Canllawiau

Rownd 2 y Gronfa Perchenogaeth Gymunedol: Canllawiau ar y meini prawf asesu ar gyfer ffurflenni cais

Diweddarwyd 24 February 2023

This canllawiau was withdrawn on

This page is no longer current and information on Round 3 of the Community Ownership Fund can be found in the prospectus.

Dylech ddarllen y prosbectws llawn cyn dechrau eich cais.

Bydd angen i chi gyflwyno ffurflen Mynegi Diddordeb ac aros iddi gael ei chymeradwyo cyn symud ymlaen i gyflwyno cais llawn i’r Gronfa.

Os credwn fod eich prosiect yn debygol o fod yn gymwys ar ôl darllen eich ffurflen Mynegi Diddordeb, byddwn yn eich gwahodd i gyflwyno cais llawn. Efallai byddwn hefyd yn amlygu rhai meysydd i’w hystyried cyn i chi gyflwyno’ch cais llawn neu’n dweud wrthych nad yw’ch prosiect yn gymwys i gael cyllid heb newid sylweddol. Mae’r holl ofynion cymhwysedd i’w gweld yn y prosbectws.

Os oes angen i chi gyflwyno’ch ffurflen Mynegi Diddordeb o hyd, gallwch wneud hynny yma.

Fframwaith asesu

Bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn asesu cynigion o bob rhan o’r Deyrnas Unedig yn erbyn fframwaith asesu cyffredin.

Bydd ceisiadau’n cael eu sgorio gan ddefnyddio’r fframwaith hwn, a bydd penderfyniadau terfynol ar gyllid yn cael eu gwneud gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau (DLUHC). Mae rhagor o fanylion am y broses benderfynu i’w gweld yn y prosbectws.

Cynnwys y ffurflen gais

Mae’r rhestr ganlynol yn dangos trefn y ffurflen gais. Bydd angen i chi allu ateb y cwestiynau ym mhob adran a darparu unrhyw wybodaeth ychwanegol:

Ynglŷn â’ch sefydliad

  • Gwybodaeth am y sefydliad
  • Gwybodaeth am yr ymgeisydd

Ynglŷn â’ch prosiect

  • Gwybodaeth am y prosiect
  • Gwybodaeth am yr ased

Achos strategol

  • Defnydd cymunedol
  • Ymgysylltu â’r gymuned
  • Cefnogaeth leol
  • Cynaliadwyedd amgylcheddol

Achos rheoli

  • Cyllid sy’n ofynnol
  • Dichonoldeb
  • Risg
  • Costau’r prosiect
  • Sgiliau ac adnoddau
  • Cynrychiolaeth gymunedol
  • Cynwysoldeb ac integreiddio
  • Lanlwytho cynllun busnes

Potensial i ddarparu buddion cymunedol

  • Buddion cymunedol

Gwerth ychwanegol i’r gymuned

  • Gwerth i’r gymuned

Rheoli cymorthdaliadau a chymorth gwladwriaethol

  • Cymhwysedd y prosiect

Datganiadau

  • Gwirio datganiadau

Meini prawf asesu

Bydd ceisiadau’n cael eu hasesu ar sail y 4 maen prawf canlynol, y mae pob un ohonynt yn cyfrif am ganran o’r asesiad cyffredinol:

1. Achos strategol: dylai ymgeiswyr ddangos y byddai’r ased yn cael ei golli i’r gymuned heb ymyrraeth, yr effeithiau y byddai hyn yn eu cael a’r gefnogaeth sydd ganddynt gan y gymuned a phartneriaid eraill.

Bydd yr achos strategol yn cyfrif am 30% o’r asesiad cyfan.

2. Achos rheoli: dylai ymgeiswyr ddangos amcanion y prosiect a’r gallu i’w gyflawni, a sut bydd yr ased yn cael ei gynnal yn gynaliadwy.

Bydd yr achos rheoli’n cyfrif am 30% o’r asesiad cyfan.

