Canllawiau

Gwiriadau cydymffurfio: tollau a masnach ryngwladol — CC/FS1g

Diweddarwyd 1 April 2022

Gwybodaeth gyffredinol am wiriadau cydymffurfio ar gyfer materion tollau a masnach ryngwladol

Rydym wedi gofyn i chi ddarllen y daflen wybodaeth hon am ein bod wedi dechrau gwiriad cydymffurfio. Cadwch hi’n ddiogel – efallai y bydd yn rhaid i chi gyfeirio ati yn ystod y gwiriad.

Mae gwiriad cydymffurfio yn ein galluogi i wirio bod yr holl faterion sy’n ymwneud â thollau a masnach ryngwladol yn gywir, gan gynnwys gwirio eich bod yn talu’r swm cywir o dreth. Os ydych wedi talu gormod, byddwn yn eich helpu i gael ad-daliad, ac os ydych wedi talu rhy ychydig, byddwn yn eich helpu i unioni hyn.

Rydym yn cynnal rhai mathau o wiriadau dros y ffôn. Pe bai’n well gennych ein bod yn ysgrifennu atoch yn lle hynny, gallwch ofyn i ni wneud hynny os byddwn yn eich ffonio. Efallai y byddwn yn gofyn i chi roi gwybodaeth neu ddogfennau i ni er mwyn helpu gyda’r gwiriad.

Os oes angen help arnoch

Os yw’n bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu’ch iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio â ni, rhowch wybod i’r swyddog sydd wedi cysylltu â chi. Byddwn yn eich helpu ym mha ffordd bynnag y gallwn. I gael rhagor o fanylion, ewch i www.gov.uk/cael-help-cthem-cymorth-ychwanegol.

Gallwch hefyd ofyn i rywun arall ddelio â ni ar eich rhan, er enghraifft, ymgynghorydd proffesiynol, ffrind neu berthynas. Fodd bynnag, efallai y bydd dal angen i ni siarad â chi neu ysgrifennu atoch yn uniongyrchol am rai pethau. Os bydd angen i ni ysgrifennu atoch, byddwn yn anfon copi at yr unigolyn rydych wedi gofyn i ni ddelio ag ef. Os bydd angen i ni siarad â chi, caiff yr unigolyn hwnnw fod gyda chi pan fyddwn yn gwneud hynny, pe bai’n well gennych.

Yn ystod y gwiriad cydymffurfio ar gyfer tollau

Pan fyddwn yn dechrau’r gwiriad, byddwn yn rhoi gwybod i chi beth sydd ei angen arnom.

Gall y gwiriadau hyn gynnwys ymweld â’ch safle busnes i wneud y canlynol:

  • archwilio nwyddau a dogfennau sy’n ymwneud â thollau a masnach ryngwladol
  • gofyn am wybodaeth am nwyddau neu wasanaethau yn y gadwyn gyflenwi ryngwladol yr ydych yn eu darparu, neu y byddwch yn eu darparu
  • gwirio eich bod yn cydymffurfio ag unrhyw gymeradwyaeth, awdurdodiad, cofrestriad neu drwydded gysylltiedig â’r tollau sydd gennych, neu yr ydych wedi gwneud cais amdanynt – weithiau rydym yn cynnal yr ymweliadau hyn ar ran un o adrannau eraill y llywodraeth, pan fo’r drwydded yn ymwneud â mewnforio neu allforio nwyddau

Gallwn hefyd ofyn am ragor o wybodaeth, megis:

  • cyfrifon
  • cofnodion banc
  • gwaith papur sy’n ymwneud â mewnforio ac allforio
  • contractau
  • manylion nwyddau
  • dogfennau busnes eraill

Os na allwn gytuno â chi ynghylch anfon gwybodaeth neu ddogfennau atom, neu ynghylch ymweld â’ch safle busnes, efallai y bydd yn rhaid i ni ddefnyddio ein pwerau cyfreithiol i gael yr hyn sydd ei angen arnom. Ni allwch ddewis anwybyddu hysbysiad gwybodaeth neu hysbysiad o archwiliad os rhoddwn un i chi, ond mae rhai camau diogelu ar eich cyfer pan fyddwn yn defnyddio ein pwerau cyfreithiol.

Os byddwn yn ymweld â chi, mae’n rhaid i chi adael i ni ddod i mewn i’ch safle busnes. Fel arfer, byddwn ond yn ymweld â chi yn eich cartref os ydych yn rhedeg eich busnes oddi yno neu os oes nwyddau’n cael eu storio yno. Er y byddwn fel arfer yn gwneud apwyntiad ar amser sy’n gyfleus i bawb, nid oes rhaid i ni roi gwybod i chi am ymweliad ymlaen llaw. Yn ystod ymweliad, gallwn wneud y canlynol:

