn eich helpu ym mha ffordd bynnag y gallwn. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.gov.uk/cael-help-cthem-cymorth-ychwanegol

Materion alltraeth

Mater alltraeth yw pan fo’r posibilrwydd o golli treth yn cael ei godi ar neu’n ymwneud â’r canlynol:

  • incwm sy’n deillio o ffynhonnell mewn tiriogaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig (DU)
  • asedion sydd wedi’u lleoli neu sy’n cael eu cadw mewn tiriogaeth y tu allan i’r DU
  • gweithgareddau a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf mewn tiriogaeth y tu allan i’r DU
  • unrhyw beth sy’n cael yr un effaith fel pe bai’n incwm, asedion neu weithgaredd o’r fath

Caiff ystyr tiriogaeth ei esbonio yn nes ymlaen yn y daflen wybodaeth hon.

Trosglwyddiadau alltraeth

Mae trosglwyddiad alltraeth yn digwydd pan fydd:

  • anghywirdeb bwriadol
  • methiant bwriadol i hysbysu
  • achos o ddal gwybodaeth yn ôl yn fwriadol

nad yw’n ymwneud â mater alltraeth, a:

  • daw incwm trethadwy, neu unrhyw ran o’r incwm, i law mewn tiriogaeth y tu allan i’r DU
  • caiff incwm trethadwy, neu unrhyw ran o’r incwm, ei drosglwyddo i diriogaeth y tu allan i’r DU, cyn y dyddiad cyflwyno statudol
  • mae derbyniadau o warediadau, neu unrhyw ran o’r derbyniadau, y codir Treth Enillion Cyfalaf arnynt yn dod i law mewn tiriogaeth y tu allan i’r DU
  • caiff derbyniadau o warediadau, neu unrhyw ran o’r derbyniadau, y codir Treth Enillion Cyfalaf arnynt eu trosglwyddo i diriogaeth y tu allan i’r DU, cyn y dyddiad cyflwyno statudol
  • caiff asedion y codir Treth Etifeddiant arnynt eu trosglwyddo y tu allan i’r DU ar ôl y digwyddiad a arweiniodd at y tâl treth ond cyn y dyddiad cyflwyno statudol

Caiff ystyr tiriogaeth ei esbonio yn nes ymlaen yn y daflen wybodaeth hon.

Pan fo trosglwyddiadau alltraeth yn ymwneud â Threth Incwm a Threth Enillion Cyfalaf, mae cosbau Methiant i Gywiro yn codi am unrhyw flwyddyn dreth o fewn cwmpas y Gofyniad i Gywiro. Mae hynny’n cynnwys trosglwyddiadau sy’n dod i ben cyn blwyddyn dreth 2016 i 2017.

Pan fo trosglwyddiadau alltraeth yn ymwneud â Threth Etifeddiant, mae cosbau Methiant i Gywiro’n codi am unrhyw drosglwyddiadau o werth o fewn cwmpas y Gofyniad i Gywiro. Mae hynny’n cynnwys trosglwyddiadau a ddigwyddodd cyn 1 Ebrill 2016.

Ar gyfer datgeliadau nad ydynt yn arwain at gosbau Methiant i Gywiro, mae trosglwyddiadau alltraeth yn berthnasol i flwyddyn dreth 2016 i 2017 a blynyddoedd treth diweddarach yn unig. Ar gyfer Treth Etifeddiant, mae trosglwyddiadau alltraeth yn berthnasol pan wneir trosglwyddiadau o werth ar neu ar ôl 1 Ebrill 2016.

Mae’r cosbau am drosglwyddiadau alltraeth yr un fath â’r cosbau am faterion alltraeth. Hefyd, caiff y cyfraddau cosb eu hesbonio yn nes ymlaen yn y daflen wybodaeth hon.

Y cosbau Gofyniad i Gywiro a Methiant i Gywiro

O 1 Hydref 2018 ymlaen, mae 2 brif ffactor wrth benderfynu ar gosbau am faterion alltraeth a throsglwyddiadau alltraeth ar gyfer rhwymedigaethau Treth Incwm neu Dreth Enillion Cyfalaf, sef:

  • a oeddech yn peidio â chydymffurfio yn ystod blwyddyn dreth 2015 i 2016 ac unrhyw flynyddoedd treth cynharach
  • a gafodd unrhyw ddiffyg cydymffurfio ei ddatgelu ar neu cyn 30 Medi 2018 o dan y ddeddfwriaeth Gofyniad i Gywiro

Ar gyfer diffyg cydymffurfio o ran Treth Etifeddiant a ganfuwyd ar neu ar ôl 1 Hydref 2018, mae’r ddeddfwriaeth Gofyniad i Gywiro yn berthnasol i dreth y gallai CThEM fod wedi’i hasesu’n gyfreithlon ar 17 Tachwedd 2017.

O dan y Gofyniad i Gywiro, bu’n rhaid i chi wneud datgeliad erbyn 30 Medi 2018. Os gwnaethoch ddefnyddio’r broses hysbysu a datgelu dau gam o dan y ddeddfwriaeth Gofyniad i Gywiro, bu’n rhaid i chi wneud eich datgeliad erbyn dyddiad gwahanol a bennwyd gan CThEM. Pa bynnag ddyddiad sy’n berthnasol i chi yw’r dyddiad cau at ddibenion cosbau.

Rydym yn egluro hyn yn fanylach yn ein harweiniad Gofyniad i Gywiro. Ewch i www.gov.uk/guidance/requirement-to-correct-tax-due-on-offshore-assets a gweler yr adran Ways of making a correction under the RTC rule.

