Canllawiau

Gwiriadau cydymffurfio: hysbysiad sefydliad ariannol — CC/FS60

Diweddarwyd 20 May 2022

Rydym wedi rhoi’r daflen wybodaeth hon i chi gan ein bod wedi rhoi hysbysiad sefydliad ariannol i chi.

Beth yw hysbysiad sefydliad ariannol?

Mae hysbysiad sefydliad ariannol yn ddogfen sy’n mynnu’n gyfreithiol bod sefydliad ariannol yn rhoi gwybodaeth a/neu ddogfennau penodol i ni. Mae hyn er mwyn i ni allu gwirio sefyllfa dreth rhywun arall neu gymryd camau i gasglu dyledion treth person arall.

Rydym yn cyfeirio at y person yr ydym yn gwirio’i sefyllfa dreth, neu yr ydym yn cymryd camau i gasglu ei ddyledion treth, fel y ‘parti cyntaf’.

Pryd rydym yn defnyddio hysbysiadau sefydliadau ariannol

Weithiau, pan fyddwn yn gwirio sefyllfa dreth rhywun neu’n cymryd camau i gasglu dyledion treth, efallai y bydd angen gwybodaeth arnom gan sefydliad ariannol. Gallai hyn fod oherwydd y canlynol:

  • nid yw’r parti cyntaf wedi gallu rhoi gwybodaeth y mae arnom ei hangen neu mae wedi gwrthod gwneud hynny
  • mae angen i ni wirio’n annibynnol drafodion busnes neu ariannol sydd wedi digwydd, neu
  • mae awdurdod trethi tramor wedi gofyn i ni gasglu’r wybodaeth yn unol â rheolau cyfnewid gwybodaeth

Yr hyn y bydd yr hysbysiad sefydliad ariannol yn ei ddweud wrthych

Os byddwn yn anfon hysbysiad sefydliad ariannol atoch, bydd yn dweud wrthych:

  • enw’r person y mae’n ymwneud ag ef (oni bai bod y tribiwnlys wedi penderfynu nad oes angen iddo wneud hynny)
  • pa ddogfennau a/neu wybodaeth y mae’n rhaid i chi eu rhoi i ni
  • sut a phryd i roi’r hyn sydd ei angen arnom
  • ynglŷn ag unrhyw hawl i apelio
  • am beidio â datgelu’r hysbysiad i’r person y mae’n ymwneud ag ef, nac i unrhyw un arall ac eithrio er mwyn cydymffurfio â gofynion yr hysbysiad (os yw’r tribiwnlys wedi penderfynu bod hynny’n briodol)

Pa wybodaeth a dogfennau y gallwn ofyn amdanynt mewn hysbysiad sefydliad ariannol?

Gallwn ofyn am wybodaeth a/neu ddogfennau os ydym yn credu bod eu hangen ar gyfer ein harchwiliad o sefyllfa dreth y parti cyntaf neu os ydym yn credu y byddant yn ein helpu i gasglu dyledion treth. Mae’n rhaid iddi fod yn rhesymol i ni ofyn amdanynt.

Ni allwn ddefnyddio hysbysiad gwybodaeth i ofyn i sefydliad ariannol roi gwybodaeth neu ddogfennau i ni:

  • nad ydynt ym meddiant y sefydliad ac nad oes modd i’r sefydliad gael y dogfennau, na chopïau, gan bwy bynnag sy’n eu dal
  • sy’n perthyn i sefyllfa dreth person a fu farw mwy na 4 blynedd cyn anfon yr hysbysiad
  • sydd wedi’u creu fel rhan o’r paratoadau ar gyfer apêl treth
  • sy’n ymwneud yn unig â lles corfforol, meddyliol, ysbrydol neu bersonol unigolyn
  • sy’n ohebiaeth freintiedig rhwng cyfreithwyr a chleientiaid at ddibenion caffael neu roi cyngor cyfreithiol
  • a fyddai’n feichus i’r sefydliad ariannol eu darparu

Gall y rheolau ynglŷn â pha wybodaeth a dogfennau sy’n syrthio i’r categorïau hyn fod yn gymhleth, yn enwedig mewn perthynas â chyfathrebiadau breintiedig neu bersonol. Os ydych yn meddwl y gallai unrhyw beth yr ydym wedi gofyn amdano syrthio i un neu fwy o’r categorïau hyn, siaradwch â’r swyddog a roddodd y daflen wybodaeth hon i chi.

