Canllawiau

Gwiriadau cydymffurfio: Cynllun y Diwydiant Adeiladu – cosbau am gofrestru anwir – CC/FS41

Diweddarwyd 16 May 2022

Mae’r daflen wybodaeth hon yn cynnwys gwybodaeth am y gosb neu’r cosbau y byddwn yn ei chodi/eu codi os ydych wedi gwneud un o’r canlynol i gofrestru ar gyfer Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS):

  • rhoi gwybodaeth ffug
  • cyflwyno dogfennau ffug

Mae’r daflen wybodaeth hon yn un o gyfres o daflenni gwybodaeth ynghylch gwiriadau cydymffurfio. I weld rhestr o’r taflenni gwybodaeth yn y gyfres, ewch i www.gov.uk/guidance/arweiniad-a-thaflenni-gwybodaeth-cthem ac edrych o dan y pennawd ‘Gwiriadau cydymffurfio’.

Os oes angen help arnoch

Os yw’n bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu’ch iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio â’r mater hwn, rhowch wybod i’r swyddog a gysylltodd â chi. Byddwn yn eich helpu ym mha ffordd bynnag y gallwn. I gael rhagor o fanylion, ewch i www.gov.uk/cael-help-cthem-cymorth-ychwanegol.

Gallwch hefyd ofyn i rywun arall ddelio â ni ar eich rhan, er enghraifft, ymgynghorydd proffesiynol, ffrind neu berthynas. Fodd bynnag, efallai y bydd dal angen i ni siarad â chi neu ysgrifennu atoch yn uniongyrchol am rai pethau. Os bydd angen i ni ysgrifennu atoch, byddwn yn anfon copi at y person rydych wedi gofyn i ni ddelio ag ef. Os bydd angen i ni siarad â chi, caiff yr unigolyn hwnnw fod gyda chi pan fyddwn yn gwneud hynny, pe bai’n well gennych.

Amodau cofrestru

I gofrestru fel isgontractwr ar gyfer CIS, mae’n rhaid i chi roi manylion pwy ydych a manylion y busnes ar gyfer:

  • taliadau ar ôl didynnu treth
  • statws taliadau gros

Mae’n rhaid iddynt hefyd gadarnhau eu trosiant o waith yn ymwneud â gweithrediadau adeiladu yn ystod y 12 mis blaenorol. Mae trosiant yn golygu incwm, ond nid yw’n cynnwys cost uniongyrchol y deunyddiau a ddarperir.

Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn am dystiolaeth i ategu’r wybodaeth a roddir wrth gofrestru. Byddwn yn canslo’ch cofrestriad os ydych wedi gwneud unrhyw un o’r canlynol, neu os ydych wedi pwyso ar rywun arall i wneud unrhyw un o’r canlynol:

  • rhoi gwybodaeth gan wybod ei bod yn ffug
  • cyflwyno unrhyw ddogfen sy’n ffug
  • peidio ag ymateb i geisiadau am dystiolaeth ddogfennol i ategu’ch cais

Caiff y cofrestriad ei ganslo ar unwaith.

Byddwn hefyd yn ystyried cosb am gofrestru ffug.

Cosbau am gofrestru ffug

Byddwn yn codi cosb o £3,000 arnoch os rhowch wybodaeth neu ddogfennau i ni am bwy ydych neu am eich busnes neu’ch trosiant, neu os byddwch yn pwyso ar rywun arall i roi gwybodaeth neu ddogfennau am bwy ydyw neu am ei fusnes neu ei drosiant:

  • yn fyrbwyll
  • yr ydych yn gwybod ei/eu bod yn ffug, ac yna’n gwneud un o’r canlynol:
    • rhoi rhagor o wybodaeth neu ddogfennau ffug i ni
    • os nad ydych yn cydweithredu â ni i nodi’r manylion ffug

Fodd bynnag, byddwn yn codi cosb o £2,000 os bydd un o’r canlynol yn berthnasol:

  • ni allwch ddarparu dogfennau boddhaol
  • rydych yn cadarnhau bod eich cofrestriad gwreiddiol yn cynnwys gwybodaeth neu ddogfennau ffug am un o’r canlynol:
    • pwy ydych a manylion eich busnes
    • eich busnes a’ch trosiant

Byddwn yn codi cosb o £1,000 os yw’r wybodaeth neu ddogfennau ffug yn ymwneud ag un o’r canlynol:

  • pwy ydych chi, neu bwy yw rhywun arall
  • y busnes
  • y trosiant

Yr hyn sy’n digwydd pan godwn gosb

Byddwn yn anfon cyfrifiad atoch i ddangos y swm sy’n ddyledus yn ein barn ni. Byddwn yn ceisio cytuno’r swm hwn gyda chi. Byddwn yn anfon hysbysiad o asesiad o gosb atoch, neu efallai y byddwn yn gofyn i chi ymrwymo i gontract gyda ni er mwyn talu’r gosb.

