Canllawiau

Datganiad hygyrchedd ar gyfer Darparu tystiolaeth o'ch hunaniaeth ar gyfer Tŷ'r Cwmnïau

Diweddarwyd 8 Ionawr 2026

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i’r gwasanaeth ‘Darparu tystiolaeth o’ch hunaniaeth ar gyfer Tŷ’r Cwmnïau’.

Mae datganiad hygyrchedd ar wahân ar gyfer y gwasanaeth ‘Gwirio eich hunaniaeth ar gyfer Tŷ’r Cwmnïau’.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd ein gwasanaethau. Os ydych yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn cael trafferth defnyddio unrhyw ran o’r gwasanaeth hwn, cysylltwch â Thŷ’r Cwmnïau.

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Tŷ’r Cwmnïau wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan wedi’i phrofi yn erbyn safon AA 2.1 y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG).

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA fersiwn 2.1 y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe, oherwydd y diffyg cydymffurfiaeth a restrir isod.

Rydym yn bwriadu ei brofi yn erbyn safon AA 2.2 y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG) cyn bo hir.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol:

  • Nid yw’r iaith ddiofyn wedi’i diffinio, felly gall gwybodaeth gael ei gamgyfathrebu i bobl sy’n defnyddio darllenydd sgrin. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant 3.1.1 (iaith y dudalen) WCAG 2.2.
  • Mae rhai tudalennau yn defnyddio teitlau tudalen sy’n union yr un fath neu’n anghyflawn, felly gall fod yn anodd i bobl sy’n defnyddio darllenydd sgrin adnabod pwrpas pob tudalen. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant 2.4.2 (teitl tudalen) WCAG 2.2.
  • Wrth ddewis iaith wahanol, rhoddir testun amgen i ddelweddau baneri sy’n dyblygu’r testun cyfatebol. Gall hyn fod yn ddiangen i bobl sy’n defnyddio darllenwyr sgrin. Mae hyn yn methu â chydymffurfio â meini prawf llwyddiant 1.1.1 WCAG 2.2  (cynnwys nad yw’n destun).
  • Wrth ddewis iaith wahanol, nid oes labeli wedi’u diffinio ar gyfer yr opsiynau gwahanol, a gall hyn olygu na fydd pobl sy’n defnyddio darllenwyr sgrin yn gallu deall eu pwrpas. Mae hyn yn methu â chydymffurfio â meini prawf llwyddiant 2.4.6 WCAG 2.2 (pennawdau a labeli).
  • Wrth ddewis iaith wahanol, defnyddir lliw yn unig i nodi pa eitem sydd mewn ffocws. Gall hyn achosi anawsterau i ddefnyddwyr sydd â phroblemau gwahaniaethu lliwiau. Mae hyn yn methu â chydymffurfio â meini prawf llwyddiant 1.4.1 WCAG 2.2 (defnydd o liw).
  • Wrth ddewis iaith wahanol, efallai na fydd pobl sy’n defnyddio darllenwyr sgrin yn gallu gwahaniaethu pa iaith sydd wedi’i dewis. Mae hyn yn methu â chydymffurfio â meini prawf llwyddiant 4.1.2 WCAG 2.2 (enw, rôl, gwerth).
  • Ar rai sgriniau cyflwynir testun yn unig o fewn delwedd heb destun amgen, gan ei gwneud yn amhosibl i bobl sy’n defnyddio darllenwyr sgrin gael mynediad at yr wybodaeth. Ni all pobl â golwg wan sy’n dibynnu ar ailfeintio testun neu osodiadau cyferbyniad uchel addasu’r testun, ac efallai y bydd defnyddwyr ag anawsterau gwybyddol yn cael trafferth gan na ellir addasu’r testun ar gyfer darllen haws. Mae hyn yn methu â chydymffurfio â meini prawf llwyddiant 1.1.1 WCAG 2.2 (cynnwys nad yw’n destun).