Yr hyn i’w wneud os ydych yn anghytuno â hysbysiad sefydliad ariannol

Ni allwch apelio yn erbyn hysbysiad sefydliad ariannol.

Dylech siarad â’r swyddog a anfonodd y daflen wybodaeth hon atoch os:

  • ydych yn meddwl y byddai’n feichus i chi gydymffurfio â’r hysbysiad neu ofyniad yn yr hysbysiad
  • oes angen rhagor o amser arnoch i gydymffurfio ag ef

Yr hyn sy’n digwydd os nad ydych yn cydymffurfio â hysbysiad sefydliad ariannol

Er mwyn cydymffurfio â’r hysbysiad, rhaid i chi roi i ni bopeth y mae’r hysbysiad yn gofyn amdano, erbyn y dyddiad a nodir yn yr hysbysiad — neu erbyn dyddiad diweddarach os ydym wedi cytuno ar un gyda chi. Os na fyddwch yn cydymffurfio â’r hysbysiad, gallwn godi cosb arnoch o £300. Os ydych yn dal heb gydymffurfio â’r hysbysiad erbyn yr amser rydym yn codi’r gosb o £300 arnoch, gallwn wedyn godi cosbau dyddiol arnoch o hyd at £60 y dydd am bob diwrnod nad ydych yn cydymffurfio.

Mae’n rhaid i unrhyw wybodaeth a rowch i ni fod yn gywir hyd y gwyddoch. Os byddwch yn rhoi gwybodaeth neu ddogfennau i ni, a’ch bod yn gwybod eu bod yn anghywir heb ddweud wrthym beth sy’n anghywir, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cosb hyd at uchafswm o £3,000.

Os byddwch yn cuddio, yn dinistrio neu fel arall yn gwaredu unrhyw ddogfen rydym wedi gofyn amdani mewn hysbysiad sefydliad ariannol, neu’n trefnu iddi gael ei chuddio, ei dinistrio neu ei gwaredu, mae’n bosibl bydd yn rhaid i chi dalu cosb. Os byddwn yn codi cosb arnoch, bydd yn £300. Byddwn wedyn yn codi cosbau dyddiol o hyd at £60 y dydd arnoch am bob diwrnod yr ydych yn methu â chydymffurfio â’r hysbysiad.

Ar gyfer yr achosion mwyaf difrifol, gall y tribiwnlys annibynnol haen uchaf hefyd roi cosb bellach. Mae hon wedi’i seilio ar y dreth sy’n cael ei pheryglu gan y methiant i gydymffurfio â’r hysbysiad, neu gan eich ymdrechion i guddio, i waredu neu i ddinistrio’r ddogfen.

Os byddwn yn cytuno bod gennych esgus rhesymol dros beidio â rhoi gwybodaeth neu ddogfennau i ni, ni fyddwn yn codi cosb arnoch. Fodd bynnag, byddwn yn dal i ofyn i chi roi’r wybodaeth, y dogfennau (neu’r dogfennau amnewid) o fewn amserlen y cytunwyd arni.

Mae esgus rhesymol yn rhywbeth sydd wedi’ch rhwystro rhag bodloni ymrwymiad treth mewn pryd er i chi gymryd gofal rhesymol i’w fodloni. Gallai hyn fod o ganlyniad i amgylchiadau y tu hwnt i’ch rheolaeth, neu gyfuniad o ddigwyddiadau. Unwaith y bydd yr esgus rhesymol wedi dod i ben, mae’n rhaid i chi unioni pethau heb oedi diangen.

Wrth benderfynu a oes gennych esgus rhesymol, byddwn yn ystyried amgylchiadau’r methiant, a’ch amgylchiadau a’ch galluoedd penodol. Mae hynny’n golygu na fyddai’r hyn sy’n cael ei ystyried yn esgus rhesymol yn achos un person o reidrwydd yn cael ei ystyried yn esgus rhesymol yn achos rhywun arall. Os ydych o’r farn bod gennych esgus rhesymol, rhowch wybod i ni.

