Canllawiau

Cuddio gwerthiannau electronig — CC/FS68

Cyhoeddwyd 16 November 2022

Mae’r daflen wybodaeth yn eich hysbysu ynghylch Cuddio Gwerthiannau Electronig (ESS). Mae’n esbonio’r pwerau y gallwn eu defnyddio i’n helpu i adnabod a mynd i’r afael ag ESS. Mae hefyd yn egluro’r cosbau y gallwn eu codi, os ydych yn cymryd rhan mewn ESS.

Rydych yn cymryd rhan mewn ESS os gwnaethoch greu, cyflenwi, neu hyrwyddo offeryn ESS. Rydych hefyd yn cymryd rhan mewn ESS os:

  • ydych yn berchen ar offeryn ESS
  • oes gennych fynediad at offeryn ESS
  • ydych wedi ceisio cael mynediad at offeryn ESS

Os oes angen help arnoch

Os yw’n bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu’ch iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio â ni, rhowch wybod i’r swyddog sydd wedi cysylltu â chi. Byddwn yn eich helpu ym mha ffordd bynnag y gallwn. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.gov.uk/cael-help-cthem-cymorth-ychwanegol

Gallwch hefyd ofyn i rywun arall ddelio â ni ar eich rhan, er enghraifft, ymgynghorydd proffesiynol, ffrind, neu aelod o’ch teulu. Fodd bynnag, efallai y bydd yn dal i fod yn rhaid i ni siarad â chi neu ysgrifennu atoch yn uniongyrchol am rai pethau. Os bydd angen i ni ysgrifennu atoch, byddwn yn anfon copi at yr unigolyn rydych wedi gofyn i ni ddelio ag ef. Os bydd angen i ni siarad â chi, caiff yr unigolyn hwnnw fod gyda chi pan fyddwn yn gwneud hynny, pe bai’n well gennych.

Beth yw Cuddio Gwerthiannau Electronig (ESS)

Mae ESS yn digwydd pan fo busnes yn defnyddio offeryn i guddio neu ostwng gwerth trafodion unigol ar ei gofnodion electronig o werthiannau. ‘Cuddio gwerthiannau’ yw’r enw ar hyn. Mae busnesau’n gwneud hyn naill ai ar, neu ar ôl, yr adeg werthu. Felly, mae eu cofnodion yn ymddangos yn gywir ac yn gyflawn.

Mae busnesau’n gwneud hyn er mwyn gostwng eu trosiant, er mwyn talu llai o dreth. Maent hefyd yn ei wneud er mwyn edrych fel petaent yn cydymffurfio.

Beth yw offeryn ESS

Mae offeryn ESS yn feddalwedd, yn galedwedd, neu’n sgript cod cyfrifiadurol. Mae’n galluogi busnes i guddio neu ostwng gwerth trafodion unigol ar ei gofnodion electronig o werthiannau. Mae hyn yn cynnwys defnyddio a/neu ffurfweddu til, neu system adeg werthu (POS), mewn ffordd sy’n cuddio gwerthiannau.

Gallwn godi cosb arnoch am gymryd rhan mewn ESS, hyd yn oed os nad ydych wedi defnyddio offeryn ESS i guddio gwerthiannau neu i dalu llai o dreth.

Ein pwerau o ran gwybodaeth

Mae’r gyfraith yn rhoi ‘pwerau o ran gwybodaeth’ i CThEF, sy’n ein galluogi i ofyn am wybodaeth a/neu ddogfennau penodol. Rydym yn defnyddio’r pwerau hyn i wirio sefyllfa dreth unigolyn. Er mwyn gwneud hyn, rydym yn cyhoeddi ‘hysbysiad gwybodaeth’. Dyma ddogfen sy’n ei gwneud yn ofynnol yn ôl y gyfraith i berson roi gwybodaeth a/neu ddogfennau penodol i ni.

Mae Atodlen 14 i Ddeddf Cyllid 2022 yn caniatáu i ni gyhoeddi hysbysiad gwybodaeth ar gyfer ESS. Mae hyn yn golygu y gallwn ofyn am wybodaeth benodol sy’n berthnasol i ESS yn unig. Mae’n caniatáu i ni gyhoeddi hysbysiad i ‘berson perthnasol’ at ‘ddiben perthnasol’.