  • dechrau drwy drafod y gwahanol agweddau ar y busnes
  • archwilio’ch cofnodion busnes
  • cymryd manylion cyflenwadau a wnaed i chi neu gennych chi er mwyn gwirio’r ymdriniaeth gywir o ran tollau yng nghofnodion eich cyflenwyr neu’ch cwsmeriaid
  • gwirio rhannau penodol o’r safle, neu fannau yn y busnes lle y gwneir gwaith gweinyddol, pan fo’r rhain yn berthnasol i gymeradwyaeth, awdurdodiad, cofrestriad neu drwydded sydd gennych neu yr ydych wedi gwneud cais amdanynt
  • archwilio’r safle yn ogystal ag unrhyw nwyddau ar y safle
  • cymryd samplau er mwyn helpu i ddosbarthu ac adnabod y nwyddau
  • rhoi nodyn ar nwyddau, dogfennau neu eitemau er mwyn dangos ein bod wedi’u harchwilio
  • gofyn am eich help wrth gynnal archwiliad ar y safle
  • cadw neu atafaelu nwyddau sydd gennych y pennir eu bod yn groes i’r gyfraith tollau

Gallwch siarad â’r swyddog sy’n delio â’r gwiriad os oes un neu fwy o’r canlynol yn berthnasol:

  • nid ydych yn siŵr pam yr ydym yn gofyn am rywbeth
  • nid ydych yn gallu gwneud yr hyn a ofynnwn
  • rydych yn meddwl bod rhywbeth yr ydym wedi gofyn amdano’n afresymol neu’n amherthnasol i’r gwiriad
  • mae gennych gwestiynau eraill yn ystod unrhyw gam o’r gwiriad

Os byddwn yn dod o hyd i rywbeth sydd o’i le, byddwn yn gweithio gyda chi i unioni pethau. Byddwn yn:

  • esbonio a thrafod unrhyw faterion sy’n peri pryder, ac yn cytuno ar unrhyw gamau pellach
  • rhoi gwybod i chi am unrhyw symiau a ordalwyd neu a dandalwyd, ac yn esbonio sut y gellir gwneud y taliad neu’r hawliad
  • anfon gorchymyn os oes taliad i’w wneud
  • anfon llythyr i gadarnhau’r hyn rydym wedi’i ganfod, yn ogystal â chamau gweithredu neu argymhellion y cytunwyd arnynt os yw hynny’n briodol

Yn ystod gwiriad, ni fydd amser gan y swyddog fel arfer i edrych ar bob un o’ch cofnodion, ac mae’n bosibl na fydd yn sylwi ar bob camgymeriad sydd yn eich cyfrifon. Peidiwch â thybio ar ddiwedd unrhyw wiriad eich bod yn rhoi cyfrif am bob treth a tholl yn gywir.

I gael rhagor o wybodaeth am y broses gwirio cydymffurfiad, ewch i www.gov.uk/guidance/hmrc-compliance-checks-help-and-support.cy.

Defnyddio deunydd cod agored yn ystod gwiriad cydymffurfio

Gallwn arsylwi ar ddata’r rhyngrwyd, sydd ar gael i bawb, yn ogystal â monitro, cofnodi a chadw’r data hynny. Gelwir hwn yn ddeunydd ‘cod agored’, ac mae’n cynnwys adroddiadau newyddion, gwefannau, cofnodion Tŷ’r Cwmnïau a’r Gofrestrfa Tir, blogiau a safleoedd rhwydweithio cymdeithasol lle nad oes unrhyw osodiadau preifatrwydd wedi’u defnyddio.

Ein hysbysiad preifatrwydd

Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu’n cadw gwybodaeth amdanoch. Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘HMRC privacy notice’.

Os oes angen rhagor o amser arnoch

Os ydym wedi gofyn i chi wneud rhywbeth a bod angen mwy o amser arnoch, rhowch wybod i ni. Efallai y byddwn yn cytuno i ganiatáu amser ychwanegol os oes rheswm da, er enghraifft, os ydych yn ddifrifol sâl neu os oes rhywun agos atoch wedi marw.

Gwybodaeth a dogfennau y gallwn ofyn amdanynt

Gallwn archwilio unrhyw ddogfennau sy’n ymwneud â’r busnes. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth sy’n cael ei chadw ar gyfrifiaduron neu ar ddyfeisiau storio data.

Rhaid i chi roi i ni unrhyw wybodaeth neu ddogfennau y gofynnwn amdanynt sy’n ymwneud â’r busnes. Os byddwch yn methu â rhoi i ni’r wybodaeth neu’r dogfennau y gofynnwyd amdanynt, gallwn godi cosb arnoch.

Mae gennym yr hawl i fynd ag unrhyw gofnodion ymaith. Os byddwn yn mynd ag unrhyw gofnodion gwreiddiol ymaith, byddwn yn rhoi derbynneb i chi, yn cadw’r cofnodion yn ddiogel ac yn eu dychwelyd i chi cyn gynted ag y gallwn. Os bydd angen i chi eu cael yn ôl yn gynt, gwnawn gopïau a rhoi’r rhain i chi.

Ymholiadau trydydd parti

Weithiau, efallai y bydd yn rhaid i ni gasglu gwybodaeth gan bobl eraill sy’n berthnasol i’ch nwyddau neu’ch gwasanaethau. Os gwnawn hyn, ni fyddwn yn datgelu unrhyw beth amdanoch yn ychwanegol i’r hyn sy’n angenrheidiol er mwyn cael yr wybodaeth sydd ei hangen arnom.