  • Ar rai sgriniau mae pennawdau ar goll neu wedi’u neidio, sy’n golygu y gall pobl sy’n defnyddio darllenwyr sgrin neu dechnoleg gynorthwyol arall gael trafferth deall strwythur y cynnwys. Mae hyn yn methu â chydymffurfio â meini prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.2 (gwybodaeth a pherthnasau).
  • Ar sawl sgrin nid yw lliw’r testun yn ddigon cyferbyniol yn erbyn y cefndir, a gall hyn ei gwneud yn anodd i bobl â golwg wan ddarllen. Mae hyn yn methu â chydymffurfio â meini prawf llwyddiant 1.4.3 WCAG (cyferbyniad – isafswm).
  • Nid oes gan rai meysydd mewnbwn labeli cysylltiedig, sy’n golygu na fydd pobl sy’n defnyddio darllenwyr sgrin yn gallu deall pwrpas y maes. Mae hyn yn methu â chydymffurfio â meini prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG (gwybodaeth a pherthnasau).
  • Ar sawl sgrin nid yw lliw’r ffin ar feysydd mewnbwn yn ddigon cyferbyniol yn erbyn y cefndir, a gall hyn ei gwneud yn anodd i bobl â golwg wan wahaniaethu’r maes. Mae hyn yn methu â chydymffurfio â meini prawf llwyddiant 1.4.11 WCAG 2.2 (cyferbyniad nad yw’n destun).
  • Nid yw pwrpas rhai meysydd mewnbwn wedi’i ddatgan, sy’n golygu na fyddant yn llenwi’n awtomatig gyda gwybodaeth wedi’i chadw ymlaen llaw gan y defnyddiwr, megis eu cyfeiriad e-bost. Gall hyn achosi problemau i ddefnyddwyr ag anawsterau dysgu neu symudedd. Gall pobl sy’n defnyddio darllenwyr sgrin hefyd fod yn ansicr ynghylch pwrpas y maes. Mae hyn yn methu â chydymffurfio â meini prawf llwyddiant 1.3.5 WCAG (nodi pwrpas mewnbwn).
  • Nid oes gan rai dolenni ddangosydd ffocws gweladwy, sy’n golygu na fydd pobl sy’n llywio gan ddefnyddio bysellfwrdd yn ogystal â defnyddwyr â golwg wan yn gallu llywio’n hawdd. Mae hyn yn methu â chydymffurfio â meini prawf llwyddiant 2.4.7 WCAG (ffocws gweladwy).
  • Nid yw rhai blychau ticio wedi’u cysylltu’n raglennol â’u label cyfatebol, sy’n golygu na fydd pobl sy’n defnyddio darllenwyr sgrin yn deall eu pwrpas. Mae hyn yn methu â chydymffurfio â meini prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG (gwybodaeth a pherthnasau).
  • Cyflwynir rhai cynnwys o fewn iFrames heb deitlau, sy’n golygu na fydd pobl sy’n defnyddio darllenwyr sgrin yn deall pwrpas yr iFrame. Mae hyn yn methu â chydymffurfio â meini prawf llwyddiant 4.1.2 WCAG (enw, rôl, gwerth).
  • Mae rhai cynnwys yn cael ei gyflwyno’n weledol fel rhestr ond heb ei ddiffinio fel rhestr. Bydd hyn yn ei gwneud yn anodd i bobl sy’n defnyddio darllenwyr sgrin lywio’r rhestr yn gyflym. Mae hyn yn methu â chydymffurfio â meini prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG (gwybodaeth a pherthnasau).
  • Mae gan rai meysydd mewnbwn labeli anghywir, sy’n golygu na fydd pobl sy’n defnyddio darllenwyr sgrin yn deall eu pwrpas. Mae hyn yn methu â chydymffurfio â meini prawf llwyddiant 2.4.6 WCAG (pennawdau a labeli).
  • Nid yw rhai elfennau rhyngweithiol yn nodi eu hunain fel botymau yn y cod, sy’n golygu na all defnyddwyr darllenwyr sgrin ddweud eu bod yn glicadwy nac yn deall pa weithred maent yn ei chyflawni. Mae hyn yn methu â chydymffurfio â meini prawf llwyddiant 4.1.2 WCAG 2.2 (enw, rôl, gwerth).
