Canllawiau

Cosbau am anghywirdebau mewn ffurflenni cyfyngiadau ar log

Cyhoeddwyd 6 May 2022

Mae’r daflen wybodaeth hon yn cynnwys gwybodaeth am y cosbau y gallwn eu codi os ydych wedi anfon Ffurflen Dreth anghywir neu ddogfen arall anghywir atom.

Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhan o gyfres. I weld rhestr lawn o’r taflenni gwybodaeth yn ein cyfres gwiriadau cydymffurfio, ewch i www.gov.uk/arweiniad-a-thaflenni-gwybodaeth-cthem ac edrych o dan y pennawd ‘Gwiriadau cydymffurfio’.

Os oes angen help arnoch

Os yw’n bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu’ch iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio â’r gwiriad hwn, rhowch wybod i’r swyddog sydd wedi cysylltu â chi. Byddwn yn eich helpu ym mha ffordd bynnag y gallwn. I gael rhagor o fanylion, ewch i www.gov.uk/cael-help-cthem-cymorth-ychwanegol.

Gallwch hefyd ofyn i rywun arall ddelio â ni ar eich rhan, er enghraifft, ymgynghorydd proffesiynol, ffrind neu berthynas. Fodd bynnag, efallai y bydd dal angen i ni siarad â chi neu ysgrifennu atoch yn uniongyrchol am rai pethau. Os bydd angen i ni ysgrifennu atoch, byddwn yn anfon copi at yr unigolyn rydych wedi gofyn i ni ddelio ag ef. Os bydd angen i ni siarad â chi, caiff yr unigolyn hwnnw fod gyda chi pan fyddwn yn gwneud hynny, pe bai’n well gennych.

Pryd y gallwn godi cosb arnoch am anghywirdeb

Gallwn godi cosb arnoch os byddwch yn anfon Ffurflen Dreth atom sy’n cynnwys anghywirdeb, a bod yr anghywirdeb:

  • yn golygu bod y swm sydd heb ei ganiatáu yn cael ei danddatgan neu fod y cap ailgychwyn yn cael ei orddatgan ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu
  • yn esgeulus, yn fwriadol neu’n fwriadol a chudd (rydym yn cyfeirio at y rhain fel ‘ymddygiadau’. Cânt eu hesbonio nes ymlaen yn y daflen wybodaeth hon)

Os gofynnwch i rywun arall, fel cyflogai neu ymgynghorydd, wneud rhywbeth ar eich rhan, mae’n rhaid i chi wneud cymaint ag y gallwch i wneud yn siŵr nad oes anghywirdeb yn codi. Os na fyddwch yn gwneud hyn, mae’n bosibl y byddwn yn codi cosb arnoch.

Adegau pan na fyddwn yn codi cosb arnoch am anghywirdeb

Ni fyddwn yn codi cosb arnoch am anghywirdeb os gwnaethoch gymryd gofal rhesymol i gael pethau’n iawn ond bod eich Ffurflen Dreth yn dal i fod yn anghywir. Mae rhai o’r ffyrdd y gallwch ddangos eich bod wedi cymryd gofal rhesymol yn cynnwys y canlynol:

  • cadw cofnodion cywir
  • gwirio gydag ymgynghorydd treth neu gyda ni os nad ydych yn siŵr am unrhyw beth

Datgelu anghywirdeb cyn i ni ddod o hyd iddo

Os dywedwch wrthym am anghywirdeb cyn bod gennych reswm i gredu ein bod ar fin dod o hyd iddo, rydym yn galw hyn yn ‘ddatgeliad heb ei annog’. Os ydych yn dweud wrthym am anghywirdeb ar unrhyw adeg arall, rydym yn ei alw’n ‘ddatgeliad wedi’i annog’. Unwaith yr ydym wedi cychwyn gwiriad, ystyrir bod datgeliad yn un heb ei annog dim ond os, yn eithriadol, fod y canlynol yn gymwys:

  • mae’n ymwneud ag anghywirdeb amherthnasol
  • nid oedd gennych le i gredu y byddem yn dod o hyd iddo yn ystod ein gwiriad

Mae’r gosb isaf bosibl am ddatgeliad heb ei annog yn is na’r gosb isaf bosibl am ddatgeliad wedi’i annog.

Os byddwch yn anfon Ffurflen Dreth atom gan gredu ei bod yn gywir a’ch bod yn canfod yn ddiweddarach bod anghywirdeb diofal ynddi, efallai y gallwn ostwng swm y gosb i ddim os byddwch yn gwneud datgeliad heb ei annog.