Pwy sy’n ‘berson perthnasol’

Mae ‘person perthnasol’ yn golygu unrhyw un y gallwn godi cosb arno, yn ein barn ni, am ei fod yn cymryd rhan mewn ESS. Caiff y cosbau hyn eu hegluro isod.

Beth yw ‘diben perthnasol’

Mae ‘diben perthnasol’ yn golygu’r rheswm sydd gennym dros ofyn am wybodaeth am ESS ac offerynnau ESS. Mae’r gyfraith yn rhoi caniatâd i ni wneud hyn o dan dri math o amgylchiadau, sef, er mwyn ein helpu i wneud y canlynol:

  • penderfynu a yw person perthnasol wedi creu, cyflenwi, neu hyrwyddo offeryn ESS, neu a oes un ganddo yn ei feddiant — byddai modd i ni godi cosb ar y person hwn
  • deall sut mae offeryn ESS yn gweithio
  • adnabod unrhyw berson arall sydd wedi creu, cyflenwi, neu hyrwyddo offeryn ESS, neu sydd ag un yn ei feddiant

Os rhoddwn hysbysiad gwybodaeth i chi, mae’n rhaid i chi roi’r wybodaeth a/neu’r dogfennau rydym yn gofyn amdanynt.
Os na fyddwch yn gwneud hyn, gallwn godi cosbau arnoch.

Gallwch ddysgu rhagor am y cosbau a hysbysiadau gwybodaeth hyn yn y taflenni gwybodaeth canlynol:

  • CC/FS2, ‘Hysbysiadau gwybodaeth’
  • CC/FS23, ynghylch hysbysiadau gwybodaeth trydydd parti
  • CC/FS60, ‘Hysbysiad sefydliad ariannol’

Er mwyn dod o hyd i’r taflenni gwybodaeth hyn ar-lein, ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘CC/FS2’, ‘CC/FS23’ neu ‘CC/FS60’.

Adegau pan allwn godi cosb arnoch am gymryd rhan mewn ESS

Gallwn godi cosb arnoch os:

  • ydych ag offeryn ESS ‘yn eich meddiant’
  • gwnaethoch greu, cyflenwi neu hyrwyddo offeryn ESS

Gallwn godi cosb arnoch, hyd yn oed os nad yw’r offeryn wedi’i ddefnyddio i guddio gwerthiannau neu i osgoi treth.

Bod ag offeryn ESS yn eich meddiant

Mae bod ag offeryn ESS ‘yn eich meddiant’ yn cynnwys y canlynol:

  • bod yn berchen ar offeryn ESS
  • bod â mynediad at offeryn ESS
  • ceisio cael mynediad at offeryn ESS

Pan ddechreuwn amau eich bod ag offeryn ESS yn eich meddiant, byddwn yn ysgrifennu atoch gan fynnu eich bod yn cael gwared ar yr offeryn neu’n rhoi’r gorau i’w ddefnyddio. Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi fod angen i chi ‘ein bodloni’ eich bod wedi cael gwared ar yr offeryn. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi roi i ni’r holl wybodaeth y gofynnwn amdani, er mwyn dangos nad yw’r offeryn ‘yn eich meddiant’ mwyach. Os nad ydych yn ein bodloni eich bod wedi cael gwared ar yr offeryn, byddwn yn codi cosb benodol arnoch.

Os ydym wedi codi cosb ESS arnoch yn ystod y 5 mlynedd diwethaf, byddwn yn codi’r gosb benodol arnoch ar unwaith. Ni fyddwn yn ysgrifennu atoch cyn codi’r gosb. Byddwn hefyd yn mynnu eich bod yn cael gwared ar yr offeryn neu’n rhoi’r gorau i’w ddefnyddio.

Ar ôl i ni godi’r gosb benodol arnoch, byddwn hefyd yn codi cosbau dyddiol arnoch. Byddwn yn gwneud hyn hyd nes i chi ‘ein bodloni’ nad yw’r offeryn ESS ‘yn eich meddiant’ mwyach.

