Dull Tŷ’r Cwmnïau tuag at gosbau ariannol
Diweddarwyd 30 Mawrth 2026
1. Cyflwyniad
Darllenwch y canllawiau hyn i ddysgu sut a phryd y bydd Tŷ’r Cwmnïau yn defnyddio ein pwerau gorfodi i godi cosbau ariannol.
Mae’r canllawiau hyn yn gysylltiedig â pholisi gorfodi mwy cyffredinol Tŷ’r Cwmnïau.
Dylech ddarllen y canllawiau hyn gan gyfeirio at Reoliadau Deddf Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol 2023 (Cosb Ariannol) 2024.
2. Cefndir
Daeth Rheoliadau Deddf Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol 2023 (Cosb Ariannol) 2024 i rym ar 2 Mai 2024. Mae’r rheoliadau hyn yn effeithio ar Gymru a Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
3. Pryd y gall Tŷ’r Cwmnïau codi cosb ariannol
Mae’r rheoliadau’n rhoi pŵer i’r Cofrestrydd Cwmnïau osod cosb ariannol ar berson os yw’n fodlon, y tu hwnt i amheuaeth resymol, fod y person wedi ymddwyn mewn ffordd sy’n gyfystyr â throsedd berthnasol o dan adran 1132A o Ddeddf Cwmnïau 2006.
Yn dibynnu ar y drosedd, gall hyn fod yn:
- gosb sefydlog – swm penodol yn seiliedig ar y drosedd, ymddygiad blaenorol a ffactorau eraill
- cosb gyfradd ddyddiol – cosb ddyddiol am bob diwrnod y mae’r drosedd yn parhau
- cyfuniad o gosb sefydlog a chosb gyfradd ddyddiol
4. Hysbysiad rhybuddio
Os yw’r cofrestrydd yn amau bod person wedi ymddwyn mewn ffordd sy’n cyfateb i drosedd berthnasol, gall y cofrestrydd codi hysbysiad rhybuddio yn ysgrifenedig i’r person hwnnw.
Rhaid i’r hysbysiad rhybuddio gynnwys:
- y sail dros amau bod trosedd wedi’i gyflawni
- y cyfnod y gall y person wneud sylwadau ysgrifenedig i’r cofrestrydd ynghylch ei ymddygiad – o leiaf 28 diwrnod, yn dechrau’r diwrnod ar ôl dyddiad yr hysbysiad rhybuddio
- sut i gyflwyno achos
- rhybudd y gall y cofrestrydd, ar ddiwedd y cyfnod penodol, osod cosb ariannol
4.1 Beth i’w wneud os ydych yn cael hysbysiad rhybuddio
Dilyn y camau gofynnol
Ni fyddwch yn cael cosb ariannol os byddwch yn dilyn y camau gofynnol, o fewn 28 diwrnod gan ddechrau’r diwrnod ar ôl y dyddiad ar eich hysbysiad rhybuddio cosb.
Er enghraifft, rydych wedi cael hysbysiad rhybuddio am beidio â ffeilio’ch datganiad cadarnhau. Os byddwch yn ffeilio’ch datganiad cadarnhau o fewn 28 diwrnod i ddyddiad eich hysbysiad cosb, ni fyddwch yn cael cosb.
Gwneud achos
Gallwch hefyd gysylltu â ni i esbonio unrhyw wybodaeth yr hoffech i ni ei hystyried. Gelwir hyn yn ‘achos’.
5. Achos
Gallwch wneud achos o fewn 28 diwrnod i’r dyddiad ar eich hysbysiad rhybuddio cosb, drwy anfon e-bost i: enquiries@companieshouse.gov.uk
Gallwch hefyd ysgrifennu atom, ond bydd hyn yn cymryd mwy o amser i ni brosesu’r achos, yn:
Tŷ’r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Caerdydd
CF14 3UZ
Byddwn yn ystyried eich achos i benderfynu a ydych wedi cyflawni trosedd ac a yw cosb yn briodol.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi bod eich achos wedi dod i law ac yn cysylltu â chi gyda’r canlyniad.
