Canllawiau

Gwiriadau cydymffurfio: hysbysiadau gwybodaeth — CC/FS2

Diweddarwyd 8 Rhagfyr 2025

Mae hysbysiad gwybodaeth yn ddogfen gyfreithiol sy’n ei gwneud yn ofynnol i unigolyn ddarparu gwybodaeth a chynhyrchu dogfennau i CThEF. Gallwn roi hysbysiad gwybodaeth i berson pan fydd angen i ni gael gwybodaeth neu ddogfennau i wneud y canlynol:

  • gwirio’i sefyllfa dreth
  • casglu treth sydd heb ei thalu

Os credwn eu bod yn berthnasol a’i fod yn rhesymol i ofyn amdanynt, gallwn ofyn am unrhyw wybodaeth neu ddogfennau mewn hysbysiad gwybodaeth. Os na fydd yr unigolyn yn rhoi’r hyn yr ydym wedi gofyn amdano mewn hysbysiad gwybodaeth, gallwn godi cosbau arno.

Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhan o gyfres. I weld y rhestr lawn, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘HMRC compliance checks factsheets’.

Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch

Os yw’n bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu’ch iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio â ni, rhowch wybod i’r swyddog a gysylltodd â chi. Bydd y swyddog yn eich helpu hyd eithaf ei allu. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘get help from HMRC if you need extra support’, ac yna dewis yr opsiwn Cymraeg ar y dudalen berthnasol.

Gallwch hefyd ofyn i rywun arall ddelio â ni ar eich rhan. Er enghraifft, ymgynghorydd proffesiynol, ffrind, neu aelod o’ch teulu. Fodd bynnag, efallai y bydd yn dal i fod angen i ni siarad â chi neu ysgrifennu atoch yn uniongyrchol am rai pethau. Os bydd angen i ni ysgrifennu atoch, byddwn yn anfon copi at yr unigolyn rydych wedi gofyn i ni ddelio ag ef. Os bydd angen i ni siarad â chi, caiff yr unigolyn hwnnw fod gyda chi pan fyddwn yn gwneud hynny, pe bai’n well gennych.

Rhagor o wybodaeth am wiriadau cydymffurfio

Mae rhagor o wybodaeth a help ar gael ar-lein, gan gynnwys:

  • cysylltiadau i’n cyfres fideo
  • canllawiau cam wrth gam ar gyfer ein gwiriadau cydymffurfio

Ewch i Gwiriadau cydymffurfio CThEF: help a chymorth

Pryd y byddwn yn defnyddio hysbysiad gwybodaeth

Os ydym yn gwirio’ch sefyllfa dreth neu’n ceisio casglu treth sydd heb ei thalu, byddwn fel arfer yn gofyn i chi helpu drwy roi’r wybodaeth a’r dogfennau sydd eu hangen arnom. Os na fyddwch yn gwneud hyn, mae’n bosibl y rhown hysbysiad gwybodaeth i chi.

Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd angen i ni wneud y canlynol:

  • rhoi hysbysiad gwybodaeth i chi heb ofyn am yr wybodaeth neu’r dogfennau yn gyntaf
  • gofyn i’r tribiwnlys annibynnol sy’n delio â threth i roi cymeradwyaeth i ni anfon hysbysiad gwybodaeth

Beth fydd yr hysbysiad gwybodaeth yn ei ddweud wrthych

Bydd yr hysbysiad gwybodaeth yn dweud wrthych:

Bydd yr hysbysiad gwybodaeth yn dweud wrthych:

  • pa wybodaeth, dogfennau, neu’r ddau, sydd eu hangen arnom
  • sut i roi i ni’r hyn sydd ei angen arnom, a phryd i wneud hynny
  • beth i’w wneud os ydych yn anghytuno â’r hysbysiad
  • os yw wedi’i gymeradwyo gan y tribiwnlys annibynnol sy’n delio â threth

Os oes angen rhagor o amser arnoch i roi’r hyn i ni y mae’r hysbysiad yn gofyn amdano, cysylltwch â’r swyddog a roddodd yr hysbysiad i chi.