Os oes yn rhaid i chi dalu mwy o dreth oherwydd eich bod wedi cymryd rhan mewn ESS, efallai y byddwn yn codi cosbau eraill arnoch. Gall y rhain gynnwys cosbau am gyflwyno dogfennau neu Ffurflenni Treth anghywir, neu am fethu â’n hysbysu bod yn rhaid i chi dalu treth benodol.

Gallwch ddysgu rhagor am ein cosbau am beidio â chydymffurfio â’ch ymrwymiadau treth yn y taflenni gwybodaeth canlynol:

  • CC/FS7a, ‘Cosbau am anghywirdebau mewn ffurflenni treth neu ddogfennau’
  • CC/FS11, ‘Cosbau am fethu â hysbysu’

Er mwyn dod o hyd i’r taflenni gwybodaeth hyn ar-lein, ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘CC/FS7a’ neu ‘CC/FS11’.

Creu, cyflenwi neu hyrwyddo offeryn ESS

Gallwn godi cosb arnoch pan fyddwch yn:

  • creu offeryn ESS
  • addasu offeryn nad yw’n offeryn ESS, er mwyn ei droi’n offeryn ESS
  • cyflenwi offeryn ESS i berson arall
  • hyrwyddo offeryn ESS — mae hyn yn golygu rhoi gwybodaeth i berson arall, er mwyn iddo allu defnyddio offeryn ESS

Byddwn yn codi cosb arnoch sy’n ganran o’r gosb uchaf y gallwn ei chodi. Bydd y ganran a godwn yn seiliedig ar gymhlethdod yr offeryn ESS, ac ar faint o help a rowch yn ystod ein gwiriad cydymffurfio.

Y gosb uchaf y gallwn ei chodi yw £50,000. Dyma’r gosb sy’n berthnasol bob tro y bydd rhywun yn creu, yn cyflenwi, neu’n hyrwyddo offeryn ESS penodol.

Pryd na fyddwn yn codi cosb arnoch

Ni fyddwn yn codi cosb arnoch:

  • o’r adeg pan fyddwch yn ‘ein bodloni’ nad ydych ag offeryn ESS ‘yn eich meddiant’ mwyach
  • os ydych wedi cyflenwi offeryn ESS, ond nad oeddech yn ymwybodol mai offeryn ESS ydoedd
  • os ydych wedi’ch dyfarnu’n euog o drosedd oherwydd eich bod wedi cymryd rhan mewn ESS

Sut rydym yn cyfrifo swm y gosb

Rydym yn cyfrifo’r cosbau am fod ag offeryn ESS ‘yn eich meddiant’ yn wahanol i’r cosbau am greu, cyflenwi neu hyrwyddo offeryn ESS.

Cosb am fod ag offeryn ESS yn eich meddiant

Gallwn godi hyd at £1000 ar gyfer y gosb benodol gychwynnol. Byddwn yn codi cosb yn ôl pa mor ddifrifol yw’r math hwn o osgoi treth, ac i ba raddau y bodlonir ein cais i ddileu’r offeryn.

Gallwn hefyd godi cosbau dyddiol o hyd at £75 y dydd. Bydd y swyddog sy’n ysgrifennu atoch yn penderfynu faint bydd y gyfradd ddyddiol bob tro y mae’n codi’r cosbau arnoch.

Os ydym eisoes wedi codi cosb ESS arnoch yn ystod y 5 mlynedd diwethaf, ein polisi yw codi’r gosb benodol lawn o £1000 arnoch. Ar ôl i ni godi’r gosb benodol o £1000, bydd y gyfradd gosb ddyddiol fel arfer yn £75 y dydd.

Cosb am greu, cyflenwi neu hyrwyddo offeryn ESS

Gallwn godi cosb arnoch o hyd at uchafswm o £50,000. Mae’r gosb uchaf hon yn berthnasol i bob offeryn ESS yr ydych wedi ymwneud ag ef. Mae hefyd yn berthnasol bob tro rydych yn creu, yn cyflenwi neu’n hyrwyddo offeryn ESS.

