Cyfamod y Gymdeithas Sifil
Published 17 July 2025
Crynodeb
Cyfamod parhaol rhwng y llywodraeth a phawb ar draws y gymdeithas sifil sy’n buddsoddi eu hamser a’u harian er mwyn gwasanaethu eraill.
Rydyn ni’n credu:
bod cymdeithas sifil Prydain, gan gynnwys gwirfoddolwyr, elusennau, sefydliadau ffydd, mentrau cydweithredol, undebau llafur, dyngarwyr, mentrau cymdeithasol, buddsoddwyr cymdeithasol a busnesau pwrpasol, yn rhan o wead ein gwlad.
bod eu gwasanaeth yn rhan falch o’n hunaniaeth genedlaethol. Mae’n fynegiant o’r cyfrifoldeb tuag at ein gilydd sy’n sail i’n contract cymdeithasol. Mae’n cryfhau’r cysylltiadau sy’n dod â’n cymunedau at ei gilydd, yn cyfoethogi’n democratiaeth, ac yn gwella bywydau ledled y Deyrnas Unedig a ledled y byd.
bod cymdeithas sifil gref ac annibynnol yn hanfodol er mwyn mynd ar drywydd adnewyddu cenedlaethol gyda’n gilydd. Bydd gweithio mewn partneriaeth yn fodd inni adeiladu dyfodol gwell, tecach i bawb.
bod y gymdeithas sifil yn rym ar gyfer arloesi. Mae ganddi’r wybodaeth leol o’r hyn sy’n gweithio, mae wedi’i gwreiddio mewn profiad byw ac yn ennill ymddiriedaeth y rhai y mae’n eu gwasanaethu. Trwy gyd-fuddsoddi’n strategol gyda’r llywodraeth, gall cyllid cymdeithasol helpu i sbarduno arloesedd trwy brofi a thyfu syniadau newydd.
na ddylid disgwyl byth i’r gymdeithas sifil gamu i mewn a disodli’r llywodraeth. Yn hytrach, dylai’r llywodraeth fynnu gweithio mewn partneriaeth â’r gymdeithas sifil.
Fe fyddwn ni:
yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi pawb sy’n rhoi eu hamser a’u harian er mwyn gwasanaethu eraill, yn parchu’n gwahanol rolau, ac yn adeiladu ymddiriedaeth ac amcanion cyffredin.
yn parchu annibyniaeth sefydliadau’r gymdeithas sifil ac yn sicrhau eu bod yn gallu eiriol dros y rhai maen nhw’n eu gwasanaethu a dal y llywodraeth i gyfrif heb ofni dial.
yn partneru ac yn cydweithio ar draws pob adran a phob cenhadaeth yn y llywodraeth, gan weithio ar lefel genedlaethol a lleol ledled y Deyrnas Unedig i gyflawni’r Cynllun ar gyfer Newid.
yn dylunio, yn cyllido ac yn cyflawni polisïau a gwasanaethau mewn partneriaeth wirioneddol; yn gweithio gyda meiri, awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill ar bartneriaethau sydd wedi’u seilio ar le ac yn datblygu trefniadau comisiynu a chaffael cydweithredol.
yn hybu cyfranogiad a chynhwysiant trwy gynnwys pobl mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau, yn sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed ac yn dileu rhwystrau sy’n atal cyfranogiad democrataidd.
yn cryfhau ymddiriedaeth gan gyfathrebu a rhannu gwybodaeth, data a’r arferion gorau’n agored, a thrwy sicrhau bod sefydliadau’r gymdeithas sifil yn mynd ati i fod yn dryloyw ac yn atebol am yr arian maen nhw’n ei gael.
yn adrodd yn flynyddol ar gamau i anrhydeddu’r cyfamod yma ac effaith y bartneriaeth yma â’r gymdeithas sifil.
Y Cyfamod
Pwrpas: pam mae arnon ni angen Cyfamod
I fynd i’r afael â heriau dwfn ein hoes, mae arnon ni angen model newydd o bartneriaeth rhwng y gymdeithas sifil a’r llywodraeth. Bydd y Cyfamod yn creu amgylchedd lle mae’r gymdeithas sifil yn cael ei pharchu, ei chefnogi a’i gwrando gan y llywodraeth, wrth weithio mewn partneriaeth â’r gymdeithas sifil ac yn annibynnol, pan fydd y gymdeithas sifil yn dwyn y llywodraeth i gyfrif. Mae’r Cyfamod yn drefniant cilyddol sy’n cydnabod bod gan y gymdeithas sifil a’r llywodraeth rolau gwahanol a rolau cyffredin wrth wasanaethu’r cyhoedd. Mae’r Cyfamod yn adeiladu ar sylfaen y ddeddfwriaeth a’r rheoliadau cyfredol sy’n llywodraethu gweithredoedd ac ymddygiad y llywodraeth, cyrff cyhoeddus a’r gymdeithas sifil. Nid yw’n dyblygu’r gofynion presennol hyn, ond mae’n ceisio atgyfnerthu safonau uchel o lywodraethu ac ymddygiad. Bydd y Cyfamod yn sbarduno cyd-ddeall a chyd-barch, ac yn galluogi cydweithio rhwng ystod ehangach o sefydliadau. Nod y Cyfamod yma yw ategu’r bartneriaeth yma er mwyn cyflawni:
-
cymdeithas deg a chyfiawn gyda gwelliannau ym mywydau pobl a diogelwch i hawliau dynol
- cymdeithas sifil gref, gynaliadwy ac annibynnol sy’n cydweithio â’r llywodraeth er budd y cyhoedd ac yn cyflawni eu cenhadaeth
- llywodraeth ymatebol sy’n cydweithio â’r gymdeithas sifil i gyflawni ei chenhadaeth er budd y cyhoedd
- cymunedau gwydn, cysylltiedig a grymus gyda chyfleoedd cynhwysol i gyfranogi sy’n cryfhau’n gwead cymdeithasol
- prosesau penderfynu bywiog sy’n cofleidio dirnadaeth, arbenigedd a her adeiladol y gymdeithas sifil
- prosesau datrys problemau hirdymor arloesol er budd pobl ym mhob rhan o’r wlad
- democratiaeth gref lle gall pawb gymryd rhan a lle mae pob llais yn cael ei glywed Rhychwant: Cyfamod i bwy yw hwn Mae’r Cyfamod wedi’i gyd-ddylunio rhwng cynrychiolwyr o’r llywodraeth a’r gymdeithas sifil. Mae’n deillio o ymgysylltu eang â mwy na 1,200 o sefydliadau ar draws y gymdeithas sifil, ac â’r llywodraethau lleol, canolog a datganoledig trwy gydol ymarfer ymgysylltu a gynhaliwyd yn 2024.