Gallwch ddod o hyd i’r ddeddfwriaeth ar gyfer y Gofyniad i Gywiro yn Atodlen 18 o Ddeddf Cyllid (Rhif 2) 2017.

Gelwir cosbau am fethu â gwneud datgeliad o dan y ddeddfwriaeth Gofyniad i Gywiro’n gosbau Methiant i Gywiro. Mae’r cosbau hyn yn berthnasol pan fyddwch wedi methu â gwneud datgeliad o dan y Gofyniad i Gywiro, a hynny cyn y dyddiad cau perthnasol.

O ran cosbau Methiant i Gywiro, ceir isafswm cosb o 100% o’r dreth sydd arnoch oherwydd unrhyw ddiffyg cydymffurfio alltraeth. Y gyfradd gosb uchaf neu ‘safonol’ yw 200% ond gellir lleihau hyn yn ôl ansawdd y datgeliad a wnewch. Rydym yn esbonio sut i gyfrifo’r gosb yn fanylach yn nes ymlaen yn y daflen wybodaeth hon. Nid yw cosbau Methiant i Gywiro’n amrywio yn ôl:

  • yr ymddygiad gwreiddiol sy’n gysylltiedig â’r diffyg cydymffurfio – er enghraifft, nid oes ots os oedd yr ymddygiad yn ‘esgeulus’ neu’n ‘fwriadol’
  • lleoliad yr enillion incwm neu’r asedion – nid yw categorïau tiriogaethol yn berthnasol

Fodd bynnag, gall diffyg cydymffurfio sy’n arwain at gosb Methiant i Gywiro hefyd arwain at godi cosbau am symud asedion a chodi cosbau ar sail asedion. Rydym yn esbonio’r rhain yn fanylach yn ddiweddarach yn y daflen wybodaeth hon.

Sut i gyfrifo swm y gosb Methiant i Gywiro

Gall cosbau Methiant i Gywiro amrywio os yw’r datgeliad Gofyniad i Gywiro yn wirfoddol (wedi’i wneud heb gysylltiad â CThEM) neu’n anwirfoddol (ar ôl cysylltiad â CThEM) ac yn ôl ansawdd y datgeliad. Mae’r gosb yn seiliedig ar y refeniw a gollwyd o bosibl.

Gellir lleihau’r gosb safonol o 200% yn ôl ansawdd y datgeliad i isafswm o 100% pan fydd y datgeliad yn wirfoddol neu i isafswm o 150% os nad yw’r datgeliad yn wirfoddol. Dangosir hyn yn y tabl.

Datgeliad Safonol Isafswm
Gwirfoddol (CThEM heb gysylltu) 200% o’r refeniw a gollwyd o bosibl 100% o’r refeniw a gollwyd o bosibl
Anwirfoddol (ar ôl i CThEM gysylltu) 200% o’r refeniw a gollwyd o bosibl 150% o’r refeniw a gollwyd o bosibl

Diffyg cydymffurfio alltraeth nad yw’n destun cosbau Methiant i Gywiro

Ni fydd diffyg cydymffurfio alltraeth yn dwyn cosbau Methiant i Gywiro os, erbyn 30 Medi 2018, naill ai:

  • roeddech wedi’i ddatgelu i CThEM yn unol â’r Gofyniad i Gywiro
  • roedd gan CThEM yr wybodaeth berthnasol yn barod

Os gwnaethoch ddatgeliad, rhaid bod hwn wedi bod yn ddatgeliad llawn a manwl gywir o’r wybodaeth berthnasol, a rhaid i chi fod wedi’i wneud erbyn y dyddiad cau.

Yn ogystal, ni fydd diffyg cydymffurfio alltraeth ar gyfer blwyddyn dreth 2016 i 2017 a blynyddoedd treth diweddarach yn dwyn cosbau Methiant i Gywiro. Yn yr achosion hyn, bydd cosbau’n cael eu codi fel y gwneir o dan y system gosbau bresennol, a bydd y categorïau ymddygiad a thiriogaethol yn parhau i fod yn berthnasol.

Ar gyfer blwyddyn dreth 2016 i 2017 a blynyddoedd treth diweddarach, mae’r gosb isaf ar gyfer ‘bwriadol’ a ‘bwriadol ac wedi’i guddio’ yn cynyddu 10%. Mae’r cynnydd hwn yn berthnasol i ddatgeliadau wedi’u hannog a heb eu hannog ym mhob categori tiriogaeth.

Mae rhagor o wybodaeth am gosbau artraeth am anghywirdeb, methiant i hysbysu neu achosion o ddal gwybodaeth yn ôl yn fwriadol drwy fethu â chyflwyno Ffurflenni Treth mewn pryd ar gael yn y taflenni gwybodaeth canlynol:

  • CC/FS7a, ‘Cosbau am wallau mewn Ffurflenni Treth a dogfennau’
  • CC/FS11, ‘Cosbau am fethu â hysbysu’
  • CC/FS18a, ‘Cosbau am beidio â chyflwyno Ffurflenni Treth a dogfennau blynyddol ac achlysurol mewn pryd (gan gynnwys Ffurflenni Treth Hunanasesiad at ddibenion Treth Incwm)’

Byddwn yn rhoi’r taflenni gwybodaeth hynny sy’n berthnasol i chi ac yn egluro pam. Mae’r taflenni gwybodaeth yn egluro sut i gyfrifo cosbau am faterion artraeth. Dylech eu darllen ynghyd â’r daflen wybodaeth hon sy’n esbonio’r gwahaniaethau pan fo materion alltraeth neu drosglwyddiadau alltraeth dan sylw. Mae’r daflen wybodaeth hon hefyd yn esbonio pryd y gallwn godi cosb am symud asedion alltraeth neu ba bryd y gallwn godi cosb ar sail asedion.