Ni fyddwn yn gwneud penderfyniad am y drosedd a’r gosb nes i ni ystyried yr holl wybodaeth yn eich achos.
6. Hysbysiad cosb
Ar ôl diwedd y cyfnod a nodir yn yr hysbysiad rhybuddio, gall y cofrestrydd, os yw’n fodlon y tu hwnt i amheuaeth resymol bod y person wedi ymddwyn mewn ffordd sy’n gyfystyr â throsedd berthnasol, dyroddi hysbysiad cosb i’r person y dyroddwyd yr hysbysiad rhybuddio iddo.
Rhaid i’r hysbysiad cosb fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo nodi’r canlynol:
- y sail dros godi’r gosb ariannol
- y math o gosb (cyfradd sefydlog, ddyddiol, neu’r ddau)
- sut mae’r gosb ariannol yn cael ei chyfrifo
- ar gyfer cosb sefydlog, swm y gosb
- ar gyfer cosb gyfradd ddyddiol, swm y gyfradd ddyddiol, y diwrnod y dechreuodd y swm gronni a’r diwrnod y peidiodd y swm gronni, neu’r amgylchiadau pan stopiodd y gosb gronni
- sut i dalu’r gosb
- y cyfnod lle mae’n rhaid gwneud y taliad (dim cynharach na diwedd 28 diwrnod yn dechrau ar y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad cosb)
- hawliau apelio
- canlyniadau peidio â thalu
7. Sut mae Tŷ’r Cwmnïau’n cyfrifo’r gosb
Rydym yn cyfrifo cosbau ariannol yn seiliedig ar ddifrifoldeb y drosedd a pha un ai dyma’r drosedd gyntaf, ail neu drydydd o’r fath.
Gan fod cosbau ariannol yn ddewis amgen i erlyniad, mae’r cosbau’n debyg i’r rhai y gallai llys eu gosod fel dirwyon. Mae’r cosbau’n ystyried costau a gordaliadau, gyda lefelau’r dirwyon yn nodi difrifoldeb y drosedd.
Bydd cosbau ariannol yn cynyddu i ad-droseddwyr. Fodd bynnag, gall y cofrestrydd ystyried erlyniad yn lle cosb ariannol lle bo’r amgylchiadau’n galw am hynny.
Gan ddefnyddio’r raddfa safonol o ddirwyon ar gyfer troseddau diannod, rydym yn ystyried bod:
- troseddau lefel 3 yn droseddau bach
- troseddau lefel 5 yn droseddau difrifol
- troseddau ‘naill ffordd’ a throseddau a all arwain at garchar yn droseddau difrifol iawn
I bennu swm y gosb ariannol, bydd Tŷ’r Cwmnïau yn ystyried:
- difrifoldeb y drosedd (bach, difrifol neu ddifrifol iawn)
- sawl gwaith rydych chi neu’ch cwmni wedi cyflawni’r un troseddau neu droseddau tebyg yn ystod y 5 mlynedd diwethaf
Byddwn hefyd yn asesu’r canlynol:
- i ba raddau yr ydych chi neu eich cwmni yn haeddu’r bai (‘beiusrwydd’)
- y niwed dan sylw
- unrhyw ffactorau a allai wneud y drosedd yn fwy neu’n llai difrifol (ffactorau ‘gwaethygol’ a ‘lliniarol’)
- unrhyw achosion a wnewch ar ôl cael hysbysiad rhybuddio
- a ydych chi wedi cydymffurfio â’r gofynion cyn diwedd y cyfnod hysbysiad rhybuddio
Gall Tŷ’r Cwmnïau hefyd newid neu ddirymu cosb ariannol fesul achos.
Os byddwch yn cydymffurfio â’r gofynion o fewn 28 diwrnod gan ddechrau’r diwrnod ar ôl y dyddiad ar eich hysbysiad rhybuddio, ni fyddwch yn cael cosb ariannol.