Mae egwyddorion y Cyfamod yn nodi disgwyliadau craidd a ddylai fod yn gymwys i’r berthynas rhwng y gymdeithas sifil a’r llywodraeth. Y tu hwnt i’r disgwyliadau craidd yma, bydd y Cyfamod yn ysgogi ac yn ysbrydoli rhagor o welliannau yn y berthynas. Yn ymarferol, bydd effeithiau’r Cyfamod yn cael eu teimlo mewn ffyrdd amrywiol, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau penodol a lleol.
Mae’r gymdeithas sifil yn cynnwys elusennau, mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol, undebau llafur, sefydliadau ffydd, grwpiau cymunedol anffurfiol, dyngarwyr a buddsoddwyr cymdeithasol. Mae’r Cyfamod yn cynnwys sefydliadau o bob diben, maint, lleoliad daearyddol, a’r rhai sy’n cael eu harwain gan grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli. Mae hefyd wedi’i fwriadu i fod yn berthnasol i’r sefydliadau hynny yn y Deyrnas Unedig sy’n gweithio yn y Deyrnas Unedig a thros y môr.
Mae’r egwyddorion yn y Cyfamod yma yn gymwys i gyrff y llywodraeth a chyrff cyhoeddus ledled y Deyrnas Unedig gan gynnwys:
-
adrannau o lywodraeth y Deyrnas Unedig, gan gynnwys asiantaethau gweithredol a chyrff hyd braich
-
awdurdodau strategol ac awdurdodau lleol Lloegr
-
cyrff yn y sector cyhoeddus ehangach sy’n gweithio gyda’r gymdeithas sifil gan gynnwys sefydliadau a phartneriaethau’r GIG, megis Systemau Gofal Integredig, a’r system cyfiawnder troseddol
Ni ddylai’r Cyfamod dorri ar draws fframweithiau gweinyddol neu statudol presennol lle mae’r rheiny’n cyrraedd safon uwch neu safon gyfatebol, ond fe ddylai’r Cyfamod gael ei ddefnyddio i godi safonau lle nad yw hyn yn wir.
Ni ddylai’r Cyfamod gyfaddawdu swyddogaethau rheoleiddio cyrff cyhoeddus mewn perthynas â’r gymdeithas sifil, ac ni fydd mewn unrhyw ffordd yn peryglu ymreolaeth neu annibyniaeth y sefydliad oddi wrth y llywodraeth.
Mae’r Cyfamod hefyd yn berthnasol ledled y Deyrnas Unedig mewn meysydd polisi lle mae’r cyfrifoldebau wedi’u cadw i lywodraeth y Deyrnas Unedig a heb gael eu datganoli i lywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Bwriad y Cyfamod yw ategu a pharchu’r trefniadau llywodraethu a’r bartneriaeth bresennol yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, gan weithio ochr yn ochr â’r fframweithiau gwahanol ym mhob gwlad. Bydd llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dal i weithio mewn partneriaeth â sefydliadau’r gymdeithas sifil ym mhob un o’r pedair rhan o’r Deyrnas Unedig.
Gwerthoedd ac ymddygiadau: beth sy’n sail i’r Cyfamod
Mae’r gwerthoedd a’r ymddygiadau sy’n sail iddo yn hanfodol i sicrhau llwyddiant y Cyfamod. Mae’r rhain yn cynnwys:
- dealltwriaeth – dangos dealltwriaeth o’r heriau a’r pwysau sy’n wynebu pob parti, parchu rolau a chyfrifoldebau ei gilydd
- hyblygrwydd – dangos y gallu i addasu at amgylchiadau sy’n newid ac addasu ffyrdd o weithio er mwyn arloesi a chynnwys gwahanol fathau o sefydliadau
- dysgu cydfuddiannol – gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod pob parti yn gallu bod yn agored am yr hyn sydd wedi gweithio’n dda a’r hyn sydd angen ei wella
- ymddiriedaeth – creu ymddiriedaeth gydfuddiannol trwy fuddsoddi mewn perthnasoedd sy’n cydnabod ewyllys da ac yn adeiladu pwrpas cyffredin, cyfathrebu’n rheolaidd, yn onest ac yn agored, gweithredu gydag uniondeb ac anrhydeddu ymrwymiadau
- agored – cynnal sianeli agored o gyfathrebu a pharch, cytuno i anghytuno lle bo angen a cheisio datrys tensiynau heb danseilio cydweithredu
- amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant – hybu hawliau a chyfrifoldebau yn y ffordd rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd a chyda chymunedau, gan sicrhau cydraddoldeb mynediad lle bynnag y bo modd.
Egwyddorion y Cyfamod
Cydnabyddiaeth a gwerth
Mae’r Cyfamod yn adeiladu perthnasoedd cadarn ac yn cryfhau annibyniaeth sectorau trwy hybu parch a gwerth i briod gryfderau, cyfrifoldebau, safbwyntiau a chyfyngiadau’r llywodraeth a’r gymdeithas sifil.
Parch at annibyniaeth a dilysrwydd
- Mae’r Llywodraeth yn parchu annibyniaeth a dilysrwydd sefydliadau’r gymdeithas sifil i eiriol ac ymgyrchu, gan gynnwys amddiffyn yr hawl i gymryd rhan mewn protest heddychlon, ac i ddal y llywodraeth i gyfrif er mwyn gwneud gwell deddfau, rheoliadau a phenderfyniadau.
- Mae’r gymdeithas sifil yn parchu dilysrwydd y llywodraeth i wneud penderfyniadau, arfer ei phwerau uchelfreiniol, a’i hatebolrwydd i’r Senedd.