  • Ni ellir defnyddio rhai elfennau rhyngweithiol gyda bysellfwrdd, sy’n golygu na all pobl sy’n dibynnu ar lywio gyda bysellfwrdd neu ddefnyddio darllenwyr sgrin gael mynediad at y gweithredoedd a ddarperir. Mae hyn yn methu â chydymffurfio â meini prawf llwyddiant 2.1.1 WCAG 2.2 (bysellfwrdd).
  • Mae rhai cynnwys yn diweddaru’n awtomatig, ond ni chaiff y newid ei gyhoeddi gan ddarllenwyr sgrin. Mae hyn yn golygu na fydd pobl sy’n defnyddio darllenwyr sgrin yn gwybod bod gwybodaeth newydd wedi ymddangos. Mae hyn yn methu â chydymffurfio â meini prawf llwyddiant 4.1.3 WCAG 2.2 (negeseuon statws).
  • Mae rhai cynnwys wedi’i guddio’n weledol, ond ar gael o hyd i ddarllenwyr sgrin, a gall hyn achosi dryswch i’r bobl sy’n eu defnyddio. Mae hyn yn methu â chydymffurfio â meini prawf llwyddiant 2.4.3 WCAG 2.2 (trefn ffocws).
  • Nid oes modd oedi nac atal delwedd addurnol symudol, sy’n gallu ei gwneud yn anodd i bobl ag anawsterau sylw, golwg wan, neu’r rhai sy’n defnyddio llywio bysellfwrdd ganolbwyntio ar y cynnwys. Mae hyn yn methu â chydymffurfio â meini prawf llwyddiant 2.2.2 WCAG 2.2 (oedi, stopio, cuddio).
  • Nid oes gan rai botymau delwedd ddisgrifiad testun, felly ni all pobl sy’n defnyddio darllenwyr sgrin ddeall beth mae’r botymau’n ei wneud. Mae hyn yn methu â chydymffurfio â meini prawf llwyddiant 1.1.1 WCAG 2.2 (cynnwys nad yw’n destun).
  • Mae’n ofynnol i ddefnyddwyr sganio ID er mwyn cwblhau’r broses, ond nid oes dull amgen ar gael. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd i bobl ag anawsterau symudedd a’r rhai sy’n defnyddio darllenwyr sgrin gwblhau’r dasg. Mae hyn yn methu â chydymffurfio â meini prawf llwyddiant 2.5.4 WCAG 2.2 (actifadu symudiad).
  • Nid oes botwm i oedi neu chwarae cyfarwyddiadau symudol, sy’n ei gwneud yn anodd i bobl ag anawsterau sylw, golwg wan, defnyddwyr darllenwyr sgrin, a’r rhai sy’n llywio gan ddefnyddio bysellfwrdd ddarllen a dilyn y cynnwys. Mae hyn yn methu â chydymffurfio â meini prawf llwyddiant 2.2.2 WCAG 2.2 (oedi, stopio, cuddio).
  • Mae rhai testun wedi’u marcio’n anghywir fel pennawd, sy’n golygu efallai na fydd pobl sy’n defnyddio darllenwyr sgrin yn deall strwythur y dudalen. Mae hyn yn methu â chydymffurfio â meini prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.2 (gwybodaeth a pherthnasau).
  • Mae gan rai delweddau gwybodaeth destun amgen anghywir, sy’n golygu na all pobl sy’n defnyddio darllenwyr sgrin ddeall yr wybodaeth y mae’r ddelwedd i fod i’w chyfleu. Mae hyn yn methu â chydymffurfio â meini prawf llwyddiant 1.1.1 WCAG 2.2 (cynnwys nad yw’n destun).
  • Rhoddwyd testun amgen disgrifiadol i rai delweddau addurnol, sy’n ddiangen i bobl sy’n defnyddio darllenwyr sgrin. Mae hyn yn methu â chydymffurfio â meini prawf llwyddiant 1.1.1 WCAG 2.2 (cynnwys nad yw’n destun).Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 9 Rhagfyr 2025.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ym mis Awst 2025 yn erbyn safon WCAG 2.1 AA.

Cynhaliwyd y profion gan BarrierBreak yn dilyn taith gyflawn y cwsmer ar gyfer gwiriad hunaniaeth a pharu wynebau. Roedd hyn yn cynnwys efelychu profiad y defnyddiwr gwirioneddol, gan ddechrau o gychwyn y broses gwiriad hunaniaeth, uwchlwytho neu ddal dogfennau adnabod, perfformio gwiriadau biometrig, a chwblhau’r camau gwiriad.