Yr hyn na allwn ofyn amdano mewn hysbysiad gwybodaeth

Ni allwn ofyn i chi ddarparu gwybodaeth na chynhyrchu dogfennau:

  • nad ydynt yn eich meddiant ac nad oes modd i chi eu cael (na chael copïau ohonynt) gan bwy bynnag sydd â nhw
  • sy’n perthyn i sefyllfa dreth person a fu farw mwy na 4 blynedd cyn i ni anfon yr hysbysiad
  • sydd wedi’u creu fel rhan o’r paratoadau ar gyfer apêl treth
  • sy’n ymwneud yn unig â lles corfforol, meddyliol, ysbrydol neu bersonol unigolyn
  • sy’n ohebiaeth freintiedig rhwng cyfreithwyr a chleientiaid ac yn ymwneud â chael cyngor cyfreithiol neu roi cyngor cyfreithiol
  • os ydych chi’n archwilydd, yn gynghorydd treth neu’n newyddiadurwr ac mae’r wybodaeth neu’r dogfennau wedi’u creu fel rhan o’ch swydd
  • os ydych chi’n cael eich crybwyll mewn deunydd newyddiadurol ac mae’r wybodaeth neu’r dogfennau wedi’u creu gan newyddiadurwr fel rhan o’i swydd

Gall y rheolau ynghylch gwybodaeth a dogfennau na allwn ofyn amdanynt fod yn gymhleth. Os ydych yn meddwl ein bod wedi gofyn am rywbeth na ddylem fod wedi gofyn amdano, cysylltwch â’r swyddog a roddodd yr hysbysiad gwybodaeth i chi.

Os ydych yn anghytuno â hysbysiad gwybodaeth

Os ydych yn anghytuno â’r hysbysiad gwybodaeth, bydd manylion ynghylch sut y gallwch apelio yn ei erbyn, a sut i apelio, i’w cael ar yr hysbysiad.

Ni allwch apelio os yw’r hysbysiad dim ond yn gofyn am gofnodion statudol sy’n ymwneud â’r canlynol:

  • cyflenwi nwyddau neu wasanaethau
  • mewnforio nwyddau o le y tu allan i’r DU wrth redeg busnes

Cofnodion statudol yw’r cofnodion y mae’n rhaid i berson eu cadw yn ôl cyfreithiau treth.

Ni allwch apelio chwaith os yw’r hysbysiad wedi’i gymeradwyo gan y tribiwnlys annibynnol. Mae hynny oherwydd bod barnwr eisoes wedi penderfynu bod yr hyn yr ydym wedi gofyn amdano’n briodol.

Gofyn i berson arall am wybodaeth amdanoch chi

Os na allwch neu os na fyddwch yn rhoi’r wybodaeth neu’r dogfennau sydd eu hangen arnom, efallai y bydd angen i ni ofyn i rywun arall amdanynt. Fel arfer, byddwn yn gofyn am eich caniatâd cyn cysylltu â pherson arall. Er mwyn i ni gael yr hyn sydd ei angen arnom, byddwn dim ond yn rhannu manylion angenrheidiol amdanoch.

Gallwch ddewis peidio â rhoi caniatâd, ond mae’n rhaid i chi ddweud wrthym pam. Os na fyddwch yn rhoi eich caniatâd, a bod angen i ni gael yr wybodaeth neu’r dogfennau o hyd, efallai y byddwn yn gofyn i’r tribiwnlys roi cymeradwyaeth i ni anfon hysbysiad gwybodaeth.

Weithiau, efallai y bydd angen i ni roi hysbysiad gwybodaeth i berson arall heb ofyn i chi am yr wybodaeth neu’r dogfennau yn gyntaf. Fel arfer, byddwn yn gofyn am gymeradwyaeth gan y tribiwnlys i wneud hyn.

Nid oes angen i ni gael caniatâd gennych na chymeradwyaeth gan y tribiwnlys os oes angen i ni ofyn i berson arall am gofnodion statudol sy’n ymwneud â’r canlynol:

  • cyflenwi nwyddau neu wasanaethau
  • mewnforio nwyddau o le y tu allan i’r DU wrth redeg busnes

Os na fyddwch yn cydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth

Os na fyddwch yn cydymffurfio â’r hysbysiad gwybodaeth drwy roi i ni bopeth y mae’r hysbysiad yn gofyn amdano erbyn y dyddiad cau a roddwyd gennym, efallai y byddwn yn codi cosb o £300 arnoch.

Os nad ydych wedi cydymffurfio â’r hysbysiad erbyn i ni godi’r gosb o £300, gallwn godi cosbau dyddiol arnoch. Gall y cosbau hynny fod hyd at £60 y dydd am bob diwrnod nad ydych yn cydymffurfio.

Ar ôl hynny, gallwn godi cosb yn seiliedig ar swm y dreth yr ydym o’r farn sydd arnoch i ni. Mae’n rhaid i’r math hwn o gosb gael ei hawdurdodi gan y tribiwnlys annibynnol sy’n delio â threthi.