- Nid yw’r llywodraeth yn trin sefydliadau’r gymdeithas sifil sydd wedi mynegi anghytundeb â pholisïau’r llywodraeth yn llai ffafriol trwy eu hepgor o drafodaethau polisi neu gyfleoedd ariannu.
Cydnabod gwerth, rôl a gwahanol safbwyntiau
- Mae’r Llywodraeth yn cydnabod gwerth cyfraniadau economaidd a chymdeithasol y gymdeithas sifil, gan gynnwys y gwerth cymdeithasol cynhenid y mae sefydliadau’r gymdeithas sifil yn ei roi, a’u gallu i adeiladu cymunedau cydlynol, cynhwysol.
- Mae’r gymdeithas sifil yn cydnabod bod Ysgrifenyddion Gwladol a Gweinidogion yn cael eu hethol yn ddemocrataidd a’u bod yn atebol yn ffurfiol i’r Senedd ac i’r cyhoedd fel arweinwyr, ac am ddatblygu, pennu a gweithredu polisïau’r llywodraeth trwy adrannau a’u cyrff hyd braich (ALBs).
- Mae’r Llywodraeth yn gwrando ar y gymdeithas sifil ac yn parchu arbenigedd amrywiol y gymdeithas sifil wrth ddylunio polisïau a gwasanaethau, gan gynnwys perthnasoedd dibynadwy, gwybodaeth ddofn am yr hyn sy’n gweithio, arwain ac adeiladu cymunedau, busnes cymdeithasol, a darparu gwasanaethau.
Deall cyfrifoldebau a chyfyngiadau
- Mae’r llywodraeth a’r gymdeithas sifil yn deall cyfrifoldebau a pharamedrau gweithredol ei gilydd o dan ofynion y gyfraith, rheoliadau perthnasol a safonau moesegol.
- Mae’r Llywodraeth yn cydnabod cyfrifoldeb y gymdeithas sifil i siarad allan a dal y llywodraeth i gyfrif lle mae hynny’n helpu un o sefydliadau’r gymdeithas sifil i gyflawni eu cenhadaeth.
- Mae’r gymdeithas sifil a’r llywodraeth yn deall na fyddan nhw bob amser yn cytuno, ac y gall fod rhaid i’r llywodraeth gydbwyso ffactorau a blaenoriaethau cyferbyniol yn ei phenderfyniadau.
Astudiaethau achos: Cytundeb VCFSE (Mentrau Gwirfoddol, Cymunedol, Crefyddol a Chymdeithasol) Manceinion Fwyaf (GM)
Cafodd Cytundeb VCFSE Manceinion Fwyaf (GM) ei lofnodi ym mis Tachwedd 2017 fel cytundeb cydweithredu rhwng cyrff cyhoeddus a’r gymdeithas sifil.
Sefydlwyd y Cytundeb gan Awdurdod Cyfun Manceinion Fwyaf a Phartneriaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Manceinion Fwyaf gyda grŵp o arweinwyr y gymdeithas sifil wedi’u lleoli ym Manceinion Fwyaf er mwyn adeiladu perthynas a fyddai’n cydnabod ac yn datgloi potensial llawn y gymdeithas sifil i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau yn y ddinas-ranbarth er budd y cyhoedd.
Mae’r Cytundeb wedi helpu i godi proffil sefydliadau’r gymdeithas sifil gydag arweinwyr y sector cyhoeddus lleol gan fwrw goleuni ar y gwerth a’r arbenigedd y gallan nhw eu cynnig. Un bartneriaeth sy’n deillio o hynny yw Uned Lleihau Trais Manceinion Fwyaf (GMVRU) rhwng y llywodraeth, yr heddlu, iechyd, addysg, gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid, awdurdodau lleol, asiantaethau statudol eraill a’r gymdeithas sifil. Mae’r GMVRU wedi ymrwymo i arddel ymagwedd a arweinir gan y gymuned yn ei hymdrechion i atal trais. Mae’r dull yma yn cydnabod gwerth a chryfder sefydliadau’r gymdeithas sifil wrth weithio’n agos gyda chymunedau, i ddeall eu hanghenion, eu heriau a’u cryfderau mewn perthynas ag atal trais. Mae hefyd yn rhoi penderfyniadau yn nwylo cymunedau, gan gynnwys gosod blaenoriaethau a chytuno ar gyllid ar gyfer prosiectau ac ymyriadau sy’n anelu at ymgysylltu â phlant, pobl ifanc a theuluoedd.
Mae mentrau’r VRU wedi cynnwys rhaglen StreetDoctors dan arweiniad y gymdeithas sifil, sy’n darparu sesiynau hyfforddi i bobl ifanc weithredu mewn argyfwng meddygol. Yn sgil hyn roedd 95% o’r bobl ifanc yn gwybod beth i’w wneud os byddai rhywun yn gwaedu neu’n anymwybodol, ac roedd 85% yn barod i weithredu mewn argyfwng meddygol.
Mae Adroddiad Interim ar Gynnydd Cytundeb VCFSE Manceinion Fwyaf yn awgrymu gwella gwelededd y Cytundeb ac ymgorffori ei egwyddorion ar draws sefydliadau’r sector cyhoeddus. Bydd hyn yn gwella cydnabyddiaeth o werth y gymdeithas sifil ar draws Manceinion Fwyaf, a thrwy hynny yn cefnogi mwy o gyfranogiad gan VCSEs a chynyddu lleisiau dinasyddion mewn gwaith ledled Manceinion Fwyaf.
Astudiaethau achos: Calderdale – cydnabod gwerth y VCSE ar gyfer dyfodol ffyniannus
Mae strategaeth VCSE Cyngor Calderdale 2024 i 2029 yn cydnabod rôl hanfodol y sector Mentrau Gwirfoddol, Cymunedol a Chymdeithasol (VCSE) yn Calderdale. Mae’n gwerthfawrogi’r VCSE fel partner allweddol wrth gyflawni’r weledigaeth leol o fod yn lle mentrus, llawn cyfleoedd, lle gall pawb ffynnu yn eu cymuned.
Adeg ei chreu, roedd grwpiau’r VCSE yn wynebu llai o gyllid o’r sector cyhoeddus, costau cynyddol, a galw cynyddol am eu gwasanaethau. Roedd prinder staff, cyflog is, a llai o wirfoddolwyr yn ychwanegu at y pwysau. Un peth sy’n ganolog i’w datblygiad a’i gweithredu oedd cydnabyddiaeth Cyngor Calderdale o werth ac arbenigedd cynhenid y sector VCSE.