Ynglŷn â’r cosbau y gallwn eu codi

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cosb os canfyddir eich bod wedi torri cyfraith tollau’r Undeb Ewropeaidd a’r DU o ran mewnforio, allforio a dal neu brosesu nwyddau sydd o dan oruchwyliaeth tollau. Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:

  • torri rheoliadau tollau
  • methiant i gydymffurfio ag unrhyw gymeradwyaeth, awdurdodiad, cofrestriad neu drwydded sy’n ymwneud â thollau
  • camddatganiadau
  • methiant i gydymffurfio â gweithdrefn tollau
  • methiant i roi gwybodaeth
  • methiant i gadw cofnodion
  • Ffurflenni Treth neu ddogfennau gwallus
  • symud nwyddau o oruchwyliaeth tollau heb awdurdod

Mae rhagor o wybodaeth am gosbau yn ‘Notice 300: customs civil investigation of suspected evasion’ ac yn ‘Notice 301: civil penalties for contraventions of customs law’. Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘Notice 300’ neu ‘Notice 301’.

Os ydych yn anghytuno

Os ydych yn anghytuno ag unrhyw beth yn ystod y gwiriad, dylech roi gwybod am yr hyn yr ydych yn anghytuno yn ei gylch, a pham, i’r swyddog sy’n delio â’r gwiriad.

Cyn cyhoeddi penderfyniad, byddwn fel arfer yn ysgrifennu atoch gan esbonio ein penderfyniad arfaethedig a’r rhesymau drosto. Mae gennych 30 diwrnod i ymateb os anghytunwch. Pan fyddwn wedi cael eich ateb, neu ar ôl 30 diwrnod (p’un bynnag sydd gynharaf), byddwn yn gwneud ein penderfyniad, gan ystyried unrhyw wybodaeth bellach a roddir neu unrhyw faterion a godir.

Gallwch apelio yn erbyn y rhan fwyaf o’r penderfyniadau a wnawn. Byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod pan fyddwn yn gwneud penderfyniad y gallwch apelio yn ei erbyn. Byddwn hefyd yn esbonio’r penderfyniad ac yn dweud wrthych beth i’w wneud os ydych yn anghytuno.

Mae rhagor o wybodaeth am hyn yn nhaflen wybodaeth HMRC1, ‘Penderfyniadau Cyllid a Thollau EM – beth i’w wneud os anghytunwch’. Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘HMRC1’.

Os yw’r penderfyniad yn ymwneud â dychwelyd nwyddau a atafaelwyd oddi wrthych, ewch i www.gov.uk/customs-seizures.

Yr hyn a fydd yn digwydd os byddwch yn rhoi gwybodaeth i ni gan wybod ei bod yn anwir

Mae’n bosibl y gwnawn gynnal ymchwiliad troseddol gyda’r bwriad o’ch erlyn, os byddwch yn:

  • rhoi gwybodaeth i ni gan wybod ei bod yn anwir, boed ar lafar neu mewn dogfen
  • datgan swm anghywir o doll yn anonest, neu’n hawlio taliadau nad oes gennych yr hawl iddynt

Eich prif hawliau ac ymrwymiadau

Mae gennych:

  • yr hawl i gael eich cynrychioli – gallwch awdurdodi unrhyw un i weithredu ar eich rhan
  • dyletswydd i gymryd gofal rhesymol i gael pethau’n iawn − os oes gennych ymgynghorydd, mae’n dal i fod yn rhaid i chi gymryd gofal rhesymol er mwyn sicrhau bod unrhyw Ffurflenni Treth, dogfennau neu fanylion eraill a anfonir atom ar eich rhan yn gywir

Mae ‘Siarter CThEM’ yn egluro’r hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym ni, a’r hyn a ddisgwyliwn gennych chi. I gael rhagor wybodaeth, ewch i www.gov.uk/government/publications/hmrc-charter.cy.

Gwiriadau cydymffurfio y mae’r daflen wybodaeth hon yn ymwneud â nhw

Mae’r daflen wybodaeth hon yn ymwneud â gwiriadau cydymffurfio ynghylch y canlynol:

Ardoll Amaethyddol
Ardoll Gwrth-ddympio
Cytundebau Masnach Ffafriol
Llog Digolledu
Nwyddau wedi’u Gwahardd a Nwyddau o dan Gyfyngiadau
Taliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin
TAW mewnforio
Toll Dramor
Toll Wrthbwyso
Tramwy’r Gymuned
Trwyddedau Mewnforio ac Allforio

Rhagor o wybodaeth

Os ydych yn anfodlon ar ein gwasanaeth

Rhowch wybod i’r person neu’r swyddfa rydych wedi bod yn delio â nhw. Byddant yn ceisio unioni pethau. Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, byddant yn dweud wrthych sut i wneud cwyn ffurfiol.

Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhan o gyfres. I weld rhestr o’r taflenni gwybodaeth Cymraeg, ewch i www.gov.uk/guidance/arweiniad-a-thaflenni-gwybodaeth-cthem ac edrych o dan y pennawd ‘Gwiriadau cydymffurfio’.