Gwnaethom esbonio yr hyn a olygwn wrth faterion alltraeth a throsglwyddiadau alltraeth yn gynharach yn y daflen wybodaeth hon. Rydym yn esbonio cosbau am symud asedion a chosbau ar sail asedion yn ddiweddarach yn y daflen wybodaeth hon.

Pryd y gallwn godi cosb uwch am fater alltraeth neu drosglwyddiad alltraeth

Gallwn godi cosb sy’n fwy na 100% pan fo’r canlynol yn berthnasol:

  • mae anghywirdeb, methiant i hysbysu neu achos o ddal gwybodaeth yn ôl yn fwriadol
  • mae’n ymwneud â materion alltraeth mewn rhai categorïau ‘tiriogaeth’, neu drosglwyddiad alltraeth
  • mae’r dreth sydd yn y fantol naill ai’n Dreth Incwm, yn Dreth Enillion Cyfalaf, neu, ar gyfer trosglwyddiadau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2016, yn Dreth Etifeddiant

Yn ogystal â chosb uwch am fater alltraeth neu drosglwyddiad alltraeth, mae’n bosibl y byddwn hefyd yn codi’r canlynol arnoch:

  • cosb am symud asedion alltraeth
  • cosb ar sail asedion

Rydym yn rhoi rhagor o wybodaeth am y cosbau hyn yn nes ymlaen yn y daflen wybodaeth hon.

Sut i gyfrifo swm y gosb (nid yw hyn yn berthnasol i gosbau Methiant i Gywiro)

Caiff swm y gosb (ystod ganrannol y gosb) am faterion alltraeth ei bennu yn ôl y man lle cododd yr incwm neu’r enillion. Yn achos Treth Etifeddiant, hwn yw’r man lle’r oedd yr ased wedi’i leoli neu’r lle y trosglwyddwyd yr ased iddo. Ar gyfer trosglwyddiadau alltraeth, mae’r cosbau yn seiliedig ar y categori tiriogaeth uchaf sy’n gysylltiedig â’r trosglwyddiad, waeth lle y cododd yr incwm neu’r enillion.

Tiriogaethau a chategorïau (nid yw hyn yn berthnasol i gosbau Methiant i Gywiro)

Rydym yn galw’r lle hwn yn diriogaeth. Rhennir tiriogaethau yn 3 chategori, a hynny ar sail parodrwydd y diriogaeth i rannu gwybodaeth gyda’r DU. Mae rhestr o’r tiriogaethau a’r categorïau i’w gweld ar ein gwefan. Ewch i www.gov.uk a chwilio am Territory categorisation for offshore penalties.

Rydym yn esbonio’r cyfraddau cosb ar gyfer pob categori yn ddiweddarach yn y daflen wybodaeth hon.

Categori 1

Uchafswm y gosb yw 100% o’r dreth.

Categori 2

Uchafswm y gosb yw 150% o’r dreth.

Categori 3

Uchafswm y gosb yw 200% o’r dreth.

Cyfraddau cosb am anghywirdebau (nid yw hyn yn berthnasol i gosbau Methiant i Gywiro)

Dylech ddarllen yr esboniad isod ynghyd â thaflen wybodaeth ‘Gwiriadau cydymffurfio: cosbau am anghywirdebau mewn Ffurflenni Treth neu ddogfennau – CC/FS7a’. Mae hyn yn esbonio sut i gyfrifo cosb am anghywirdeb. Nid yw’r canrannau cosb yn nhaflen wybodaeth CC/FS7a yn berthnasol i faterion alltraeth na throsglwyddiadau alltraeth.

Mae’r gosb isaf y gellir ei chodi yn dibynnu ar y flwyddyn dreth. Mae’r tabl isod yn amlinellu’r canrannau isaf ac uchaf ar hyn o bryd. Mae hefyd yn rhoi’r canrannau isaf sy’n berthnasol i’r canlynol:

  • blynyddoedd treth sy’n dod i ben cyn 6 Ebrill 2016 (Treth Incwm neu Dreth Enillion Cyfalaf)
  • trosglwyddiadau o werth a wnaed cyn 1 Ebrill 2016 (Treth Etifeddiant)

Mae union ganran y gosb a fydd yn cael ei chodi’n dibynnu ar ansawdd y datgeliad. Codir y gosb isaf ar ddatgeliadau o’r ansawdd uchaf a phan roddir yr wybodaeth ychwanegol lawnaf. Mae rhagor o wybodaeth ar gael isod yn yr adran ‘Gofynion o ran gwybodaeth ychwanegol’.

