Canllawiau

Cosbau ar gyfer y rhai sy’n galluogi osgoi treth neu ddiffyg cydymffurfio alltraeth CC/FS17a

Diweddarwyd 10 January 2022

Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhoi gwybodaeth fanwl i chi am y gosb am alluogi y gallwn ei chodi ar berson a alluogodd i berson arall i osgoi treth alltraeth neu beidio â chydymffurfio.

Dyma pan fo’r dreth sydd yn y fantol yn Dreth Incwm, Treth Enillion Cyfalaf neu’n Dreth Etifeddiant.

Mae’r daflen wybodaeth hon yn un o gyfres. I weld rhestr o’r taflenni gwybodaeth yn y gyfres, ewch i www.gov.uk/guidance/arweiniad-a-thaflenni-gwybodaeth-cthem ac edrych o dan y pennawd ‘Gwiriadau cydymffurfio’.

Os oes angen help arnoch

Os oes gennych unrhyw amgylchiadau iechyd neu bersonol y gall ei gwneud yn anodd i chi ddelio â’r mater hwn, rhowch wybod i’r swyddog sydd wedi cysylltu â chi. Byddwn yn eich helpu ym mha ffordd bynnag y gallwn. I gael rhagor o fanylion, ewch i www.gov.uk/cael-help-cthem-cymorth-ychwanegol.

Gallwch hefyd ofyn i rywun arall ddelio â ni ar eich rhan, er enghraifft, ymgynghorydd proffesiynol, ffrind neu berthynas. Fodd bynnag, efallai y bydd angen i ni barhau i siarad â chi neu ysgrifennu atoch yn uniongyrchol am rai pethau. Os bydd angen i ni ysgrifennu atoch, byddwn yn anfon copi at y person rydych wedi gofyn i ni ddelio ag ef. Os bydd angen i ni siarad â chi, caiff yr unigolyn hwnnw fod gyda chi pan fyddwn yn gwneud hynny, pe bai’n well gennych.

Pryd y gallwn godi cosb am alluogi arnoch

Efallai y byddwch yn agored i gosb am alluogi os ydych wedi annog, cynorthwyo neu wedi hwyluso mewn unrhyw ffordd berson arall i osgoi treth alltraeth neu gyflawni diffyg cydymffurfio alltraeth, ac mae amod A ac amod B yn cael eu bodloni.

Bodlonir amod A os oeddech yn gwybod bod yr hyn a wnaethoch yn galluogi, neu’n debygol o alluogi, person arall i osgoi treth alltraeth neu gyflawni diffyg cydymffurfio alltraeth. Mae person yn osgoi treth alltraeth neu’n cyflawni diffyg cydymffurfio alltraeth os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn wir:

  • mae’n cyflawni trosedd perthnasol
  • mae’r hyn y mae’n ei wneud yn peri iddo fod yn agored i gosb sifil berthnasol sy’n ymwneud â Threth Incwm, Treth Enillion Cyfalaf neu Dreth Etifeddiant

Bodlonir amod B pan fo’r person sy’n osgoi treth alltraeth neu’n peidio â chydymffurfio y naill neu’r llall o’r isod:

  • mae wedi’i gael yn euog o gosb berthnasol ac mae’r ddedfryd yn derfynol
  • yn agored i gosb berthnasol a bo’r gosb yn derfynol

Yn ogystal, bodlonir amod B os yw CThEM wedi cytuno ar setliad drwy gytundeb gyda’r person sy’n osgoi treth alltraeth neu sy’n cyflawni diffyg cydymffurfio alltraeth. Mae hyn yn lle asesu cosb neu gymryd camau i adennill cosb o’r fath.