8. Symiau’r cosbau ariannol
| Trosedd gyntaf | Ail drosedd | Trydydd trosedd | Pedwerydd trosedd neu fwy | |
|---|---|---|---|---|
| Trosedd fach | £250 | £500 | £750 | £1,000 |
| Trosedd ddifrifol | £500 | £750 | £1,000 | £1,500 |
| Trosedd ddifrifol iawn | £750 | £1,000 | £1,500 | £2,000 |
9. Talu cosb
Gallwch dalu eich cosb drwy drosglwyddiad banc gan ddefnyddio’r wybodaeth ar eich hysbysiad cosb.
Rhaid i chi dalu’r gosb yn llawn, cyn y dyddiad dyledus ar eich hysbysiad cosb.
10. Apelio cosb
Os byddwch yn cael hysbysiad cosb, gallwch, gyda chaniatâd y llys, apelio i’r Llys Sirol neu, yn yr Alban, i’r Llys Siryf.
Rhaid i chi gael caniatâd y llys i gyflwyno apêl.
Dim ond ar y sail bod y penderfyniad i roi cosb ariannol, lefel neu fath y gosb ariannol neu unrhyw amod a nodir yn yr hysbysiad cosb:
- yn anghyfreithlon
- yn afresymegol neu’n afresymol
- wedi’i wneud ar sail amhriodoldeb gweithdrefnol neu fel arall yn groes i reolau cyfiawnder naturiol
Rhaid i chi wneud cais i’r llys am ganiatâd i apelio o fewn 28 diwrnod gan ddechrau ar y diwrnod ar ôl y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad cosb (oni bai bod y llys yn fodlon bod rheswm da dros fethu â cheisio caniatâd cyn diwedd y cyfnod hwnnw).
Os ydych yn ceisio caniatâd i apelio, rhaid i chi gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig o’r cais i’r cofrestrydd. Rhaid i chi wneud hyn o fewn 7 diwrnod gan ddechrau gyda’r dyddiad y codwyd y cais am ganiatâd. Rhaid i hyn gynnwys datganiad yn nodi’r sail dros apelio.
Dylech anfon yr hysbysiad drwy anfon e-bost i enquiries@companieshouse.gov.uk
Gallwch hefyd ysgrifennu atom, ond bydd hyn yn cymryd mwy o amser i ni brosesu’r achos, yn:
Tŷ’r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Caerdydd
CF14 3UZ
Gall y llys sy’n penderfynu ar apêl:
- wrthod yr apêl
- amrywio swm y gosb ariannol
- newid natur y gosb ariannol rhwng cosb sefydlog, cosb gyfradd ddyddiol neu gyfuniad o’r ddau
- diddymu’r gosb ariannol yn gyfan gwbl neu’n rhannol
11. Os nad ydych yn talu’r gosb
Os na fyddwch yn talu eich cosb o fewn 28 diwrnod i ddyddiad yr hysbysiad cosb, gall y cofrestrydd geisio adennill y ddyled drwy:
- asiantaeth adennill dyledion
- y llys
12. Os na fyddwch yn cydymffurfio o hyd
Os na fyddwch yn cydymffurfio o hyd â’r gofyniad a eglurir yn yr hysbysiad rhybuddio, gall Tŷ’r Cwmnïau codi cosbau pellach yn ogystal â’r gosb wreiddiol.
Er enghraifft, os cewch gosb am fethu â ffeilio’ch datganiad cadarnhau, efallai y cewch gosb newydd am bob diwrnod y byddwch yn parhau i beidio â ffeilio’r datganiad cadarnhau.
Byddwn yn ystyried natur barhaus y drosedd wrth bennu swm y gosb.
Os byddwch chi neu’ch cwmni’n cyflawni’r un drosedd ddifrifol neu ddifrifol iawn 3 gwaith mewn 5 mlynedd, gall Tŷ’r Cwmnïau ystyried erlyn.
13. Sut i osgoi cosb
Er mwyn osgoi cosbau ariannol, gwnewch yn siŵr eich bod yn cyflawni eich cyfrifoldebau i Dŷ’r Cwmnïau ac yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau i gyfraith cwmnïau’r DU.
Gallwch hefyd gofrestru i gael nodyn atgoffa am ddim drwy e-bost gan Dŷ’r Cwmnïau. Byddwn yn rhoi gwybod i chi pryd y bydd eich datganiad cadarnhau a’ch cyfrifon yn ddyledus.