Categori’r diriogaeth a’r math o ddatgeliad Esgeulus Bwriadol Bwriadol ac wedi’i guddio
1 Heb ei annog 0% i 30% 30% (20% cyn 1 Ebrill 2016 neu 6 Ebrill 2016) i 70% 40% (30% cyn 1 Ebrill 2016 neu 6 Ebrill 2016) i 100%
1 Wedi’i annog 15% i 30% 45% (35% cyn 1 Ebrill 2016 neu 6 Ebrill 2016) i 70% 60% (50% cyn 1 Ebrill 2016 neu 6 Ebrill 2016) i 100%
2 Heb ei annog 0% i 45% 40% (30% cyn 1 Ebrill 2016 neu 6 Ebrill 2016) i 105% 55% (45% cyn 1 Ebrill 2016 neu 6 Ebrill 2016) i 150%
2 Wedi’i annog 22.5% i 45% 62.5% (52.5% cyn 1 Ebrill 2016 neu 6 Ebrill 2016) i 105% 85% (75% cyn 1 Ebrill 2016 neu 6 Ebrill 2016) i 150%
3 Heb ei annog 0% i 60% 50% (40% cyn 1 Ebrill 2016 neu 6 Ebrill 2016) i 140% 70% (60% cyn 1 Ebrill 2016 neu 6 Ebrill 2016) i 200%
3 Wedi’i annog 30% i 60% 80% (70% cyn 1 Ebrill 2016 neu 6 Ebrill 2016) i 140% 110% (100% cyn 1 Ebrill 2016 neu 6 Ebrill 2016) i 200%

Cyfraddau cosb am fethiant i hysbysu (nid yw hyn yn berthnasol i gosbau Methiant i Gywiro)

Dylech ddarllen yr esboniad isod ynghyd â thaflen wybodaeth CC/FS11, ‘Cosbau am fethu â hysbysu’. Mae’n esbonio sut i gyfrifo cosb am fethu â hysbysu. Nid yw’r canrannau cosb yn nhaflen wybodaeth CC/FS11 yn berthnasol i faterion alltraeth. Rydym yn esbonio’r cyfraddau alltraeth isod.

Mae’r gosb isaf y gellir ei chodi yn dibynnu ar y flwyddyn dreth. Mae’r tabl isod yn amlinellu’r canrannau isaf ac uchaf ar hyn o bryd. Mae hefyd yn rhoi’r canrannau isaf sy’n berthnasol i flynyddoedd treth sy’n dod i ben cyn 6 Ebrill 2016 (Treth Incwm neu Dreth Enillion Cyfalaf). Mae’r cyfraddau uwch hyn ar gyfer cosbau yn berthnasol i Dreth Incwm a Threth Enillion Cyfalaf yn unig.

Categori’r diriogaeth Anfwriadol Bwriadol Bwriadol ac wedi’i guddio
1 Heb ei annog

Datgelwyd y methiant mwy na 12 mis ar ôl i’r dreth ddod yn dreth heb ei thalu
10% i 30% 30% (20% cyn 6 Ebrill 2016) i 70% 40% (30% cyn 6 Ebrill 2016) i 100%
1 Heb ei annog

Datgelwyd y methiant cyn pen 12 mis o’r dreth yn dod yn dreth heb ei thalu
0% i 30% 30% (20% cyn 6 Ebrill 2016) i 70% 40% (30% cyn 6 Ebrill 2016) i 100%
1 Wedi’i annog

Datgelwyd y methiant mwy na 12 mis ar ôl i’r dreth ddod yn dreth heb ei thalu
20% i 30% 45% (35% cyn 6 Ebrill 2016) i 70% 60% (50% cyn 6 Ebrill 2016) i 100%
1 Wedi’i annog

Datgelwyd y methiant cyn pen 12 mis o’r dreth yn dod yn dreth heb ei thalu
10% i 30% 45% (35% cyn 6 Ebrill 2016) i 70% 60% (50% cyn 6 Ebrill 2016) i 100%
2 Heb ei annog

Datgelwyd y methiant mwy na 12 mis ar ôl i’r dreth ddod yn dreth heb ei thalu
15% i 45% 40% (30% cyn 6 Ebrill 2016) i 105% 55% (45% cyn 6 Ebrill 2016) i 150%
2 Heb ei annog

Datgelwyd y methiant cyn pen 12 mis o’r dreth yn dod yn dreth heb ei thalu
0% i 45% 40% (30% cyn 6 Ebrill 2016) i 105% 55% (45% cyn 6 Ebrill 2016) i 150%
2 Wedi’i annog

Datgelwyd y methiant mwy na 12 mis ar ôl i’r dreth ddod yn dreth heb ei thalu
30% i 45% 62.5% (52.5% cyn 6 Ebrill 2016) i 105% 85% (75% cyn 6 Ebrill 2016) i 150%
2 Wedi’i annog

Datgelwyd y methiant cyn pen 12 mis o’r dreth yn dod yn dreth heb ei thalu
15% i 45% 62.5% (52.5% cyn 6 Ebrill 2016) i 105% 85% (75% cyn 6 Ebrill 2016) i 150%
3 Heb ei annog

Datgelwyd y methiant mwy na 12 mis ar ôl i’r dreth ddod yn dreth heb ei thalu
20% i 60% 50% (40% cyn 6 Ebrill 2016) i 140% 70% (60% cyn 6 Ebrill 2016) i 200%
3 Heb ei annog

Datgelwyd y methiant cyn pen 12 mis o’r dreth yn dod yn dreth heb ei thalu
0% i 60% 50% (40% cyn 6 Ebrill 2016) i 140% 70% (60% cyn 6 Ebrill 2016) i 200%
3 Wedi’i annog

Datgelwyd y methiant mwy na 12 mis ar ôl i’r dreth ddod yn dreth heb ei thalu
40% i 60% 80% (70% cyn 6 Ebrill 2016) i 140% 110% (100% cyn 6 Ebrill 2016) i 200%
3 Wedi’i annog

