Canllawiau

Datganiad hygyrchedd ar gyfer Cwblhau gwiriad hunaniaeth ar gyfer Tŷ'r Cwmnïau

Diweddarwyd 8 Ionawr 2026

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i’r gwasanaeth ‘Cwblhau gwiriad hunaniaeth ar gyfer Tŷ’r Cwmnïau’.

Mae datganiad hygyrchedd ar wahân ar gyfer GOV.UK One Login. Bydd angen i chi fewngofnodi i GOV.UK One Login i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn.

Mae yna hefyd ddatganiad hygyrchedd ar wahân ar gyfer y gwasanaeth ‘Darparu tystiolaeth o’ch hunaniaeth ar gyfer Tŷ’r Cwmnïau’. Pobl sy’n bodloni meini prawf penodol fydd yn cael mynediad i’r gwasanaeth hwn yn unig.

Defnyddio’r wefan hon

Mae’r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Dŷ’r Cwmnïau. Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosibl allu ei ddefnyddio. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau gan ddefnyddio gosodiadau porwr neu ddyfais
  • chwyddo hyd at 400% heb i’r testun ddisgyn oddi ar y sgrin
  • Llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Nid ydym yn ymwybodol o unrhyw broblemau hygyrchedd ar y wefan hon.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd ein gwasanaethau. Os ydych yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn cael trafferth defnyddio unrhyw ran o’r gwasanaeth hwn, cysylltwch â Thŷ’r Cwmnïau.

Gweithdrefn gorfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi’n hapus â sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Tŷ’r Cwmnïau wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan wedi’i phrofi yn erbyn safon AA 2.2 y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG).

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n llawn â’r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2 safon AA.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 9 Rhagfyr 2025.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 5 Chwefror 2025 yn erbyn safon WCAG 2.2 AA.

Cynhaliwyd y prawf gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol (DAC).