Mae’r strategaeth, sydd wedi’i chydgynhyrchu gyda chynrychiolwyr y VCSE, yn cydnabod natur amrywiol a chymhleth y sector VCSE a’i heffaith arwyddocaol ar drigolion a chymunedau Calderdale. Mae’n cydnabod cyfraniad y sector i’r gymdeithas yn ogystal â’r economi lleol. Nododd ymchwil iechyd a lles lleol yn 2023 fod cyfanswm gwerth y VCSE yn Calderdale oddeutu £549.5 miliwn. Mae’r ffigur yma yn cynnwys gwariant y sector, y gwerth a gynhyrchir gan wirfoddolwyr cyson, a gwerth a grëwyd i ddefnyddwyr gwasanaethau.
Mae Cyngor Calderdale wedi ymgorffori cydnabyddiaeth o rôl y VCSE mewn sawl strategaeth arall yn y fwrdeistref. Un enghraifft allweddol yw Strategaeth yr Economi Cynhwysol, sy’n gweld sector VCSE ffyniannus yn sylfaenol i gyflawni economi cynhwysol. Yn Calderdale, mae’r VCSE yn rhan allweddol o’r economi lleol, gan gyflogi dros 5,000 o bobl, a chefnogi 13,000 fel gwirfoddolwyr. Fel rhan o Strategaeth yr Economi Cynhwysol, bydd Calderdale yn ceisio archwilio mwy o lwybrau gyrfa i bobl ifanc yn y sector VCSE lleol, gan ddarparu mwy o gyfleoedd i bobl ifanc aros yn Calderdale, gyda mynediad at waith o ansawdd da.
Partneriaeth a chydweithredu
Mae’r Cyfamod yn hybu gwaith cydweithredol pwrpasol o ansawdd uchel rhwng y llywodraeth a’r gymdeithas sifil i lywio’r broses o wneud penderfyniadau a dylunio gwasanaethau, gan ddarparu atebion gwell i bawb.
Ymgysylltu cynnar, cyson a pharhaus
- Mae’r llywodraeth a’r gymdeithas sifil yn cydweithio fel partneriaid strategol i nodi a datblygu blaenoriaethau er mwyn cyflawni nodau cyffredin.
- Mae’r llywodraeth yn cyfathrebu’n strategol ac yn effeithiol â’r gymdeithas sifil trwy sianeli sy’n hygyrch, yn agored ac yn gynhwysol ar gyfer sgyrsiau dwyffordd dilys.
-
Mae’r Llywodraeth yn hwyluso ymgysylltu cynnar i alluogi’r gymdeithas sifil i gyfrannu dirnadaeth ac arbenigedd i ddiffinio’r broblem, creu pwrpas cyffredin a chytuno ar ganlyniadau er mwyn llywio datblygiadau polisi a dylunio gwasanaethau.
- Mae’r gymdeithas sifil yn tynnu ar ei chryfderau, gan gynnwys ei harbenigedd mewn cynrychioli buddiannau’r bobl neu’r achosion y mae wedi’i sefydlu i’w cefnogi, gan weithredu’n strategol trwy ymgysylltu’n gynnar, rhannu tystiolaeth, dirnadaeth ac arbenigedd lle bynnag y bo’r adnoddau yn caniatáu, trwy’r cylch polisi i gyd.
Creu’r amodau ar gyfer cydweithredu ac arloesi
- Mae’r llywodraeth a’r gymdeithas sifil yn hybu diwylliant ac amgylchedd sy’n ffafriol i arloesi, gan greu cyfleoedd i brofi syniadau newydd, cymryd risgiau, canolbwyntio ar effaith a gwersi, ac adeiladu ar yr hyn sy’n gweithio.
- Mae’r llywodraeth a’r gymdeithas sifil yn cydweithio i flaenoriaethu ymyriadau ataliol a chymryd golwg hirdymor i fynd i’r afael â heriau a gwireddu cyfleoedd.
Mynd i’r afael â rhwystrau sy’n atal cyflawni mewn partneriaeth
- Mae’r Llywodraeth yn cefnogi modelau comisiynu a chaffael cydweithredol, gan gydnabod y gwerth cymdeithasol cynhenid y mae’r gymdeithas sifil yn ei gynnig, gan gynnig hyblygrwydd i gyflawni canlyniadau, sicrhau monitro cymesur a darparu cyllid digonol i gyflawni’r canlyniadau gofynnol.
- Mae’r Llywodraeth yn adeiladu ac yn hybu partneriaethau ar sail trefniadau cyllido hirdymor lle bo’n bosibl, gan gydnabod bod gweithio mewn partneriaeth gynaliadwy yn hanfodol er mwyn cydweithio ar faterion hirdymor.
- Mae sefydliadau’r gymdeithas sifil yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill yn y gymdeithas sifil a sectorau eraill, gan geisio dileu rhwystrau sy’n atal partneriaid llai.
- Mae’r llywodraeth yn gweithio gyda’r gymdeithas sifil i leihau rhwystrau sy’n atal gwaith partneriaeth ac i greu cyfleoedd ar gyfer gwaith partneriaeth.
Astudiaethau achos: Trawsnewid y GIG – cydweithredu yn llunio iechyd pobl ar gyfer y dyfodol
Trwy ddeialog agored a phartneriaethau â’r gymdeithas sifil, mae Cenhadaeth Iechyd llywodraeth y Deyrnas Unedig wrthi’n adeiladu Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn Lloegr sy’n addas at y dyfodol.
Gosododd yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol strategaeth ymgysylltu gynhwysfawr ar waith i lywio datblygiad y Cynllun Iechyd 10 Mlynedd, sy’n troi’r miloedd o fewnwelediadau a gasglwyd yn gynllun gweithredu clir. Gall y gymdeithas sifil chwarae rhan hanfodol wrth ategu’r tair sifft sylfaenol: o’r ysbyty i’r gymuned, o analog i ddigidol ac o driniaeth i atal.