3. Potensial i ddarparu budd cymunedol: gan ddefnyddio’r fframwaith canlyniadau, dylai ymgeiswyr ddangos sut bydd yr ased yn darparu buddion cymunedol o dan berchnogaeth gymunedol.

Bydd y potensial i ddarparu budd cymunedol yn cyfrif am 30% o’r asesiad cyfan.

4. Gwerth ychwanegol yr ased cymunedol yn seiliedig ar angen cymunedol: gan ddefnyddio data lleol a gwybodaeth am anghenion cymunedol, dylai ymgeiswyr allu dangos gwerth ychwanegol yr ased i’r gymuned.

Bydd gwerth ychwanegol yr ased cymunedol yn seiliedig ar angen cymunedol yn cyfrif am 10% o’r asesiad cyfan.

Sgorio a phwysoliad

Bydd eich cais yn cael ei sgorio yn erbyn y meini prawf asesu uchod. Mae gan bob maen prawf sgôr isaf y mae’n rhaid ei chyrraedd er mwyn i’ch cais gael ei ystyried ar gyfer y rhestr fer. Bydd methiant i gyrraedd y sgôr hon mewn unrhyw adran unigol yn golygu na fydd eich cais yn cyrraedd y rhestr fer.

Yn ogystal, mae’n rhaid i sgôr gyfunol is-feini prawf 2.1, 2.2 a 2.3 ddod i gyfanswm o 12 neu uwch er mwyn i’ch cais gael ei ystyried ar gyfer y rhestr fer. Diben hyn yw sicrhau bod gan eich cynnig gynllun busnes hyfyw a chadarn, cynllun rheolaeth ariannol a’r sgiliau angenrheidiol i gyflawni.

I gyrraedd y sgôr gyffredinol, bydd y sgorau asesu ar gyfer pob maen prawf yn cael eu pwysoli yn ôl pwysigrwydd y maen prawf hwnnw. Bydd cyfanswm sgorau’n cael ei roi fel canran.

Tabl 1: Dadansoddiad sgorio a phwysoliad yn ôl meini prawf asesu

Meini Prawf Asesu Sgôr isaf i gyrraedd y rhestr fer Sgôr uchaf sydd ar gael Pwysoliad ar gyfer asesiad cyffredinol
Achos strategol 11 18 30%
Achos rheoli 15 25 30%
Potensial i ddarparu budd cymunedol 9 15 30%
Gwerth ychwanegol yr ased cymunedol yn seiliedig ar angen cymunedol 2 5 10%

1. Achos strategol

Sgorio a phwysoliad

  • Sgôr isaf: 11
  • Sgôr uchaf sydd ar gael: 18
  • Pwysoliad cyffredinol: 30%

1.1. Buddion

Sgôr uchaf sydd ar gael: 5

Arweiniad

Dylech ddangos sut mae eich ased mewn perygl o gael ei golli i’r gymuned, neu pam mae eisoes wedi cael ei golli i’r gymuned. Mae’n bwysig eich bod yn cyflwyno achos cryf dros ymyrryd yn eich cais.

Dylai hyn gynnwys:

  • Defnydd presennol neu flaenorol yr ased a phwy sy’n elwa ohono
  • Sut bydd colli’r ased yn effeithio ar bobl yn y gymuned, neu sut mae hynny eisoes wedi effeithio arnynt
  • Pam bydd yr ased yn cael ei golli heb ymyrraeth gymunedol

1.2. Ymgysylltu

Sgôr uchaf sydd ar gael: 10

Arweiniad

Dylech ddangos bod y gymuned wedi bod yn ymwneud â ffurfio eich cynlluniau a bod cefnogaeth gref iddynt yn lleol.

Dylech allu darparu tystiolaeth o’r gefnogaeth sydd gennych i’ch cynlluniau i achub yr ased cymunedol.

