Canllawiau

Rownd 4 y Gronfa Perchenogaeth Gymunedol: Canllawiau ar y meini prawf asesu ar gyfer ffurflenni cais

Mae'r canllawiau hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl i chi am y meini prawf asesu a ddefnyddir wrth asesu eich ceisiadau llawn. Maent yn nodi sut i gymhwyso'r meini prawf asesu yn eich cais llawn i'r Gronfa.

Dogfennau

Manylion

Cylch 4 yw cylch olaf y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol. Bydd dau gyfnod gwneud cais yng Nghylch 4 er mwyn dyrannu’r cyllid sy’n weddill.

Mae Cylch 4 Ffenestr 1 ar agor o 25 Mawrth 2024 i 10 Ebrill 2024.

Bydd Cylch 4 Ffenestr 2 yn agor ddiwedd mis Mai. Caiff yr amseroedd penodol ar gyfer y ffenestr olaf eu cyhoeddi maes o law.

Bydd llywodraeth y DU yn asesu cynigion o bob rhan o’r DU yn erbyn fframwaith asesu cyffredin.

Caiff ceisiadau eu sgorio gan ddefnyddio’r fframwaith hwn, a chaiff y penderfyniadau terfynol ar gyllid eu gwneud gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau.

Mae’r canllawiau hyn yn fersiwn symlach o’r un canllawiau y bydd aseswyr yn eu defnyddio er mwyn asesu ceisiadau o dan gylch 4. Mae’r canllawiau hyn wedi’u hysgrifennu ar gyfer aseswyr ond byddant yn dangos i ymgeiswyr yr hyn y mae angen i ni ei weld mewn atebion ar y ffurflen gais er mwyn cael sgôr foddhaol, dda neu uchel.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 12 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 23 Rhagfyr 2024 show all updates
  1. Update on Community Ownership Fund Round 4.

  2. Statement added on the status of Round 4 of the Fund.

  3. Added translation.

  4. Added new version for Round 4.

  5. Form updated to reflect extension of the maximum capital funding available to new applicants from Round 3 Window 2 onwards.

  6. First published.

Argraffu'r dudalen hon