Mae’r Cynllun Iechyd 10 Mlynedd yn cynnwys nod penodol o sicrhau mai’r GIG yw’r partner gorau posibl a’r darparwr gofal iechyd cyhoeddus mwyaf cydweithredol yn y byd. Drwy arloesi o’r gwaelod i fyny ac ar lawr gwlad y byddwn ni’n gwneud y cynnydd mwyaf posibl. Ochr yn ochr â gosod strategaeth, bydd gan y Cynllun nod penodol o harneisio partneriaethau â buddsoddwyr, diwydiant, llywodraeth leol, cyflogwyr, busnesau bach a chanolig, mudiadau gwirfoddol ac undebau llafur. Bydd dyfnhau’r berthynas â phartneriaid yn y gymdeithas sifil yn helpu i gyflawni nodau’r Cynllun Iechyd 10 Mlynedd, gan gynnwys trwy feithrin model “Gwasanaeth Iechyd Cymdogaeth”.
Yr uchelgais yw defnyddio nifer o ddarparwyr – yn y GIG, y sector gwirfoddol, y sector annibynnol a mentrau cymdeithasol. Lle mae arloesedd mor gyflym yn digwydd heddiw o ran sut y gellir trawsnewid gwasanaethau trwy ddatblygiadau mewn gwyddoniaeth a thechnoleg, mae’r llywodraeth am ehangu eco-system y darparwyr. Er enghraifft, mae yna botensial enfawr i ystod eang o ddarparwyr gynnig gwerth gwirioneddol yn y Gwasanaeth Iechyd Cymdogaeth. Y nod sydd gennym yw sefydlu Canolfan Iechyd Cymdogaeth ym mhob cymuned, sef ‘siop un stop’ ar gyfer gofal i gleifion a’r man y bydd timau aml-ddisgyblaeth yn gweithredu ohono. Bydd Canolfannau Iechyd Cymdogaeth yn cydleoli gwasanaethau’r GIG, yr awdurdodau lleol a’r sector gwirfoddol i helpu i greu arlwy sy’n ateb anghenion y boblogaeth yn holistig.
Astudiaethau achos: Clymblaid Troseddau Cyllyll y Swyddfa Gartref – dull wedi’i seilio ar bartneriaeth o leihau troseddau cyllyll
Mae’r Glymblaid i Fynd i’r Afael â Throseddau Cyllyll, a lansiwyd gan y Prif Weinidog ym mis Medi 2024, yn bartneriaeth o unigolion sydd â phrofiad byw, y gymdeithas sifil, a grwpiau ymgyrchu. Mae wedi mabwysiadu dull partneriaeth gyda’r llywodraeth er mwyn haneru troseddau cyllyll o fewn degawd.
Mae’r cydweithrediad yn dod â dealltwriaeth ddofn o ymyriadau a all helpu i atal troseddau cyllyll, gan ddod â’r safbwyntiau hyn i mewn i’r gwaith o greu polisïau a rhaglenni i fynd i’r afael â’r mater.
Mae’r Swyddfa Gartref hefyd yn gweithio gyda phartneriaid y Glymblaid i roi llwyfan i lais ieuenctid a’u safbwyntiau ar y materion craidd ynglŷn â throseddau cyllyll, gan gynyddu diogelwch y cyhoedd a chefnogi’r rhai sydd ei angen fwyaf, gan sicrhau bod profiadau byw pobl ifanc yn cyfrannu at lunio polisi’r Llywodraeth.
Un enghraifft allweddol lle mae’r Glymblaid yn gweithio mewn partneriaeth â’r llywodraeth yw’r cyfraniad gwerthfawr a wnaeth er mwyn llywio’r broses o ddatblygu polisi a dylunio’r trefniadau ildio estynedig ar gyfer cleddyfau ninja ac arfau eraill.
Gydag aelod o’r Glymblaid Fazamnesty a Words4Weapons, bydd y llywodraeth yn cyflwyno rhaglenni ildio arfau estynedig. Bydd Fazamnesty yn gweithredu faniau ildio symudol yn Llundain, Gorllewin Canolbarth Lloegr, a Manceinion Fwyaf, tra bydd Words4Weapons yn defnyddio biniau ildio dienw yn yr ardaloedd hynny ar gyfer cyllyll ac arfau eraill, gan gynnwys cleddyfau ninja.
Mae’r mentrau hyn yn darparu opsiynau diogel i bobl ifanc ildio arfau peryglus, gan wneud ein strydoedd yn fwy diogel a thynnu mwy o arfau o gymunedau.
Cyfranogi a Chynhwysiant
Mae’r Cyfamod yn darparu mwy o gyfleoedd i bobl fod yn rhan o benderfyniadau a gweithgareddau sy’n effeithio ar eu bywydau, lle mae’r llywodraeth a’r gymdeithas sifil yn galluogi mwy o gyfranogiad a chynrychiolaeth.
Galluogi amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant
-
Mae sefydliadau’r gymdeithas sifil yn hybu amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant mewn ffyrdd sy’n berthnasol i’w cenhadaeth, ac yn cynrychioli buddiannau’r bobl neu’r achosion maen nhw wedi’u sefydlu i’w cefnogi.
-
Mae’r llywodraeth yn gweithio gyda’r gymdeithas sifil i sicrhau bod yr holl grwpiau perthnasol yn cael eu cynrychioli wrth lunio polisïau, trwy ba ddull bynnag sy’n fwyaf priodol, yn enwedig y rhai a allai brofi rhwystrau neu allgáu, ac mae’n gwrando ar y rhai y mae penderfyniadau’n effeithio arnyn nhw.
-
Mae’r llywodraeth yn dilyn gofynion ynglŷn â’r arferion gorau mewn hygyrchedd, cyfathrebu, y Gymraeg ac asesu’r effaith ar gydraddoldeb.
Ymgysylltu â dinasyddion a chymunedau wrth wneud a chyflawni penderfyniadau
- Mae’r llywodraeth a’r gymdeithas sifil yn cydweithio ar yr uchelgais i gydgynhyrchu atebion gyda’r cymunedau a’r dinasyddion hynny sy’n cael eu heffeithio fwyaf.