Troseddau perthnasol

Y troseddau perthnasol yw:

  • twyllo’r cyllid cyhoeddus mewn perthynas â gweithgarwch alltraeth
  • osgoi Treth Incwm yn dwyllodrus mewn perthynas â gweithgarwch alltraeth
  • bod yn agored i Dreth Incwm neu Dreth Enillion Cyfalaf ar neu drwy gyfeirio at incwm, asedion neu rwymedigaethau alltraeth, pan fo’r person wedi:
    • methu â rhoi gwybod ei fod yn agored i dreth
    • methu â chyflwyno Ffurflen Dreth
    • cyflwyno Ffurflen Dreth wallus

Cosbau perthnasol

Mae cosb berthnasol yn gosb o dan y canlynol:

Mae cosb berthnasol yn gosb o dan y canlynol:

  • paragraff 1 o Atodlen 24 i Ddeddf Cyllid 2007, am anghywirdebau mewn dogfen yn ymwneud â gweithgarwch alltraeth
  • paragraff 1 o Atodlen 41 i Ddeddf Cyllid 2008, am fethu â rhoi gwybod am rwymedigaeth i dreth yn ymwneud â gweithgarwch alltraeth
  • paragraff 6 o Atodlen 55 i Ddeddf Cyllid 2009, am fethu â chyflwyno Ffurflen Dreth mewn pryd yn ymwneud â gweithgarwch alltraeth
  • paragraff 1 o Atodlen 21 i Ddeddf Cyllid 2015, am symudiad perthnasol o ased alltraeth

Mae rhagor o wybodaeth am y cosbau hyn yn y taflenni gwybodaeth canlynol:

  • CC/FS7a, ‘Cosbau am wallau mewn Ffurflenni Treth a dogfennau’
  • CC/FS11, ‘Cosbau am fethu â hysbysu’
  • CC/FS17 ‘Cosbau uwch ar gyfer materion alltraeth’
  • CC/FS18a, ‘Cosbau am beidio â chyflwyno Ffurflenni Treth a dogfennau blynyddol ac achlysurol mewn pryd – gan gynnwys Ffurflenni Treth Hunanasesiad at ddibenion Treth Incwm’

Yr hyn a olygwn gan ‘weithgarwch alltraeth’

Mae person wedi cyflawni gweithgarwch alltraeth os yw’n ymwneud â’r canlynol:

  • mater alltraeth
  • trosglwyddiad alltraeth
  • symudiad perthnasol o ased alltraeth

Sut y gwnaethom gyfrifo’r llog

Y gosb uchaf ym mhob achos ar wahân i achosion pan fo’r gosb am alluogi yn ymwneud â symud ased alltraeth

Er mwyn cyfrifo’r gosb rydym yn defnyddio swm gwreiddiol y Refeniw a Gollwyd o Bosibl (PLR) a ddefnyddir i godi cosb ar y person a fu’n osgoi treth alltraeth neu’n cyflawni diffyg cydymffurfio alltraeth.

Y gosb uchaf yw’r uchaf o naill ai:

  • 100% o’r PLR
  • £3,000

Y gosb uchaf pan fo’r gosb am alluogi yn ymwneud â symud ased alltraeth

Er mwyn cyfrifo’r gosb ychwanegol am alluogi symud ased alltraeth, rydym yn defnyddio 50% o swm gwreiddiol y PLR. Dyma’r PLR a defnyddir i godi cosb ar y person a fu’n osgoi treth alltraeth neu’n cyflawni diffyg cydymffurfio alltraeth.

Y gosb uchaf ar gyfer y sawl sy’n galluogi symud ased alltraeth yw’r uchaf o naill ai:

  • 50% o’r PLR
  • £3,000

Pan fo troseddau’n cynnwys osgoi treth alltraeth a symud ased alltraeth, mae’n bosibl y codir y ddau fath o gosb uchod ar y sawl sy’n galluogi. Mae hyn yn golygu y gellir codi cosb safonol arnynt am alluogi rhywun arall i osgoi treth alltraeth neu gyflawni diffyg cydymffurfio alltraeth, yn ogystal â chosb ar wahân am symud ased alltraeth.

Sut rydym yn gostwng swm y gosb y gallwn ei chodi

Gallwn ostwng y gosb yn dibynnu ar y canlynol:

  • a yw’r datgeliad yn un wedi’i annog neu heb ei annog
  • ansawdd y datgeliad
  • a oes gostyngiad arbennig yn ddyladwy

Datgelu gweithgarwch alltraeth

Os byddwch yn rhoi gwybod i ni am y gweithgarwch alltraeth cyn i chi fod â rheswm i gredu ein bod wedi darganfod, neu ar fin darganfod, yr achos o osgoi treth alltraeth rydych wedi’i alluogi, rydym yn galw hynny’n ‘ddatgeliad heb ei annog’. Os byddwch yn rhoi gwybod i ni am y gweithgarwch hwn ar adeg arall, rydym yn ei alw’n ‘ddatgeliad wedi’i annog’.