Yr hyn y gallwch ei wneud i ostwng unrhyw gosb y gallwn ei chodi

Gallwn ostwng swm unrhyw gosb a godwn arnoch, yn dibynnu ar ein barn ynghylch faint o gymorth a roesoch i ni. Rydym yn cyfeirio at y cymorth hwn fel ‘ansawdd y datgeliad’, neu fel ‘dweud, helpu a rhoi’.

Mae enghreifftiau o sut y gallwch wneud datgeliad yn cynnwys:

  • dweud wrthym fod rhywbeth o’i le, neu gytuno bod rhywbeth o’i le, a sut a pham y digwyddodd
  • rhoi cymaint o fanylion ag y gallwch am i ba raddau y mae rhywbeth o’i le, cyn gynted â’ch bod yn gwybod amdano
  • dweud wrthym a’n helpu drwy ateb ein cwestiynau’n llawn
  • ein helpu i ddeall eich cyfrifon neu’ch cofnodion
  • ein helpu drwy ateb ein llythyrau’n brydlon
  • ein helpu drwy gytuno i fod yn bresennol mewn cyfarfodydd, neu ymweliadau, ar amser sy’n gyfleus i bawb
  • ein helpu drwy wirio’ch cofnodion er mwyn canfod graddau’r anghywirdeb
  • ein helpu drwy ddefnyddio’ch cofnodion preifat i adnabod gwerthiannau neu incwm sydd heb eu cynnwys ar eich Ffurflen Dreth
  • rhoi mynediad i ni at y dogfennau rydym wedi gofyn amdanynt, heb oedi diangen
  • rhoi mynediad i ni at y dogfennau y mae’n bosibl nad ydym yn gwybod amdanynt, yn ogystal â’r rheiny y gwnaethom ofyn am gael eu gweld

Byddwn yn gostwng y gosb gan y swm uchaf posibl os ydych yn gwneud y canlynol:

  • yn dweud wrthym bopeth y gallwch ynghylch anghywirdeb cyn gynted ag y byddwch yn gwybod amdano neu os credwch ein bod ar fin dod o hyd iddo
  • yn gwneud popeth ag y gallwch i’n helpu i’w gywiro

Os byddwch yn oedi cyn gwneud datgeliad, mae’n bosibl y bydd gennych hawl i ostyngiad o hyd, ond bydd hwnnw’n llai. Os nad oes angen unrhyw gymorth ychwanegol arnom oddi wrthych, byddwn yn rhoi rhywfaint o ostyngiad i chi am ddweud, helpu a rhoi.

Rhoi gwybod i ni am unrhyw amgylchiadau arbennig

Os ydych o’r farn y dylai’r swyddog sy’n delio â’r gwiriad gymryd amgylchiadau arbennig i ystyriaeth wrth gyfrifo’r gosb, dylech ddweud wrtho ar unwaith.

Yn benodol, dylech roi gwybod i’r swyddog os credwch fod swm y dreth dybiannol yn fwy na’r dreth a gollwyd mewn gwirionedd (rydym yn esbonio’r hyn a olygwn wrth ‘dreth dybiannol’ isod). Mewn amgylchiadau o’r fath, efallai y bydd gostyngiad arbennig yn berthnasol.

Sut rydym yn cyfrifo swm cosb

Mae 8 cam wrth gyfrifo swm unrhyw gosb. Caiff pob cam ei esbonio’n fanylach isod.

1 Cyfrifo swm y dreth dybiannol

Mae’r gosb yn ganran o’r hyn a alwn yn ‘dreth dybiannol’. Treth dybiannol yw’r swm sy’n codi o ganlyniad i gywiro anghywirdeb mewn Ffurflen Dreth. Bydd y swyddog sy’n delio â’r gwiriad yn esbonio sut y cyfrifir hwn. Os oes angen i chi wybod rhagor, cysylltwch â’r swyddog sy’n delio â’r gwiriad.

2 Pennu ein barn am yr ‘ymddygiad’

Pan fo anghywirdeb, byddwn yn gweithio gyda chi er mwyn canfod beth wnaeth ei achosi. Rydym yn cyfeirio at hwn fel yr ‘ymddygiad’. Bydd y math o ymddygiad yn effeithio ar p’un a fyddwn yn codi cosb a swm y gosb. Mae 4 math gwahanol o ymddygiad.

Gofal rhesymol

Mae gan bawb gyfrifoldeb i gymryd gofal rhesymol am eu materion treth. Bydd yr hyn a gaiff ei ystyried yn ‘ofal rhesymol’ yn dibynnu ar allu ac amgylchiadau pob cwsmer.