Gallai hyn gynnwys:

  • Sut rydych wedi ymgysylltu â’r gymuned
  • Sut mae’r ymgysylltiad hwn wedi ffurfio’r cynlluniau ar gyfer eich prosiect
  • Disgrifio unrhyw weithgareddau codi arian rydych wedi’u cynnal yn y gymuned
  • Sut rydych wedi cynnwys pobl leol yn y prosiect

Dylech allu dangos eich bod wedi ffurfio partneriaethau lleol ynglŷn â’ch cynlluniau, a’r rôl y gallai eich cynigion ei chwarae o fewn cynlluniau lleol eraill.

Er enghraifft, os ydych yn gweithio’n agos gyda busnesau lleol neu ar y cyd â’r cyngor, mae’n bwysig rhoi manylion i ni.

Gallai hyn gynnwys:

  • Disgrifio p’un a yw cynlluniau’ch prosiect yn cyd-fynd ag unrhyw gynlluniau neu bartneriaethau lleol a’r rôl y gallai eich prosiect ei chwarae yn y rhain
  • Dweud wrthym am y gefnogaeth i’ch prosiect yn y gymuned a sut gwnaethoch ei chael

1.3. Cynaliadwyedd amgylcheddol

Sgôr uchaf sydd ar gael: 3

Dylech roi manylion ynglŷn â sut mae’ch prosiect yn cefnogi’r daith tuag at Sero Net ac yn cynnwys dulliau carbon isel neu ddi-garbon.

Rydym hefyd eisiau gwybod a yw’ch prosiect yn ystyried ac yn lliniaru ei effaith ar yr amgylchedd naturiol.

2. Achos rheoli

Sgorio a phwysoliad

  • Sgôr isaf: 15
  • Sgôr uchaf sydd ar gael: 25
  • Pwysoliad cyffredinol: 30%

Bydd angen i chi gyflwyno cynllun busnes yn rhan o’r adran hon. Dylai’r cynllun hwn gynnwys mwy o wybodaeth am ffigurau a manylion allweddol eich prosiect.

Mae’n rhaid i sgôr gyfunol 2.1, 2.2 a 2.3 ddod i gyfanswm o 12 neu uwch er mwyn i’ch cais gael ei ystyried ar gyfer y rhestr fer. Diben hyn yw sicrhau bod gan eich cynnig gynllun busnes hyfyw a chadarn a chynllun rheolaeth ariannol.

Y cynllun busnes fydd y ddogfen allweddol a ddefnyddiwn i asesu’r achos rheoli. Byddwch yn cael eich annog i lanlwytho’ch cynllun busnes yn ystod y cais. Mae’n rhaid iddo fod yn ddogfen unigol nad yw’n fwy na 5MB. Os byddwch yn cael unrhyw broblemau technegol, anfonwch neges e-bost at COF@levellingup.gov.uk ac fe allwn eich helpu.

2.1. Dadansoddiad o gyllid

Sgôr uchaf sydd ar gael: 5

Arweiniad

Bydd y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yn darparu hyd at uchafswm o 50% o’r costau cyfalaf i brynu neu brydlesu’r ased a thalu am gostau adnewyddu. Dylech ddangos ffynonellau eraill o gyllid rydych wedi’u sicrhau neu y byddwch yn eu sicrhau ar gyfer costau cyfalaf eich prosiect.

Bydd angen i chi gynnwys trosolwg o’r wybodaeth gyllido yn berthynol i’ch prosiect.