Pryd na fyddwn yn codi cosb arnoch am beidio â chydymffurfio

Ni fyddwn yn codi cosb arnoch os oes gennych esgus rhesymol dros beidio â chydymffurfio â’r hysbysiad gwybodaeth. Yn lle hynny, byddwn yn gofyn i chi roi’r wybodaeth, y dogfennau (neu ddogfennau eraill cyfatebol yn eu lle) neu’r ddau, erbyn dyddiad y cytunwyd arno.

Esgus rhesymol yw rhywbeth a wnaeth eich rhwystro rhag bodloni ymrwymiad treth mewn pryd, er eich bod wedi cymryd gofal rhesymol i’w fodloni. Gall hyn fod oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’ch rheolaeth neu gyfuniad o ddigwyddiadau. Unwaith y bydd yr esgus rhesymol wedi dod i ben, mae’n rhaid i chi unioni pethau heb oedi diangen.

Wrth benderfynu a oes gennych esgus rhesymol, byddwn yn ystyried amgylchiadau’r methiant, a’ch amgylchiadau a’ch galluoedd penodol. Gallai hynny olygu na fyddai’r hyn sy’n cael ei ystyried yn esgus rhesymol yn achos un person yn cael ei ystyried yn esgus rhesymol yn achos rhywun arall.

Gall enghreifftiau o esgus rhesymol gynnwys y canlynol:

  • rydych wedi bod yn ddifrifol wael
  • mae rhywun agos atoch wedi marw
  • rydych wedi colli’r dogfennau mewn tân neu lifogydd

Cosbau am gyflwyno gwybodaeth neu ddogfennau anghywir

Os byddwch yn rhoi gwybodaeth anghywir, drwy esgeulustod neu’n fwriadol, neu’n cynhyrchu dogfen sy’n cynnwys anghywirdeb, efallai y byddwn yn codi cosb arnoch. Gall y gosb hon fod hyd at £3,000 ar gyfer pob anghywirdeb.

Ni fyddwn yn codi cosb arnoch os byddwch yn dweud wrthym am yr anghywirdeb ar yr adeg y byddwch yn rhoi’r wybodaeth i ni neu’n cynhyrchu’r ddogfen. O ran y dogfennau neu’r wybodaeth yr ydych yn eu rhoi i ni, os byddwch yn dod ar draws gwall yn nes ymlaen, mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni ar unwaith.

Cuddio, dinistrio neu waredu dogfennau

Efallai y byddwn yn codi cosb arnoch os byddwch chi neu berson arall sy’n gweithredu ar eich rhan yn cuddio, yn dinistrio neu’n gwaredu unrhyw ddogfen yr ydym:

  • wedi gofyn amdani mewn hysbysiad gwybodaeth
  • wedi nodi ein bod yn bwriadu gofyn amdani mewn hysbysiad gwybodaeth

Mae’n drosedd i guddio, dinistrio neu waredu dogfen yr ydym:

  • wedi gofyn amdani mewn hysbysiad gwybodaeth sydd wedi’i gymeradwyo gan y tribiwnlys
  • wedi rhoi gwybod i chi ein bod yn bwriadu gofyn amdani mewn hysbysiad gwybodaeth sydd wedi’i gymeradwyo gan y tribiwnlys

Efallai y byddwn yn cynnal ymchwiliad troseddol os byddwch chi neu rywun sy’n gweithredu ar eich rhan yn cyflawni’r drosedd hon. Os byddwn yn gwneud hyn, mae’n golygu y gallech gael eich erlyn a’ch cymryd i’r llys.

Os byddwch yn rhoi gwybodaeth i ni rydych yn gwybod sy’n anwir

Mae’n bosibl y byddwn yn cynnal ymchwiliad os byddwch yn:

  • rhoi gwybodaeth i ni gan wybod ei bod yn anwir, boed ar lafar neu mewn dogfen
  • cam-gyfleu mewn ffordd anonest eich rhwymedigaeth treth, neu wneud cais am daliadau nad oes gennych hawl iddynt

Os byddwn yn gwneud hyn, mae’n golygu y gallech gael eich erlyn â mynd â chi i’r llys.

Gwybodaeth ychwanegol

Ein hysbysiad preifatrwydd

Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu’n cadw gwybodaeth amdanoch. Ewch i GOV.UK a chwilio am ‘HMRC Privacy Notice’ a dewis yr opsiwn Cymraeg ar y dudalen berthnasol.

Os nad ydych yn fodlon ar ein gwasanaeth

Os ydych yn anfodlon ar ein gwasanaeth, rhowch wybod i’r person y buoch yn delio ag ef neu’r swyddfa y buoch yn delio â hi. Byddant yn ceisio unioni pethau. Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, byddant yn rhoi gwybod i chi sut i wneud cwyn ffurfiol.