Byddwn yn codi canran o swm y gosb uchaf. Bydd y ganran hon yn seiliedig ar:

  • y mathau gwahanol o offerynnau ESS sy’n bodoli — esbonnir hyn ym mhwynt 1 isod
  • y math o ddatgeliad a wnewch — esbonnir hyn ym mhwynt 2 isod
  • ‘ansawdd y datgeliad’ a wnewch — esbonnir hyn ym mhwynt 4 isod

Mae 6 cam rydym yn eu dilyn er mwyn cyfrifo canran derfynol y gosb. Esbonnir pob cam isod.

1 Penderfynu natur yr offeryn ESS

Pan fyddwn yn edrych ar offeryn ESS, byddwn yn seilio’r gosb ar ba mor gymhleth yw’r offeryn. Mae hyn yn cynnwys sut y gweithredir yr offeryn, yn ogystal â pha mor hawdd yw gweld data’r gwerthiannau cuddiedig.

Cymhlethdod isel

Mae’r categori hwn yn berthnasol i offerynnau ESS sy’n bresennol yn y system adeg werthu neu yn y system cofrestr arian electronig, neu i offerynnau ESS y gallwn eu hadnabod drwy ddogfennaeth neu gyfarwyddiadau.

Bydd manylion y trafodion gwreiddiol yn cael eu dal yn y system o hyd. Bydd hi’n syml i ni weld pa gofnodion sydd wedi’u cuddio, a sut mae’r offeryn wedi’i addasu’r data.

Y gosb uchaf ar gyfer y categori hwn yw 40% o’r gosb uchaf o £50,000.

Cymhlethdod canolig

Mae’r categori hwn yn berthnasol i offerynnau ESS sy’n bresennol yn y system adeg werthu neu yn y system cofrestr arian electronig, na allwn eu hadnabod drwy ddogfennaeth neu gyfarwyddiadau.

Mae hefyd yn berthnasol i offerynnau nad ydynt yn bresennol yn y system adeg werthu nac yn y system cofrestr arian electronig, ond sy’n dal i fod yn rhan o’ch seilwaith TG, eich caledwedd, eich meddalwedd, neu’ch systemau.

Efallai na fydd manylion y trafodion gwreiddiol yn cael eu dal yn y system o hyd. Fodd bynnag, bydd hi’n syml i ni weld sut mae’r offeryn wedi addasu’r data.

Y gosb uchaf ar gyfer y categori hwn yw 80% o’r gosb uchaf o £50,000.

Cymhlethdod uchel

Mae’r categori hwn yn berthnasol i offerynnau nad ydynt yn bresennol yn y system adeg werthu nac yn y system cofrestr arian electronig, ac sy’n cael eu gweithredu o bell. Gall hyn gynnwys rhedeg yr offeryn drwy’r rhyngrwyd o leoliad arall, neu o ddyfais ar wahân, er enghraifft, cof bach, neu gysylltiad dros dro â chyfrifiadur neu ddyfais symudol.

Efallai na fydd manylion y trafodion gwreiddiol yn cael eu dal yn y system o hyd. Ni fydd hi’n syml i ni weld sut mae’r offeryn wedi addasu’r data.

Y gosb uchaf ar gyfer y categori hwn yw 100% o’r gosb uchaf o £50,000.

2 Penderfynu a oedd eich datgeliad yn un ‘heb ei annog’ neu’n un ‘wedi’i annog’

Mae hyn yn pennu canran isaf y gosb y byddwn yn ei chodi.

Os rhowch wybod i ni eich bod wedi cymryd rhan mewn ESS cyn eich bod yn credu ein bod ar fin darganfod hynny, rydym yn galw hyn yn ‘ddatgeliad heb ei annog’. Os rhowch wybod i ni ar unrhyw adeg arall, rydym yn galw hyn yn ‘ddatgeliad wedi’i annog’. Ar ôl i ni ddechrau gwiriad, mae’n bosibl y byddwn yn dal i benderfynu bod datgeliad yn un heb ei annog. Byddem yn gwneud hynny o dan yr amgylchiadau canlynol yn unig:

  • mae’r datgeliad yn ymwneud ag offeryn ESS nad yw’n gysylltiedig â’r un rydym yn ei wirio

  • nid oedd gennych le i gredu y byddem yn dysgu am yr offeryn ESS yn ystod ein gwiriad

Mae’r gosb isaf y byddwn yn ei chodi ar gyfer datgeliad heb ei annog yn is na’r gosb isaf ar gyfer datgeliad wedi’i annog.