Datgelwyd y methiant cyn pen 12 mis o’r dreth yn dod yn dreth heb ei thalu
20% i 60% 80% (70% cyn 6 Ebrill 2016) i 140% 110% (100% cyn 6 Ebrill 2016) i 200%

Cyfraddau cosb am ddal gwybodaeth yn ôl yn fwriadol (nid yw hyn yn berthnasol i gosbau Methiant i Gywiro)

Dylech ddarllen yr esboniad isod ynghyd â’r daflen wybodaeth CC/FS18a, ‘Gwiriadau cydymffurfio: cosbau os nad ydych yn cyflwyno Ffurflenni Treth Incwm, Treth Enillion Cyfalaf a Threth Flynyddol ar Anheddau sydd wedi’u Hamgáu mewn pryd’. Mae hyn yn esbonio sut i gyfrifo cosb am gyflwyno’n hwyr, gan gynnwys cosb am gyflwyno’n hwyr yn achos dal gwybodaeth yn ôl yn fwriadol. Nid yw’r canrannau cosb yn nhaflen wybodaeth CC/FS18a ar gyfer dal gwybodaeth yn ôl yn fwriadol yn berthnasol i faterion alltraeth. Rydym yn esbonio’r cyfraddau alltraeth isod.

Mae’r gosb isaf y gellir ei chodi yn dibynnu ar y flwyddyn dreth. Mae’r tabl isod yn amlinellu’r canrannau isaf ac uchaf ar hyn o bryd. Mae hefyd yn rhoi’r canrannau isaf sy’n berthnasol i’r canlynol:

  • blynyddoedd treth sy’n dod i ben cyn 6 Ebrill 2016 (Treth Incwm neu Dreth Enillion Cyfalaf)
  • trosglwyddiadau o werth a wnaed cyn 1 Ebrill 2016 (Treth Etifeddiant)

Mae’r cyfraddau cosb uwch hyn ond yn berthnasol i Dreth Incwm, Treth Enillion Cyfalaf a Chynlluniau Pensiwn Cofrestredig.

Categori’r diriogaeth Bwriadol Bwriadol ac wedi’i guddio
1 Heb ei annog 30% (20% cyn 1 Ebrill 2016 neu 6 Ebrill 2016) i 70% 40% (30% cyn 1 Ebrill 2016 neu 6 Ebrill 2016) i 100%
1 Wedi’i annog 45% (35% cyn 1 Ebrill 2016 neu 6 Ebrill 2016) i 70% 60% (50% cyn 1 Ebrill 2016 neu 6 Ebrill 2016) i 100%
2 Heb ei annog 40% (30% cyn 1 Ebrill 2016 neu 6 Ebrill 2016) i 105% 55% (45% cyn 1 Ebrill 2016 neu 6 Ebrill 2016) i 150%
2 Wedi’i annog 62.5% (52.5% cyn 1 Ebrill 2016 neu 6 Ebrill 2016) i 105% 85% (75% cyn 1 Ebrill 2016 neu 6 Ebrill 2016) i 150%
3 Heb ei annog 50% (40% cyn 1 Ebrill 2016 neu 6 Ebrill 2016) i 140% 70% (60% cyn 1 Ebrill 2016 neu 6 Ebrill 2016) i 200%
3 Wedi’i annog 80% (70% cyn 1 Ebrill 2016 neu 6 Ebrill 2016) i 140% 110% (100% cyn 1 Ebrill 2016 neu 6 Ebrill 2016) i 200%

Yn achos Treth Etifeddiant, mae hwn yn ymwneud â throsglwyddiadau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2016. I weld canrannau cosb yng nghategori 1 yn achos Treth Etifeddiant cyn 1 Ebrill 2016, darllenwch daflen wybodaeth CC/FS7a, ‘Cosbau am anghywirdebau mewn Ffurflenni Treth neu ddogfennau’. Ewch i www.gov.uk/cymraeg a chwilio am ‘CC/FS7a’.

Y trethi y mae’r rheolau cosbi hyn yn berthnasol iddynt a phryd y maent yn berthnasol (nid yw hyn yn berthnasol i gosbau Methiant i Gywiro)

Mae’r cyfraddau cosbi uwch yng nghategorïau 2 a 3 yn berthnasol i Dreth Incwm, Treth Enillion Cyfalaf a Threth Etifeddiant yn unig.Yn achos Treth Etifeddiant, mae’r daflen wybodaeth hon yn berthnasol i anghywirdebau mewn Ffurflenni Treth a gyflwynwyd ar gyfer marwolaethau a digwyddiadau trethadwy ar neu ar ôl 1 Ebrill 2016.

Yn achos Treth Incwm a Threth Enillion Cyfalaf, mae’r rheolau cosbi yn y daflen wybodaeth hon yn berthnasol i’r canlynol:

  • anghywirdebau ar Ffurflenni Treth neu ddogfennau eraill sy’n ymwneud â blwyddyn dreth 2011 i 2012 neu flynyddoedd treth hwyrach, ac sy’n cael eu cyflwyno i ni ar neu ar ôl 6 Ebrill 2011
  • achosion o fethu â hysbysu sy’n codi ar neu ar ôl 6 Ebrill 2012
  • achosion o ddal gwybodaeth yn ôl yn fwriadol ar gyfer blwyddyn dreth 2011 i 2012 neu flynyddoedd treth hwyrach

Gofynion o ran gwybodaeth ychwanegol (mae hyn yn berthnasol i bob cosb alltraeth, gan gynnwys cosbau Methiant i Gywiro)

Fel y nodir yn y tablau uchod, mae ystod ganrannol ar gyfer pob cosb y gellir ei chodi.