Yn rhan o’r data y byddwch yn ei rannu yn yr adran hon, rydym eisiau llwyr ddeall y canlynol:

  • Cyfanswm costau eich prosiect
  • Ar gyfer beth y bydd cyllid y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yn cael ei ddefnyddio
  • Eich ffynonellau arian cyfatebol
  • Pryd rydych yn disgwyl sicrhau’r arian cyfatebol hwn
  • Ar gyfer beth y bydd eich arian cyfatebol yn cael ei ddefnyddio

Disgwylir i chi ddarparu dadansoddiad o’r canlynol yn eich cynllun busnes:

  • Costau’r prosiect
  • Costau cyfalaf
  • Costau refeniw
  • Cyfanswm y cais am gyllid (costau cyfalaf + refeniw)
  • Manylion arian cyfatebol
  • Cyllid rydych eisoes wedi’i sicrhau
  • Cyllid y mae angen i chi ei sicrhau o hyd
  • Graddfeydd amser ar gyfer sicrhau’r arian cyfatebol sy’n weddill
  • Prisiad annibynnol o’r ased (os ydych yn bwriadu ei brynu)

Gallai cyllid o’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol gael ei ymrwymo ‘mewn egwyddor’, cyn i chi sicrhau grantiau neu fenthyciadau eraill. Fodd bynnag, bydd angen i ni gael tystiolaeth eich bod yn gallu sicrhau’r holl arian cyfatebol ar gyfer eich ased cymunedol a thynnu cyfalaf i lawr o fewn 12 mis o’r dyddiad a nodir ar eich llythyr cynnig. Disgwyliwn y bydd y rhan fwyaf o ymgeiswyr wedi gwneud cynnydd sylweddol yn hyn o beth o fewn chwe mis. Dylai ymgeiswyr nodi na fydd unrhyw gostau a gafwyd cyn dyddiad y llythyr cynnig a roddir i brosiectau llwyddiannus yn cael eu hystyried fel arian cyfatebol cymwys.

Atgoffir ymgeiswyr, yn rhan o Gytundeb Cyllid Grant, efallai y bydd angen pridiant cyfreithiol yn erbyn yr ased.

2.2. Rhagolygon ariannol a risg

Sgôr uchaf sydd ar gael: 10

Arweiniad

Mae’r adran hon yn ymwneud â dangos hyfywedd eich prosiect a’ch busnes. Bydd angen i chi ddangos bod gennych gynlluniau ariannol helaeth i wneud eich prosiect yn gynaliadwy yn y tymor hir. Dylech hefyd ddangos eich bod wedi ystyried rhai o’r problemau y gallech eu hwynebu a bod gennych strategaethau i’w goresgyn.

Dylai’r rhagolygon ariannol a rheoli yn eich cynllun busnes gynnwys:

  • Gwybodaeth am eich astudiaethau dichonoldeb sydd wedi’u cwblhau neu wedi’u cynllunio
  • Gweithgareddau neu wasanaethau a gynlluniwyd a fydd yn cael eu cynnal yn yr ased cymunedol
  • Rhagolygon ariannol, gan gynnwys

  • Ffynonellau incwm
  • Costau gyda set o dybiaethau a ategir gan dystiolaeth
  • Esboniad o’r defnydd o gyllid refeniw a llif arian, a’r angen amdanynt

  • Sgiliau neu adnoddau a gynlluniwyd sy’n angenrheidiol i reoli’r ased
  • Risg a mesurau lliniaru a ystyriwyd

2.3. Sgiliau ac adnoddau

Sgôr uchaf sydd ar gael: 5

Arweiniad

Dylech ddangos bod gennych y galluoedd i gyflawni’ch prosiect a rheoli’r ased yn y tymor hir. Rydym eisiau gweld bod gennych strwythur bwrdd a rheoli sy’n gallu sicrhau bod eich prosiect yn llwyddiannus.