3 Penderfynu ar ystod y gosb

Mae’r ddau gam cyntaf uchod yn golygu y bydd canran y gosb yn syrthio i mewn i un o 6 ystod.

Mae’r ystod yn dibynnu ar natur yr offeryn ESS a p’un a wnaethoch ddatgeliad ‘wedi’i annog’ neu ‘heb ei annog’. Mae’r tabl hwn yn dangos y 6 ystod cosb.

Natur yr offeryn ESS Datgeliad heb ei annog Datgeliad wedi’i annog
Cymhlethdod isel 10% i 40% 20% i 40%
Cymhlethdod canolig 30% i 80% 45% i 80%
Cymhlethdod uchel 50% i 100% 70% i 100%

4 Cyfrifo’r gostyngiadau ar gyfer ‘ansawdd y datgeliad’

Gallwn ostwng swm unrhyw gosb a godwn arnoch, yn dibynnu ar ein barn ynghylch faint o gymorth a roesoch i ni. Rydym yn cyfeirio at y cymorth hwn fel ‘ansawdd y datgeliad’, neu fel ‘dweud, helpu a rhoi’.

Mae enghreifftiau o sut y gallwch wneud datgeliad yn cynnwys:

  • rhoi i ni fanylion llawn ynghylch eich rhan mewn ESS
  • rhoi gwybod i ni sut mae’r offeryn ESS yn gweithio
  • ein helpu i adnabod y partïon eraill sydd ynghlwm wrth greu, cyflenwi neu hyrwyddo’r offeryn ESS
  • rhoi i ni fynediad at restrau o ddefnyddwyr, cyflenwyr, neu hyrwyddwyr

Byddwn yn gostwng y gosb gan y swm uchaf posibl os byddwch yn dweud cymaint ag y gallwch ynghylch y rhan a gymeroch mewn ESS. Yr enw ar hyn yw’r ‘gostyngiad mwyaf’.

Os byddwch yn oedi cyn gwneud datgeliad, mae’n bosibl y byddwn yn gostwng eich cosb o hyd, ond bydd y gostyngiad yn un llai. Os nad oes angen unrhyw gymorth ychwanegol arnom oddi wrthych, byddwn yn rhoi rhywfaint o ostyngiad i chi am ‘ddweud, helpu a rhoi’.

Mae’r gostyngiad a rown yn dibynnu ar faint o gymorth a rowch i ni. Ar gyfer:

  • dweud, rydym yn rhoi hyd at 30% o’r gostyngiad mwyaf
  • helpu, rydym yn rhoi hyd at 40% o’r gostyngiad mwyaf
  • rhoi mynediad at gofnodion, rydym yn rhoi hyd at 30% o’r gostyngiad mwyaf

Byddwn yn gwneud gostyngiad bach yn unig, neu ddim gostyngiad o gwbl, am ansawdd y datgeliad, os byddwch yn:

  • oedi wrth roi i ni’r wybodaeth sydd ei hangen arnom
  • rhoi atebion camarweiniol i ni
  • ei gwneud hi’n anodd i ni gwblhau ein gwiriad

Wrth ystyried ansawdd eich datgeliad, byddwn hefyd yn ystyried pa mor hir y mae wedi’i gymryd i chi wneud y datgeliad. Os ydych wedi cymryd cryn amser i gywiro neu ddatgelu’r hyn sydd o’i le (er enghraifft, 3 blynedd neu fwy), byddwn fel arfer yn cyfyngu ar y gostyngiad mwyaf a rown am ansawdd y datgeliad. Byddwn yn cyfyngu ar y gostyngiad mwyaf i 10 pwynt canrannol yn llai na’r gostyngiad mwyaf. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn cael cyfradd ganrannol isaf y gosb sydd fel arfer ar gael. Gallwch weld sut mae hyn yn gweithio yn yr enghraifft isod.

5 Cyfrifo cyfradd ganrannol y gosb

Pennir cyfradd ganrannol y gosb gan ystod y gosb a’r gostyngiad ar gyfer ansawdd y datgeliad.

