Canllawiau

Gwiriadau cydymffurfio: Cynllun y Diwydiant Adeiladu - cosbau am gofrestru anwir - CC/FS41

Cyhoeddwyd 29 September 2017

Mae’r daflen wybodaeth hon yn cynnwys gwybodaeth am y gosb neu’r cosbau y byddwn yn ei chodi/eu codi os ydych wedi gwneud un o’r canlynol:

  • rhoi gwybodaeth anwir
  • cyflwyno dogfennau anwir

er mwyn cofrestru am daliad ar ôl didynnu treth, neu statws taliad gros yng Nghynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS).

Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhan o gyfres o daflenni gwybodaeth ar wiriadau cydymffurfio.

Amodau cofrestru

Mae’n rhaid i isgontractwyr roi manylion busnes a manylion adnabod os ydynt yn:

  • cofrestru o fewn CIS ar gyfer taliadau ar ôl didynnu treth
  • cofrestru o fewn CIS ar gyfer statws taliadau gros

Mae’n rhaid iddynt hefyd gadarnhau eu trosiant o waith yn ymwneud â gweithrediadau adeiladu yn ystod y 12 mis blaenorol. Mae trosiant yn golygu incwm ond nid yw’n cynnwys cost uniongyrchol y deunydd a ddarperir.

Mae’n bosibl y bydd Gyllid a Thollau EM (CThEM) yn gwneud cais am wybodaeth a roddir yn ystod cofrestriad. Byddwn yn dileu’ch cofrestriad os ydych wedi gwneud un o’r canlynol:

  • rhoi gwybodaeth gan wybod ei bod yn anwir
  • cyflwyno unrhyw ddogfen sy’n anwir
  • ddim ymateb i geisiadau am dystiolaeth ddogfennol i ategu’ch cais

Daw’r dilead hwn i rym ar unwaith.

Byddwn hefyd yn ystyried cosb am gofrestru anwir.

Cosbau am gofrestru anwir

Byddwn yn codi cosb o £3,000 arnoch os rhowch wybodaeth neu ddogfennau i ni am eich hunaniaeth, eich busnes neu’ch trosiant:

  • yn fyrbwyll
  • neu yr ydych yn gwybod ei/eu bod yn anwir, ac yna’n gwneud un o’r canlynol:
    • rhoi gwybodaeth neu ddogfennau anwir pellach i ni
    • peidio ag ateb ein ceisiadau na rhoi’r wybodaeth yr ydym wedi gofyn amdani

Fodd bynnag, byddwn yn codi llog o £2,000 os bydd un o’r canlynol yn berthnasol:

  • ni allwch gyflwyno dogfennau boddhaol
  • rydych yn cadarnhau bod eich cofrestriad gwreiddiol yn cynnwys gwybodaeth neu ddogfennau anwir am un o’r canlynol:
    • eich hunaniaeth a’ch busnes
    • eich busnes a’ch trosiant

Byddwn yn codi cosb o £1,000 os yw’r wybodaeth anwir a/neu’r dogfennau anwir yn ymwneud ag un o’r canlynol:

  • eich hunaniaeth
  • y busnes
  • y trosiant

Yr hyn sy’n digwydd pan godwn gosb arnoch

Byddwn yn anfon cyfrifiad atoch i ddangos y swm y credwn sy’n ddyledus. Byddwn yn ceisio cytuno’r swm hwn gyda chi. Byddwn yn anfon hysbysiad o asesiad o gosb atoch neu efallai y byddwn yn gofyn i chi drefnu cytundeb gyda ni er mwyn talu’r gosb.

Yr hyn sy’n digwydd os ydych wedi gwneud rhywbeth yn anghywir yn fwriadol

Mae’n bosibl y gwnawn gynnal ymchwiliad troseddol gyda’r bwriad o’ch erlyn, pe byddwch yn gwneud un o’r canlynol:

  • rhoi gwybodaeth i ni gan wybod ei bod yn anwir, p’un a’i ar lafar neu mewn dogfen
  • cam-gyfleu’ch rhwymedigaeth i dreth mewn ffordd anonest
  • gwneud cais am daliadau nad oes gennych yr hawl iddynt

Rheoli Diffygdalwyr Difrifol

Os ydych wedi gwneud gwallau bwriadol, efallai y bydd yn rhaid i ni fonitro’ch materion treth yn fwy manwl.