Os oedd rhywbeth ynghylch eich iechyd neu’ch amgylchiadau personol a oedd yn golygu ei bod yn anodd i chi gymryd gofal rhesymol, dywedwch wrth y swyddog sy’n cynnal y gwiriad. Bydd dweud wrtho am hynny’n ei alluogi i gymryd hyn i ystyriaeth wrth ystyried a wnaethoch gymryd gofal rhesymol.

Os cymeroch ofal rhesymol i gael pethau’n iawn, ond roedd eich Ffurflen Dreth neu’ch dogfen yn dal i gynnwys anghywirdeb, ni fyddwn yn codi cosb arnoch.

Mae rhai o’r ffyrdd y gallwch gymryd gofal rhesymol yn cynnwys:

  • cadw digon o gofnodion i lenwi Ffurflenni Treth yn gywir
  • gwirio’r arweiniad yn y Canllaw Cyllid Corfforaethol — ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘Corporate Finance Manual’
  • ein holi ni neu ymgynghorydd treth os nad ydych yn siŵr am unrhyw beth, a dilyn unrhyw gyngor a roddir

Esgeulus

Dyma pan wnaethoch fethu â chymryd gofal rhesymol i gael pethau’n iawn.

Bwriadol

Dyma pan oeddech yn gwybod bod Ffurflen Dreth yn anghywir wrth i chi ei hanfon atom. Mae enghreifftiau o anghywirdebau bwriadol yn cynnwys gwneud y canlynol yn fwriadol:

  • gorddatgan eich incwm treth-llog
  • peidio â gwneud addasiadau perthnasol wrth gyfrifo treth-EBITDA (Enillion Cyn Llog, Trethi, Dibrisiad ac Amorteiddiad) neu grŵp-EBITDA

Anghywirdebau bwriadol a chudd

Dyma pan oeddech yn gwybod bod Ffurflen Dreth yn anghywir, a gwnaethoch gymryd camau i guddio’r anghywirdeb oddi wrthym, naill ai cyn neu ar ôl i chi ei hanfon atom. Un enghraifft o gymryd camau i guddio anghywirdeb yw darparu tystiolaeth ffug i ategu derbynneb llog nad yw’n bodoli.

3 Penderfynu a oedd y datgeliad yn un heb ei annog neu wedi’i annog

Mae hyn yn pennu canran isaf bosibl y gosb y gallwn ei chodi. Rhoddir esboniad manylach yn yr adran ‘Datgelu anghywirdeb cyn i ni ddod o hyd iddo’ yn y daflen wybodaeth hon.

4 Penderfynu ar ystod y gosb

Mae canran y gosb yn syrthio i mewn i un o 6 ystod. Mae’r ystod y mae’n syrthio iddo’n dibynnu ar y math o ymddygiad, ac a oedd y datgeliad ‘wedi’i annog’ neu ‘heb ei annog’. Mae’r tabl canlynol yn dangos y 6 ystod cosb.

Math o ymddygiad Datgeliad heb ei annog Datgeliad wedi’i annog
Gofal rhesymol Dim cosb Dim cosb
Esgeulus 0% i 30% 15% i 30%
Bwriadol 20% i 70% 35% i 70%
Bwriadol ac wedi’i guddio 30% i 100% 30% i 100%

5 Cyfrifo’r gostyngiadau ar gyfer ansawdd y datgeliad (y cyfeirir ato hefyd fel ‘dweud, helpu a rhoi’)

Mae’r gostyngiad a rown yn dibynnu ar faint o gymorth a rowch i ni. Ar gyfer:

  • dweud, rydym yn rhoi hyd at 30%
  • helpu, rydym yn rhoi hyd at 40%
  • rhoi mynediad at gofnodion, rydym yn rhoi hyd at 30%

Wrth ystyried ansawdd y datgeliad, byddwn hefyd yn ystyried pa mor hir y mae wedi ei gymryd i chi ddatgelu’r anghywirdeb. Os yw wedi cymryd amser hir i chi, (megis 3 blynedd neu fwy), i wneud datgeliad, rydym fel arfer yn cyfyngu ar y gostyngiad mwyaf a rown ar gyfer ansawdd y datgeliad i 10 pwynt canran yn uwch na lleiafswm y gosb. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn cael budd o’r ganran gosb isaf sydd fel arfer ar gael.

6 Cyfrifo cyfradd ganrannol y gosb

Pennir cyfradd ganrannol y gosb gan ystod y gosb a’r gostyngiad ar gyfer ansawdd y datgeliad.