-
Mae sefydliadau’r gymdeithas sifil yn cynnwys eu buddiolwyr yn eu gwaith, gan gynnwys y rhai sydd â phrofiad byw, lle mae’n berthnasol i’w cenhadaeth. Dileu rhwystrau sy’n atal cyfranogiad gweithredol at adeiladu democratiaeth iach a gwydnwch cymunedol
-
Mae llywodraeth a’r gymdeithas sifil yn cydweithio i hwyluso a chreu’r amodau ar gyfer cyfranogiad gweithredol yn y gymdeithas, megis gwirfoddoli neu weithredu cymdeithasol, i adeiladu capasiti cymunedol, cydlyniant a gwydnwch cymdeithasol.
- Mae’r llywodraeth a’r gymdeithas sifil yn cydweithio i adeiladu democratiaeth iach ac i hybu cyfranogiad democrataidd.
Astudiaethau achos: Y Strategaeth Ieuenctid Genedlaethol – gosod pobl ifanc wrth wraidd datblygu polisi
Pobl ifanc sydd wedi bod wrth y llyw o ran cydgynhyrchu Strategaeth Ieuenctid Genedlaethol newydd ers iddi gael ei chyhoeddi ym mis Tachwedd 2024 gan Ysgrifennydd Gwladol y DCMS fel rhan o genhadaeth y llywodraeth i wella cyfleoedd.
Fel cam cyntaf, i sicrhau y byddai lleisiau ieuenctid wrth wraidd y broses, penododd y llywodraeth 13 o bobl ifanc amrywiol i ffurfio Grŵp Cynghori Ieuenctid (YAG) a dod â phrofiad byw ar draws meysydd allweddol gan gynnwys eiriolaeth, atal trais, symudedd cymdeithasol ac iechyd meddwl. Eisteddodd Grŵp Cynghori Arbenigol o 14 o arbenigwyr o amrywiaeth o sectorau ochr yn ochr â’r YAG i ddod ag arbenigedd o sectorau perthnasol, gan roi mewnbwn a herio syniadau.
Ffurfiodd y DCMS bartneriaethau â chonsortiwm arbenigol – ymgynghoriaeth ymchwil farchnad Savanta, My Life My Say a’r Mudiad #iwill gyda gwaith cydlynu gan Volunteering Matters a UK Youth – i sefydlu ymgyrch ymgysylltu dan arweiniad ieuenctid i sicrhau bod pobl ifanc o bob rhan o’r wlad yn cael cyfle i ddweud eu dweud. Gweithiodd y consortiwm gyda deg Cydweithiwr Ieuenctid i sicrhau bod yr holl weithgareddau ymgyrchu yn cael eu dylunio a’u harwain gan bobl ifanc mewn gwirionedd. Defnyddiodd yr ymgyrch “Deliver You” ystod o ddulliau arloesol wedi’u targedu er mwyn sicrhau bod grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli yn gallu lleisio’u barn. Sicrhaodd yr ymgyrch fewnwelediadau gan fwy nag 20,000 o bobl ifanc.
Mae ein hymagwedd wedi grymuso pobl ifanc i arwain newid wrth galon y broses o lunio polisïau ac yn eu bywydau eu hunain. Bydd eu profiadau byw, gan gynnwys eu pryderon a’u gobeithion ar gyfer y dyfodol, yn sail i uchelgais newydd i bobl ifanc yn y Strategaeth Ieuenctid Genedlaethol.
Astudiaethau achos: Cymunedau Cryfach Barnsley – gwella ardaloedd lleol trwy gydgynhyrchu gyda chymunedau
Yn 2013, symudodd Rhaglen Cymunedau Cryfach Cyngor Barnsley o ddarparu gwasanaethau traddodiadol i fodel partneriaeth gymunedol. Mae’n mynd ati i gynnwys cymunedau a sefydliadau’r gymdeithas sifil wrth ddylunio, darparu ac adolygu gwasanaethau trwy wneud penderfyniadau datganoledig.
Er mwyn targedu adnoddau yn y ffordd fwyaf cost-effeithiol i ateb anghenion lleol, cynyddodd y cyngor gyfranogiad cymunedol, gan symud o wneud pethau ar gyfer trigolion a grwpiau cymunedol i weithio gyda nhw.
Sefydlodd Cyngor Barnsley gynghreiriau ward, bob un gydag aelodau etholedig a chynrychiolwyr cymunedol, cyllideb ddatganoledig, a phwerau penderfynu. Roedd y cynghreiriau ward yn cynnwys trigolion a grwpiau lleol i lywio blaenoriaethau cyffredin lleol a dyraniad cyllidebau. Mae’r strategaethau maen nhw wedi’u cydgynllunio ar draws Barnsley wedi cynyddu’r ymrwymiad a’r cyfranogiad lleol. Cynhyrchwyd cynllun sbwriel a throseddau amgylcheddol ar gyfer 2024 i 2030 ar y cyd ag aelodau o’r gymuned a gwirfoddolwyr y mae eu profiadau wedi llywio’r strategaeth, gan feithrin perchnogaeth gyffredin.
Mae’r newid yma i weithio gyda’r gymuned leol yn golygu bod mwy o gymunedau yn cymryd rhan mewn penderfyniadau lleol, bod yna gynnydd yn yr oriau gwirfoddoli ac yn nifer y grwpiau lleol sy’n weithredol yn yr ardal. Mae’r pwerau i ddyrannu cyllidebau o fewn cynghreiriau ward wedi cefnogi ystod o brosiectau lleol, ac wedi grymuso cymunedau i ddod at ei gilydd, a theimlo’n unedig mewn ymdeimlad o falchder yn eu hardal.
Mae’r effaith gymunedol yma wedi cyfrannu at gydnabyddiaeth genedlaethol i Gyngor Barnsley, gan ennill teitl Cyngor y Flwyddyn gan y Local Government Chronicle a gwobr Awdurdod Lleol y Flwyddyn gan y Municipal Journal yn 2023, yr unig gyngor i ennill y ddwy wobr yn yr un flwyddyn.
Tryloywder a data
Mae’r Cyfamod yn hybu rhannu gwybodaeth a data’n fwy agored trwy well argaeledd, dealltwriaeth o angen ac atebion sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
Cymryd rhan mewn cyfathrebu agored, gonest a thryloyw
- Mae’r gymdeithas sifil a’r llywodraeth yn cydweithio i greu’r amodau angenrheidiol ar gyfer cyfathrebu agored, gan gymhwyso trefniadau cyfrinachedd sy’n gymesur ac sydd wedi’u hesbonio yn unig, gan fodloni safonau uchel ac ategu trafodaeth a her adeiladol.