Mae’r union swm a godir o fewn yr ystod honno yn dibynnu ar yr hyn a alwn yn ‘ansawdd y datgeliad’.

Yn achos diffyg cydymffurfio alltraeth, mae hyn yn cynnwys faint o wybodaeth ychwanegol yr ydych yn ei rhoi i ni ac ansawdd yr wybodaeth honno. Bydd cyfradd y gosb yn gostwng wrth i swm ac ansawdd yr wybodaeth ychwanegol gynyddu. Dylech roi gwybodaeth ychwanegol i ni am y canlynol:

  • unrhyw un sydd wedi’ch annog, eich cynorthwyo neu’ch hwyluso i osgoi treth alltraeth neu i beidio â chydymffurfio – gelwir y person hwn yn ‘alluogwr’
  • asedion a ddelir gennych mewn unrhyw wlad y tu allan i’r DU, ac unrhyw berson neu endid arall yr ydych wedi’i hurio i ddal yr asedion hynny ar eich rhan

Os yw’ch cosb yn ymwneud â digwyddiadau ar ôl y dyddiad perthnasol, mae’n rhaid i chi ystyried yr wybodaeth hon wrth gyfrifo’r gosb a’r gostyngiad am ansawdd y datgeliad. Y dyddiad perthnasol at y diben hwn yw:

  • yn achos Treth Incwm a Threth Enillion Cyfalaf, blynyddoedd treth sy’n dechrau ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016
  • yn achos Treth Etifeddiant, trosglwyddiadau o werth a wnaed ar neu ar ôl 1 Ebrill 2016

Gallai enghreifftiau o wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen arnom gynnwys:

  • enw a chyfeiriad y galluogwr
  • disgrifiad o’r hyn a wnaeth y galluogwr i’ch annog, eich cynorthwyo neu’ch hwyluso
  • disgrifiad o sut y gwnaethoch chi a’r galluogwr gysylltu â’ch gilydd gyntaf, a sut y gwnaethoch barhau i gadw mewn cysylltiad
  • disgrifiad o’r holl ddogfennau sydd gennych ynghylch ei ymddygiad
  • enw a chyfeiriad unrhyw berchennog llesiannol ar y cyd arall ar yr ased a ddelir dramor
  • graddau’ch cyfran chi o berchnogaeth lesiannol ar yr ased a ddelir dramor
  • disgrifiad o’r holl ddogfennau teitl neu ddogfennau eraill sy’n dangos eich perchnogaeth lesiannol
  • manylion o ran ble y mae’r ased wedi’i leoli neu ei ddal
  • manylion o ran sut a phryd y daethoch yn berchennog llesiannol ar yr ased
  • disgrifiad o’r holl newidiadau yn y trefniadau ar gyfer perchnogaeth ar yr ased ers i chi ddod yn berchennog llesiannol
  • enwau a chyfeiriadau hysbys diwethaf pawb a fu’n ddeiliaid ar yr ased yn ystod eich perchnogaeth lesiannol drosto
  • pan nad yw deiliad yr ased yn unigolyn – enw a chyfeiriad busnes (os yw’n hysbys) unrhyw gyfarwyddwr, uwch-reolwr, cyflogai neu asiant ar gyfer deiliad yr ased sydd wedi’ch cynghori neu’ch cynorthwyo mewn perthynas â’i berchnogaeth lesiannol dros yr ased

Os na wnaethoch gynnwys galluogwr, neu os nad oes gennych asedion wedi’u lleoli y tu allan i’r DU a ddelir gan berson arall, rydych wedi bodloni’r gofyniad i roi gwybodaeth ychwanegol drwy roi gwybod i ni am hyn.

Dylech ystyried faint o wybodaeth ychwanegol a rowch i ni ynghyd ag ansawdd yr wybodaeth honno wrth gyfrifo unrhyw ostyngiad ar gyfer ansawdd y datgeliad. Rydym yn esbonio hyn yn fanylach yn y daflen wybodaeth berthnasol ar gosbau.

Cosb am symud asedion alltraeth (gallai’r rhain fod yn berthnasol os ydym wedi codi cosb Methiant i Gywiro)

Mae’r gosb am symud asedion alltraeth yn gosb ar wahân a godir am symud asedion rhwng tiriogaethau er mwyn osgoi achosion o ddiffyg cydymffurfio treth rhag cael eu canfod, neu oedi’r canfyddiad hwnnw. Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cosb am symud asedion alltraeth os yw’r naill a’r llall o’r canlynol yn berthnasol:

  • codir cosb arnoch am fethu â chydymffurfio ag ymrwymiadau penodol o ran Treth Incwm, Treth Enillion Cyfalaf neu Dreth Etifeddiant neu codir cosb Methiant i Gywiro arnoch – gelwir hyn yn ‘gosb waelodol’
  • mae symudiad perthnasol o ased wedi digwydd

Mae symudiad perthnasol o ased alltraeth yn digwydd os yw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • mae ased neu berson sy’n dal ased, yn symud o diriogaeth benodol neu o’r DU i diriogaeth arall nad yw’n benodol
  • mae newid yn nhrefniadau perchnogaeth yr ased sy’n arwain at y perchennog, cyn y symudiad, yn parhau i fod y perchennog ar ôl hynny

Bydd y swyddog sy’n delio â’r gwiriad yn rhoi gwybod i chi pa diriogaethau sy’n diriogaethau penodol ac a oes symudiad perthnasol o ased alltraeth wedi digwydd.

