Ffurflen

Dilysu’ch plentyn ar gyfer y gwasanaeth gofal plant

Defnyddiwch Ffurflen CVF1 i ddilysu’ch plentyn ar gyfer y gwasanaeth gofal plant.

Dogfennau

Defnyddiwch Ffurflen CVF1 i ddilysu’ch plentyn

Manylion

Er mwyn dilysu’ch plentyn ar gyfer y gwasanaeth gofal plant, bydd angen i chi ddefnyddio’r Ffurflen Dilysu Plentyn (CVF1).

Sut i ddefnyddio’r ffurflen argraffu ac anfon

Byddwch yn llenwi’r ffurflen hon ar-lein, ac ni fydd modd i chi gadw’ch cynnydd. Dylech gasglu’r holl wybodaeth y bydd ei hangen arnoch cyn i chi ddechrau arni.

Os ydych yn defnyddio hen borwr, bydd angen i chi ei ddiweddaru neu ddefnyddio porwr gwahanol. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am borwyr (yn agor tudalen Saesneg).

Dogfennau y bydd angen i chi eu hanfon ynghyd â’r ffurflen

Os cafodd eich plentyn ei eni yn y DU, bydd angen i chi anfon y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • tystysgrif geni’r plentyn

  • tystysgrif mabwysiadu’r plentyn

Os cafodd eich plentyn ei eni y tu allan i’r DU, bydd angen i chi anfon y canlynol:

  • tystysgrif geni’r plentyn

  • pasbort y plentyn neu’r dogfennau teithio a ddefnyddiwyd i ddod ag ef i mewn i’r DU

Peidiwch ag anfon llungopïau.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf ar 14 Ionawr 2026 show all updates
  1. Added translation.

  2. Information about applying for a National Insurance number has been removed.

  3. Update to documents you need to send to verify children born in the UK or elsewhere.

  4. First published.

Argraffu'r dudalen hon