Enghraifft

Daethom o hyd i offeryn cymhlethdod isel, ac adnabod y cyflenwr. Nid oedd y cyflenwr wedi rhoi gwybod i ni ei fod yn cymryd rhan mewn ESS cyn i ni gysylltu ag ef. Pan wnaethom roi gwybod iddo am yr offeryn, cytunodd ei fod wedi’i gyflenwi, a rhoddodd wybod i ni sut roedd yr offeryn yn gweithio ac i bwy yr oedd wedi’i gyflenwi. Roedd hwn yn ddatgeliad wedi’i annog.

Cymerodd 4 blynedd i wneud y datgeliad hwn i ni. Mae hyn yn golygu ei fod wedi cymryd 4 blynedd i roi gwybod i ni ei fod wedi cyflenwi offeryn ESS.

Ystod y gosb ar gyfer offeryn cymhlethdod isel, gyda datgeliad wedi’i annog, yw 10% i 40% o’r gosb uchaf o £50,000. Fodd bynnag, oherwydd i’r cyflenwr gymryd 4 blynedd i wneud datgeliad, y gosb isaf y byddwn yn ei chodi fydd 20% ar y lleiaf.

Roedd y gostyngiad ar gyfer ansawdd y datgeliad (dweud, helpu a rhoi) yn 80%.

Camau Enghraifft o gyfrifiad
I gyfrifo cyfradd ganrannol y gosb, yn gyntaf rydym yn cyfrifo’r gwahaniaeth rhwng cyfraddau canrannol isaf ac uchaf y gosb. Yr enw ar hyn yw’r gostyngiad mwyaf. Uchafswm o 40% llai’r isafswm o 10% = gostyngiad mwyaf o 30%
Rydym wedyn yn cyfyngu ar y gostyngiad mwyaf gan 10%, oherwydd iddi gymryd 4 blynedd i ddatgeliad gael ei wneud. Yr enw ar hyn yw’r gostyngiad mwyaf o dan gyfyngiad. Mae’r gostyngiad mwyaf o 30% wedi’i ostwng 10%
Nawr, y gostyngiad mwyaf o dan gyfyngiad yw 20%
Rydym wedyn yn cymhwyso gostyngiad ‘ansawdd y datgeliad’ i’r gostyngiad mwyaf o dan gyfyngiad, er mwyn cyfrifo canran y gostyngiad. 80% wedi’i lluosi ag 20% = 16%
Yna, rydym yn didynnu canran y gostyngiad oddi wrth ganran uchaf y gosb y gallwn ei chodi. Uchafswm o 40% llai’r gostyngiad o 16% = 24%
Mae hyn yn rhoi cyfradd ganrannol y gosb i ni. 24%

6 Cyfrifo swm y gosb

I gyfrifo swm y gosb, rydym yn lluosi’r gosb uchaf â chyfradd ganrannol y gosb. Gan ddefnyddio’r enghraifft uchod, os nad oedd unrhyw ostyngiadau eraill, y gosb fyddai £12,000 (£50,000 × 24% = £12,000).

Amgylchiadau arbennig

Pan godwn y naill fath o gosb ESS neu’r llall, byddwn yn dilyn y camau uchod. Bydd hyn yn cymryd i ystyriaeth amgylchiadau perthnasol y rhan fwyaf o achosion ESS. Os ydym o’r farn bod unrhyw amgylchiadau sy’n gofyn i ni godi cosb lai nag y byddem fel arfer yn ei chodi, byddwn yn gostwng y gosb. Yr enw ar hyn yw ‘gostyngiad arbennig’, a dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y gellir ei gymhwyso.

Sut y byddwn yn rhoi gwybod i chi am gosb

Byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod faint yw’r gosb a sut rydym wedi’i chyfrifo. Os oes unrhyw beth ynglŷn â’r gosb nad ydych yn cytuno ag ef, neu os oes gennych wybodaeth rydych yn credu ein bod heb ei gweld hyd yma, dylech roi gwybod i ni ar unwaith.

Ar ôl i ni edrych ar unrhyw wybodaeth rydych wedi’i rhoi i ni, byddwn yn anfon hysbysiad o asesiad o gosb atoch, yn dangos y swm rydym yn codi arnoch.