Mae gennym raglen fonitro manylach o’r enw ‘Rheoli Diffygdalwyr Difrifol’. Mae rhagor o wybodaeth am hyn yn nhaflen wybodaeth CC/FS14, managing serious defaulters.

Yr hyn i’w wneud os anghytunwch

Os nad ydych yn cytuno â rhywbeth, dylech roi gwybod i ni.

Os ydym yn gwneud penderfyniad y gallwch apelio yn ei erbyn, byddwn yn ysgrifennu atoch i esbonio’r penderfyniad a rhoi gwybod beth i’w wneud os ydych yn anghytuno. Fel arfer, bydd gennych 3 opsiwn. Cyn pen 30 diwrnod, gallwch wneud y canlynol:

  • anfon gwybodaeth newydd at y swyddog y buoch yn delio ag ef, a gofyn iddo ei ystyried
  • cael eich achos wedi’i adolygu gan swyddog CThEM na fu’n ymwneud â’r mater
  • trefnu bod tribiwnlys annibynnol yn gwrando ar eich apêl ac yn dod i benderfyniad ar y mater

Pa bynnag un a ddewiswch, mae’n bosibl y gallwch hefyd ofyn i un o swyddogion arbenigol CThEM weithredu fel hwylusydd diduedd er mwyn helpu i ddatrys yr anghydfod. Gelwir y broses hon yn ‘Ddull Amgen o Ddatrys Anghydfod’ (Alternative Dispute Resolution, neu ADR).

Dim ond ar gyfer anghydfodau sy’n ymwneud â rhai o’r trethi a’r meysydd eraill yr ydym yn eu gweinyddu y mae’r dull hwn ar gael. Bydd y swyddog sy’n delio â’ch gwiriad yn rhoi gwybod i chi a yw ADR ar gael ar gyfer y mater yr ydych yn dadlau yn ei gylch.

Gweler taflenni gwybodaeth HMRC1 a CC/FS21 i gael rhagor o wybodaeth am y canlynol:

Eich hawliau pan fyddwn yn ystyried cosbau

Mae’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn rhoi rhai hawliau pwysig i chi. Os ydym yn ystyried cosbau, byddwn yn rhoi gwybod i chi. Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi fod yr hawliau hynny’n gymwys, ac yn gofyn i chi gadarnhau eich bod yn eu deall. Mae’r hawliau hynny fel a ganlyn:

  • os byddwn yn gofyn unrhyw gwestiynau i chi i’n helpu i benderfynu p’un ai i godi cosb arnoch, mae gennych yr hawl i beidio â’u hateb - eich penderfyniad chi’n gyfan gwbl yw faint o gyngor y byddwch yn ei roi i ni pan fyddwn yn ystyried cosbau
  • wrth benderfynu a ydych am ateb ein cwestiynau neu beidio, efallai y byddwch am gael cyngor gan ymgynghorydd proffesiynol - yn enwedig os nad oes un gennych eisoes
  • os ydych yn anghytuno â ni ynglŷn â chanslo statws eich taliad gros, neu unrhyw gosbau y credwn sy’n ddyledus, gallwch apelio. Os byddwch yn apelio ynglŷn â chanslo statws eich taliad gros, yn ogystal â chosbau, mae gennych yr hawl i ofyn i’r ddwy apêl gael eu hystyried gyda’i gilydd
  • mae gennych yr hawl i wneud cais am gymorth cyfreithiol wedi ei ariannu er mwyn delio ag apêl yn erbyn rhai cosbau penodol
  • mae gennych yr hawl i ddisgwyl ein bod yn delio â mater sy’n ymwneud â chosbau heb oedi afresymol

Gallwch ddod o hyd i fanylion llawn am yr hawliau hyn yn gwybodaeth CC/FS9, Y Ddeddf Hawliau Dynol a chosbau.