Gall enghreifftiau o esgus rhesymol gynnwys y canlynol:

  • buoch yn ddifrifol wael
  • bu farw rhywun agos atoch
  • gwnaethoch golli’r dogfennau mewn tân neu lifogydd

Gallai’r hysbysiad hefyd gynnwys gofyniad i beidio â datgelu’r hysbysiad, nac unrhyw beth sy’n ymwneud ag ef, i’r trethdalwr neu i unrhyw berson ac eithrio at ddiben sy’n ymwneud â chydymffurfio â’r hysbysiad. Rydym yn cynnwys y gofyniad hwn pan fydd y tribiwnlys wedi cytuno y gallwn ddatgymhwyso’r gofynion cyfreithiol i:

  • enwi’r trethdalwr yn yr hysbysiad
  • darparu crynodeb o’r rhesymau dros gyhoeddi’r hysbysiad i’r sawl y mae’n ymwneud ag ef

Os yw’r hysbysiad yn cynnwys y gofyniad hwn, a bod y sefydliad ariannol yn methu â’i fodloni, gallwn godi cosb o £1,000 arno.

Eich prif hawliau ac ymrwymiadau

Mae gennych:

  • yr hawl i wirio gyda’ch ymgynghorydd — byddwn yn caniatáu amser rhesymol i chi wneud hynny
  • dyletswydd i sicrhau eich bod yn cael pethau’n iawn — os oes gennych ymgynghorydd, mae’n dal i fod yn rhaid i chi gymryd gofal rhesymol er mwyn sicrhau bod unrhyw Ffurflenni Treth, dogfennau neu fanylion y mae’n eu hanfon atom ar eich rhan yn gywir

Mae ‘Siarter CThEM’ yn egluro’r hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym ni, a’r hyn a ddisgwyliwn gennych chi. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.gov.uk/government/publications/hmrc-charter.cy

Mae’r daflen wybodaeth hon yn ymwneud â gwiriadau cydymffurfio i unrhyw un o’r canlynol:

  • Ardoll Agregau
  • Ardoll Brentisiaethau
  • Ardoll y Diwydiant Diodydd Ysgafn
  • Ardoll Newid yn yr Hinsawdd
  • Cynllun y Diwydiant Adeiladu
  • Talu Wrth Ennill (TWE)
  • TAW
  • Treth Ailgyfeirio Elw
  • Treth Cyflogres Banc
  • Treth Dir y Tollau Stamp
  • Treth Dirlenwi
  • Treth Dramor Berthnasol
  • Treth Enillion Cyfalaf
  • Treth Etifeddiant
  • Treth Flynyddol ar Anheddau wedi’u Hamgáu
  • Treth Gorfforaeth
  • Treth Gwasanaethau Digidol
  • Treth Incwm
  • Treth Premiwm Yswiriant
  • Treth Refeniw Petroliwm
  • Treth Tollau Stamp Wrth Gefn
  • Yswiriant Gwladol Dosbarthiadau 1, 1A* a 4

*Ar gyfer Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A, mae’r daflen wybodaeth hon ond yn berthnasol i ddatganiadau P11D(b) ar gyfer blynyddoedd treth a ddechreuodd ar neu ar ôl 6 Ebrill 2010.

Rhagor o wybodaeth

Os nad ydych yn fodlon ar ein gwasanaeth, rhowch wybod i’r person y buoch yn delio ag ef neu’r swyddfa y buoch yn delio â hi. Byddant yn ceisio unioni pethau. Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, byddant yn dweud wrthych sut i wneud cwyn ffurfiol.

Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhan o gyfres. I weld rhestr o’r taflenni gwybodaeth Cymraeg, ewch i www.gov.uk/guidance/arweiniad-a-thaflenni-gwybodaeth-cthem ac edrych o dan y pennawd ‘Gwiriadau cydymffurfio’.

Ein hysbysiad preifatrwydd

Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu’n cadw gwybodaeth amdanoch. Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘HMRC Privacy Notice’.