- Mae’r llywodraeth yn anelu at gynnig adborth ar ôl ymgysylltu â phenderfyniadau polisi a chyllid er mwyn sbarduno dysgu a gwelliannau.
- Mae’r llywodraeth yn ymateb yn brydlon ac yn agored i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth ac yn dilyn yr arferion gorau o ran cyhoeddi asesiadau effaith ac ymatebion i ymgyngoriadau.
Trefnu bod tystiolaeth a data ar gael i’r cyhoedd
- Mae’r llywodraeth yn gweithio tuag at sicrhau bod y data a’r wybodaeth sylfaenol y mae’n ei chasglu yn fwy hygyrch.
- Mae’r gymdeithas sifil yn cynnal ymddiriedaeth y cyhoedd trwy fynd ati i fod yn dryloyw ac yn atebol am yr arian maen nhw’n ei gael.
- Mae sefydliadau’r gymdeithas sifil yn rhannu’r ymchwil a’r dadansoddiadau y maen nhw’n eu gwneud cyn belled ag y bo’n rhesymol bosibl, gan gydymffurfio â’r rheoliadau diogelu data hefyd
Gwella datblygiad data
- Mae’r gymdeithas sifil a’r llywodraeth yn cydweithio i ddod o hyd i ffyrdd effeithiol o fesur gwerth ac iechyd y gymdeithas sifil, a nodi unrhyw fylchau yn y dystiolaeth.
- Mae’r gymdeithas sifil a’r llywodraeth yn cydweithio i gydnabod gwerth gwahanol ffynonellau tystiolaeth, gan gynnwys profiad byw.
- Mae’r gymdeithas sifil a’r llywodraeth yn cydweithio i wella’r gwaith casglu data ar draws y gymdeithas sifil a’r llywodraeth, gan gydnabod yr heriau o ran data a thystiolaeth y gall sefydliadau’r gymdeithas sifil eu hwynebu a chael eu llywio gan ystod o wahanol ffynonellau tystiolaeth a dirnadaeth.
Astudiaethau achos: Rhaglen Bregusrwydd Cynllun Preswylio’n Sefydlog yr UE (EUSS) – trosoli data a thryloywder i bontio rhaniadau digidol dinasyddion bregus
Gan fod Cynllun Preswylio’n Sefydlog yr UE wedi’i ddylunio ar sail digidol yn gyntaf, roedd yn creu heriau i ddinasyddion o’r UE sy’n agored i niwed yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys y rhai sy’n wynebu rhwystrau iaith, allgáu digidol, problemau iechyd meddwl a digartrefedd. Roedd y materion hyn yn rhwystro pobl rhag gwneud cais am statws sefydlog a sicrhau statws sefydlog yn y Deyrnas Unedig. Er bod llawer o sefydliadau’r gymdeithas sifil (CSOs) mewn sefyllfa unigryw i gyrraedd a chefnogi’r unigolion hyn, doedd ganddyn nhw mo’r data cywir i weithio arno.
Mewn ymateb, lansiodd y llywodraeth raglen grant ar gyfer CSOs i wella’r broses o gasglu, a rhannu data ac i wella’i dryloywder. Roedd hyn yn caniatáu gwell dulliau rhannu data rhwng y llywodraeth a derbynwyr y grantiau ar gyfer asesiadau uniongyrchol, gan sefydlu safonau tryloywder, a chynnig cefnogaeth i sefydliadau llai ym maes cydymffurfio â rheolaeth data. Roedd y data a gasglwyd oddi wrth y gymdeithas sifil yn llywio newidiadau mewn polisi ac allgymorth, gan wella’r ddealltwriaeth o anghenion a chaniatáu atebion cydweithredol, wedi’u seilio ar dystiolaeth.
Dyrannwyd dros £32.5 miliwn yn llwyddiannus i fwy na 70 o sefydliadau’r gymdeithas sifil, gan eu galluogi i roi cymorth hanfodol i fwy na 500,000 o ddinasyddion bregus na fydden nhw wedi gwneud cais i’r cynllun fel arall. Helpodd y fenter hanfodol yma unigolion i ddeall y cynllun, llenwi ceisiadau, a chael mynediad at wasanaethau cyfreithiol neu wasanaethau cyfieithu.
Helpodd y grantiau hefyd bedwar sefydliad cenedlaethol (un yr un yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon) a nifer o sefydliadau rhanbarthol, gan sicrhau mynediad at wasanaethau ledled y Deyrnas Unedig. Un enghraifft yw Citizens Advice Scotland, gyda 1,000 o gynghorwyr mewn 200 o leoliadau allgymorth yn rhoi cyngor ar Gynllun Preswylio’n Sefydlog yr UE (EUSS), gan gynnwys budd-daliadau, tai, a chymorth ynglŷn â dyledion, gan wella lles cymunedol.
Mae’r camau nesaf yn cynnwys cymhwyso’r model yma at gynlluniau yn y dyfodol ac olrhain effeithiau hirdymor ar wydnwch cymunedol.
Astudiaethau achos: Evaluation Support Scotland (ESS) – gwella gwasanaethau trwy fesur effaith
Mae Evaluation Support Scotland (ESS) yn elusen yn yr Alban sy’n helpu sefydliadau’r gymdeithas sifil, ymddiriedolwyr a chyllidwyr, i fesur a dangos eu heffaith trwy werthuso. Y nod yw defnyddio data a thystiolaeth ynglŷn ag effaith i lywio datblygiad polisïau yn y dyfodol; cafodd ei greu ar ôl i ymchwil ganfod nad oedd gan lawer o sefydliadau a chyllidwyr y trydydd sector (gan gynnwys cyrff cyhoeddus) mo’r sgiliau a’r adnoddau i wneud gwerthusiadau ac i ddefnyddio’r ddirnadaeth i lywio penderfyniadau.