Pan fo symudiad perthnasol o ased a chosb waelodol berthnasol, mae’n rhaid hefyd fodloni’r 5 amod canlynol cyn codi cosb am symud asedion:

  1. Mae’n rhaid i’r gosb waelodol gynnwys anghywirdeb bwriadol, methiant bwriadol i hysbysu, neu achos o ddal gwybodaeth yn ôl yn fwriadol.
  2. Mae’n rhaid i’r dreth sydd yn y fantol ar gyfer y gosb waelodol fod yn Dreth Incwm, Treth Enillion Cyfalaf neu, o 1 Ebrill 2016 ymlaen, Dreth Etifeddiant.
  3. Mae’n rhaid i symudiad perthnasol o ased alltraeth, a wnaed ar ôl yr amser perthnasol, fod yn gysylltiedig â’r gosb waelodol (rydym yn esbonio’r amser perthnasol isod).
  4. Mae’n rhaid i’r symudiad perthnasol o ased alltraeth fod wedi’i wneud ar ôl 26 Mawrth 2015.
  5. Prif ddiben y symudiad perthnasol o ased alltraeth, neu un o’r prif ddibenion, oedd atal CThEM rhag canfod yr anghywirdeb, y methiant neu’r achos o ddal gwybodaeth yn ôl yn fwriadol a arweiniodd at y gosb waelodol, neu beri oedi i CThEM rhag gwneud y canfyddiad hwnnw.

Amser perthnasol ar gyfer cosbau am symud asedion

Gellir codi cosb am symud asedion pan fydd yr amodau uchod wedi’u bodloni. Er mwyn codi cosb, rhaid i’r symudiad perthnasol o ased alltraeth fod wedi digwydd ar ôl 26 Mawrth 2015 ac ar ôl yr amser perthnasol. Mae’r amser perthnasol yn dibynnu ar y math o gosb a’r dreth sydd yn y fantol.

Ar gyfer cosbau am anghywirdeb, pan fo’r dreth sydd yn y fantol yn Dreth Incwm neu’n Dreth Enillion Cyfalaf, yr amser perthnasol yw dechrau’r flwyddyn dreth y codwyd cosb am anghywirdeb ar ei chyfer. Yn achos Treth Etifeddiant, yr amser perthnasol yw’r adeg pan fo’r rhwymedigaeth ar gyfer y dreth sydd yn y fantol yn codi gyntaf.

Ar gyfer cosbau am fethu â hysbysu ac am ddal gwybodaeth yn ôl yn fwriadol, yr amser perthnasol yw dechrau’r flwyddyn dreth y mae’r Ffurflen Dreth yn ymwneud â hi, er enghraifft, 6 Ebrill 2016.

Swm y gosb

Y gosb am symud ased alltraeth yw 50% o swm y gosb waelodol ac mae’n cael ei chodi’n ychwanegol at y gosb waelodol.

Cosbau ar sail asedion (gallai’r rhain fod yn berthnasol os ydym wedi codi cosb Methiant i Gywiro)

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb ar sail asedion os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol:

  • mae cosb waelodol wedi’i chodi arnoch am anghywirdeb bwriadol, methiant i hysbysu neu am ddal gwybodaeth yn ôl yn fwriadol, neu mae cosb Methiant i Gywiro wedi’i chodi arnoch
  • mae’r anghywirdeb neu’r methiant yn ymwneud â mater alltraeth neu drosglwyddiad alltraeth
  • mae gan yr incwm, yr ennill neu’r trosglwyddiad o werth sy’n ymwneud â’r anghywirdeb gysylltiad clir â’r ased gwaelodol
  • mae’r swm posibl o dreth sydd yn y fantol ac sy’n ymwneud â’r mater alltraeth yn fwy na £25,000 mewn un flwyddyn ac
  • mae’r gosb waelodol yn ymwneud â Threth Enillion Cyfalaf, Treth Etifeddiant neu ‘Dreth Incwm yn seiliedig ar asedion’

Mae ‘Treth Incwm yn seiliedig ar asedion’ yn Dreth Incwm a godir o dan un o’r darpariaethau a restrir ym mharagraff 13 o Atodlen 22 i Ddeddf Cyllid 2016. Bydd y swyddog sy’n delio â’r gwiriad yn rhoi gwybod i chi a yw’r Dreth Incwm sydd arnoch yn Dreth Incwm yn seiliedig ar asedion.

1. Cyfrifo swm y gosb ar sail asedion

Swm safonol y gosb ar sail asedion yw’r isaf o’r canlynol:

  • 10% o werth yr ased
  • 10 x y dreth alltraeth sydd yn y fantol

Os yw’r gosb waelodol yn cynnwys materion alltraeth a domestig, gelwir hyn yn gosb gyfunol. Bydd y swyddog rydych yn delio ag ef yn egluro’r rheolau arbennig ar gyfer cosbau cyfunol.

Y dreth alltraeth sydd yn y fantol yw cyfanswm y canlynol am y flwyddyn:

  • y refeniw a gollwyd o bosibl (PLR), gweler isod, a ddefnyddir i gyfrifo’r gosb waelodol am anghywirdeb neu fethiant i hysbysu
  • y rhwymedigaeth i dreth (gweler isod) a ddefnyddir i gyfrifo’r gosb waelodol am ddal gwybodaeth yn ôl yn fwriadol

Mae PLR yn golygu’r refeniw a gollwyd o bosibl a ddefnyddir i gyfrifo cosb safonol am anghywirdeb alltraeth neu fethiant i hysbysu. Mae’r rhwymedigaeth i dreth yn golygu faint o dreth a ddefnyddir i gyfrifo cosb alltraeth safonol am ddal gwybodaeth yn ôl yn fwriadol. Rydym yn esbonio sut i gyfrifo’r PLR a’r rhwymedigaeth i dreth yn y taflenni gwybodaeth perthnasol.