Mae amseru’r datgeliad yn ymwneud â’r osgoi neu’r diffyg cydymffurfio gwreiddiol.

Wrth gyfrifo cosbau byddwn yn cymryd i ystyriaeth pa mor hir y mae wedi cymryd i chi ddod ymlaen ers i’r anghywirdeb neu’r methiant ddigwydd.

Os gwnewch ddatgeliad heb ei annog, mae’n bosibl y byddwn yn gostwng y gosb i swm is na phe baech yn gwneud datgeliad wedi’i annog.

Bydd y gosb yn syrthio i un o’r ystodau isod, yn dibynnu a oedd y datgeliad yn un wedi’i annog neu’n un heb ei annog.

Gostyngiad am ddatgelu ym mhob achos ar wahân i achosion pan fo’r gosb am alluogi yn ymwneud â symud ased alltraeth

Datgeliad Isafswm yr ystod Uchafswm yr ystod
Heb ei annog Yr uchaf o 10% o’r PLR neu £1,000 Yr uchaf o 100% o’r PLR neu £3,000
Wedi’i annog Yr uchaf o 30% o’r PLR neu £3,000 Yr uchaf o 100% o’r PLR neu £3,000

Gostyngiad am ddatgelu pan fo’r gosb am alluogi yn ymwneud â symud ased alltraeth

Datgeliad Isafswm yr ystod Uchafswm yr ystod
Heb ei annog Yr uchaf o 10% o’r PLR neu £1,000 Yr uchaf o 50% o’r PLR neu £3,000
Wedi’i annog Yr uchaf o 30% o’r PLR neu £3,000 Yr uchaf o 50% o’r PLR neu £3,000

Yr hyn y gallwch ei wneud i ostwng unrhyw gosb y gallwn ei chodi

Gallwn ostwng swm unrhyw gosb a godwn arnoch, yn dibynnu ar ein barn ynghylch faint o gymorth a roesoch i ni. Rydym yn cyfeirio at y cymorth hwn fel ‘ansawdd y datgeliad’, neu fel ‘dweud, helpu a rhoi’.

Mae enghreifftiau o wneud datgeliad yn cynnwys:

  • rhoi gwybod i ni am unrhyw fater neu bob mater sydd wedi arwain at anghywirdeb mewn dogfen, cyflenwad o wybodaeth ffug neu fethiant i ddatgelu tan-asesiad
  • rhoi gwybod i ni am yr hyn a wnaethoch i alluogi person arall i gyflawni trosedd perthnasol
  • ein helpu drwy annog y person hwnnw i gydweithredu â ni
  • ein helpu i gyfrifo rhwymedigaeth y person hwnnw i gosb
  • rhoi’r gallu i ni gael at gofnodion rydym wedi gofyn amdanynt, heb oedi diangen
  • rhoi’r gallu i ni gael at gofnodion y mae’n bosibl nad ydym yn gwybod amdanynt, ynghyd â’r rheini yr ydym yn gofyn am gael eu gweld
  • dweud wrthym a’n helpu drwy ateb ein cwestiynau’n llawn

Byddwn yn gostwng y gosb gan y swm uchaf posibl os ydych yn gwneud y canlynol:

  • yn dweud wrthym bopeth y gallwch ynghylch anghywirdeb cyn gynted ag y byddwch yn gwybod amdano neu os credwch ein bod ar fin dod o hyd iddo
  • yn gwneud popeth ag y gallwch i’n helpu i’w gywiro

Os byddwch yn oedi cyn rhoi gwybod i ni, mae’n bosibl y bydd gennych yr hawl i ostyngiad o hyd, ond bydd hwnnw’n llai.

Os na fydd angen cymorth ychwanegol arnom oddi wrthych, byddwn yn rhoi’r gostyngiad llawn sydd ar gael am ddweud, helpu a rhoi.

