Skip to main content
Papur polisi

Cod ymddygiad trydydd parti Tŷ'r Cwmnïau

Cyhoeddwyd 28 Hydref 2026

1. Ein hymrwymiad

Mae Tŷ’r Cwmnïau wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel, cynhwysol, parchus a phroffesiynol i bawb sy’n rhyngweithio â ni. Rydym yn disgwyl i bawb drin eraill ag urddas, cwrteisi a pharch ac ni fyddwn yn goddef bwlio, aflonyddu, gwahaniaethu, erledigaeth, bygylu, cam-drin, trais nac ymddygiad bygythiol.

Yn unol â’n rhwymedigaethau cyfreithiol, rydym yn cymryd pob cam rhesymol i atal aflonyddu, gan gynnwys aflonyddu gan drydydd partïon, ac mae’r cod hwn yn rhan o’n hymagwedd at osod safonau ymddygiad clir ac atal ymddygiad annerbyniol.

2. Pryd fydd y cod hwn yn berthnasol

Mae’r cod hwn yn berthnasol i bob trydydd parti sy’n ymgysylltu â Thŷ’r Cwmnïau, gan gynnwys ymwelwyr, cwsmeriaid, aelodau o’r cyhoedd, ymgeiswyr, contractwyr, gweithwyr asiantaeth, cyflenwyr, ymgynghorwyr, darparwyr gwasanaeth a phartneriaid allanol.

Mae’n berthnasol i ryngweithiadau wyneb yn wyneb, dros y ffôn, yn ysgrifenedig ac ar-lein, ar ein safle ac mewn cyfarfodydd, digwyddiadau, hyfforddiant neu weithgareddau eraill sy’n gysylltiedig â Thŷ’r Cwmnïau.

3. Safonau ymddygiad disgwyliedig

Rydym yn disgwyl i bob trydydd parti:

  • drin eraill gydag urddas, parch, cwrteisi a phroffesiynoldeb
  • cyfathrebu’n barchus a pharchu gwahanol safbwyntiau, cefndiroedd, profiadau, ffiniau personol a phreifatrwydd
  • gweithredu’n onest ac yn gyfrifol, dilyn gofynion diogelwch perthnasol a chyfarwyddiadau rhesymol, a helpu i gynnal amgylchedd diogel a chynhwysol

4. Ymddygiad annerbyniol

Mae bwlio, aflonyddu, gwahaniaethu, bygylu, dychryn, cam-drin, ymddygiad bygythiol ac ymddygiad amhriodol neu amharchus arall yn annerbyniol. Mae hyn yn cynnwys aflonyddu neu wahaniaethu sy’n gysylltiedig â nodwedd warchodedig, fel yr amlinellir yn y ⁠Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Gall ymddygiad fod yn llafar, yn gorfforol, yn ysgrifenedig neu ar-lein, ac nid oes angen iddo fod â’r bwriad o achosi tramgwydd neu niwed i fod yn annerbyniol.
Mae rhai enghreifftiau’n cynnwys:

  • sylwadau, jôcs, iaith neu ystumiau tramgwyddus, sarhaus neu ddifrïol
  • sylwadau, ymddygiad, sylw neu gyswllt corfforol rhywiol diangen
  • ymddygiad ymosodol sy’n cam-drin, yn dychryn neu sy’n fygythiol
  • ymddygiad amhriodol sy’n ymwneud â nodwedd warchodedig
  • eithrio, cywilyddio, tanseilio neu drin rhywun yn annheg yn fwriadol

5. Os nad yw’r safonau’n cael eu bodloni

Pan fo ymddygiad yn disgyn yn is na’r safonau hyn, bydd Tŷ’r Cwmnïau yn ystyried camau priodol a chymesur. Gall hyn gynnwys dod â rhyngweithio neu gyfarfod i ben, gofyn i rywun adael ein safleoedd, cyfyngu ar fynediad yn y dyfodol, tynnu unigolyn yn ôl o broses recriwtio neu aseiniad, codi’r mater gyda’u cyflogwr, cyfyngu ar gyfathrebu neu ei rwystro, cymryd camau cytundebol, neu adrodd am ddigwyddiadau difrifol i’r heddlu neu awdurdod perthnasol arall lle bo’n briodol.

Bydd y camau a gymerir yn dibynnu ar yr amgylchiadau, ac nid ydynt wedi’u cyfyngu i’r enghreifftiau uchod.

6. Cyfrifoldeb a rennir

Mae ymddygiad parchus a phroffesiynol yn gyfrifoldeb dwyffordd. Mae Tŷ’r Cwmnïau yn disgwyl i’w weithwyr drin trydydd partïon gydag urddas, parch a phroffesiynoldeb ac rydym yn disgwyl yr un safonau yn gyfnewid.

Trwy ymgysylltu â Thŷ’r Cwmnïau a rhyngweithio â’n gweithwyr mewn unrhyw swydd broffesiynol, disgwylir i drydydd partïon gydymffurfio â’r cod ymddygiad trydydd parti hwn.