Dylai’r wybodaeth am sgiliau ac adnoddau yn eich cynllun busnes gynnwys:

  • Profiad perthnasol o gyflawni prosiectau sy’n debyg i’r un rydych yn ceisio cyllid ar ei gyfer
  • Unrhyw arbenigedd perthnasol o ran rheoli prosiectau a allai fod gennych chi neu bobl eraill yn eich sefydliad
  • Sgiliau ac adnoddau presennol ac a gynlluniwyd sy’n angenrheidiol i reoli a chynnal yr ased a’i weithgareddau’n effeithiol ac yn gynaliadwy, gan gynnwys unrhyw rolau newydd a allai fod yn ofynnol
  • Strwythurau llywodraethu ac aelodaeth eich sefydliad
  • Aelodau eich bwrdd, gan gynnwys eu rôl a’u prif gyfrifoldebau

2.4. Cynrychiolaeth, cynwysoldeb ac integreiddio

Sgôr uchaf sydd ar gael: 5

Arweiniad

Dylech ddangos eich bod yn atebol i’ch cymuned leol a bod gennych gynlluniau i sicrhau bod yr ased yn gynhwysol ac yn hygyrch.

Dylech ddangos eich bod yn atebol i’r gymuned rydych yn ei chynrychioli.

Gallwch wneud hyn trwy ddangos:

  • Sut byddwch yn cynnwys y gymuned wrth gynnal yr ased
  • Sut bydd y gymuned yn cymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau
  • Sut byddwch yn mesur cefnogaeth gyhoeddus i’ch penderfyniadau
  • Beth allai atal pobl rhag defnyddio’r ased neu gymryd rhan yn y broses o’i gynnal
  • Sut byddwch yn ceisio gwneud eich prosiect yn hygyrch ac yn gynhwysol i bawb yn y gymuned
  • Sut bydd eich prosiect yn dod â phobl ynghyd o bob rhan o’r gymuned

Mae’n arbennig o bwysig eich bod yn esbonio sut bydd yr ased cymunedol yn hygyrch ac yn gynhwysol i bob aelod o’r gymuned. Dylai grwpiau lleol sydd wedi’u tangynrychioli fod yn rhan o hyn.

3. Potensial i ddarparu buddion cymunedol

Sgorio a phwysoliad

  • Sgôr isaf: 9
  • Sgôr uchaf sydd ar gael: 15
  • Pwysoliad cyffredinol: 30%

Arweiniad

Bydd angen i chi ddangos sut bydd eich cymuned yn elwa o warchod eich ased.

Dylech ddangos buddion cymunedol yr ased, a sut bydd y rhain yn cael eu cynnal a’u gwella trwy berchnogaeth gymunedol.

Bydd angen i chi esbonio:

  • Y buddion cymunedol rydych yn disgwyl eu darparu trwy’r prosiect hwn
  • Sut byddwch yn mesur y buddion y bydd eich ased yn eu darparu i’r gymuned
  • Sut byddwch yn darparu ac yn cynnal buddion dros amser
  • Sut bydd yr ased yn gynhwysol ac o fudd i’r gymuned ehangach, er enghraifft sut rydych yn bwriadu cyrraedd gwahanol rannau o’r gymuned leol

4. Gwerth ychwanegol yn seiliedig ar angen cymunedol

Sgorio a phwysoliad

  • Sgôr isaf: 2
  • Sgôr uchaf sydd ar gael: 5
  • Pwysoliad cyffredinol: 10%

Arweiniad

Dylech ddangos bod eich sefydliad yn deall y gymuned leol.

Rydym eisiau gweld bod gennych ddealltwriaeth drylwyr o’ch ardal leol a sut gall eich prosiect helpu i fynd i’r afael â rhai o’r heriau y gallech fod yn eu hwynebu’n lleol.

Mae hyn yn cynnwys unrhyw fanylion neu wybodaeth ychwanegol am eich cymuned sy’n dangos yr angen am yr ased hwn.

Dylech gynnwys manylion:

  • Eich cymuned leol yn ei chyfanrwydd
  • Unrhyw anghenion sydd gan eich cymuned a sut bydd eich prosiect yn ceisio cefnogi’r rhain
  • Unrhyw ddata sydd gennych am nodweddion gwarchodedig ac effeithiau ar gydraddoldeb, os yw ar gael
  • Unrhyw heriau penodol y mae eich cymuned yn eu hwynebu a sut bydd eich ased yn mynd i’r afael â’r rhain