Canllawiau statudol

Datganiad gorchwyl cyhoeddus, hawlfraint a hawlfraint y Goron

Diweddarwyd 9 August 2019

1. Datganiad Gorchwyl Cyhoeddus

Mae Tŷ’r Cwmnïau’n cyflawni swyddogaethau’r Cofrestrydd Cwmnïau fel y’u nodir yn y ddeddfwriaeth, a rhai o swyddogaethau dirprwyedig yr Ysgrifennydd Gwladol.

Y prif swyddogaethau yw:

  • corffori cwmnïau newydd, ailgofrestru a newidiadau i enwau cwmnïau
  • diddymu cwmnïau a dileu cwmnïau wedi darfod o’r gofrestr
  • archwilio a chofrestru gwybodaeth am gwmnïau a gyflwynir o dan y Ddeddf Cwmnïau a deddfwriaeth gysylltiedig
  • trefnu bod y wybodaeth ar gael i’r cyhoedd ei harchwilio a’i defnyddio.

Mae hyn yn cynnwys ond nid yw’n gyfyngedig i, Gwmnïau Cyfyngedig, Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig, Partneriaethau Cyfyngedig, Cwmnïau Atebolrwydd Cyfyngedig Ewropeaidd, Grwpiadau Buddiannau Economaidd Ewropeaidd a Chwmnïau Tramor.

2. Hawlfraint a hawlfraint y Goron

Mae hawlfraint yn perthyn fel arfer i’r person neu’r sefydliad a greodd y gwaith. Mae’r deunyddiau sy’n cael eu cyhoeddi gan Dŷ’r Cwmnïau yn ymrannu’n fras yn ddau gategori:

2.1 Deunyddiau sydd wedi’u cynhyrchu gan Dŷ’r Cwmnïau

Mae deunyddiau o’r math hwn yn cael eu diogelu gan hawlfraint y Goron ac ar gael ar GOV.UK o dan y Drwydded Llywodraeth Agored f3.0, ac eithrio lle nodir yn wahanol. Mae hawlfraint y Goron yn gymwys hefyd ar gyfer hawliau cronfeydd data, logos a delweddau gweledol.

Gall unrhyw ddeunydd sy’n cael ei ddiogelu gan hawlfraint y Goron ac sydd gan Dŷ’r Cwmnïau (heblaw’r Arfbais Frenhinol) gael ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar unrhyw fformat neu mewn unrhyw gyfrwng ar yr amod ei fod yn cael ei atgynhyrchu’n fanwl-gywir ac nad yw’n cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol.

2.2  Deunyddiau ar y gofrestr gyhoeddus

Ac eithrio categori bach o ddeunyddiau sydd wedi’i eithrio o’r gofynion ynghylch datgelu statudol, mae’n ofynnol o dan y gyfraith i’r Cofrestrydd drefnu bod y wybodaeth yn y dogfennau a anfonir ato ar gael i’w harchwilio gan y cyhoedd. Trefnir bod gwybodaeth ar y gofrestr gyhoeddus ar gael yn rhinwedd cymeradwyaethau a roddir gan y Cofrestrydd yn unol ag adran 47 o Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988 ac Atodlen 1 i’r Rheoliadau Cronfeydd Data (OS 1997/3032). Nid yw Tŷ’r Cwmnïau’n gosod unrhyw reolau na gofynion o ran sut mae’r wybodaeth ar y gofrestr gyhoeddus yn cael ei defnyddio.

3. Tŷ’r Cwmnïau ac Ailddefnyddio Gwybodaeth

Mae Tŷ’r Cwmnïau, fel darparwr gwybodaeth gyhoeddus, yn trefnu bod yr holl wybodaeth sy’n ymwneud â chwmnïau cyfyngedig ar gael i’w harchwilio gan y cyhoedd. Nid yw’n gosod unrhyw gyfyngiad o ran sut mae’r wybodaeth yn cael ei defnyddio ar ôl ei phrynu ac eithrio fel a ganlyn:

  • rhaid i bob cwsmer, gan gynnwys cwsmeriaid swmp-wybodaeth, gael cyngor cyfreithiol eu hunain ynglŷn â’r posibilrwydd o dorri hawlfraint trydydd parti
  • ni all cwsmeriaid atgynhyrchu arwyddluniau’r Goron
  • Os defnyddir gwybodaeth o nodiadau canllaw, y wefan, cyhoeddiadau neu dablau ystadegol, mae’n ofynnol i’r cwsmer gydnabod Tŷ’r Cwmnïau fel ffynhonnell y wybodaeth