Os ydych wedi gwneud rhywbeth o’i le yn fwriadol

Gallwn gynnal ymchwiliad troseddol gyda’r bwriad o’ch erlyn os ydych wedi gwneud rhywbeth o’i le yn fwriadol, megis:

  • rhoi gwybodaeth i ni gan wybod ei bod yn anwir, boed ar lafar neu mewn dogfen
  • cam-gyfleu’n anonest faint o dreth sydd arnoch, neu hawlio taliadau nad oes gennych hawl iddynt

Rheoli diffygdalwyr difrifol

Os cawsoch eich materion treth yn anghywir yn fwriadol, a’n bod yn canfod hyn yn ystod y gwiriad, efallai y byddwn yn monitro’ch materion treth yn fanylach. Mae gennym raglen fonitro fanylach o’r enw ‘rheoli diffygdalwyr difrifol’. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch daflen wybodaeth CC/FS14, ‘Rheoli diffygdalwyr difrifol’. Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘CC/FS14’.

Os ydych yn anghytuno

Os oes rhywbeth nad ydych yn cytuno ag ef, rhowch wybod i ni.

Os byddwn yn gwneud penderfyniad y gallwch apelio yn ei erbyn, byddwn yn ysgrifennu atoch ynghylch y penderfyniad ac yn rhoi gwybod i chi beth i’w wneud os ydych yn anghytuno. Fel arfer, bydd gennych 3 opsiwn. Cyn pen 30 diwrnod, gallwch wneud y canlynol:

  • anfon gwybodaeth newydd at y swyddog sy’n delio â’r gwiriad, a gofyn iddo ei hystyried
  • cael eich achos wedi’i adolygu gan un o swyddogion CThEM na fu’n ymwneud â’r mater cyn hyn
  • trefnu bod tribiwnlys annibynnol yn gwrando ar eich apêl ac yn penderfynu ynghylch y mater

Pa ddull bynnag a ddewiswch, gallwch hefyd ofyn i un o swyddogion arbenigol CThEM weithredu fel hwylusydd diduedd er mwyn helpu i ddatrys yr anghydfod. Y Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod (ADR) yw’r enw a rown ar hyn.
Dim ond ar gyfer anghydfodau sy’n ymwneud â meysydd treth penodol y mae ADR ar gael. Bydd y swyddog sy’n delio â’r gwiriad yn rhoi gwybod i chi a yw ADR ar gael ar gyfer eich anghydfod.

I gael rhagor o wybodaeth am apeliadau ac ADR, darllenwch y taflenni gwybodaeth canlynol:

  • HMRC1, ‘Penderfyniadau Cyllid a Thollau EM: beth i’w wneud os anghytunwch’
  • CC/FS21, ‘Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod’

Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘HMRC1’ neu ‘CC/FS21’.

Eich hawliau pan fyddwn yn ystyried codi cosbau

Mae’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn rhoi rhai hawliau pwysig i chi. Os ydym yn ystyried cosbau, byddwn yn rhoi gwybod i chi. Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi fod yr hawliau hyn yn gymwys, ac yn gofyn i chi gadarnhau eich bod yn eu deall. Mae’r hawliau hyn fel a ganlyn:

  • os byddwn yn gofyn unrhyw gwestiynau i chi i’n helpu i benderfynu p’un a ddylid codi cosb arnoch, mae gennych yr hawl i beidio â’u hateb – eich penderfyniad chi’n gyfan gwbl yw faint o help y byddwch yn ei roi i ni pan fyddwn yn ystyried cosbau
  • wrth benderfynu a ydych am ateb ein cwestiynau neu beidio, efallai y byddwch am gael cyngor gan ymgynghorydd proffesiynol – yn enwedig os nad oes un gennych yn barod
  • os ydych yn anghytuno â ni ynglŷn â chanslo’ch statws taliadau gros, neu unrhyw gosbau y credwn sy’n ddyledus, gallwch apelio. Os byddwch yn apelio ynglŷn â chanslo’ch statws taliadau gros, yn ogystal â chosbau, mae gennych yr hawl i ofyn i’r ddwy apêl gael eu hystyried gyda’i gilydd
  • mae gennych yr hawl i wneud cais am gynhorthwy cyfreithiol a ariennir er mwyn delio ag unrhyw apêl yn erbyn rhai cosbau penodol
  • mae gennych hawl i ddisgwyl i ni ddelio â mater sy’n ymwneud â chosbau heb oedi afresymol Mae rhagor o wybodaeth am yr hawliau hyn yn nhaflen wybodaeth CC/FS9, ‘Y Ddeddf Hawliau Dynol a chosbau’.

Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘CC/FS9’.

Ein hysbysiad preifatrwydd

Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu’n cadw gwybodaeth amdanoch. Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘HMRC Privacy Notice’.