Rhoi gwybod i ni am unrhyw amgylchiadau arbennig

Os ydych o’r farn y dylai’r swyddog sy’n delio â’r gwiriad gymryd amgylchiadau arbennig i ystyriaeth wrth gyfrifo’r gosb, dylech roi gwybod iddo ar unwaith.

Sut rydym yn cyfrifo swm cosb

Mae 6 cham wrth gyfrifo swm unrhyw gosb. Caiff pob cam ei esbonio’n fanylach isod.

1. Cyfrifo uchafswm y gosb

Dyma’r swm uchaf a gyfrifir fel y dangosir ar dudalen 2 (swm A). Bydd naill ai’n £3,000 neu’r ganran berthnasol o’r PLR (50% neu 100%) os yw hyn yn uwch na £3,000.

2. Penderfynu a oedd y datgeliad yn un heb ei annog neu wedi’i annog

Mae hyn yn pennu canran isaf bosibl y gosb y gallwn ei chodi. Mae hyn yn cael ei esbonio mewn rhagor o fanylder yn yr adran â’r enw ‘Datgelu gweithgarwch alltraeth’ yn y daflen wybodaeth hon.

Mae’r gosb yn syrthio i un o’r ystodau a ddangosir yn y tablau ar dudalen 3, yn dibynnu a oedd y datgeliad yn un wedi’i annog neu heb ei annog.

3. Cyfrifo’r gostyngiadau ar gyfer ansawdd y datgeliad (y cyfeirir ato hefyd fel ‘dweud, helpu a rhoi’)

Mae ansawdd y datgeliad (dweud, helpu a rhoi) yn pennu lle y bydd y gosb yn syrthio o fewn ystod y gosb a ddangosir ar dudalen 3. Mae’r gostyngiad a rown yn dibynnu ar faint o gymorth a rowch i ni. Ar gyfer:

  • dweud, rydym yn rhoi hyd at 30%
  • helpu, rydym yn rhoi hyd at 40%
  • rhoi mynediad at gyfrifon, rydym yn rhoi hyd at 30%

4. Cyfrifo cyfradd ganrannol y gosb

Pennir cyfradd ganrannol y gosb gan ystod y gosb a ddangosir ar dudalen 3 a chanran y gostyngiad am ansawdd y datgeliad.

I gyfrifo cyfradd ganrannol y gosb, yn gyntaf rydym yn cyfrifo’r gwahaniaeth rhwng cyfradd ganrannol isaf ac uchaf y gosb.

Yna, rydym yn lluosi’r ffigur hwnnw â’r gostyngiad ar gyfer ansawdd y datgeliad er mwyn rhoi canran y gostyngiad.

Yna, rydym yn didynnu canran y gostyngiad oddi wrth ganran uchaf y gosb y gallwn ei chodi. Mae hyn yn rhoi cyfradd ganrannol y gosb i ni.

5. Cyfrifo swm y gosb

I gyfrifo swm y gosb, rydym yn lluosi’r refeniw a gollwyd o bosibl (PLR) â chyfradd ganrannol y gosb.

Os yw’r canlyniad yn uwch nag isafswm y gosb, yna swm y gosb ydyw. Os yw’r canlyniad yn is nag isafswm y gosb a ddangosir yn y tablau ar dudalen 3, yna swm y gosb fydd isafswm y gosb.

Er enghraifft: datgeliad wedi’i annog, lle bu ansawdd ac amseru’r datgeliad ar ei isaf.

  1. Mae’r PLR yn £5,255,700 (yn uwch na £3,000).

  2. Ystod y gosb am ddatgeliad wedi’i annog yw 30% i 100% o’r PLR.

  3. Roedd y gostyngiad ar gyfer ansawdd y datgelu (dweud, helpu a rhoi) yn 7%.

  4. Y gosb uchaf (C) yw 100% a’r gosb isaf (D) yw 30%. Felly, y ganran uchaf posibl y gosb y gallwn ei chodi (E) yw 100 - 30 = 70%. Canran wirioneddol y gostyngiad ar gyfer datgeliad (F) yw 7% x 70 = 4.9% (dywedyd 5%). Canran y gosb sydd i’w chodi (G) yw 100% - 5% = 95%.