Enghraifft

Daethom o hyd i anghywirdeb esgeulus nad oedd y cwsmer wedi rhoi gwybod i ni amdano, cyn i ni ddechrau ein gwiriad. Pan wnaethom roi gwybod iddo am yr anghywirdeb, roedd yn cytuno â ni. Roedd hwn yn ddatgeliad wedi’i annog.

Ystod y gosb am anghywirdeb esgeulus gyda datgeliad wedi’i annog yw 15% i 30% o’r dreth dybiannol.

Y gostyngiad ar gyfer ansawdd y datgeliad (dweud, helpu a rhoi) oedd 70%.

Camau Enghraifft o gyfrifiad
I gyfrifo cyfradd ganrannol y gosb, yn gyntaf rydym yn cyfrifo’r gwahaniaeth rhwng cyfraddau canrannol isaf ac uchaf y gosb. 30% llai 15% = 15
Yna, rydym yn didynnu canran y gostyngiad oddi wrth ganran uchaf y gosb y gallwn ei chodi. 15 × 70% = 10.5%
Mae hyn yn rhoi cyfradd ganrannol y gosb i ni. 30% llai 10.5% = 19.5%

7 Cyfrifo swm y gosb

I gyfrifo swm y gosb, rydym yn lluosi’r dreth dybiannol â chyfradd ganrannol y gosb. Er enghraifft, os oedd y dreth dybiannol yn yr enghraifft uchod yn £3,000, ac nad oedd unrhyw ostyngiadau eraill, y gosb fyddai £585 (£3,000 x 19.5% = £585).

8 Ystyried gostyngiadau eraill

Ar ôl cyfrifo swm y gosb, rydym wedyn yn ystyried unrhyw ostyngiadau eraill sydd eu hangen. Er enghraifft, pan fo’r dreth dybiannol yn sylweddol fwy na’r golled dreth wirioneddol, efallai am fod rhyddhadau eraill ar gael. Os credwch fod hyn yn berthnasol i’ch achos chi, rhowch wybod i’r swyddog sy’n delio â’r gwiriad.

Sut y byddwn yn rhoi gwybod i chi am gosb

Byddwn yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych faint yw’r gosb a sut rydym wedi’i chyfrifo. Os oes unrhyw beth ynglŷn â’r gosb nad ydych yn cytuno ag ef, neu os ydych o’r farn bod gwybodaeth nad ydym eisoes wedi’i chymryd i ystyriaeth, dylech roi gwybod i ni ar unwaith.

Ar ôl cymryd i ystyriaeth unrhyw beth y cawsom wybod gennych, byddwn wedyn yn gwneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • anfon hysbysiad o asesiad o gosb atoch
  • eich gwahodd i ymrwymo i gontract gyda ni i dalu’r gosb, ynghyd â’r dreth a’r llog

O dan rai amgylchiadau, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu llog ar y gosb hefyd os na fyddwch yn ei thalu mewn pryd.

Pan fydd anghywirdeb mewn ffurflen cyfyngiadau ar log o ganlyniad i wybodaeth a ddarparwyd gan gwmni arall

O dan rai amgylchiadau, gall cwmni gwahanol – nid y cwmni sy’n adrodd – hefyd fod yn agored i gosb. Bydd hyn ond yn berthnasol os yw’r cwmni sy’n adrodd wedi cyflwyno ffurflen cyfyngiadau ar log sy’n cynnwys anghywirdeb a bod yr anghywirdeb:

  • yn golygu bod y swm sydd heb ei ganiatáu yn cael ei danddatgan a/neu fod y cap ailgychwyn llog yn cael ei orddatgan
  • oherwydd bod cwmni arall yn rhoi gwybodaeth ffug i’r cwmni sy’n adrodd neu’n dal gwybodaeth yn ôl rhag y cwmni sy’n adrodd, a hynny’n fwriadol

Yn yr achosion hyn, bydd y cwmni arall yn agored i gosb sy’n gyfwerth â swm y dreth dybiannol. Bydd hyn yn berthnasol p’un a godir cosb ar y cwmni sy’n adrodd ai peidio.

Os ydych wedi gwneud rhywbeth o’i le yn fwriadol

Gallwn gynnal ymchwiliad troseddol gyda’r bwriad o erlyn os ydych wedi gwneud rhywbeth o’i le yn fwriadol, megis:

  • rhoi gwybodaeth i ni gan wybod ei bod yn anwir, boed ar lafar neu mewn dogfen
  • cam-gyfleu’n anonest faint o dreth sydd arnoch, neu hawlio taliadau nad oes gennych hawl iddynt

Rheoli diffygdalwyr difrifol

Os cawsoch eich materion treth yn anghywir yn fwriadol, a’n bod yn canfod hyn yn ystod y gwiriad, efallai y byddwn yn monitro’ch materion treth yn fanylach. Mae gennym raglen fonitro fanylach o’r enw ‘Rheoli Diffygdalwyr Difrifol’. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch daflen wybodaeth CC/FS14, ‘Rheoli Diffygdalwyr Difrifol’. Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘CC/FS14’.

Cyhoeddi manylion diffygdalwyr bwriadol

Efallai y byddwn yn cyhoeddi’ch manylion os ydych wedi cael eich materion treth yn anghywir yn fwriadol, ond ni fyddwn yn gwneud hyn os ydym wedi rhoi’r gostyngiad mwyaf posibl i chi ar gyfer y gosb. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch daflen wybodaeth CC/FS13, ‘Cyhoeddi manylion diffygdalwyr bwriadol’. Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘CC/FS13’.

Os ydych yn anghytuno

Os oes rhywbeth nad ydych yn cytuno ag ef, rhowch wybod i ni.

Os byddwn yn gwneud penderfyniad y gallwch apelio yn ei erbyn, byddwn yn ysgrifennu atoch ynghylch y penderfyniad ac yn rhoi gwybod i chi beth i’w wneud os ydych yn anghytuno. Fel arfer, bydd gennych 3 opsiwn. Cyn pen 30 diwrnod, gallwch wneud y canlynol:

  • anfon gwybodaeth newydd at y swyddog sy’n delio â’r gwiriad, a gofyn iddo ei hystyried
  • cael eich achos wedi’i adolygu gan un o swyddogion CThEM na fu’n ymwneud â’r mater cyn hyn
  • trefnu bod tribiwnlys annibynnol yn gwrando ar eich apêl ac yn penderfynu ynghylch y mater

Pa ddull bynnag a ddewiswch, gallwch hefyd ofyn i un o swyddogion arbenigol CThEM weithredu fel hwylusydd diduedd er mwyn helpu i ddatrys yr anghydfod. Y Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod (ADR) yw’r enw a rown ar hyn.

Dim ond ar gyfer anghydfodau sy’n ymwneud â meysydd treth penodol y mae ADR ar gael. Bydd y swyddog sy’n delio â’r gwiriad yn rhoi gwybod i chi a yw ADR ar gael ar gyfer eich anghydfod. I gael rhagor o wybodaeth am apeliadau ac ADR, darllenwch y taflenni gwybodaeth canlynol:

  • HMRC1, ‘Penderfyniadau Cyllid a Thollau EM — beth i’w wneud os anghytunwch’
  • CC/FS21, ‘Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod’

Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘HMRC1’ neu ‘CC/FS21’.

Eich hawliau pan fyddwn yn ystyried codi cosbau

Mae’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn rhoi rhai hawliau pwysig i chi. Os ydym yn ystyried cosbau, byddwn yn rhoi gwybod i chi. Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi fod yr hawliau hyn yn gymwys, ac yn gofyn i chi gadarnhau eich bod yn eu deall. Mae’r hawliau hyn fel a ganlyn:

  • os byddwn yn gofyn unrhyw gwestiynau i chi i’n helpu i benderfynu a ddylid codi cosb arnoch, mae gennych hawl i beidio â’u hateb — eich penderfyniad chi’n gyfan gwbl yw faint o help y byddwch yn ei roi i ni pan fyddwn yn ystyried cosbau
  • wrth benderfynu a ydych am ateb ein cwestiynau neu beidio, efallai yr hoffech gael cyngor gan ymgynghorydd proffesiynol — yn enwedig os nad oes un gennych yn barod
  • os ydych yn anghytuno â ni ynglŷn â’r dreth neu unrhyw gosbau y credwn eu bod yn ddyledus, gallwch apelio — os byddwch yn apelio yn erbyn y dreth a’r cosbau, mae gennych yr hawl i ofyn am i’r ddwy apêl gael eu hystyried gyda’i gilydd
  • mae gennych yr hawl i wneud cais am gynhorthwy cyfreithiol wedi’i ariannu er mwyn delio ag apêl yn erbyn rhai cosbau penodol
  • mae gennych hawl i ddisgwyl i ni ddelio â mater sy’n ymwneud â chosbau heb oedi afresymol

Mae rhagor o wybodaeth am yr hawliau hyn yn nhaflen wybodaeth CC/FS9, ‘Y Ddeddf Hawliau Dynol a chosbau’. Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘CC/FS9’.

Ein hysbysiad preifatrwydd

Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu’n cadw gwybodaeth amdanoch. Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘HMRC Privacy Notice’.