2. Penderfynu a oedd y datgeliad yn un heb ei annog neu wedi’i annog (datgeliad gwirfoddol neu anwirfoddol yn achos Methiant i Gywiro)

Mae p’un a oedd datgelu’r anghywirdeb neu’r methiant heb ei annog neu wedi’i annog yn pennu canran isaf y gosb y gellir ei chodi, ac mae’n dibynnu ar natur y cosbau gwaelodol.

Dim ond os yw pob cosb waelodol yn cael ei thrin fel datgeliadau heb eu hannog y gellir trin datgeliad sy’n ymwneud â chosb ar sail asedion fel un heb ei annog. Os cafodd unrhyw gosb waelodol y mae’r gosb ar sail asedion wedi’i chysylltu iddi ei thrin fel datgeliad wedi’i annog, yna caiff y gosb gyfan ar sail asedion ei thrin fel datgeliad wedi’i annog.

Os gwnewch ddatgeliad heb ei annog, gellir gostwng y gosb i swm is na phe baech yn gwneud datgeliad wedi’i annog. Rydym yn esbonio hyn yn fanylach yn y daflen wybodaeth berthnasol ar gosbau.

Bydd y gosb yn syrthio i un o’r ystodau isod, yn dibynnu a oedd y datgeliad yn un wedi’i annog neu’n un heb ei annog.

Datgeliad Isafswm yr ystod Uchafswm yr ystod
Heb ei annog 50% o’r gosb safonol 100% o’r gosb safonol
Wedi’i annog 80% o’r gosb safonol 100% o’r gosb safonol

3. Cyfrifo’r gostyngiad ar gyfer ansawdd y datgeliad

Wrth gyfrifo cosbau, bydd yn rhaid i chi gymryd i ystyriaeth pa mor hir y mae wedi’i gymryd i chi wneud datgeliad. Byddwn yn cymharu’r dyddiad cynharaf y gallech fod wedi rhoi gwybod i ni am yr ased â’r dyddiad y gwnaethoch roi gwybod i ni mewn gwirionedd.

Os ydych wedi cymryd cyfnod sylweddol (fel arfer 3 blynedd) i roi gwybod i ni am yr ased alltraeth, ni fyddwch fel arfer yn cael y gostyngiad llawn ar gyfer datgelu. Cyfyngir ystod y gosb i 10 pwynt canrannol uwchben yr isafswm i adlewyrchu’r amser a dreuliwyd cyn cyfrifo’r gostyngiadau ar gyfer dweud, helpu a rhoi.

Dylid gostwng swm y gosb ar sail asedion pan fyddwch yn:

  • datgelu’r anghywirdeb neu’r methiant mewn perthynas â’r gosb waelodol
  • rhoi prisiad rhesymol i ni o’r ased
  • rhoi gwybodaeth i ni neu’n caniatáu i ni weld y cofnodion sydd eu hangen arnom er mwyn prisio’r ased

Mae ansawdd y datgeliad (amseru, natur a graddau’r wybodaeth a rowch) yn pennu lle y bydd y gosb yn syrthio o fewn ystod y gosb. Mae’r gostyngiad yn dibynnu ar faint o help yr ydych yn ei roi i ni.

4. Ystyried gostyngiadau eraill

Ar ôl cyfrifo swm y gosb, gallwn wedyn ystyried unrhyw amgylchiadau arbennig yr ydych wedi rhoi gwybod i ni amdanynt. Bydd y rhain yn amgylchiadau anghyffredin neu eithriadol nad ydym eisoes wedi’u hystyried wrth gyfrifo ansawdd y datgeliad.

Yr hyn a fydd yn digwydd os byddwch yn rhoi gwybodaeth i ni ac yn gwybod ei bod yn anwir

Gallwn gynnal ymchwiliad troseddol ac mae’n bosibl y cewch eich erlyn os byddwch yn gwneud y canlynol:

  • rhoi gwybodaeth i ni gan wybod ei bod yn anwir, boed ar lafar neu mewn dogfen
  • datgan swm anghywir o doll yn anonest, neu’n hawlio taliadau nad oes gennych hawl iddynt

Cyfeiriadau deddfwriaethol

Mae cyfeiriadau yn y daflen wybodaeth hon at gosbau am anghywirdebau, methiant i hysbysu a dal gwybodaeth yn ôl yn fwriadol yn golygu’r canlynol:

  • anghywirdeb mewn Ffurflen Dreth neu ddogfen o dan baragraff 1 o Atodlen 24 i Ddeddf Cyllid 2007
  • methiant i hysbysu eich bod yn agored i dreth o dan baragraff 1 o Atodlen 41 i Ddeddf Cyllid 2008
  • dal gwybodaeth yn ôl yn fwriadol drwy fethu â chyflwyno Ffurflen Dreth neu ddogfen cyn pen 12 mis o’r dyddiad cyflwyno o dan baragraff 6 o Atodlen 55 i Ddeddf Cyllid 2009

Ein hysbysiad preifatrwydd

Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu’n cadw gwybodaeth amdanoch. Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘HMRC Privacy Notice’.