  5. Y gosb sydd i’w chodi yw £5,255,700 x 95% = £4,992,915 (yn uwch na £3,000).

6. Ystyried gostyngiadau eraill

Ar ôl cyfrifo swm y gosb, rydym wedyn yn ystyried unrhyw ostyngiadau eraill sydd eu hangen. Bydd hyn yn ei dro yn rhoi swm y gosb a godwn.

Sut y byddwn yn rhoi gwybod i chi am gosb

Byddwn yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych faint yw’r gosb a sut rydym wedi’i chyfrifo. Os oes unrhyw beth ynglŷn â’r gosb nad ydych yn cytuno ag ef, neu os ydych o’r farn bod gwybodaeth nad ydym eisoes wedi’i chymryd i ystyriaeth, dylech roi gwybod i ni ar unwaith.

Ar ôl cymryd i ystyriaeth unrhyw beth rydych wedi rhoi gwybod i ni amdano, byddwn wedyn yn gwneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • anfon hysbysiad o asesiad o gosb atoch
  • eich gwahodd i ymrwymo i gontract gyda ni i dalu’r gosb, ynghyd â’r dreth a’r llog

O dan rai amgylchiadau, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu llog ar y gosb os na fyddwch yn ei thalu mewn pryd.

Beth i’w wneud os anghytunwch

Os nad ydych yn cytuno â rhywbeth, rhowch wybod i ni.

Os byddwn yn gwneud penderfyniad y gallwch apelio yn ei erbyn, byddwn yn ysgrifennu atoch ynghylch y penderfyniad ac yn rhoi gwybod i chi beth i’w wneud os ydych yn anghytuno. Fel arfer, bydd gennych 3 opsiwn. Cyn pen 30 diwrnod, gallwch wneud y canlynol:

  • anfon gwybodaeth newydd at y swyddog rydych wedi bod yn delio ag ef, a gofyn iddo’i hystyried
  • cael eich achos wedi’i adolygu gan un o swyddogion CThEM na fu’n ymwneud â’r mater cyn hyn
  • trefnu i dribiwnlys annibynnol wrando ar eich apêl a phenderfynu ar y mater

Eich hawliau os byddwn yn ystyried cosbau

Mae’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn rhoi hawliau pwysig i chi. Os ydym yn ystyried cosbau, byddwn yn rhoi gwybod i chi. Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi fod yr hawliau hyn yn gymwys, ac yn gofyn i chi gadarnhau eich bod yn eu deall. Mae’r hawliau hyn fel a ganlyn:

  • os byddwn yn gofyn unrhyw gwestiynau i chi i’n helpu i benderfynu p’un a ddylid codi cosb arnoch, mae gennych yr hawl i beidio â’u hateb.
  • mae faint o gymorth a rowch i ni pan fyddwn yn ystyried cosbau yn fater i chi benderfynu yn ei gylch yn llwyr
  • wrth benderfynu a ydych am ateb ein cwestiynau neu beidio, efallai yr hoffech gael cyngor gan ymgynghorydd proffesiynol – yn arbennig os nad oes un gennych yn barod
  • os ydych yn anghytuno â ni ynglŷn â’r cosbau y credwn eu bod yn ddyledus, gallwch apelio
  • mae gennych yr hawl i wneud cais am gynhorthwy cyfreithiol a ariennir er mwyn delio ag unrhyw apêl yn erbyn rhai cosbau penodol
  • mae gennych hawl i ddisgwyl i ni ddelio â mater sy’n ymwneud â chosbau heb oedi afresymol

Mae rhagor o wybodaeth am yr hawliau hyn yn nhaflen wybodaeth CC/FS9, ‘Y Ddeddf Hawliau Dynol a chosbau’. Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘CC/FS9’.

Yr hyn a fydd yn digwydd os byddwch yn rhoi gwybodaeth i ni ac yn gwybod ei bod yn anwir

Gallwn gynnal ymchwiliad troseddol ac efallai eich erlyn:

  • rhoi gwybodaeth i ni gan wybod ei bod yn anwir, boed ar lafar neu mewn dogfen
  • datgan swm anghywir o doll yn anonest, neu’n hawlio taliadau nad oes gennych hawl iddynt

Ein hysbysiad preifatrwydd

Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu’n cadw gwybodaeth amdanoch. Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘HMRC Privacy Notice’.