Mae ESS yn cael cyllid craidd gan Lywodraeth yr Alban i ddarparu gweithdai agored, cymorth wedi’i deilwra, modiwlau dysgu hunangyfeiriedig ar-lein am ddim, a chyfoeth o adnoddau ar-lein. Maen nhw hefyd wedi datblygu nifer o ganllawiau i gyllidwyr a sefydliadau, gan gynnwys [5 egwyddor gwerthuso da ESS](https://evaluationsupportscotland.org.uk/ess-principles-for-good-evaluation/], sy’n galluogi sefydliadau i gael mewnwelediadau mewn amser real, addasu eu gwaith a pharhau i ymateb i adborth gan gymunedau a dinasyddion. Cafodd partneriaeth ei chreu hefyd â Llywodraeth yr Alban i ddatblygu Egwyddorion Partneriaeth Gadarnhaol, i wella’r berthynas rhwng rheolwyr grantiau a deiliaid grantiau, gan ddarparu cyngor ymarferol i gryfhau’r ddau barti.
Yn 2023, ariannwyd ESS gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol (TNLCF), mewn ymateb i gynllun gweithredu digartrefedd Llywodraeth yr Alban, i ganolbwyntio ar atal digartrefedd yn Glasgow a Chaeredin. Gyda chefnogaeth ESS, gallai sefydliadau dynnu sylw at effaith eu gwaith yn well a helpodd hyn i lywio’r broses o dargedu gweithgareddau yn y dyfodol. Roedd hyn yn cynnwys sicrhau bod y rhai sy’n wynebu’r risg o fod yn ddigartref:
-
yn gallu cael mynediad at wasanaethau sy’n ateb eu hanghenion, gan gynnwys cymorth iechyd meddwl a gwasanaethau allgymorth ieuenctid
-
yn cael mwy o fynediad at lety mwy addas i’w hanghenion
-
yn cael mwy o ddylanwad ar y systemau sy’n effeithio arnyn nhw, trwy gynnwys profiadau byw o fewn polisïau cymdeithasau tai
Mae gwaith ESS wedi helpu’r TNLCF i wneud penderfyniadau ynghylch cyllido prosiectau yn y dyfodol, ac wedi sicrhau bod ffrydiau cyllido’r dyfodol yn cael eu hysbysu am gymorth ac ymyriadau effeithiol oedd yn cael effaith go iawn ar y bobl y cawson nhw eu cynllunio i’w cefnogi.
Ymgorffori egwyddorion y Cyfamod
Uchelgais y Cyfamod yw ail-lunio perthnasoedd ac adeiladu partneriaethau parhaol rhwng y gymdeithas sifil a phob math o lywodraeth ledled y Deyrnas Unedig. Mae hon yn her sylweddol, hirdymor a fydd yn gofyn am ymrwymiad parhaus ac ymrwymiad gan ystod eang ac amrywiol o wahanol sefydliadau.
Er mwyn helpu i yrru momentwm a dangos arweinyddiaeth, mae llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i sicrhau bod Adrannau’r Llywodraeth yn cefnogi’r Cyfamod yn gyhoeddus ac yn gweithio tuag at ei roi ar waith er mwyn dod yn bartner gwell i’r gymdeithas sifil. Mae’r camau cyntaf y byddwn yn eu cymryd i weithredu’r Cyfamod yn cynnwys:
-
sefydlu Cyd-gyngor Cyfamod y Gymdeithas Sifil. Bydd y bwrdd traws-sector yma yn ganolog i gyflawni ac adolygu’r Cyfamod, gan osod y cyfeiriad a darparu’r oruchwyliaeth strategol ar gyfer ei weithredu
-
cyflwyno ystod o Grwpiau Gorchwyl a Gorffen yn canolbwyntio ar faterion polisi penodol sy’n effeithio ar y berthynas rhwng y gymdeithas sifil a’r llywodraeth. Bydd dau grŵp cychwynnol yn canolbwyntio ar gomisiynu a phartneriaethau ar lefel leol
-
datblygu rhaglen i feithrin capasiti a dealltwriaeth ar draws y sectorau, gan gynnwys hybu mwy o secondiadau traws-sector
-
sefydlu hyb ar-lein ar gyfer canllawiau ac adnoddau ymarferol sy’n ymwneud â Chyfamod y Gymdeithas Sifil
Ar lefel leol y mae perthnasoedd allweddol llawer o sefydliadau’r gymdeithas sifil â’r wladwriaeth yn gweithio. Nid ydym am dorri ar draws y fframweithiau gweinyddol neu statudol presennol lle mae’r rhain yn bodloni safon uwch neu gyfwerth, ond fe ddylai’r Cyfamod gael ei ddefnyddio i godi safonau lle nad yw hyn yn wir. Rydym yn bwriadu gweithio gydag awdurdodau lleol, meiri etholedig, iechyd lleol, a sefydliadau’r gymdeithas sifil leol i hybu a chefnogi trefniadau partneriaeth sydd wedi’i seilio ar le, sy’n adeiladu ar gryfderau lleol ac yn ateb anghenion lleol.
Mae’r Cyfamod yn cydnabod bod sefydliadau’r gymdeithas sifil yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn gweithio ar draws ystod eang o faterion polisi ac yn cael eu heffeithio ganddyn nhw, rai ohonyn nhw wedi’u datganoli i lywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, a rhai wedi’u cadw i lywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae’r Cyfamod hefyd yn cydnabod bod gan y Llywodraethau Datganoledig eu trefniadau eu hunain ar gyfer gweithio mewn partneriaeth â’r gymdeithas sifil ym mhob gwlad. Nid yw’r Cyfamod wedi’i fwriadu i danseilio nac amharu ar y trefniadau partneriaeth yma ac mae wedi’i gynllunio i sicrhau aliniad â’r cynlluniau a’r dulliau presennol. Bydd y Cyfamod yn eistedd ochr yn ochr â’r trefniadau presennol yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ac yn helpu i ategu perthynas adeiladol rhwng llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r gymdeithas sifil ar faterion sydd wedi’u cadw. Bydd llywodraeth y Deyrnas Unedig yn parhau i weithio mewn partneriaeth â sefydliadau’r gymdeithas sifil ym mhob un o’r pedair rhan o’r Deyrnas Unedig a chyda’r tair Llywodraeth Ddatganoledig i sicrhau cysondeb wrth i’r Cyfamod ennill ei blwyf.