Os ydych yn anghytuno

Os oes rhywbeth nad ydych yn cytuno ag ef, rhowch wybod i ni.

Os byddwn yn gwneud penderfyniad y gallwch apelio yn ei erbyn, byddwn yn ysgrifennu atoch ynghylch y penderfyniad ac yn rhoi gwybod i chi beth i’w wneud os ydych yn anghytuno. Fel arfer, bydd gennych 3 ffordd o roi gwybod i ni eich bod yn anghytuno. Cyn pen 30 diwrnod, gallwch wneud y canlynol:

  • anfon gwybodaeth newydd at y swyddog sy’n delio â’r gwiriad, a gofyn iddo edrych arni
  • cael eich achos wedi’i adolygu gan un o swyddogion CThEF na fu’n ymwneud â’r mater cyn hyn
  • trefnu bod tribiwnlys annibynnol yn gwrando ar eich apêl ac yn penderfynu ar y mater

Eich hawliau os ydym yn ystyried cosbau

Mae’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn rhoi hawliau penodol i chi pan fyddwn yn ystyried a ddylid codi cosbau arnoch am greu, cyflenwi neu hyrwyddo offeryn ESS. Mae’r hawliau hyn fel a ganlyn:

  • os byddwn yn gofyn cwestiynau i chi er mwyn ein helpu i benderfynu a ddylem godi cosb arnoch, nid oes yn rhaid i chi eu hateb
  • gallwch benderfynu faint o help i’w roi i ni wrth i ni ystyried cosbau

  • os byddwch yn penderfynu ateb ein cwestiynau, efallai y byddwch am gael cyngor gan ymgynghorydd proffesiynol — yn arbennig os nad oes un gennych yn barod
  • os ydych yn anghytuno â ni ynglŷn â’r cosbau a godwn arnoch, gallwch apelio
  • gallwch wneud cais am gynhorthwy cyfreithiol a ariennir er mwyn delio ag apêl yn erbyn rhai cosbau penodol
  • mae gennych hawl i ddisgwyl i ni ddelio â mater sy’n ymwneud â chosbau heb oedi afresymol

Mae rhagor o wybodaeth am yr hawliau hyn yn nhaflen wybodaeth CC/FS9, ‘Y Ddeddf Hawliau Dynol a chosbau’. Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘CC/FS9’.

Yr hyn y gallwch ei wneud i osgoi cosb yn y dyfodol

Gallwch osgoi cosb drwy wneud y canlynol:

  • peidio â gosod offeryn ESS ar unrhyw ddyfais sydd gennych ar unrhyw adeg
  • peidio â newid na ffurfweddu gosodiadau o fewn eich system adeg werthu electronig (EPOS) sy’n creu neu’n actifadu offeryn ESS
  • peidio â chael at, neu geisio cael at, offeryn ESS sydd wedi’i osod ar ddyfais sy’n eiddo i rywun arall
  • peidio â defnyddio’r swyddogaethau sydd ar gael ar eich system EPOS i ostwng eich gwerthiannau, oni bai bod rheswm dilys dros wneud hynny

Dylech hefyd cadw cofnodion busnes sy’n llawn ac yn gywir. Mae hyn yn golygu y gallwch ddangos i ni’r hyn y mae angen i ni ei weld os gofynnwn amdano, ac y gallwch ein helpu i gwblhau unrhyw wiriadau cydymffurfio yn gynt.

Rhagor o wybodaeth

Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhan o gyfres. I weld rhestr o’r taflenni gwybodaeth Cymraeg, ewch i www.gov.uk/guidance/arweiniad-a-thaflenni-gwybodaeth-cthem ac edrych o dan y pennawd ‘Gwiriadau cydymffurfio’.

Os nad ydych yn fodlon ar ein gwasanaeth

Rhowch wybod i’r person neu’r swyddfa rydych wedi bod yn delio â nhw. Byddant yn ceisio unioni pethau. Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, byddant yn rhoi gwybod i chi sut i wneud cwyn ffurfiol.

Ein hysbysiad preifatrwydd

Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu’n cadw gwybodaeth amdanoch. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘HMRC Privacy Notice’.